Agenda item

I dderbyn diweddariad gan gynrychiolwyr

 

·        Priffyrdd, Peirianneg a YGC

 

·        Network Rail

 

·        Trafnidiaeth Cymru

 

·        Heddlu Trafnidiaeth Brydeinig

Cofnod:

PRIFFYRDD, PEIRIANNEG a YGC (Cyngor Gwynedd)

Diweddariad o sefyllfa ffordd y clogwyn ar y A493 ger Y Friog.

 

Derbyniwyd ymddiehuriadau gan Mr Steffan Jones (Pennaeth Priffyrdd, Peirianeg a YGC) nad oedd yn gallu mynychu’r cyfarfod gan na fu i’r ddolen Zoom weithio iddo ac felly yn methu rhoi diweddariad ar lafar i aelodau’r Pwyllgor. Ategodd mewn ebost i’r Cadeirydd y byddai yn rhannu adroddiad o’r sefyllfa gyda’r Aelodau.

 

Mynegwyd siom nad oedd Steffan Jones yn gallu mynychu’r cyfarfod a bod diffyg symud ymlaen ar y sefyllfa. Nodwyd:

 

·         Bod rhaid datrys y sefyllfa

·         Bod rhaid datrys perchnogaeth yr ased a chydweithio i symud ymlaen

·         Bod y ffordd yn un dosbarth A - yn ffordd brysur, gysylltiol

·         Bod rhan o’r wal wedi ei diddymu – angen datrys y rhwystr

·         Bod digon o addewidion ond dim newid

·         Bod Network Rail yn adrodd nad oeddynt wedi derbyn ymateb i lythyrau a anfonwyd i'r’ Cyngor

 

NETWORK RAIL

 

Croesawyd Charlotte Harries (Rheolwyr Cyfathrebu Network Rail) i’r cyfarfod. Mynegodd bod y gwasanaeth yn parhau i weithio i wella profiadau teithwyr. Nid oedd diweddariadau penodol ar waith rhwng Machynlleth a Pwllheli, ond cyfeiriwyd at welliannau i orsaf Y Drenewydd.

 

Diolchwyd am y diweddariad. Diolchwyd hefyd am y gwaith mae Network Rail yn ei wneud i sicrhau bod y cyswllt rheilffordd yn effeithiol i deithwyr.

TRAFNIDIAETH CYMRU

 

Croesawyd Gail Jones (Rheolwr Rhanddeiliaid (Canolbarth a Gogledd Cymru) i’r cyfarfod. Nododd bod canfyddiadau’r arolwg wedi eu cyflwyno i Trafnidiaeth Cymru a bod gwaith yn cael ei wneud i ymateb i’r canfyddiadau hynny. Ategodd bod yr arolwg yn darparu gwybodaeth werthfawr am brofiadau’r teithwyr ac yn unol â chais gan yr aelodau, cytunwyd bod modd rhannu gwybodaeth am y nifer teithwyr sydd yn defnyddio Rheilffordd Arfordir y Cambrian. GJ i rannu’r wybodaeth gyda LHE i’w ddosbarthu yn y cyfarfod nesaf. (Gwnaed sylw, wrth ddehongli’r wybodaeth, bydd angen ystyried bod y rheilffordd wedi cau am rai misoedd yn ystod y tair blynedd diwethaf tra bod gwaith yn cael ei wneud ar y draphont yn Abermaw).

 

Hysbyswyd yr aelodau bod Cyfarfod Grŵp Cyswllt Trafnidiaeth yn cael ei gynnal ym Mis Ebrill ac y byddai mwy o wybodaeth i ddilyn.

 

Materion yn codi o’r drafodaeth ddilynol.

·         Bod angen cadarnhad o ddefnydd trenau pedwar cerbyd ar y Cambrian i’r  dyfodol - ar hyn o bryd ymddengys mai dwywaith y diwrnod fydd y trenau hyn yn rhedeg ac yn ystod gwyliau’r haf yn unig - nid yw hyn yn ymateb i’r angen.

·         Bod cais am drenau pedwar cerbyd wedi ei gwneud ers sawl blwyddyn, ond dim byd yn digwydd. Er yr addewid am drenau newydd nid yw hyn yn golygu mwy o drenau. Er ceisio gwybodaeth / diweddariad am y sefyllfa, bod swyddogion yn newid yn rheolaidd – angen sicrhau un pwynt cyswllt.

·         Bod gormod o deithwyr yn gorfod sefyll ar y teithiau sydd o ganlyniad yn atal y casglwr ticedi rhag casglu arian. Hyn yn golled ariannol i’r gwasanaeth

 

Mewn ymateb i’r sylwadau nododd Swyddog Trafnidiaeth Cymru nad oedd trenau sbâr a’r  gael a bod pob ymdrech yn cael ei wneud i sicrhau bod digon o gerbydau ar gael i ymateb i’r angen. Nododd nad oedd y trenau newydd wedi eu cyflwyno mor gyflym â’r disgwyl, ond bod opsiynau yn cael eu hystyried i ddatrys y sefyllfa.

 

Tynnwyd sylw at ddigwyddiad yn Chwefror 16 2024 o deithiwr yn aros am y trên olaf o Bwllheli (20:30). Er bod y trên yn yr orsaf, nid oedd mynediad i’r trên yn cael ei ganiatáu i deithwyr er bod y tywydd yn ddifrifol. Unwaith roedd y drysau i’r cerbydau yn agor, roedd y trên yn ymddangos yn flêr ac yn fudr. Nid oedd hyn yn brofiad braf - yn anfon neges anghywir i deithwyr. Ar y pryd, rhannwyd neges a llun ar trydar.

 

Mewn ymateb i’r digwyddiad, nododd Swyddog Trafnidiaeth Cymru bod rheolau llym yn ymwneud ag agor y drysau pan fydd y trên yn aros yn yr orsaf, ond derbyniwyd bod anghysondebau i hyn. Gofynnwyd am gopi o’r lluniau ac fe awgrymodd i’r dyfodol y dylid cyfeirio unrhyw brofiadau gwael yn uniongyrchol ati hi.

 

Fel pwynt cyswllt ar gyfer ymholiadau / sylwadau / gwybodaeth am Drafnidiaeth Cymru, bod modd cysylltu gyda GJ drwy e-bost

 

HEDDLU TRAFNIDIAETH BRYDEINIG

 

Dim cynrychiolydd wedi mynychu