Agenda item

Ystyried cais  Mr A

 

(copi arwahan i aelodau’r Is Bwyllgor yn unig)

Cofnod:

Croesawyd pawb i’r cyfarfod gan y Cadeirydd y Cynghorydd Tudor Owen. Cyflwynwyd y panel ar swyddogion i bawb oedd yn bresennol.

 

Mewn ymateb i gais gan yr ymgeisydd, cynhaliwyd y gwrandawiad yn Saesneg.

 

a)    Cyflwynodd y Rheolwr Trwyddedu adroddiad ysgrifenedig ar gais a dderbyniwyd gan Mr A am drwydded gyrru cerbyd hacni/hurio preifat o’r newydd. 

 

b)    Ategwyd bod  datganiad o gollfarnau wedi ei gyflwyno. Nid oedd collfarnau perthnasol i’r maes trwyddedu wedi eu cynnwys ar ddatganiad yr ymgeisydd, ond tynnwyd sylw at  wybodaeth ychwanegol a gyflwynwyd gan yr Heddlu oedd yn berthnasol i’r cais. Gofynnwyd i’r Pwyllgor ystyried y cais yn unol â’r cofnod DBS, ac yn unol â’r canllawiau ar droseddau a chollfarnau perthnasol.

 

c)    Argymhelliad y Rheolwr Trwyddedu oedd gwrthod y cais oherwydd materion a ddatgelwyd gan yr Heddlu, ac yn unol â pholisi tacsiMeini Prawf Addasrwydd ar gyfer Gyrwyr a Gweithredwyr’ y Cyngor.

 

ch)   Gwahoddwyd yr ymgeisydd i ymhelaethu ar ei gais.  Cyfeiriodd yr ymgeisydd at lythyr a ysgrifennodd at  Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr  yn egluro ei sefyllfa.

 

d)    Ymneilltuodd yr ymgeisydd o’r ystafell  tra bu i aelodau’r Is-bwyllgor drafod y cais.

 

dd)      Wrth gyrraedd eu penderfyniad, roedd yr Is-bwyllgor wedi ystyried  y ffactorau canlynol

·         ffurflen gais yr ymgeisydd

·         adroddiad yr Adran Drwyddedu ynghyd a’r datganiad DBS

·         llythyr Cyngor Gwynedd  17  Rhagfyr 2012

·         llythyr dyddiedig 4 Tachwedd, 2015 a gyflwynwyd i Brifysgol Betsi Cadwaladr Bwrdd Iechyd

·         gofynionPolisi Trwyddedu ar gyfer Hurio Preifat a Cherbydau Hacni  Cyngor Gwynedd’ -  paragraffau penodol 7.1, 7.2 a 7.5 mewn perthynas â throseddau rhyw ac anwedduster.

·         sylwadau llafar

 

e)    Derbyniodd yr Is Bwyllgor y wybodaeth a gofnodwyd yn y datganiad DBS fel disgrifiad cywir o'r digwyddiadau. Atgoffwyd wrth yr Is-bwyllgor, yn unol ag adran 59 o Ddeddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1976, ni ellid rhoi trwydded oni bai eu bod yn fodlon  bod yr ymgeisydd yn berson addas a phriodol i ddal trwydded.

 

Cynghorwyd yr Is Bwyllgor ar ystyr "person addas a phriodol" a cyfeiriwyd at ddyfarniad McCool v Cyngor Bwrdeistref Rushcliffe [1988] 3 All ER 889, lle cadarnhaodd yr Uchel Lys ystyr hynny: "... i’r rhai trwyddedig i yrru ... yn bersonau addas i wneud hynny,  eu bod yn yrwyr diogel gyda chofnod da o yrru ynghyd a phrofiad digonol, yn sobr, yn feddyliol ac yn gorfforol iach, yn onest, ac nid yn bobl fyddai'n manteisio ar eu cyflogaeth i gam-drin neu ymosod ar deithwyr. "

 

f)     Wrth ystyried y digwyddiadau rhywiol ac anweddus, treisgar eu natur, nid oedd yr Is-bwyllgor wedi eu perswadio bod yr ymgeisydd yn berson addas ac na fyddai yn cymryd  mantais o’i gyflogaeth. Amlygwyd pryder bod yr ymgeisydd wedi cyflwyno cwyn i Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr am rannu manylion personol, cyfrinachol gyda’r Heddlu. Barn yr Is-bwyllgor, er budd gwarchod diogelwch y cyhoedd, bod y wybodaeth yma wedi ei rannu yn gywir ac o ganlyniad, bod amharodrwydd yr ymgeisydd i rannu’r wybodaeth gydag awdurdod priodol yn codi amheuaeth ynghylch ei onestrwydd. Yn ychwanegol, roedd y sylw bod manylion am gyflogaeth wedi ei gyflwyno ar y ffurflen gais, heb fod wedi gofyn am gyflogaeth neu gefnogaeth gan y cwmni, yn bwrw amheuaeth ar onestrwydd yr ymgeisydd.

 

ff)   Derbyniwyd bod gan yr ymgeisydd Syndrom Asperger sy’n effeithio ar sgiliau cyfathrebu cymdeithasol, rhyngweithio a dychymyg. Fodd bynnag, prif flaenoriaeth yr Is-bwyllgor yw amddiffyn y cyhoedd gan sicrhau eu bod yn ddiogel yn nwylo gyrwyr tacsis Gwynedd.

 

g)    O dan yr amgylchiadau nid oedd yr Is-bwyllgor yn fodlon bod y cais yn cydymffurfio â’r maen prawf  "person addas a phriodol" . Gwrthodwyd y cais.

 

PENDERFYNWYD  nad oedd  yr ymgeisydd  yn berson addas a phriodol ar gyfer trwydded gyrrwr cerbyd hacni/hurio preifat  a  ni chaniatawyd cais Mr A am drwydded hacni/hurio preifat.

 

Adroddodd y Cyfreithiwr y byddai’r penderfyniad yn cael ei gadarnhau yn ffurfiol drwy  lythyr. Hysbysebwyd yr ymgeisydd i’w hawl i apelio i’r dyfarniad o fewn 21 diwrnod i dderbyn y llythyr hwnnw.

 

Rhoddodd yr Is Bwyllgor  anogaeth i’r ymgeisydd fynychu cyrsiau hyfforddi priodol er mwyn uchafu ei obeithion am gyflogaeth i’r dyfodol.