Agenda item

Hedd Vaughan-Evans (Pennaeth Gweithrediadau) i gyflwyno’r adroddiad.

Penderfyniad:

1.     Ystyriwyd a nodwyd Adroddiad Perfformiad Chwarter 3 a Chofrestr Risg y Portffolio wedi’i diweddaru.

2.     Cymeradwywyd cyflwyno Adroddiad Perfformiad Chwarter 3 i Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU a phwyllgorau craffu’r awdurdodau lleol.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan y Pennaeth Gweithrediadau gyda chymorth y Rheolwr Rhaglen Digidol, Rheolwr Rhaglen Tir ac Eiddo a’r Rheolwr Rhaglen Ynni.

 

PENDERFYNWYD

 

1.     Ystyriwyd a nodwyd Adroddiad Perfformiad Chwarter 3 a Chofrestr Risg y Portffolio wedi’i diweddaru.

2.     Cymeradwywyd cyflwyno Adroddiad Perfformiad Chwarter 3 i Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU a phwyllgorau craffu’r awdurdodau lleol.

 

RHESYMAU DROS Y PENDERFYNIAD

 

Mae adroddiad chwarterol ar gynnydd yn erbyn Cynllun Twf Gogledd Cymru yn un o ofynion Cytundeb Terfynol y Cynllun Twf. Yn dilyn ystyriaeth gan y BUEGC, caiff yr adroddiadau eu rhannu gyda Llywodraeth Cymru, Llywodraeth y DU a phwyllgorau craffu’r awdurdodau lleol.

 

TRAFODAETH

 

Cyflwynwyd ar nifer o uchafbwyntiau Chwarter 3 gan gynnwys:

 

Adroddwyd y cynhaliwyd adolygiad Porth 2 ar gyfer prosiect Safleoedd Allweddol a Choridorau Cysylltiedig ‘4G+’ ym mis Tachwedd gyda’r arolygwyr yn darparu asesiadAmber-Greengyda sawl argymhelliad fel yr arfer. Nodwyd bod y Rheolwr Rhaglen Digidol yn gweithio i fynd i’r afael â’r argymhellion hyn cyn cyflwyno’r achos busnes amlinellol i’w ystyried gan y Byrddau Portffolio ac Uchelgais Economaidd eleni.

 

Eglurwyd bod tri phrosiect y Gronfa Ffyniant Cyffredin ar fin rhedeg eleni er mwyn i’r Awdurdodau Lleol  ganfod ffyrdd o wella darpariaeth symudol 4G yn eu rhanbarthau. Nodwyd bod y gwaith hefyd yn cynnig cymorth i fusnesau lleol ddeall opsiynau ar gyfer mabwysiadu technolegau digidol newydd ar gyfer y dyfodol.

 

Trafodwyd bod nifer o achosion busnes amlinellol ar y gweill ar hyn o bryd a bydd yr achosion busnes llawn yn cael eu cyflwyno i’r Bwrdd pan yn amserol.

 

Ymfalchïwyd bod dwy aelod newydd o staff wedi eu penodi er mwyn cynorthwyo fel Swyddog Prosiect Ynni a Rheolwr Prosiect Ynni. Nodwyd bod y penodiadau hyn yn gymorth i sicrhau bod prosiectau yn parhau i gael eu cyflawni yn amserol.

 

Darparwyd diweddariad ar nifer o brosiectau Tir ac Eiddo gan gynnwys Warren Hall, Porth y Gorllewin, Porth Caergybi, Parc Bryn Cegin, Stiwdios Kinmel a Porth Wrecsam.

 

Cydnabuwyd bod materion cynllunio yn parhau i fod yn risg sylweddol i brosiectau Bwyd, Amaeth a Thwristiaeth ar hyn o bryd. Nodwyd hefyd bod grŵp Tasg a Gorffen wedi ei sefydlu i archwilio’r bwlch amaeth a garddwriaeth yn y Cynllun Twf. Eglurwyd eu bod wedi comisiynu rhywfaint o ymchwil sy’n edrych ar gyflenwad bwyd a’r galw yn y rhanbarth drwy gydweithio gydag Awdurdodau Lleol a Llywodraeth Cymru.

 

Cyfeiriwyd at Gofrestr Risg y Portffolio gan nodi bod risg y Cyd-destun Economaidd wedi cynyddu'r chwarter hwn. Eglurwyd bod y risg wedi ei ddiweddaru yn dilyn y rhyfeloedd yn y Dwyrain Canol ar hyn o bryd, gan ei fod yn gallu effeithio ar gostau gyflenwi nwyddau. Eglurwyd hefyd bod risg Oediad wedi lleihau yn y chwarter hwn gan fod nifer o achosion busnes amlinellol a llawn wedi cael eu cymeradwyo gan y Bwrdd. Er hyn, nodwyd, ei fod dal yn risg sylweddol a'i fod yn cael ei oruchwylio.

 

Yn dilyn cwestiwn am broject amlygwyd fod angen cyfeirio at wybodaeth fasnachol sensitif er darparu ateb. Ar gyngor cyfreithiol cynigwyd ac eiliwyd i barhau  yn gaedidg ar gyfer yr agwedd benodol yma a chytunwyd i gymeradwyo’r penderfyniadau a geisiwyd.

 

Dogfennau ategol: