Agenda item

Dewi Morgan (Pennaeth Cyllid yr Awdurdod Lletya ac Swyddog Cyllid Statudol) a Sian Pugh (Pennaeth Cyllid Cynorthwyol yr Awdurdod Lletya) i gyflwyno’r adroddiad.

 

Penderfyniad:

1.     Nodwyd a derbyniwyd adolygiad refeniw diwedd Rhagfyr 2023 y Bwrdd Uchelgais (Atodiad 1).

2.     Nodwyd a derbyniwyd diweddariad cronfeydd wrth gefn y Bwrdd Uchelgais (Atodiad 2).

3.     Cytunwyd ar broffil gwariant cyfalaf diwygiedig y Bwrdd Uchelgais (Atodiad 3).

 

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan y Pennaeth Cyllid Cynorthwyol.

 

PENDERFYNWYD

 

1.     Nodwyd a derbyniwyd adolygiad refeniw diwedd Rhagfyr 2023 y Bwrdd Uchelgais (Atodiad 1).

2.     Nodwyd a derbyniwyd diweddariad cronfeydd wrth gefn y Bwrdd Uchelgais (Atodiad 2).

3.     Cytunwyd ar broffil gwariant cyfalaf diwygiedig y Bwrdd Uchelgais (Atodiad 3).

 

RHESYMAU DROS Y PENDERFYNIAD

 

Rhagwelir tanwariant o £340,768 yn erbyn y gyllideb refeniw yn 2023/24. Defnyddir unrhyw danwariant ar ddiwedd y flwyddyn ariannol i leihau’r swm a ddefnyddir o’r Grant Cynllun Twf Gogledd Cymru.

 

Nodwyd llithriad ar y rhaglen gyfalaf, gydag amcangyfrif o wariant o £3.36m yn 2023/24  o’i gymharu â chyllideb gymeradwy o £11.25m ar gyfer y flwyddyn.

 

TRAFODAETH

 

Tywyswyd drwy adolygiad ariannol diwedd Rhagfyr 2023, gan gyfeirio at Atodiad 1 a oedd yn nodi gwir sefyllfa refeniw hyd at ddiwedd Rhagfyr ac yn amcanu’r sefyllfa hyd at ddiwedd y flwyddyn ariannol. Tynnwyd sylw at y prif bwyntiau canlynol:

 

·       Bod gorwariant net o £33,000 ar y Swyddfa Rheoli Portffolio, gyda’r gorwariant pennaf ar weithwyr. Nodwyd bydd hwn yn cael ei ariannu gan incwm o’r Gronfa Ffyniant Gyffredin a’r Cyd-bwyllgor Corfforedig (a nodwyd fel incwm).

·       Bod tanwariant o £35,000 ar Wasanaethau Cefnogol. Eglurwyd bydd yr arian hwn yn cael ei ddefnyddio i ariannu'r gwariant cefnogaeth gyllidol allanol.

·       Bod tanwariant o £39,000 ar y Cyd-bwyllgor oherwydd tanwariant o fewn meysyddcefnogaeth gyfreithiol allanol’, ‘ffioedd cyllidola’rBwrdd Cyflawni Busnes’.

·       Bod tanwariant net o £109,000 ar Brosiectau oherwydd tanwariant ar ddatblygu achosion busnes y prosiectau yn bennaf.

 

            Adroddwyd ar ffynonellau incwm ar gyfer 2023/24 gan atgoffa’r Aelodau bod tanwariant o £267,000 wedi ei ragweld yn adolygiad Awst 2023. Eglurwyd bod y tanwariant hwn bellach wedi cynyddu i £341,000 ac felly awgrymwyd bod swm llai o’r fargen twf yn cael ei ddefnyddio er mwyn gadael sefyllfa niwtral i’r Bwrdd am y flwyddyn. Cadarnhawyd bydd y ffigwr hwn yn cael ei gadarnhau ar ddiwedd y flwyddyn ariannol.

 

            Cadarnhawyd balansau’r cronfeydd fel a ganlyn:

 

·       Balans y Gronfa Wrth Gefn Cyffredinol ar 31 Mawrth 2023 oedd £552,000. Nodwyd bod £274,000 wedi ei ddyrannu yng nghyllideb eleni sydd yn gadael balans o £278,000.

·       Balans y Gronfa Prosiectau ar 31 Mawrth 2023 oed £152,000 ac mae’n debygol na fydd symudiad ar y gronfa eleni.

·       Balans y Gronfa Llog ar 31 Mawrth 2023 oedd £1.7miliwn. Eglurwyd y rhagwelir balans o tua £4.4miliwn erbyn diwedd y flwyddyn ariannol wrth ychwanegu cyfraniadau llog y partneriaid o £251,000 ar gyfer 2023/24 ynghyd a tua £2.5miliwn o log ar y balansau (gan gynnwys Cronfa Bargen Twf) ar gyfer eleni yn cael ei ychwanegu i’r gronfa.

 

            Adroddwyd bod gostyngiad o £7.89miliwn yn y gwariant disgwyliedig yn y rhaglen gyfalaf ar gyfer 2023/24, o’i gymharu â’r gyllideb a gymeradwywyd ym mis Mawrth 2023. Eglurwyd bod hyn oherwydd gostyngiad pellach o £3.77miliwn i’r hyn a ragwelwyd yn adolygiad Awst 2023 yn dilyn gostyngiad ar bedwar prosiect.

 

            Nodwyd ei fod yn annhebygol bydd y Bwrdd yn derbyn cyfraniad grant blynyddol o £20miliwn eleni ond cadarnhawyd bod swyddogion wedi bod yn trafod gyda Llywodraeth y Deyrnas Gyfunol i weithio ar ail-broffil cyfalaf. Eglurwyd os bydd hyn yn llwyddiannus, gallai olygu derbyn dyraniad grant Llywodraeth y Deyrnas Gyfunol yn unol â gwariant yn hytrach nag fel cyfradd unffurf dros 10 mlynedd. Cydnabuwyd byddai hyn yn lleihau costau benthyca'r Bwrdd ond bydd costau benthyca dal yn bodoli a hynny ar gyfer yr elfen sy’n cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru. Cadarnhawyd bydd costau benthyca yn deillio gan mai ar ddiwedd y flwyddyn ariannol mae’r taliad grant yn cael ei dderbyn yn hytrach nag yn ystod y flwyddyn fel mae’r gwariant yn cymryd lle.

 

            Diolchwyd i'r Swyddogion am eu gwaith a’r adroddiad.

 

Dogfennau ategol: