Agenda item

Cyflwynwyd gan:Cyng. Ioan Thomas

Penderfyniad:

Bu I'r Cabinet gytuno i:

 

a)     Cymeradwyo’r arbedion a thoriadau a restrir yn Atodiad A (£4.4M) i’w defnyddio fel cyfraniad tuag at ein bwlch cyllidol yn 2024/25, a chomisiynu’r Adrannau i symud ymlaen i weithredu y cynlluniau gan ddal sylw at y materion a amlygwyd yn yr adroddiad.

b)     Gosod cyllideb gytbwys yn 2024/25, cymeradwyo gwerth y toriadau ac arbedion a restrir yn Atodiad B (£0.8M) a nodi y bydd angen camau pellach cyn gallu dod i benderfyniad terfynol i’w gweithredu, fel amlinellir yn 2.13, gan ddefnyddio arian wrth gefn i bontio yr arbedion na fydd yn cael eu cyflawni yn 24/25.

c)     Gwneud darpariaeth o £0.52M i gyfarch y lefel risg sydd yn ynghlwm â gwireddu y cynllun toriadau hwn.

d)     Dirprwyo’r hawl i’r Prif Weithredwr, mewn ymgynghoriad ag Arweinydd y Cyngor a’r Aelod Cabinet Cyllid, i wneud addasiadau i’r Cynllun Arbedion hwn o fewn y cyfansymiau Adrannol wrth i aeddfedrwydd y cynlluniau a restrir yn Atodiad A a B ddatblygu, o fewn y cyfansymiau cyllidol.

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad Dafydd Gibbard.

 

PENDERFYNIAD

 

Bu i'r Cabinet gytuno i:

 

a)    Cymeradwyo’r arbedion a thoriadau a restrir yn Atodiad A (£4.4M) i’w defnyddio fel cyfraniad tuag at ein bwlch cyllidol yn 2024/25, a chomisiynu’r Adrannau i symud ymlaen i weithredu'r cynlluniau gan ddal sylw at y materion a amlygwyd yn yr adroddiad.

b)    Gosod cyllideb gytbwys yn 2024/25, cymeradwyo gwerth y toriadau ac arbedion a restrir yn Atodiad B (£0.8M) a nodi y bydd angen camau pellach cyn gallu dod i benderfyniad terfynol i’w gweithredu, fel amlinellir yn 2.13, gan ddefnyddio arian wrth gefn i bontio'r arbedion na fydd yn cael eu cyflawni yn 24/25.

c)    Gwneud darpariaeth o £0.52M i gyfarch y lefel risg sydd yn ynghlwm â gwireddu'r cynllun toriadau hwn.

d)    Dirprwyo’r hawl i’r Prif Weithredwr, mewn ymgynghoriad ag Arweinydd y Cyngor a’r Aelod Cabinet Cyllid, i wneud addasiadau i’r Cynllun Arbedion hwn o fewn y cyfansymiau Adrannol wrth i aeddfedrwydd y cynlluniau a restrir yn Atodiad A a B ddatblygu, o fewn y cyfansymiau cyllidol.

 

TRAFODAETH

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi tristwch ei bod bellach yn arferol i orfod trafod eitem am arbedion cyn bod modd mynd i osod y gyllideb. Pwysleisiwyd o ganlyniad i’r argyfwng ariannol sydd yn wynebu awdurdodau lleol, mae’n eitem angenrheidiol. Eglurwyd fod y Cyngor yn derbyn cynnydd o 2.3% o Grant Llywodraeth Leol, ond ei fod yn sylweddol is na lefel chwyddiant ac islaw yn hyn fydd ei angen i gynnal lefel gwasanaethau presennol. Eglurwyd o ganlyniad bydd angen i’r Cyngor ymdopi a bwlch ariannol o bron i £15m.

 

Mynegwyd er mwyn gwneud hyn bydd angen i’r gyllideb gynnwys cyfuniad o orfod cynyddu’r dreth Cyngor a chyflawni toriadau mewn cyllidebau ar draws y Cyngor. Eglurwyd yn ôl ym mis Hydref cynhaliwyd gweithdai i holl aelodau etholedig er mwyn blaenoriaethu cynlluniau arbedion ar gyfer 2024/25. Nodwyd fod y cynigon a chyfanswm gwerth o oddeutu £8m. Cynhaliwyd asesiad effaith ar bob cynnig ynghyd ac asesiad cyfreithiol ac ariannol i sicrhau eu bod yn gynlluniau oedd posib eu cyflawni.

 

Casgliadau’r gweithdai oedd  bod posib gweithredu oddeutu £5m o gynlluniau, a chyflwynwyd y rhestr o doriadau ac arbedion yn ddwy ran. Eglurwyd fod rhestr A yn cynnwys cynlluniau gellir symud ymlaen i'w gweithredu gan yr Adran. Amlygwyd y cynlluniau o dan y penawdau megis arbedion effeithlonrwydd, cynyddu incwm a defnyddio ffynonellau eraill i ariannu.

 

Nodwyd fod y rhestr B yn adlewyrchu cynlluniau sydd yn ddarostyngedig i gamau statudol neu benderfyniadau pellach cyn gellir eu cadarnhau. Amlygwyd fod y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio wedi craffu'r broses, ond wedi codi pryder am y lefel arian wrth gefn ar gyfer cynlluniau arbedion gan ei fod wedi gostwng o 20% i 10%. Er hyn nodwyd eu bod yn fodlon a bod y broses yn gynhwysfawr a thrylwyr.

 

Eglurwyd fod y grant gan y Llywodraeth am fod yn lleihau dros y blynyddoedd i ddod, a bydd angen  mynd ati yn syth i gychwyn cylch newydd o arbedion, gan edrych ar sut i ymdopi ac o bosib i ail ddiffinio beth fydd y Cyngor yn gallu ei gynnig.

 

Sylwadau’n codi o’r drafodaeth

·         Tynnwyd sylw at yr asesiad effaith cydraddoldeb gan nodi ei fod yn edrych ar yr arbedion yn eu cyfanrwydd. Awgrymwyd efallai fod angen adroddiad pellach er mwyn gwneud yn siŵr fod cynlluniau yn eu creu gan y bydd grwpiau bregus yn cael eu taro.

 

 

Awdur:Dewi A Morgan

Dogfennau ategol: