Agenda item

Cyflwynwyd gan:Cyng. Ioan Thomas

Penderfyniad:

 

1)     Sefydlu cyllideb o £330,590,040 ynghyd ag unrhyw arian ychwanegol a dderbynnir yn y setliad terfynol ar gyfer 2024/25 i’w ariannu drwy Grant Llywodraeth o £232,092,110, gan ychwanegu unrhyw gynnydd yn y grant a dderbynnir yn y setliad terfynol, a £98,497,930 o incwm o’r Dreth Cyngor (sy’n gynnydd o 9.54%).

2)     Sefydlu rhaglen gyfalaf o £85,224,800 yn 2024/25 i’w ariannu o’r ffynonellau a nodir yn Atodiad 4 i’r adroddiad.

3)     Fod y Grant Llywodraeth ychwanegol terfynol a dderbynnir uwchlaw y £232,092,110 – a amcangyfrifir i fod oddeutu £969,000 – yn cael ei ddefnyddio i leihau’r bwlch o £2M sydd heb ei gyfarch yn ein cynlluniau ariannol yn 2024/25 ac yn gorfod cael ei gyfarch o gronfeydd am eleni fel y cyfeirir ato ym mharagraff 5.4.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Cyng. Ioan Thomas

 

PENDERFYNIAD

 

1)    Sefydlu cyllideb o £330,590,040 ynghyd ag unrhyw arian ychwanegol a dderbynnir yn y setliad terfynol ar gyfer 2024/25 i’w ariannu drwy Grant Llywodraeth o £232,092,110, gan ychwanegu unrhyw gynnydd yn y grant a dderbynnir yn y setliad terfynol, a £98,497,930 o incwm o’r Dreth Cyngor (sy’n gynnydd o 9.54%).

2)    Sefydlu rhaglen gyfalaf o £85,224,800 yn 2024/25 i’w ariannu o’r ffynonellau a nodir yn Atodiad 4 i’r adroddiad.

3)    Fod y Grant Llywodraeth ychwanegol derfynol a dderbynnir uwchlaw y £232,092,110 - a amcangyfrifir i fod oddeutu £969,000 - yn cael ei ddefnyddio i leihau’r bwlch o £2M sydd heb ei gyfarch yn ein cynlluniau ariannol yn 2024/25 ac yn gorfod cael ei gyfarch o gronfeydd am eleni fel y cyfeirir ato ym mharagraff 5.4

 

TRAFODAETH

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi fod Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol wedi rhoi addewid o arian ychwanegol i awdurdodau Cymru o ganlyniad i arian ychwanegol sydd wedi ei ddyrannu i gynghorau Lloegr yn ddiweddar. Amcangyfrifir y bydd y Cyngor yn derbyn ffigwr ychwanegol oddeutu £969,000. Yn ogystal â hyn, nodwyd fod yr adran wedi eu hysbysu ddiwedd wythnos ddiwethaf o grantiau penodol fydd yn cael eu trosglwyddo i’r setliad, a sydd hefyd yn cael effaith ar y ffigyrau terfynol. Eglurwyd y bydd y ffigyrau yn derfynol erbyn cyfarfod y Cyngor Llawn ar 7 Mawrth.

 

Nodwyd fod y penderfyniad a geisir yn argymell i’r Cyngor yn ei gyfarfod ar 7 Mawrth 2024 y dylid sefydlu cyllideb o £331 miliwn ynghyd ag unrhyw arian ychwanegol a dderbynnir yn y setliad terfynol ar gyfer 2024/25 i’w ariannu drwy Grant Llywodraeth o £232 miliwn gan ychwanegu unrhyw gynnydd yn y grant a dderbynnir yn y setliad terfynol a £98 miliwn o incwm o’r Dreth Cyngor (sy’n gynnydd o 9.54% ar dreth anheddau unigol).  Yn ogystal i sefydlu rhaglen gyfalaf o £85 miliwn  yn 2024/25 i’w ariannu o’r ffynonellau a nodir yn Atodiad 4 i’r adroddiad.

 

Ychwanegwyd yr amcangyfrif byddai’r Grant Llywodraeth ychwanegol derfynol oddeutu £969k yn uwch na’r hyn oedd yn y setliad drafft a bydd cyllid ychwanegol (yn y terfynol uwchlaw’r setliad drafft) yn cael ei ddefnyddio i leihau’r defnyddio o £2m o gronfeydd wrth gefn y Cyngor. Pwysleisiwyd fod y gyllideb yn cael ei argymell mewn cyfnod ble mae awdurdodau lleol Cymru yn wynebu heriau ariannol sylweddol. Amlygwyd fod y Cyngor wedi derbyn cynnydd grant ar gyfer 2024/25 a oedd ymysg yr isaf yng Nghymru. Eglurwyd nad yw’r swm yma yn ddigonol i gwrdd â chwyddiant, heb sôn am bwysau ychwanegol ar wasanaethau.

 

Tynnwyd sylw at ddarpariaeth chwyddiant cyflogau o £15.1m. Mynegwyd fod y ffigwr hwn yn unol â’r mwyafrif o awdurdodau lleol eraill. Nodwyd fod y Cyngor wedi cynllunio yn ddarbodus yn 2023/24 ar gyfer cynnydd o 6%, ond roedd y cytundeb terfynol yn uwch, ac felly o ganlyniad bydd chwyddiant cyflogau yng nghyllideb 2024/25 yn cynnwys elfen i gywiro’r bwlch yma yn ogystal ag ystyried chwyddiant tybiannol o 5% ar gyfer yr holl weithlu. Amlygwyd fod y gyllideb yn darparu ar gyfer chwyddiant arall o £6.8m, eglurwyd fod wn yn swm net sy’n cynnwys darpariaeth ar gyfer ystod eang o newidiadau yn ddibynnol ar raddfa chwyddiant meysydd penodol, megis £4m yn y maes gofal.

 

Nodwyd fod gofyn i argymell cymeradwyo bidiau gwrth £5.1m am adnoddau parhaol ychwanegol a gyflwynwyd gan yr adrannau i gwrdd â phwysau anorfod ar eu gwasanaethau. Eglurwyd fod yr eitemau wedi eu herio yn drylwyr cyn eu hargymell i’w cymeradwyo gan y Cabinet.

 

I grynhoi, mynegwyd fod anghenion gwario’r Cyngor cyn tynnu arbedion ar gyfer 2024/25 yn £340m, a bod grant oddi wrth Lywodraeth Cymru am fod oddeutu £232m. Amlyga hyn fod bwlch gweddilliol angen ei lenwi ac mae’r eitem flaenorol yn amlygu’r arbedion fydd angen ei gwneud. Nodwyd y bydd angen argymell cyfarch gweddill y bwlch drwy’r Dreth Cyngor, ac i’w gynyddu o 9.54%.

 

Ychwanegodd y Pennaeth Cyllid fod atodiad 10 yn amlygu fod asesiadau risg wedi ei gwneud a bod gwaith caled wedi ei wneud gan yr adran i sicrhau fod cadernid yn yr amcangyfrifon. Pwysleisiwyd fod y flwyddyn am fod yn heriol tu hwnt, ac yr her fwyaf fydd i sicrhau fod arbedion yn cael eu gwireddu.

 

Sylwadau’n codi o’r drafodaeth

·         Pwysleisiwyd nad oes un Cynghorydd eisiau codi treth Cyngor ond nad oes unrhyw opsiwn arall ar gael. Nodwyd fod nifer o unigolion yn barod i farnu ond hynny heb ddeall sut mae llawer o’r Cyngor yn gweithio, ac nad yw’r arian sydd yn cael ei dderbyn yn ddigonol.

·         Mynegwyd mai dim ond dau opsiwn sydd ar gyfer cael cyllideb gytbwys sef i godi treth cyngor neu dorri mwy o wasanaethau, ategwyd fod y ceisio cael y balans yma yn anodd iawn.

 

Awdur:Dewi A Morgan

Dogfennau ategol: