Agenda item

Cyflwyno Adroddiad Blynyddol GwE 2022-23.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd – Adroddiad Blynyddol GwE 2022-23.

 

Rhoddodd yr Uwch Arweinydd Rhanbarthol – Ysgolion Cynradd ac Arbennig drosolwg o gynnwys yr adroddiad.

 

Rhoddwyd cyfle i’r aelodau ofyn cwestiynau a chynnig sylwadau. 

 

Nodwyd y dymunid cydnabod a diolch i’r cymorthyddion dosbarth am roi eu hamser i fynd ar hyfforddiant ac am ymgymryd â’r rôl o ddifri’ yn eu gwaith bob dydd.  Mewn ymateb, nodwyd y cytunid â’r sylw a bod cymorthyddion effeithiol yn ychwanegu gwerth sylweddol i ysgol.

 

Nodwyd ei bod yn dorcalonnus bod cymorthyddion profiadol gyda blynyddoedd lawer o brofiad a gwybodaeth yn y maes yn gadael i fynd i swyddi eraill sy’n talu gwell cyflog.

 

Nodwyd bod yr adroddiad yn llawn iaith ansoddeiriol canmoliaethus a bod paragraff cyntaf y Crynodeb Gweithredol ar dudalen gyntaf yr adroddiad yn cael ei ail adrodd air am air dan y pennawd Rhagarweiniad a Chyd-destun.  Mewn ymateb, nodwyd bod y paragraff cychwynnol sy’n ymddangos yn y Crynodeb Gweithredol ac yn yr adroddiad ei hun yn ddyfyniad o ganfyddiadau Estyn ar y gwasanaeth, nid yn unig yn lleol yng Ngwynedd, ond yn gyson ar draws 6 awdurdod y Gogledd.

 

Nodwyd na anghytunid â’r prif flaenoriaethau gwella, ond gofynnwyd am sicrwydd y bydd yr un rhestr o flaenoriaethau yn ymddangos yn yr adroddiad blynyddol nesaf, gydag unrhyw gynnydd yn erbyn y materion hynny wedi’i adnabod.  Mewn ymateb, nodwyd:-

·         O ran y drefn adrodd, bod yr elfennau sy’n cael eu hadnabod fel rhai sydd angen eu datblygu yn mynd i mewn i’r cynlluniau busnes.

·         Bod y blaenoriaethau gwella hyn yn gynwysedig yn y cynlluniau busnes sy’n weithredol ar y funud, a phan fyddai cyfle i adrodd eto ymhen blwyddyn, byddai’r rhain yn sail i ddangos cynnydd yn erbyn y materion sydd wedi’u hadnabod.

 

Nodwyd nad oedd yna unrhyw gyfeiriad yn yr adroddiad at brofion PISA a holwyd sut y bwriadai GwE ymateb i ganlyniadau’r profion.  Mewn ymateb, nodwyd:-

·         Oherwydd natur a chefndir Cymru, ei bod yn ymddangos bod Cymru wedi’i heffeithio’n waeth yn dod allan o’r cyfnod Cofid na nifer o wledydd tebyg i ni.

·         Bod profion PISA yn un o ddangosyddion cenedlaethol y Llywodraeth fel rhywbeth sy’n dangos pa mor effeithiol ydi’r gyfundrefn addysg, ond bod perygl mewn gwneud gosodiadau ar brofion rhyngwladol.

·         Os yw profion PISA yn mynd i fod yn ddangosydd cenedlaethol sy’n cael ei gyfri’ a’i fesur yn ei erbyn, bod rhaid cael strategaeth genedlaethol glir mewn lle sy’n cael ei chefnogi o lefel llywodraeth i wasanaethau fel GwE, ac hefyd i lefel ysgol er mwyn gwneud yn siŵr bod ein disgyblion mwyaf abl yn cael y cyfleoedd i arddangos eu gallu.

 

Holwyd pa mor bwysig yw llywodraethwyr da i ysgol symud yn ei blaen a beth yw disgwyliadau GwE o lywodraethwyr.  Mewn ymateb, nodwyd:-

·         Mai rôl llywodraethwr yw bod yn gyfaill beirniadol sy’n gweithio mewn partneriaeth ag ysgolion.

·         Bod yna wahoddiad bob amser i lywodraethwyr ymuno ym mheth o’r gwaith mae GwE yn ei wneud yn yr ysgolion, gyda cydweithrediad y pennaeth, e.e sut rydym yn dod i farn ar wahanol bethau, pa dystiolaeth rydym ni’n edrych arni, pa mor dda mae ysgol yn adnabod ei hun (sydd hefyd yn cynnwys llywodraethwyr), beth ydi’r blaenoriaethau a beth a wneir yn eu cylch.

·         Y drefn naturiol wedyn fyddai craffu’r materion hyn yn y corff llywodraethol er mwyn adnabod y blaenoriaethau a sut i wella.

·         Petai yna ddymuniad i gynnal gweithdai penodol i lywodraethwyr yn y rôl yna’n benodol, diau y gellid trefnu hynny mewn cydweithrediad â’r Pennaeth Addysg.  Byddai hefyd angen cyfle i dywys cynghorwyr drwy’r wybodaeth yn y Fframwaith Gwella Ysgolion newydd o ran beth yw’r cyfrifoldebau a sut i gyflawni’r rôl mewn ffordd sy’n newid ychydig bach wrth i ni fynd yn ei blaenau.

 

Awgrymwyd y byddai’r adroddiad blynyddol yn llawer cliriach petai’n llawer mwy cryno a gofynnwyd i GwE gymryd hyn i ystyriaeth ar gyfer y dyfodol.

 

Holwyd a fyddai GwE yn rhan o’r gwaith o fonitro’r Siarter Iaith newydd.  Mewn ymateb, nodwyd:-

·         Nad oedd hynny’n hysbys eto gan fod arian y Gymraeg, a arferai ddod i GwE, yn gorwedd gyda’r awdurdodau yn ei gyfanrwydd ers blwyddyn bellach.

·         O ran fframwaith y Siarter Iaith newydd, y byddai’r gwaith monitro yn cael ei wneud gan Gydlynydd y Siarter Iaith Gwynedd a Môn a Thîm y Gymraeg yn yr awdurdod.  Fodd bynnag, roedd hynny’n mynd i fod yn dipyn o her o ystyried nifer yr ysgolion cynradd ac uwchradd ar draws Gwynedd gyfan a’r ffaith bod y Cydlynydd yn rhannu ei hamser rhwng Gwynedd a Môn.

·         Bod yr Adran yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru ar hyn o bryd yn edrych ar y goblygiadau ariannol o ran y Gymraeg yn gyfangwbl o ran y Bil Addysg Gymraeg fel bod modd cyfrifo a chynnig rhagolygon gwariant o beth fydd effaith cyflwyno’r Bil yn y gobaith y bydd y Llywodraeth yn clustnodi swm o arian i gyd-fynd â hynny.

·         Petai’r Awdurod yn gweld bod yna rôl comisiwn i GwE o ran gwneud y gwaith monitro ochr yn ochr â’r Awdurdod, neu ar ran yr Awdurod, byddai modd cael trafodaeth ynglŷn â hynny.

 

Mynegwyd y farn bod yr adroddiad yn un tra arwynebol, yn enwedig yr adrannau gwerthuso pwysig sy’n dod o dan y pennawd ‘Mynd i’r afael â gwelliannau pellach’, a bod rhai o’r gwelliannau, megis ‘parhau i adnabod sut mae cynnydd yn edrych er mwyn cynllunio’r camau nesaf yn fwriadus dros amser’ yn amwys iawn.  Holwyd hefyd i ba raddau mae GwE yn monitro data llithriad a chynnydd yn y ddarpariaeth addysg Gymraeg, ac yn goruchwylio hynny.  Mewn ymateb, nodwyd:-

 

·         Nad oedd GwE yn monitro data a chynnydd yn y ddarpariaeth addysg Gymraeg fel mae pethau’n sefyll ar hyn o bryd.

·         O ran sylw blaenorol yn ystod y cyfarfod ynglŷn â gweld yr argymhellion yn yr adroddiad blynyddol nesaf, ei bod yn bosib’, unwaith eto, y bydd hyd a lled yr hyn y gall GwE ei gynnig yn dipyn llai wrth i ni symud yn ein blaenau, ac roedd honno’n drafodaeth i’w chael dros yr wythnosau a’r misoedd nesaf.

·         Bod sylw wedi’i wneud fwy nag unwaith yn ystod y cyfarfod ynglŷn ag amwysedd iaith yr adroddiad, ond o ran hyd adroddiadau, mater bach fyddai darparu adroddiad llawer mwy cryno.  Fodd bynnag, byddai hynny’n codi cwestiwn o ran y gwerth mae’r Cyngor yn gael o ddogfen mor fyr, gan gofio bod yna gynulleidfa allanol hefyd, sef yr arolygwyr.

·         Bod rhaid cael y cydbwysedd yn iawn i fedru dangos beth yw hyd a lled y rhychwant o wasanaeth mae GwE yn eu rhoi i’r ysgolion.

 

PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad gan nodi’r sylwadau.

 

Dogfennau ategol: