Agenda item

Cyflwyno adroddiad y Swyddog Monitro.

Penderfyniad:

 

(1)  Caniatáu goddefeb i’r Cynghorydd Gwynfor Owen gynrychioli’r Pwyllgor Craffu Addysg ac Economi ar y Grŵp Tasg a Gorffen a sefydlwyd gan y Pwyllgor Craffu Gofal i drafod gweithredu Cynllun Awtistiaeth Gwynedd, a hynny ar yr amod nad yw’n cael ei benodi yn Gadeirydd y Grŵp Tasg.

(2)  Gwrthod goddefeb i’r Cynghorydd Gwynfor Owen siarad a phleidleisio ar unrhyw achlysur y bydd y mater hwn yn codi gan nad oedd yna ddigon o wybodaeth ynglŷn â’r cais i ddod i gasgliad priodol.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd – adroddiad y Swyddog Monitro yn gofyn i’r pwyllgor ystyried a phenderfynu ar gais am oddefeb gan y Cynghorydd Gwynfor Owen:-

·         I gynrychioli’r Pwyllgor Craffu Addysg ac Economi ar y Grŵp Tasg a Gorffen a sefydlwyd gan y Pwyllgor Craffu Gofal i drafod gweithredu Cynllun Awtistiaeth Gwynedd.

·         I dderbyn goddefeb gyffredinol fyddai’n caniatáu iddo siarad a phleidleisio ar unrhyw achlysur y byddai’r mater yn codi.

 

Manylodd y Swyddog Monitro ar y cais dan sylw, gan nodi:-

 

·         Bod y Cynghorydd Gwynfor Owen wedi datgan buddiant oedd yn rhagfarnu yn y mater oherwydd bod unigolyn yr oedd ganddo gysylltiad personol agos ag ef yn derbyn y gwasanaethau oedd yn destun y craffu.

·         Bod y cais yn cael ei gyflwyno ar sail (ch),(dd) ac (e) o’r rheoliadau perthnasol, sef os yw natur buddiant yr aelod yn gyfryw fel na fyddai cyfranogiad yr aelod yn y busnes y mae'r buddiant yn berthnasol iddo yn niweidio hyder y cyhoedd yn y modd y mae busnes yr awdurdod perthnasol yn cael ei gynnal”; “os oes cyfiawnhad i’r aelod gymryd rhan yn y busnes y mae’r buddiant yn berthnasol iddo oherwydd rôl neu arbenigedd penodol yr aelod” acos yw'r busnes y mae'r buddiant yn berthnasol iddo i'w ystyried gan bwyllgor trosolygu a chraffu i'r awdurdod perthnasol ac nad yw buddiant yr aelod yn fuddiant ariannol”.

·         Nad rôl cynghori na rhoi arweiniad oedd rôl aelodau’r Grŵp Tasg, ond yn hytrach adolygu’r maes, ac er na fyddent yn gwneud penderfyniadau, byddai eu hadroddiad yn dylanwadu ar gyfeiriad craffu’r maes.

·         Bod canllawiau’r Ombwdsmon ar y Cod Ymddygiad yn nodi bod angen i’r Pwyllgor Safonau gydbwyso budd y cyhoedd o ran atal aelodau sydd â buddiannau rhagfarnus rhag cymryd rhan mewn penderfyniadau yn erbyn budd y cyhoedd mewn penderfyniadau sy’n cael eu gwneud gan grŵp gweddol gynrychioliadol o aelodau’r Cyngor.

·         Pe dymunai’r Pwyllgor ganiatáu’r cais, dylai fod yn fodlon bod gan yr aelod rôl neu arbenigedd penodol yn y maes fyddai’n cyfrannu at waith y Grŵp Tasg.

 

Rhoddwyd cyfle i’r aelodau ofyn cwestiynau i’r Swyddog Monitro.

 

Rhoddwyd cyfle i’r aelodau ofyn cwestiynau i’r Cynghorydd Gwynfor Owen.

 

Yna gadawodd y Cynghorydd Gwynfor Owen y cyfarfod.

 

Wrth drafod y cais am oddefeb i eistedd ar y Grŵp Tasg, rhoddodd y Pwyllgor ystyriaeth i’r ffactorau a ganlyn:-

 

·         Bod gan y Cynghorydd Gwynfor Owen brofiad o ymwneud â’r maes awtistiaeth y tu hwnt i brofiad teulu, gan ei fod yn delio gydag amryw o rieni sydd â phlant ag awtistiaeth yn ei ward, a hefyd yn Gadeirydd Llywodraethwyr Ysgol Hafod Lon, sydd â chyfran uchel o’r plant wedi cael diagnosis o awtistiaeth.

·         Ei fod hefyd wedi mynychu cyrsiau ar awtistiaeth i rieni ac wedi bod i gyfarfodydd ynglŷn ag awtistiaeth.

 

Cytunodd y Pwyllgor fod yr aelod yn cyrraedd y trothwy o ran arbenigedd penodol yn y maes ac y dylid caniatáu goddefeb iddo eistedd ar y Grŵp Tasg.  Awgrymwyd, fodd bynnag, na ddylai gael ei benodi yn Gadeirydd y Grŵp Tasg.

 

Wrth drafod y cais am oddefeb gyffredinol i siarad a phleidleisio ar unrhyw achlysur y bydd y mater yn codi, mynegwyd y farn gan aelodau bod y cais presennol yn llawer rhy eang i’w ganiatáu gan nad oedd yna wybodaeth ddigonol ynglŷn â chyfnod yr oddefeb nac ym mha gyd-destun y byddai’r mater yn codi.  Gan hynny, ni ystyrid bod y cais yn cyrraedd y trothwy o ran caniatáu goddefeb.

 

PENDERFYNWYD

(1)       Caniatáu goddefeb i’r Cynghorydd Gwynfor Owen gynrychioli’r Pwyllgor Craffu Addysg ac Economi ar y Grŵp Tasg a Gorffen a sefydlwyd gan y Pwyllgor Craffu Gofal i drafod gweithredu Cynllun Awtistiaeth Gwynedd, a hynny ar yr amod nad yw’n cael ei benodi yn Gadeirydd y Grŵp Tasg.

(2)       Gwrthod goddefeb i’r Cynghorydd Gwynfor Owen siarad a phleidleisio ar unrhyw achlysur y bydd y mater hwn yn codi gan nad oedd yna ddigon o wybodaeth ynglŷn â’r cais i ddod i gasgliad priodol.

 

Dogfennau ategol: