Agenda item

Cyflwyno adroddiad y Swyddog Monitro.

Penderfyniad:

Caniatáu goddefeb i’r Cynghorydd Dawn Jones gynrychioli’r Pwyllgor Craffu Addysg ac Economi ar y Grŵp Tasg a Gorffen a sefydlwyd gan y Pwyllgor Craffu Gofal i drafod gweithredu Cynllun Awtistiaeth Gwynedd, a hynny ar yr amod nad yw’n cael ei phenodi yn Gadeirydd y Grŵp Tasg.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd – adroddiad y Swyddog Monitro yn gofyn i’r pwyllgor ystyried a phenderfynu ar gais am oddefeb gan y Cynghorydd Dawn Jones i gynrychioli’r Pwyllgor Craffu Addysg ac Economi ar y Grŵp Tasg a Gorffen a sefydlwyd gan y Pwyllgor Craffu Gofal i drafod gweithredu Cynllun Awtistiaeth Gwynedd.

 

Cyn ystyried y cais, gosododd y Swyddog Monitro y cyd-destun gan nodi bod y Pwyllgor Safonau wedi mabwysiadu trefn sy’n caniatáu i ymgeiswyr am oddefebau fynychu cyfarfodydd y Pwyllgor i ateb cwestiynau posib’ gan y pwyllgor yn unig.

 

Yna manylodd y Swyddog Monitro ar y cais dan sylw, gan nodi:-

 

·         Bod y Cynghorydd Dawn Jones wedi datgan buddiant oedd yn rhagfarnu yn y mater oherwydd bod unigolion yr oedd ganddi gysylltiad personol agos â hwy yn derbyn y gwasanaethau oedd yn destun y craffu.

·         Bod y cais yn cael ei gyflwyno ar sail (dd) o’r rheoliadau perthnasol, sef “os oes cyfiawnhad i’r aelod gymryd rhan yn y busnes y mae’r buddiant yn berthnasol iddo oherwydd rôl neu arbenigedd penodol yr aelod”.

·         Er bod y Cynghorydd Dawn Jones yn gweithio i Sylfaen Cymunedol, sef cwmni sy’n darparu prosiectau cymunedol i gefnogi pobl ifanc ar draws Môn, Conwy a Gwynedd ac sy’n anorfod yn dod i gyswllt â phobl ifanc ag awtistiaeth, o drafod gyda’r aelod, ni ystyrid bod natur na lefel yr ymwneud yma yn cael ei effeithio gan yr hyn sydd dan sylw.

·         Nad rôl cynghori na rhoi arweiniad oedd rôl aelodau’r Grŵp Tasg, ond yn hytrach adolygu’r maes, ac er na fyddent yn gwneud penderfyniadau, byddai eu hadroddiad yn dylanwadu ar gyfeiriad craffu’r maes.

·         Bod canllawiau’r Ombwdsmon ar y Cod Ymddygiad yn nodi bod angen i’r Pwyllgor Safonau gydbwyso budd y cyhoedd o ran atal aelodau sydd â buddiannau rhagfarnus rhag cymryd rhan mewn penderfyniadau yn erbyn budd y cyhoedd mewn penderfyniadau sy’n cael eu gwneud gan grŵp gweddol gynrychioliadol o aelodau’r Cyngor.

·         Pe dymunai’r Pwyllgor ganiatáu’r cais, dylai fod yn fodlon bod gan yr aelod rôl neu arbenigedd penodol yn y maes fyddai’n cyfrannu at waith y Grŵp Tasg.

 

Rhoddwyd cyfle i’r aelodau ofyn cwestiynau i’r Swyddog Monitro.

 

Rhoddwyd cyfle i’r aelodau ofyn cwestiynau i’r Cynghorydd Dawn Jones.

 

Yna gadawodd y Cynghorydd Dawn Jones y cyfarfod.

 

Wrth drafod y cais, rhoddodd y Pwyllgor ystyriaeth i’r ffactorau a ganlyn:-

 

·         Bod y Cynghorydd Dawn Jones wedi gweithio hefo plant a phobl ifanc ers 34 o flynyddoedd ac wedi cefnogi teuluoedd lle mae plentyn neu berson ifanc yn aros am asesiad a diagnosis o awtistiaeth ers 15 mlynedd.

·         Ei bod hefyd wedi mynychu nifer o gyrsiau hyfforddiant proffesiynol yn y maes awtistiaeth.

 

Cytunodd y Pwyllgor fod yr aelod yn cyrraedd y trothwy o ran arbenigedd penodol yn y maes ac y dylid caniatáu goddefeb iddi eistedd ar y Grŵp Tasg.  Awgrymwyd, fodd bynnag, na ddylai gael ei phenodi yn Gadeirydd y Grŵp Tasg.

 

PENDERFYNWYD caniatáu goddefeb i’r Cynghorydd Dawn Jones gynrychioli’r Pwyllgor Craffu Addysg ac Economi ar y Grŵp Tasg a Gorffen a sefydlwyd gan y Pwyllgor Craffu Gofal i drafod gweithredu Cynllun Awtistiaeth Gwynedd, a hynny ar yr amod nad yw’n cael ei phenodi yn Gadeirydd y Grŵp Tasg.

 

Dogfennau ategol: