Yn unol â rhan 4.12.1 (d) o’r Cyfansoddiad derbyniwyd
llythyr gan Cyng. Aled Evans a oedd wedi cael ei arwyddo gan 9 o gynghorwyr
eraill a oedd yn gofyn am gyfarfod o’r Cyngor i drafod: “agwedd ar y Cynllun
Datblygu Lleol (Gwynedd a Môn), sef y dull aed ati i gloriannu effaith y
cynllun arfaethedig hwn ar yr iaith Gymraeg. Teimlwn nad
ydyw’r hyn a wnaed ynddo yn dderbyniol o ran amddiffyn y Gymraeg a hoffem ystyried camau pellach i ddadwneud y diffyg hwn.”
Cofnod:
Eglurodd y
Cadeirydd, yn unol â rhan 4.12.1(d) o’r Cyfansoddiad, y derbyniwyd llythyr gan
y Cynghorydd Aled Evans, oedd wedi ei arwyddo gan 9 o gynghorwyr eraill yn
gofyn am gyfarfod arbennig o’r Cyngor i drafod: “agwedd ar y Cynllun Datblygu Lleol (Gwynedd a Môn), sef y dull aed ati
i gloriannu effaith y cynllun arfaethedig hwn ar yr iaith Gymraeg. Teimlwn nad ydyw’r hyn a wnaed ynddo yn
dderbyniol o ran amddiffyn y Gymraeg a hoffem ystyried camau pellach i
ddadwneud y diffyg hwn.”
Pwysleisiodd y
Cadeirydd mai’r mater hwn yn unig fyddai’n cael ei drafod ac na fyddai modd yn
gyfansoddiadol i drafod unrhyw agwedd arall o’r cynllun.
Rhoddodd y Swyddog
Monitro arweiniad parthed y sefyllfa gyfreithiol gyffredinol a chyfansoddiadol
ynglŷn â’r drafodaeth, gan nodi:-
·
Bod datblygiad y Cynllun Adnau yn fater sydd yn nwylo’r Pwyllgor Polisi
Cynllunio ar y Cyd ar y Cyd a bod y penderfyniadau ar yr ymgynghoriad, yr
ymateb i’r ymgynghoriad a’i gyflwyniad ar gyfer ymchwiliad annibynnol wedi eu
dirprwyo gan y Cyngor hwn i’r Cyd-bwyllgor ers 2011.
·
Ar 29 Ionawr eleni, y penderfynodd y Cyd-bwyllgor dderbyn bod y cynllun
yn mynd ymlaen i ymchwiliad annibynnol, ac ar y sail hynny, hysbysebwyd y
penderfyniad a chychwynnwyd ar y gwaith paratoi.
·
Bod y penderfyniad hwn yn unol â hawliau dirprwyedig y Cyd-bwyllgor, oedd
yn fodlon, ar ran Cyngor Gwynedd, bod y cynllun yn gadarn i fynd ymlaen i’r
ymchwiliad a bod y broses a’r ymateb yn gadarn i fynd ymlaen i ymchwiliad. Gan hynny, nid oedd yn gyfreithiol bosib’,
i’r Cyngor wyrdroi’r penderfyniad yma.
·
Ei fod yn benderfyniad ar y cyd ag Ynys Môn a bod yna arwyddocâd i’r
penderfyniad yna hefyd i’r sawl sydd wedi cefnogi neu wrthwynebu’r cynllun.
·
Bod yna broses sy’n caniatáu i’r gwrthwynebiadau i’r cynllun gael sylw
gan yr Arolygydd a’i bod yn debygol y byddai yna wrandawiadau ar yr ymateb i
rai o’r materion yma hefyd ac felly byddai’r gwrthwynebiadau yn cael eu
cloriannu.
·
Nad oedd y cais am gyfarfod arbennig o’r Cyngor yn nodi rhybudd o gynnig
penodol, eithr yn gofyn am drafodaeth yn unig.
Yn ôl Cyfansoddiad y Cyngor, i gael trafodaeth, ‘roedd yn rhaid cael
cynnig, ac un o’r amgylchiadau prin lle gellid gwneud cynnig heb rybudd oedd
drwy argymhelliad gan Aelod Cabinet. Gan
hynny, bwriadai’r Aelod Cabinet Cynllunio roi cynnig gerbron er mwyn agor y
drafodaeth. Mater i’r aelodau wedyn
fyddai ystyried a oeddent am dderbyn y cynnig neu roi gwelliannau priodol
ymlaen.
Cynigiwyd ac
eiliwyd i roi’r Rheolau Gweithdrefn o’r neilltu er mwyn caniatáu i unrhyw aelod
wneud cynnig gerbron y Cyngor.
Galwyd am bleidlais
gofrestredig ar y cynnig i roi’r Rheolau Gweithdrefn o’r neilltu.
Yn unol â’r Rheolau Gweithdrefn, cofnodwyd y bleidlais ganlynol:-
O blaid: (32) Y Cynghorwyr - Craig ab Iago, Anwen Davies, Elwyn Edwards, Trevor
Edwards, Alan Jones Evans, Aled Evans, Jean Forsyth, Gweno Glyn, Simon Glyn,
Alwyn Gruffydd, John Brynmor Hughes, Louise Hughes, Sian Wyn Hughes, Aeron
Jones, Aled Wyn Jones, Brian Jones, Elin Walker Jones, Eric Merfyn Jones, Sion
Wyn Jones, Dilwyn Lloyd, Dilwyn Morgan, W.Tudor Owen,
Gareth A.Roberts, John Pughe Roberts, Angela Russell,
Mike Stevens, Hefin Underwood, Ann Williams, Eirwyn Williams, Elfed Williams,
Gruffydd Williams ac Owain Williams.
Yn erbyn: (13) Y Cynghorwyr – Lesley Day,
Dyfed Edwards, Gwen Griffith, Anne Lloyd Jones, John Wynn Jones, June Marshall,
Dafydd Meurig, Michael Sol Owen, W.Gareth Roberts,
Dyfrig Siencyn, Gareth Thomas, Hefin Williams ac R.H.Wyn
Williams.
Yn atal: (2) Y Cynghorwyr – Thomas Ellis a Charles W.Jones
Gan i fwyafrif yr aelodau bleidleisio o blaid
y cynnig, cyhoeddodd y Cadeirydd y rhoddwyd y Rheolau Gweithdrefn o’r neilltu
am y cyfarfod hwn.
Holodd aelod a oedd y Cyfansoddiad yn
caniatáu i unrhyw aelod godi pleidlais o ddiffyg hyder ar adran, unigolyn neu
uned. Atebodd y Swyddog Monitro mai’r
hyn oedd gerbron y cyfarfod hwn oedd ystyriaeth o’r dull yr aed ati i gloriannu
effaith y cynllun arfaethedig ar yr iaith Gymraeg ac felly na fyddai’n briodol i
ehangu hynny i gynnig o ddiffyg hyder gan nad oedd hynny ar y rhaglen ac nad
oedd yr aelodau wedi derbyn rhybudd o fwriad i wneud cynnig o’r fath.
Gwahoddwyd y
Cynghorydd Aled Evans i esbonio pam ei fod ef a’i gyd-gynghorwyr wedi galw
cyfarfod arbennig o’r Cyngor ac i gyflwyno’r dystiolaeth a gyflwynodd i’r
Cyngor.
Nododd y Cynghorydd
Aled Evans:-
·
Y gofynnwyd i’r Aelod Cabinet Cynllunio yn y Cyngor llawn ar 5 Mawrth,
2015 sut fyddai unrhyw ymatebion a ddeuai i law yn yr ymgynghoriad yn cael eu
hymgorffori yn y Cynllun ac i’r Aelod Cabinet annog pawb i fynd ati i ymateb
i’r ymgynghoriad.
·
Y bu ymateb trylwyr a manwl i’r ymgynghoriad a chyhoeddwyd yr ymatebion
hyn ar 29 Ionawr, ond cafodd llawer o’r hyn o’r hyn oedd wedi’i roi gerbron ei
roi o’r neilltu.
·
Y cafwyd cais yn dilyn hynny gan sawl mudiad ac unigolyn ar gynghorwyr
fel yntau ac eraill i alw am gyfarfod arbennig o’r Cyngor llawn i drafod y
mater, ac yn sgil hynny, bod ganddo gynnig i’w wneud.
Eglurodd y Cadeirydd y gellid rhoi’r cynnig ar ôl i’r Aelod Cabinet
gyflwyno ei achos.
Rhoddwyd cyflwyniad ar y Cynllun Datblygu Lleol a’r Iaith Gymraeg gan y
Cynghorydd Elin Walker Jones, ar ran yr aelodau oedd wedi galw am y cyfarfod
arbennig. Eglurodd y rhesymeg y tu ôl i
alw’r cyfarfod trwy gyfeirio at nifer o ystadegau ynglŷn â sefyllfa’r
iaith Gymraeg, ac i grynhoi, pwysleisiodd:-
·
Bod angen monitro llawn
ac ystyrlon o sefyllfa’r Gymraeg o 2011 ymlaen.
·
Y dylid gwneud defnydd
llawn o ffigurau’r Cyfrifiad ac unrhyw wybodaeth berthnasol.
·
Y dylai cryfder y
Gymraeg yng Ngwynedd a Môn olygu ei bod yn cael sylw
a statws arbennig fel ardal o sensitifrwydd ieithyddol.
·
Y dylid mynd ati rhag
blaen i ddatblygu mecanwaith monitro ystyrlon fyddai’n bwydo i mewn i ddogfen
fyw yr asesiad iaith yn gyson.
Gwahoddwyd yr Aelod
Cabinet Cynllunio i roi cyflwyniad.
Cyflwynodd yr Aelod
Cabinet Cynllunio yr adroddiad ffeithiol a ddosbarthwyd gyda rhaglen y cyfarfod
gan dynnu sylw at:-
·
Y cefndir perthnasol a’r cyd-destun ar gyfer gwneud penderfyniadau am y
Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd.
·
Y cyd-destun deddfwriaeth a pholisi cynllunio cenedlaethol – paratoi
cynlluniau datblygu lleol ar y cyd ac asesu effaith ar yr iaith Gymraeg.
·
Trosolwg o’r prosesau.
·
Y dystiolaeth.
·
Cyfranogiad ac ymgynghori cyhoeddus (gan gynnwys mewnbwn cynghorwyr) a
phroses gwneud penderfyniadau.
·
Asesiad cynaliadwyedd (gan gynnwys Asesiad Amgylcheddol Strategol).
·
Asesiad Effaith Ieithyddol.
·
Yr ymgynghoriad cyhoeddus am y Cynllun Adnau: Chwefror – Mawrth 2015.
·
Penderfyniad y Pwyllgor Polisi Cynllunio ar y Cyd – Ionawr 2016.
·
Ymgynghori am y
Newidiadau â Ffocws - gan bwysleisio bod cyfle hyd 13 Ebrill i anfon sylwadau
ynglŷn â’r newidiadau a ddeilliodd o’r cyfnod
ymgynghori cynt.
·
Yr Archwiliad Cyhoeddus.
·
Casgliad – (i) bod y broses wedi .bod yn un gwbl gynhwysol, gyda nifer o
gyfleoedd wedi bod trwy gydol y broses i gynghorwyr a chymunedau gael mewnbwn,
yn unol â’r Cytundeb Cyflawni a gafodd
ei gymeradwyo gan y Cynghorau ar ddechrau’r broses, a (ii)
bod y broses o baratoi’r Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd wedi bodloni’r
gofynion statudol, gan gynnwys ystyried y Gymraeg a’r defnydd ohoni o safbwynt
eu perthnasedd i ddefnydd tir.
Nododd y Cadeirydd
ei bod yn bwysig cael cynnig er mwyn agor y drafodaeth a bod hawl, yn
gyfansoddiadol, gan unrhyw aelod i wneud hynny o fod wedi rhoi’r Rheolau
Gweithdrefn o’r neilltu.
Cynigiwyd y
canlynol:-
“Yn wyneb y ffaith bod y
broses o lunio’r Cynllun Datblygu Lleol wedi cymryd peth amser yn fwy i’w
chyflawni a bod ymestyn y cynllun cyfredol wedi gorfod digwydd, sylweddolir na
fu monitro cyfoes llawn ac ystyrlon ar y sefyllfa. Felly, o dderbyn mai dogfen fyw ymatebol ydyw
asesiad iaith y Cynllun Datblygu Lleol, gofynnwn i’r Cyngor ymgynghori ar
ffyrdd o gyfoesi monitro effaith y sefyllfa gynllunio bresennol ac arfaethedig
ar y Gymraeg. Dylai hynny ddigwydd gyda
defnydd llawn o ffigurau Cyfrifiad 2011 a hefyd gydag ystyriaeth o addasrwydd
gwaelodol y nifer tai a phoblogaeth sy’n sail i’r cynllun. Noder fod y cynllun newydd i fod yn
weithredol yn 2016 neu 2017 ac na fu dim monitro ers 2011 tra bod y ddelfryd yn
y cynllun newydd yn nodi y dylid monitro yn flynyddol.”
Cyn gofyn am
eilydd, gofynnodd y Cadeirydd i’r Swyddog Monitro sicrhau bod y cynnig yn
gyfansoddiadol.
Nododd y Swyddog Monitro ei fod o’r farn bod brawddeg gyntaf y cynnig, ac yn benodol y geiriau
‘na fu monitro cyfoes llawn ac ystyrlon ar y sefyllfa’, yn gwyrdroi
penderfyniad y Pwyllgor Polisi Cynllunio ar y Cyd oherwydd bod y Cyd-bwyllgor
wedi dod i gasgliad bod yr wybodaeth a dderbyniodd yn ystyrlon a phriodol a bod
y cynllun yn gadarn i fynd ymlaen i ymchwiliad.
Mynegodd y cynigydd
ei barodrwydd i hepgor brawddeg gyntaf y cynnig a darllenodd y Cadeirydd y
cynnig wedi’i ddiwygio, sef:-
“O dderbyn mai dogfen
fyw ymatebol ydyw asesiad iaith y Cynllun Datblygu Lleol, gofynnwn i’r Cyngor
ymgynghori ar ffyrdd o gyfoesi monitro effaith y sefyllfa gynllunio bresennol
ac arfaethedig ar y Gymraeg. Dylai hynny
ddigwydd gyda defnydd llawn o ffigurau Cyfrifiad 2011 a hefyd gydag ystyriaeth
o addasrwydd gwaelodol y nifer tai a phoblogaeth sy’n sail i’r cynllun.”
Eiliwyd y cynnig.
Cynigiwyd y
gwelliant canlynol:-
“O dderbyn mai dogfen fyw ydi asesiad iaith y
Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd, o’i fabwysiadu bydd y Cyngor yn ymrwymo i
sicrhau y bydd y monitro a’r adolygu yn seiliedig ar y data fwyaf cyfredol fydd
ar gael ar y pryd.”
Eiliwyd y
gwelliant.
Mynegodd rhai
aelodau eu hanfodlonrwydd gyda’r cynllun yn ei gyfanrwydd a’r broses, gan nodi
eu bod yn dod i’r casgliad y dylid codi pleidlais o ddiffyg hyder yn y Pwyllgor
Polisi Cynllunio ar y Cyd. Mewn ymateb,
pwysleisiodd y Swyddog Monitro mai’r dull o gloriannu effaith y cynllun ar yr
iaith Gymraeg yn unig oedd gerbron y Cyngor ac y dylai rhybudd o gynnig o fath
fod wedi’i roi fel rhan o’r broses o alw’r cyfarfod.
Nododd aelod o’r
Pwyllgor Polisi Cynllunio ar y Cyd nad oedd ganddo yntau lawer o hyder yn y
Cyd-bwyllgor oherwydd iddo wrthwynebu’r niferoedd tai sy’n cael eu codi am
resymau ieithyddol drwy gydol yr amser.
Awgrymwyd bod modd
cyplysu’r cynnig a’r gwelliant gan fod y cynnig yn tanlinellu’r angen i edrych
ar y dystiolaeth wrth i’r cynllun symud i fod yn weithredol tra bod y gwelliant
yn cyfeirio at ddefnyddio pob arbenigedd ac edrych ar bob data, megis ystadegau
cymdeithasol cyfoes, allai fod yn fwy defnyddiol nag
ystadegau’r Cyfrifiad yn unig, i wneud hynny.
Yn ystod y
drafodaeth ddilynol, nodwyd:-
·
Y dymunid gweld polisi cynllunio sy’n galluogi trosi beudai ac adeiladau
fferm i’w defnyddio gan bobl leol er budd y gymuned a’r iaith Gymraeg.
·
Bod rhaid gweithredu’n gadarnhaol ac yn rhagweithiol ym mhob agwedd o
waith y Cyngor os yw’r iaith Gymraeg am barhau yn iaith hyfyw o fewn
cymunedau’r sir.
·
Bod y Cynllun, fel mae’n sefyll ar hyn o bryd, yn gweithredu’n groes i
Ddeddf Cynllunio 2015 sy’n cyfeirio at yr angen i ganolbwyntio ar faterion ac
amcanion lleol sy’n cael eu hadnabod mewn strategaeth leol gyda sylfaen o
dystiolaeth ynghyd â chynnwys asesiad o effeithiau tebygol y cynllun ar y defnydd
o’r Gymraeg yn yr ardal.
·
Y gwrthodwyd cais y Pwyllgor Iaith am drafodaeth ar y Cynllun Adnau.
·
Bod 160 o sylwadau ar y Cynllun wedi’u taflu o’r neilltu, ar y sail nad
oeddent yn ddigon grymus, yn ôl y swyddogion a chyfeiriwyd yn benodol at
dystiolaeth a gyflwynwyd gan wahanol gynghorau bro ynglŷn â’r angen lleol am dai, ond a ddiystyriwyd.
·
Bod Hunaniaith wedi datgan yn glir, heb
dystiolaeth gadarn o’r angen lleol am dai, ei bod yn anodd gwybod i sicrwydd ai
effaith gadarnhaol neu negyddol a gaiff unrhyw ddatblygiad ar yr iaith Gymraeg,
ond o ystyried sefyllfa fregus yr iaith Gymraeg, fel iaith leiafrifol, nad oedd
modd cymryd y siawns yma heb wybod i sicrwydd y bydd unrhyw ddatblygiad yn
atgyfnerthu sefyllfa’r iaith.
·
Dylid cydnabod y dylai pob datblygiad economaidd neu aneddleoedd
atgyfnerthu’r Gymraeg ac na ddylid ystyried unrhyw ddatblygiad fyddai’n golygu
mesurau i liniaru ei effaith ar yr iaith Gymraeg.
·
Bod Arolwg Tai ac Iaith Gwynedd a Môn yn datgan na fydd yn debygol y bydd
y cynllun hwn yn gwarchod y Gymraeg.
·
Ei bod yn fater o dristwch i’r aelodau na chafodd y Cyngor llawn y cyfle
i drafod y Cynllun yn ei gyfanrwydd cyn iddo gael ei anfon ymlaen at yr
Arolygydd.
·
Bod yr Adran Gynllunio yn gweithio yn erbyn unigolyn lleol sy’n dymuno codi
tai fforddiadwy ar gyfer eu teuluoedd eu hunain, ond yn fwy na pharod i gefnogi
datblygiadau o 200-300 o dai.
·
Bod y system bwyntiau tai cymdeithasol yn gweithredu yn erbyn siaradwyr
Cymraeg cynhenid.
·
Bod pobl ifanc Cymraeg yn symud o’r pentrefi oherwydd prinder gwaith a
bod angen i’r polisïau cynllunio hwyluso cadw pobl ifanc yng nghefn gwlad.
·
Bod angen gwell monitro ar y sefyllfa er tegwch i’r bobl ifanc yn y
cymunedau gwledig.
Gofynnwyd a oedd
modd dod â’r cynnig a’r gwelliant at ei gilydd drwy
ymrwymo i adeiladu ar y fethodoleg asesiad iaith sydd yna’n barod drwy weithio
gyda mudiad sy’n arbenigo mewn cymdeithaseg iaith, e.e. y Brifysgol, mudiadau
iaith, ayb, gan hefyd gymryd y cyfle i ymgynghori’n eang ar ddatblygiad y fethodoleg
yma gyda mudiadau ac unigolion lleol sydd â diddordeb.
Gwahoddwyd cynigydd
y cynnig gwreiddiol a chynigydd y gwelliant i uno’r cynnig a’r gwelliant ar hyd
y llinellau hyn, ond mynegodd y ddau eu dymuniad i gadw’r cynnig a’r gwelliant
ar wahân.
Galwyd am bleidlais
gofrestredig ar y gwelliant.
Yn unol â’r Rheolau Gweithdrefn, cofnodwyd y bleidlais ganlynol:-
O blaid: (13) Y Cynghorwyr – Craig ab Iago, Lesley Day,
Dyfed Edwards, Thomas Ellis, Anne Lloyd Jones, Charles W.Jones,
John Wynn Jones, June Marshall, Dafydd Meurig, Michael Sol Owen, W.Gareth Roberts, Dyfrig Siencyn a Hefin Williams.
Yn erbyn: (34) Y Cynghorwyr – Anwen Davies,
Elwyn Edwards, Trevor Edwards, Alan Jones Evans, Aled Evans, Jean Forsyth,
Gweno Glyn, Simon Glyn, Gwen Griffith, Alwyn Gruffydd, John Brynmor Hughes,
Louise Hughes, Sian Wyn Hughes, Aeron Jones, Aled Wyn Jones, Brian Jones, Elin
Walker Jones, Eric Merfyn Jones, Sion Wyn Jones, Dilwyn Lloyd, Dilwyn Morgan, W.Tudor Owen, Gareth A.Roberts,
John Pughe Roberts, Angela Russell, Mike Stevens, Gareth Thomas, Hefin
Underwood, Ann Williams, Eirwyn Williams, Elfed Williams, Gruffydd Williams,
Owain Williams ac R.H.Wyn Williams.
Yn atal: (0)
Galwyd am bleidlais
gofrestredig ar y cynnig gwreiddiol.
Yn unol â’r Rheolau Gweithdrefn, cofnodwyd y bleidlais ganlynol:-
O blaid: (43) Y Cynghorwyr – Craig ab Iago, Anwen
Davies, Lesley Day, Dyfed Edwards, Elwyn Edwards, Trevor Edwards, Thomas Ellis,
Alan Jones Evans, Aled Evans, Jean Forsyth, Gweno Glyn, Simon Glyn, Gwen
Griffith, Alwyn Gruffydd, John Brynmor Hughes, Sian Wyn Hughes, Aeron M.Jones, Aled Wyn Jones, Anne Lloyd Jones, Charles W.Jones, Elin Walker Jones, Eric Merfyn Jones, John Wynn
Jones, Dilwyn Lloyd, June Marshall, Dafydd Meurig, Dilwyn Morgan, William Tudor
Owen, Gareth A.Roberts, John Pughe Roberts, W.Gareth Roberts, Angela Russell, Dyfrig Siencyn, Mike
Stevens, Gareth Thomas, Hefin Underwood, Ann Williams, Eirwyn Williams, Elfed
Williams, Gruffydd Williams, Hefin Williams, Owain Williams ac R.H.Wyn Williams.
Yn erbyn: (1) Y Cynghorydd – Louise Hughes.
Yn atal: (2) Y Cynghorwyr – Brian Jones a Sion Wyn Jones.
PENDERFYNWYD o dderbyn
mai dogfen fyw ymatebol ydyw asesiad iaith y Cynllun Datblygu Lleol, gofynnwn
i’r Cyngor ymgynghori ar ffyrdd o gyfoesi monitro effaith y sefyllfa gynllunio
bresennol ac arfaethedig ar y Gymraeg.
Dylai hynny ddigwydd gyda defnydd llawn o ffigurau Cyfrifiad 2011 a
hefyd gydag ystyriaeth o addasrwydd gwaelodol y nifer tai a phoblogaeth sy’n
sail i’r cynllun.
Diolchodd y
Cadeirydd i bawb am eu cyfraniad ac i aelodau’r cyhoedd oedd yn bresennol i
ddangos eu barn a’u cefnogaeth.
Dogfennau ategol: