Agenda item

Cyflwynwyd gan:Cyng. Dafydd Meurig

Penderfyniad:

Derbyniwyd a nodwyd y wybodaeth yn yr adroddiad.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Cyng. Dafydd Meurig

 

PENDERFYNIAD

 

Derbyniwyd a nodwyd y wybodaeth yn yr adroddiad.

 

TRAFODAETH

 

Adroddwyd bod yr adran yn arwain ar 5 prosiect sy’n rhan o Gynllun y Cyngor 2023-2028. Nodwyd yr isod yn ddiweddariad ar y prosiectau hynny:

·       Rheolaeth ail gartrefu a llety gwyliau tymor byr – Eglurwyd bod  cyfnod ymgynghori ar fwriad y Cyngor i gyflwyno cyfarwyddyd Erthygl 4 wedi dod i ben ar 13 Medi. Ymfalchïwyd bod rhai miloedd o ymatebion wedi dod i law ac mae swyddogion bellach yn dadansoddi’r ymatebion hynny cyn cyflwyno adroddiad amserol i ddiweddaru’r Pwyllgor Craffu Cymunedau a’r Cabinet.

·       Gwastraff ac Ailgylchu – Nodwyd bod yr adran wedi gosod targed o ailgylchu 70% o wastraff y Sir erbyn 2025. Cydnabuwyd bydd cyrraedd y targed hwn yn heriol ond mae’r adran yn obeithiol byddai’n llwyddo i’w gyrraedd yn dilyn trefniant ailstrwythuro mewnol newydd.

·       Teithio Llesol - Cadarnhawyd bod yr Adran wedi llwyddo i dderbyn grant yn y maes hwn ar gyfer y cyfnod nesaf. Nodwyd bod dau gais ychwanegol wedi ei wneud am grantiau ond bod y rhain wedi bod yn aflwyddiannus.

·       Trafnidiaeth Cyhoeddus - Cyhoeddwyd bod gwasanaeth SHERPA’r Wyddfa wedi cyrraedd rhestr fer Gwobrau Trafnidiaeth Prydeinig (UK Transport Awards) eleni yn dilyn ei ailstrwythuro dros y blynyddoedd diwethaf.

·       Cynllun Datblygu Lleol Newydd – Esboniwyd bod trefniant llywodraethol ar gyfer y cynllun wedi cael ei dderbyn. Manylwyd bod Gweithgor Polisi Cynllunio o 15 aelod wedi cael ei sefydlu ac wedi cyfarfod am y tro cyntaf yn ddiweddar. Nodwyd bod y gweithgor wedi ymdrin â gwaith cychwynnol ac yn bwriadu cyfarfod yn rheolaidd.

 

Diweddarwyd yr Aelodau ar dri o wasanaethau’r Adran sydd wedi gweld cynnydd yn ddiweddar. Mae’r rhain yn cynnwys:

·       Cynllunio – Cadarnhawyd bod y gwasanaeth wedi llwyddo i ymateb i 88% o geisiadau cynllunio o fewn y cyfyngiad amser statudol ar ddechrau’r flwyddyn eleni. Nodwyd bod hyn yn welliant o’i gymharu gyda’r blynyddoedd diwethaf. Cyhoeddwyd bod y gwasanaeth wedi llwyddo i benodi dau hyfforddai cynllunio newydd yn ddiweddar. Eglurwyd byddai hyn yn help mawr gyda problemau capasiti o fewn y gwasanaeth. Nodwyd bod denu staff i swyddi’r gwasanaeth wedi bod yn her yn y gorffennol, ond gobeithir bod y penodiadau hyn yn arwydd cadarnhaol.

·       Gorfodaeth Cynllunio - Adroddwyd bod problemau capasiti dal yn cael effaith ar wasanaeth gorfodaeth cynllunio. Eglurwyd bod hyn yn her oherwydd mae swyddogion yn ymdrechu i ddelio gydag achosion newydd yn ogystal ag achosion hanesyddol sy’n parhau i fod yn agored ar systemau.

·       Pridiannau tir – Esboniwyd bod gwasanaethau pridiannau tir bellach wedi cael eu uwchraddio i system gyfrifiadurol newydd. O’r herwydd, mae’r gwasanaeth hon yn perfformio’n dda. Nodwyd bod swyddogion wedi gorfod stopio delio gyda ceisiadau pridiannau tir am gyfnod tra bod y system yn cael ei uwchraddio, oherwydd diffyg capasiti. Cadarnhawyd bod y broblem hon bellach wedi cael ei sortio oherwydd bod y system newydd mewn lle ac mae ceisiadau yn cael eu delio yn effeithiol.

·       Traffig, Prosiectau a Llwybrau - Adroddwyd bod blaenoriaeth wedi cael ei roi i sicrhau bod popeth yn ei le ar gyfer rheoliadau cyfyngiadau 20mya sydd wedi dod i rym yn ddiweddar. Esboniwyd bod llawer o waith cynllunio a pharatoi wedi bod yn digwydd i sicrhau’r diweddariad hwn. Yn anffodus, golyga hyn bod rhai o brosiectau eraill y gwasanaeth ddim wedi cael blaenoriaeth ond mae’r swyddogion yn gweithio’n ddiwyd arnynt unwaith eto erbyn hyn.

 

Mewn ymateb i ymholiad ar sefyllfa ariannol ym maes cludiant cyhoeddus, cydnabuwyd nad yw’r sefyllfa yn edrych yn gadarnhaol ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf. Eglurwyd nad yw’r llywodraeth wedi cyflwyno gwybodaeth am grantiau posibl ar hyn o bryd ac felly gobeithir bydd y sefyllfa yn gwella wrth agosáu at flwyddyn ariannol newydd ym mis Ebrill. Ymhelaethodd Pennaeth Adran Amgylchedd bod yr Adran yn cynnal adolygiad cynhwysfawr o fewn y maes hwn a sicrhawyd bod pob ymdrech yn cael ei wneud er mwyn sicrhau nad ydi gwasanaethau trafnidiaeth cyhoeddus yn dod i ben.

 

Nodwyd bod gwasanaeth cludiant yn gorwario. Er hyn, mae’r gwasanaeth manteisio o dderbyn arian gan Drafnidiaeth Cymru. Eglurwyd mai arian blynyddol yw hwn ac felly mae risgiau yn codi os na fydd Trafnidiaeth Cymru yn darparu arian i gynorthwyo gwasanaethau. Sicrhawyd bod yr adran yn ymwybodol o risgiau o fewn y maes ac mae pob ymdrech yn cael ei wneud i’w cyfarch.

 

Yn sgil trafferthion diweddar o fewn y gwasanaeth casglu gwastraff ac ailgylchu, ystyriwyd yr angen i addysgu trigolion am bwysigrwydd ailgylchu pan fydd y gwaith ailstrwythuro wedi cwblhau ac bod y gwasanaeth yn rhedeg yn esmwyth o fewn yr Adran. Cydnabuwyd bod angen newid ymddygiad tuag at ailgylchu o fewn y sir ac mae cael swyddogion i weithio ar hyn yn angenrheidiol er mwyn cyrraedd y targed o ailgylchu 70% o wastraff erbyn 2025.

 

Rhannwyd sylwadau bod trigolion yn teimlo rhwystredigaeth nad ydi casgliadau ailgylchu yn digwydd yn gyson ac nad oes gohebiaeth yn cael ei rannu i gadarnhau nad yw’r casgliad yn digwydd. Mewn ymateb i’r sylwadau hyn, nododd Pennaeth Adran Amgylchedd bod y mater hwn yn brif ffocws cyfarfod herio perfformiad nesaf yr adran. Nodwyd bod cyfathrebu yn digwydd yn well yn ardal Arfon nag ydi ym Meirionydd, oherwydd bod yr hwb wedi cael ei sefydlu yn effeithiol erbyn hyn, ond ymrwymwyd i wella’r gwasanaeth. Esboniwyd hefyd bod streic ddiweddar hefyd wedi effeithio ar wasanaethau yn ystod yr wythnosau diwethaf. Cydnabuwyd bod lle i wella’r gwasanaeth hon ond bod y gwasanaeth yn mynd i’r cyfeiriad cywir.

 

Mewn ymateb i ymholiad i ymddygiad gweithlu’r gwasanaeth casglu gwastraff ac ailgylchu, pwysleisiodd Pennaeth Adran Amgylchedd nad oedd unrhyw ddiffygion yn y gwasanaeth yn deillio o ymddygiad y gweithlu. Eglurwyd bod rhai ardaloedd o fewn y Sir megis Harlech, Dwyfor ac Arfon yn cydweithio’n dda o fewn eu hardaloedd fel un tîm ac felly mae’r gwasanaeth yn cael ei gynnal yn esmwyth yno. Cydnabuwyd bod materion staffio wedi codi ym Meirionnydd a bod lleoliadau swyddogion a salwch staff wedi cael effaith ar y gwasanaeth. Manylwyd bod ffocws yn cael ei rhoi ar ardaloedd deheuol y Sir er mwyn sicrhau bod y gwasanaeth casglu gwastraff ac ailgylchu yn gwella yno yn y dyfodol agos. Sicrhawyd bod y casglwyr yn gweithio’n galed ar draws y Sir i ymdrechu i sicrhau parhad y gwasanaeth yn rheolaidd.

 

Mewn ymateb i ymholiad am ddiogelwch defnyddwyr llwybrau’r teithiau llesol, nododd Aelod Cabinet Amgylchedd bod problemau yn codi wrth brynu tir er mwyn cynnal y llwybrau hyn ac mae heriau yn codi wrth ymgeisio am grantiau oherwydd bod natur y ffurflenni cais yn fwy ffafriol i ardaloedd trefol na gwledig. Ymhelaethodd Pennaeth Adran Amgylchedd bod gwaith dylunio ac arolygiadau amgylcheddol ar gyfer y llwybrau ac bod y cynllun hwn yn cael ei gwblhau rhan wrth rhan. Sicrhawyd bod yr adran yn ymdrechu i rhoi isadeiledd addas i bwrpas er mwyn gallu creu llwybrau newydd yn y flwyddyn ariannol nesaf.

 

Diolchwyd i’r adran am eu holl waith.

 

 

Awdur:Dafydd Wyn Williams: Pennaeth Adran Amgylchedd

Dogfennau ategol: