Agenda item

Dewi A.Morgan, Pennaeth Cyllid yr Awdurdod Lletya (Swyddog Cyllid Statudol) a Sian Pugh, Pennaeth Cyllid Cynorthwyol yr Awdurdod Lletya i gyflwyno’r adroddiad.

 

Penderfyniad:

Derbyn a nodi Datganiad o Gyfrifon Drafft y BUEGC (yn amodol ar archwiliad) am 2022/23.

 

Cofnod:

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Dewi A.Morgan (Swyddog Cyllid Statudol).  Nodwyd:-

 

·         Bod y Bwrdd, am yr ail flwyddyn, wedi paratoi set gyflawn o ddatganiadau cyfrifon, yn hytrach na’r ffurflen swyddogol a ddefnyddiwyd mewn blynyddoedd blaenorol, gan fod Uchelgais Gogledd Cymru yn “gorff perthnasol mwy” yn unol â gofynion Rheoliadau Cyfrifon ac Archwilio (Cymru) gan fod ei incwm neu wariant blynyddol dros £2.5m.

·         Bod y Datganiad Cyfrifon blynyddol wedi’i baratoi yn unol â’r Cod Ymarfer ar Gyfrifyddu mewn Awdurdodau Lleol.

·         Bod y Bwrdd Uchelgais wedi derbyn y wybodaeth mewn ffordd llawer mwy defnyddiol pan gyflwynwyd Sefyllfa Alldro Refeniw a Chyfalaf y Bwrdd Uchelgais ar gyfer 2022/23 ar y 5ed o Fai, a nodwyd y penderfyniad a wnaethpwyd yn ystod y cyfarfod hwnnw.

·         Bod y ffigurau sy’n ymddangos yn nhabl 1 ar dudalen 3 o’r adroddiad yn gyson gyda’r hyn oedd yn yr adroddiad alldro refeniw, a bod yr hyn a welir yn llawer o’r ddogfen yn faterion technegol yn ymwneud â chonfensiynau cyfrifo.  Hefyd, yn yr un modd, roedd ffigurau yn ymddangos sy’n adlewyrchu’r gwariant cyfalaf.

·         Bod y ffigurau pensiynau yn wahanol eleni.  Nodwyd bod gan y Bwrdd Uchelgais ymrwymiad pensiwn o £942,000 ar 31 Mawrth 2022, ond ar 31 Mawrth 2023, bod gwerth yr asedau yn fwy na gwerth yr ymrwymiadau gyda sefyllfa ased net o £572,000.   Eglurwyd mai’r rheswm am hyn oedd bod prisiad yr actiwari yn defnyddio bondiau corfforaethol y DG, a gan fod cynnyrch rhain wedi bod yn uchel, roedd wedi arwain at gyfraddau disgownt cyfrifyddu uchel, sy’n rhoi gwerth sylweddol is ar yr ymrwymiadau pensiwn.  Eglurwyd ymhellach nad oedd y safon cyfrifo pensiynau yn caniatáu dangos ased ar gyfer cynllun pensiwn buddiannau diffiniedig, felly addaswyd gwerth yr ased ar y fantolen i £0.  Disgwylid cyfarwyddiadau pellach gan Archwilio Cymru a CIPFA ar hyn, a phetai angen unrhyw newid i’r driniaeth yn dilyn y cyfarwyddiadau yma, byddent yn cael eu haddasu erbyn y Datganiad Cyfrifon terfynol.

·         Bod y Swyddog Cyllid Statudol wedi arwyddo’r cofnodion ar 7 Gorffennaf ac wedi tystio ei fod o’r farn bod y Datganiad o'r Cyfrifon wedi ei baratoi yn unol â'r ymarfer priodol fel a osodir yn y Cod Ymarfer CIPFA/LASAAC ar Gyfrifo ar gyfer Awdurdodau Lleol.  Nodwyd bod y Swyddog Cyllid Statudol yn credu bod y Datganiad yn cyflwyno darlun cywir a theg o sefyllfa ariannol Cyd-bwyllgor Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru ar 31 Mawrth 2023 ac incwm a gwariant y Cyd Bwyllgor am y flwyddyn a ddaeth i ben bryd hynny.

·         Y bydd y datganiadau yn mynd ymlaen i gael eu hadolygu gan Archwilio Cymru, sef archwilwyr allanol y Bwrdd Uchelgais, ac y bydd y cyfrifon terfynol, ynghyd ag adroddiad yr archwilwyr, yn cael eu cyflwyno i’r Bwrdd yn ystod yr hydref.

 

PENDERFYNWYD derbyn a nodi Datganiad o Gyfrifon Drafft y BUEGC (yn amodol ar archwiliad) am 2022/23.

 

RHESYMAU DROS Y PENDERFYNIAD

 

Nid oes gofyn statudol i’r Bwrdd gymeradwyo’r fersiwn ddrafft o Ddatganiad o Gyfrifon y Cyd-bwyllgor, ond ystyrir bod cyflwyno’r datganiad drafft er gwybodaeth yn arfer da i’w ddilyn.

 

Bydd angen i'r Bwrdd gymeradwyo’r fersiwn terfynol ar ôl derbyn adroddiad Archwilio Cymru, ond mae cyflwyno’r fersiwn ddrafft rŵan yn gyfle i aelodau’r Bwrdd ystyried y cynnwys a holi swyddogion ariannol am y cynnwys.  Mae hyn yn gyfle i'r aelodau arfogi eu hunain gyda gwybodaeth berthnasol er mwyn ystyried risgiau perthnasol, a materion eraill fydd yn destun archwiliad, yn eu cyd-destun.

 

TRAFODAETH

 

Diolchwyd i’r Swyddog Cyllid Statudol a’i dîm am y gwaith.

 

 

Dogfennau ategol: