Agenda item

Cais o dan Adran 73 i amrywio amod 6 ar ganiatau rhif C14/0471/17/LL i alluogi cynnydd mewn allbwn.

 

AELOD LLEOL:  Cynghorydd Dilwyn Lloyd

 

 

Dolen i’r dogfennau cefndir perthnasol

 

 

 

 

Cofnod:

Cais o dan Adran 73 i amrywio amod 6 ar ganiatâd rhif C14/0471/17/LL i alluogi cynnydd mewn allbwn.

 

(a)             Ymhelaethodd yr Uwch Swyddog Cynllunio Mwynau a Gwastraff ar gefndir y cais gan nodi ar hanes diweddar y safle.  Ail-gydiwyd yn y gwaith yn 2007 ar ôl i’r Cyngor gyflwyno rhestr diwygiedig o amodau dan Ddeddf yr Amgylchedd 1995 i ail-gychwyn ennill a gweithio mwynau ynghyd a gweithrediadau cysylltiedig yn y chwarel uchod.

 

Derbyniwyd sawl cais yn ddiweddar i wella is-adeiladd y safle, megis caniatâd yn 2013 i wella y ffordd gludo a’r fynedfa i’r briffordd.  Yn dilyn hyn, rhoddwyd caniatâd yn  2014 i amrywio yr un amod, gyda’r caniatâd blaenorol yn 2007 a ganiatawyd i gynyddu allbwn y chwarel o 10,000 tunnell y flwyddyn i 20,000 tunnell yn ddarostyngedig i gario 4 llwyth y dydd.  Pwysleiswyd bod yr egwyddor o 4 llwyth y dydd eisoes wedi ei sefydlu.

 

Cyfeiriwyd  at y materion yn ymwneud â traffig a mynediad o fewn yr adroddiad ac fe nodwyd ni dderbyniwyd gwrthwynebiad gan yr uned drafnidiaeth cyn belled a bo nifer y symudiadau o ac i’r safle yn cynyddu.  Tynnwyd sylw’r Pwyllgor Cynllunio at y sylwadau ychwanegol a dderbyniwyd gan Adran Gwarchod y Cyhoedd yn datgan nad oedd ganddynt unrhyw wrthwynebiad i’r bwriad  gydag amodau cyfredol mewn perthynas a sŵn o’r datblygiad yn ddigonol.

 

Derbyniwyd dau lythyr o wrthwynebiad ynglyn â phryderon yn ymwneud â thraffig, sŵn digryniad, llwch, a.y.b. Nodwyd bod Adran Gwarchod y Cyhoedd wedi gofyn i edrych eto ar faterion llwch yn dod o’r chwarel i adlewyrchu anghenion rheolau modern.

 

Bwriedir cadw rhan o’r amod sy’n gofyn i’r ymgeisydd gyflwyno nifer y symudiadau i’r Adran Gynllunio o fewn amser penodol ac yn sgil hyn argymhellir i ganiatáu.

 

(b)            Yn manteisio ar yr hawl i siarad, nododd asiant yr ymgeisydd y prif bwyntiau canlynol:

 

·         Bod caniatâd presennol sy’n rheoli datblygiad y safle yn cyfyngu allbwn y safle i 20,000 tunnelll y flwyddyn yn amodol i 4 llwyth y diwrnod

·         Mai cais ydoedd i ddiddymu rhan o amod 6 i gyfyngu’r allbwn y chwarel ac yn hytrach yn ddibynnol ar nifer o lwythi all adael y safle bob dydd

·         Bod yr ymgeisydd yn awyddus i gynyddu’r allbwn flynyddol  ond yn ymwybodol o’r pryderon yn lleol ynglyn â chynnydd yn y traffig trwm

·         Bod modd codi’r lefelau tra yn aros tu fewn i’r caniatâd tra yn manteisio ar uchafswm maint a nifer y llwythi dyddiol a thrwy neud hyn ni fyddai effaith andwyol ar fwynderau trigolion yn codi oherwydd ni fyddai  lefelau trafnidiaeth trwm yn cynyddu uwchben yr hyn a ganiateir yn bresennol

·         Er bod dau lythyr o wrthwynebiad wedi ei dderbyn yn barod  nid oes run gwrthwynebiad gan yr ymgynghorwyr statudol

·         Ni dderbyniwyd gwrthwynebiad gan y Cyngor Cymuned, nac ychwaith Adran Priffydd y Cyngor 

·         Ni fydd cynnydd yn nifer dyddiol y llwythi

·         Bod yr adroddiad yn cadarnhau bod y cynnig yn cydymffurfio â pholisau perthnasol y Cynllun Datblygu Unedol Gwynedd

·         Bydd y safle yn cyfrannu at gyflenwad cynaliadwy o aggregau ac yn cyfrannu at yr economi lleol

 

(c)      Nododd yr Aelod Lleol cyfagos (nad oedd yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn) ond fe ddatganodd bod rhan o’r chwarel yn ei ward, ac ar y cyfan nad oedd ganddo wrthwynebiad i’r bwriad ond mynegodd y pryderon canlynol:

 

·         Cyfeiriwyd at luniau oedd ganddo yn dangos lori yn teithio  i lawr o’r chwarel drwy Rhosgadfan a phryderai am ddiogelwch y cyhoedd ac yn arbennig plant ar y lonydd cul mewn pentrefi bach

·         Nad oedd ffigwr yn yr adroddiad ar gyfer yr allbwn

·         Bod yr Adran Cynllunio yn gwrthwynebu mwy na 4 llwyth ac roedd o’r farn bod  hyn yn agored i drafodaethau ac y byddai yn fwy na pharod i gyd-drafod gyda’r ymgeisydd a’r swyddog perthnasol yn yr Adran Gynllunio oherwydd iddo dderbyn cwynion yn datgan bod mwy na 4 llwyth yn digwydd eisoes

·         Derbyniodd gwyn gan unigolyn ynglyn a difrod i wal a hefyd bod 7 lori y diwrnod yn cario llwythi o’r chwarel

·         Pryder y bydd y loriau trwm yn gwneud difrod i’r lonydd

·         Gofynnir am reolau cadarn sef cyfyngu’r oriau i loriau beidio cario llwythi cyn 9.15 y.b. ac ar ôl 3.00 y.p. o ddydd Llun i Gwener; uchafswm o loriau yn 20 tunnell; trafodaeth rhwng yr aelodau lleol a’r cwmni i drafod unrhyw broblemau; bod y cwmni yn cyfrannu at gronfa leol canolog;  sefydlu gorfodaeth yn rhan amodol o’r cais i’r loriau deithio i fyny drwy Rhostryfan / Rhosgadfan ac i lawr drwy Carmel / Groeslon

·         Awgrymwyd y byddai’n fuddiol i’r Pwyllgor Cynllunio ymweld a’r safle

 

 

(ch)      Mewn ymateb i’r uchod, pwysleisiodd yr Uwch Reolwr Gwasanaeth Cynllunio mai cais i ddiwygio amod oedd ger bron a bod yr egwyddor o waith y chwarel eisoes wedi ei sefydlu.  Rhaid cadw mewn cof nad yw’r cais yn gofyn am oriau gweithredu’r chwarel ac y byddai hyn yn afresymol.  O ran symudiadau tu allan i’r chwarel, ni ellir rheoli pa rwydwaith y byddai’r loriau yn teithio.   

 

Cytunwyd, o safbwynt cyfathrebu, y byddai’n fuddiol i sefydlu Grŵp Cyswllt fel y gellir gwyntyllu materion a oedd yn destun pryderon gan yr Aelodau lleol.  Nodwyd bod hwn yn fodd y gellir ei gynnig ond ni ellir ei amodi o fewn y caniatâd cynllunio.  Nodwyd ymhellach bod y cais yn rhoi hyblygrwydd i allu cwrdd a’r galw yn y farchnad

 

(d)   Cynigwyd ac eilwyd yr argymhelliad i ganiatau yn ogystal ag argymell sefydlu Grŵp Cyswllt.

 

(dd)   Nodwyd y pwyntiau canlynol yn erbyn yr argymhelliad:

 

·         Y byddai’n fuddiol i gynnal ymweliad i’r safle fel bo modd i Aelodau weld drostynt eu hunain beth yw’r problemau

·         Pryder y gwrthodwyd cais y llynedd oherwydd gormodedd agregu yng Ngwynedd ac nad oedd cynllun adfer yn rhan o’r cais

 

(e)          Mewn ymateb, esboniodd Uwch Reolwr Gwasanaeth Cynllunio bod rhaid ymdrin a phob cais ar ei haeddiant ac ategwyd nad oedd gan Adran Gwarchod y Cyhoedd unrhyw wrthwynebiad i’r cais.

 

(f)           O safbwynt gormodedd aggregau, cadarnhawyd bod y sefyllfa yn cael ei fonitro yn gyson gyda allbwn pob safle yn cael ei gyflwyno i’r Gweithgor Agregu.

 

 

(ff) Deallwyd o sgwrs ffon gyda’r Aelod Lleol (Y Cyng. Dilwyn Lloyd) nad oedd ganddo wrthwynebiad i’r cais.

 

         

            (g)    Cynigwyd ac eilwyd gwelliant i ymweld a’r safle.

 

         

(ng)  Pleidleiswyd dros y gwelliant i ohirio ac i ymweld a’r safle ond fe syrthiodd y gwelliant.

 

(h)  Pleidleiswyd dros y cynnig gwreiddiol i ganiatau’r cais gan ofyn i’r Adran Gynllunio wneud awgrym i’r ymgeisydd sefydlu Grwp Cyswllt i wyntyllu’r problemau amlinellwyd gan yr Aelod Lleol yn ei ddatganiad i’r Pwyllgor, ac fe gariwyd y cynnig hwn.

 

 

PENDERFYNWYD:  Cymeradwyo caniatâd cynllunio i addasu amod 6 fel a ganlyn:

 

Ac eithrio gyda chaniatâd ysgrifenedig yr awdurdod cynllunio mwynau ymlaen llaw, ni chaniateir tynnu mwy na phedwar llwyth HGV y dydd o'r chwarel. Rhaid gofalu y bydd ffigyrau allbwn o’r safle dros unrhyw gyfnod penodedig ar gael i’r awdurdod cynllunio lleol, ar gais, o fewn 21 diwrnod.

 

Yn ogystal, bydd yr holl amodau ar y caniatâd presennol i reoli sŵn, llwch, dirgryniad o ffrwydron, draenio'r safle, rheoli llygredd, materion archeolegol, trefn ac adolygu gweithrediadau ac adfer yn cael eu cynnwys yn y caniatâd newydd. 

 

 

 

Dogfennau ategol: