Agenda item

Cais i godi modurdy.

 

AELOD LLEOL:  Cynghorydd Eric Merfyn Jones

 

 

Dolen i’r dogfennau cefndir perthnasol

 

 

Cofnod:

Cais i godi modurdy.

 

         (a)           Ymhelaethodd y Rheolwr Rheolaeth Datblygu ar gefndir y cais gan nodi bod rhai o’r Aelodau wedi ymweld a’r safle cyn y prif gyfarfod hwn.  Roedd y bwriad ar gyfer codi modurdy sengl newydd ar ran o dir tu allan i gwrtil penodol yr eiddo, sydd ar ben draw ffordd stad. Nodwyd bod sylfaen concrid yn bodoli ar y safle yn barod sy’n darparu lle parcio, gyda’r sylfaen yn ymestyn tu allan i safle’r cais ac yn darparu oddeutu 2 lecyn parcio ychwanegol i dai eraill.

 

         Derbyniwyd nifer o wrthwynebiadau i’r bwriad yn ymwneud gyda lleoliad y modurdy o safbwynt perchnogaeth tir, anghydfod perchnogaeth tir, mynediad ar gyfer cynnal a chadw rhan o eiddo a defnydd o lwybr sy’n rhedeg heibio ochr y modurdy gan y cyhoedd.

 

         Nodwyd bod y bwriad yn golygu ymestyn y sylfaen concrid presennol i’r ochr (tuag at eiddo rhif 23) ac i’r cefn gyda’r cynlluniau a gyflwynwyd yn dangos bod y tir o fewn perchnogaeth yr ymgeisydd. Eglurwyd bod materion perchnogaeth yn fater sifil, yn hytrach na mater cynllunio, felly nid yw anghydfod perchnogaeth tir yn rheswm i wrthod caniatâd cynllunio.

 

         Nodwyd  byddai ymestyn y sylfaen yn amharu ar lwybr sy’n rhedeg rhwng y modurdy bwriedig ac eiddo rhif 23 Y Grugan. Ymddangosir fod y llwybr o fewn perchnogaeth yr ymgeisydd, roedd asiant y cais wedi derbyn cadarnhad ysgrifenedig gan yr Uned Llwybrau nad yw’r llwybr yma yn llwybr cyhoeddus, nac o fewn perchnogaeth Cyngor Gwynedd, nac ychwaith wedi ei fabwysiadu na’i gynnal gan y Cyngor. Nodwyd bod y modurdy bwriedig i’w godi yn llwyr ar dir sydd wedi ei leoli o fewn perchnogaeth yr ymgeisydd, ac ni ystyrir ei fod yn or-ddatblygiad o’r safle, nac yn cael effaith andwyol ar breifatrwydd na mwynderau unrhyw unigolyn cyfagos.

 

          Cadarnhawyd na ystyrir bod y gwrthwynebiadau a dderbyniwyd yn gorbwyso’r ystyriaethau polisi na’r materion cynllunio perthnasol. Roedd y datblygiad yn cydymffurfio gyda pholisiau y CDUG am y rhesymau a roddwyd yn yr adroddiad.

 

(b)     Gwnaed y prif bwyntiau canlynol gan yr aelod lleol (oedd yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn):-

·         Bod y cais yn fater sensitif iawn i drigolion y pentref

·         Nodir yn yr adroddiad bod modurdy wedi bod ar y safle yn y gorffennol ond bryd hynny roedd yn rhan o eiddo 35 o dan gytundeb rhwng cyfeillion

·         Bod y modurdy mewn cyflwr gwael ac roedd yn rhaid ei thynnu i lawr

·         Wrth edrych ar y cynlluniau bod to’r modurdy yn rhedeg yn ôl a phryderwyd y byddai dwr yn rhedeg i lawr tuag at adwy eiddo 37 ac yn creu llifogydd

·         Yn ogystal fe fyddai’r modurdy yn ymestyn dros y palmant a chwestiynwyd sut fyddir yn gwneud gwaith i’r modurdy

·         Bod y darn concrid ar gyfer parcio yn unig ac ddim ar gyfer adeiladu

·         Pe byddir yn adeiladu modurdy ar y concrid y byddai’n anodd i’r perchennog ddod allan o’r car

·         Tra’n derbyn bod hanes cynllunio ar y llecyn yn ystod y 60au, nid oedd hanes cynllunio diweddar 

·         Bod mannau parcio ar gyfer rhifau 35, 36 a 37, os caniateir y cais y byddai modurdy mwy na’r sylfaen goncrid presennol yn amharu ar y llecyn canol ac amharu ar lwybr ac eiddo rhif 23;

·         Apeliwyd yn gryf i’r Pwyllgor Cynllunio ei wrthod ar sail y byddir yn amddifadu pobl o lefydd parcio

 

(c)     Mewn ymateb i’r sylwadau uchod, pwysleisiodd yr Uwch Gyfreithiwr tra’n derbyn bod teimladau cryf yn lleol ynglyn â’r cais, rhaid bod yn wyliadwrus oherwydd mai materion sifil oedd nifer o’r materion a godwyd.  Tra’n cydymdeimlo gyda safbwynt yr Aelod Lleol, tynnwyd sylw bod yr adroddiad gerbron yn glir o safbwynt agweddau cynllunio.

 

 (ch)    Cynigwyd ac eilwyd i ganiatau’r cais.  

 

 

 (d)   Mewn ymateb i ymholiadau Aelodau unigol, nodwyd y pwyntiau canlynol:

 

·         O safbwynt perchnogaeth y tir, bod hawl gan unrhyw unigolyn i gyflwyno cais cynllunio ac nad oedd pwy bynnag sydd yn parcio ar y safle ar hyn o bryd yn berthnasol i ystyriaethau cynllunio

·         Bod opsiwn i gael mynediad troed o’r ochr arall ac ymddengys fod gweddill y llwybr “U” bedol mewn perchnogaeth unigolion eraill

·         Yn unol a rheoliadau cynllunio, nid oedd angen cael drws tân yng nghefn a/neu ochr y modurdy 

·         Bod yr Adran Gynllunio wedi ymgynghori gyda Dŵr Cymru ac nad oedd ganddynt wrthwynebiad.

·         Nodwyd mai’r ymgeisydd sy’n berchen ar y tir yng nghefn y safle ac y byddai’r dŵr yn debygol o sefyll ar ei dir ei hun

·         O safbwynt pryder pellach gyda dŵr yn cronni, nodwyd na fyddai mwy o ddŵr yn llifo/cronni o ganlyniad i adeiladu’r modurdy na’r hyn sy’n debygol o fod yn barod ar lecyn concrid ac mai mater i’r Uned Rheolaeth Adeiladu fyddai trefnu suddfan dŵr

·         Rhaid cadw mewn cof mai modurdy sengl yw testun y cais, a rhaid bod yn ofalus i beidio ymyrryd a phethau eraill

·         Sicrhawyd nad oedd yr ardal o fewn parth llifogydd

·         Ymddengys mai’r Cyngor sydd yn cynnal rhannau o’r palmant

 

            PENDERFYNWYD:  Caniatau yn unol a’r amodau canlynol:  

 

            1. 5 mlynedd

            2. Sicrhau cwblhau’r datblygiad yn unol â’r cynlluniau a gyflwynwyd

3. Defnydd atodol i’r eiddo a adnabyddir fel 35 Y Grugan , Groeslon/dim

    defnydd busnes

           

            Nodyn Dwr Cymru

            Nodyn wal gydrannol

 

Dogfennau ategol: