Cais llawn i ddymchwel siop bresennol ac ail godi siop newydd yn ei lle gyda gwaith cysylltiol gan gynnwys gwyro llwybr presennol.
AELOD LLEOL: Cynghorydd
E. Selwyn Griffiths
Dolen i’r dogfennau cefndir perthnasol
Cofnod:
Cais llawn i
ddymchwel siop bresennol ac ail godi siop newydd yn ei lle gyda gwaith
cysylltiol gan gynnwys gwyro llwybr presennol
(a)
Ymhelaethodd y Rheolwr Rheolaeth Datblygu ar
gefndir y cais gan nodi y byddai’r
bwriad yn gwneud defnydd o safle y siop a’r mannau parcio presennol yn
ogystal a safle cyfochrog.
Lleolir y safle o fewn
ffin datblygu tref Porthmadog ac wedi
dymchwel yr adeilad presennol, y bwriad fyddai ail wampio’r
safle trwy godi’r adeilad newydd mewn lleoliad newydd yn gyfochrog a’r ffordd
stad bresennol gan greu mannau parcio o fewn lleoliad y siop bresennol.
Cyfeirwyd at yr ymgynghoriadau cyhoeddus, y ffurflen sylwadau
hwyr a’r polisiau cynllunio perthnasol o fewn yr adroddiad.
Nodwyd fod egwyddor y
bwriad yn dderbyniol a chyfeirwyd at hanes
cynllunio’r safle. O safbwynt mwynderau gweledol, tynnwyd sylw bod arwynebedd
llawr yr uned yn cynyddu ac yn fwy na’r siop bresennol. Fodd bynnag, ni chredir y byddai hyn yn afresymol o ran ei faint o fewn
cyd-destun maint adeiladau presennol eraill o fewn cyffiniau y safle eang hwn.
Ni chredir y byddai’r
bwriad yn amharu i raddau annerbyniol sylweddol yn fwy na’r hyn sydd eisoes yn bodoli ar fwynderau
cyffredinol a phreswyl yr ardal leol. Ni
dderbyniwyd gwrthwynebiad i’r bwriad
gan Uned Trafnidiaeth y Cyngor. Tynnwyd
sylw at bryderon amlygwyd gan Cyfoeth Naturiol Cymru o safbwynt materion
llifogydd. Yn dilyn trafodaethau deallir bod modd dod i ganlyniad
derbyniol a chytundeb ar fanylion Asesiad Canlyniadau Llifogydd a chredir y byddai’r datblygiad yn dderbyniol ac yn
cydymffurfio a gofynion y polisiau perthnasol.
Ar sail derbyn
cadarnhad CNC fod y bwriad yn dderbyniol argymhelliad y swyddogion cynllunio
ydoedd i ganiatau’r cais yn ddarotnygedig
i amodau cynllunio perthnasol.
(b)
Yn manteisio ar yr hawl i siarad, nododd
asiant yr ymgeisydd y prif bwyntiau canlynol:
·
Bod Lidl yn bwriadu buddsoddi
£1.5b dros yr ychydig flynyddoedd nesaf wrth
gyflwyno siopau newydd i
safon uwch
·
Bod llond llaw o siopau o ansawdd
uchel yn y DU gyda Phorthmadog yn un
o rhai cyntaf yng Ngogledd Cymru
·
Bydd y siop newydd yn
elwa o fuddsoddiad sylweddol yn ffabrig
yr adeilad yn fewnol ac yn allanol
·
Bydd y dyluniad allanol a mewnol
o fanyleb uwch o lawer
·
Bydd y siop
newydd yn darparu amgylchedd
siopau o ansawdd uwch i gwsmeriaid a
gwell amgylchedd gwaith i staff
·
Bydd aelodau presennol o'r staff yn
cael eu cadw gyda 10-20 o
swyddi newydd yn cael eu creu
a'u llenwi gan bobl leol
·
Bydd gwelliant i'r cysylltiad
o’r llwybr troed i'r dref
(c)
Nododd yr Aelod Lleol (nad oedd yn aelod o’r
Pwyllgor Cynllunio hwn) gefnogaeth i’r bwriad arfaethedig ac yn ymfalchio bod Lidl wedi dewis
Porthmadog ar gyfer uwchraddio’r siop ac yn sicr fe fydd o fudd i’r economi
leol. Ni ragwelwyd unrhyw bryder gyda’r
llwybr cyhoeddus ond tynnwyd sylw i sicrhau rheolaeth ar amseroedd llwytho a
dadlwytho nwyddau. Gwnaed cais hefyd i’r
arwydd ar ochr y briffordd fod yn ddi-oleuedig yn
ogystal a sicrhau bod yr arwydd fydd ar y siop ei hun yn cael ei
ddiffodd pan fo’r siop ar gau.
(ch) Mewn ymateb i sylwadau wnaed gan Aelodau
unigol, nododd y Rheolwr Rheolaeth Datblygu fel a ganlyn:
·
Gellir gwneud cais i gwmni Lidl i ddarparu arwyddion dwyieithog ond ni ellir gosod
amod ar y cais. Bydd cais am arwyddion yn gais ar wahân ac bydd ymgynghoriad
priodol pryd derbynir cais o’r fath.
·
Yn yr un modd, gellir
anfon llythyr i’r cwmni yn datgan fod y Pwyllgor yn awyddus iddynt gyflogi yn
lleol.
·
O safbwynt cyfyngu ar oriau, gwneir hyn drwy
amodau safonol i osgoi effaith ar fwynderau drwy sŵn o’r trolis llwytho, loriau yn bacio, a.y.b.
(d)
Cynigwyd, eilwyd a phleidleiswyd i ganiatau’r cais.
PENDERFYNWYD: Dirprwyo’r hawl i’r Uwch Reolwr Cynllunio i
ganiatáu’r cais yn ddarostyngedig i dderbyn cadarnhad gan CNC fod modd rheoli
mesurau atal llifogydd i raddau derbyniol.
Caniatau
– amodau
1. Amser
2. Cydymffurfio gyda
cynlluniau
3. Tirlunio
4. Cynllun goleuo i’w
gytuno
5. Cyfyngu defnydd/math o
nwyddau/amser/danfon nwyddau
6. Priffyrdd
7. Dwr Cymru
8. Cyfyngu lloriau
ychwanegol
9. Cyfyngu i un uned
manwerthu yn unig a dim rhannu yn y dyfodol
10. Deunyddiau i’w cytuno
11. Cyfnod/dull dymchwel
12. Oriau gwaith yn ystod
cyfnod adeiladu
13. Amodau perthnasol yn
ymwneud gyda heoli/atal llifogi
14.
Amodau llwybr cyhoeddus
15.
Amodau Cyfoeth Naturiol Cymru
Dogfennau ategol: