I ystyried adroddiad yr Uwch Reolwr Democratiaeth a Chyflawni.
Cofnod:
Cyflwynwyd – adroddiad yr Uwch Reolwr
Democratiaeth a Chyflawni yn ceisio barn y pwyllgor ar ddewisiadau o ran
cydnabyddiaeth ariannol i aelodau etholedig.
Eglurodd yr Uwch Reolwr Democratiaeth a
Chyflawni fod cynigion terfynol y Panel Cydnabyddiaeth Ariannol aelodau
etholedig ar gyfer y flwyddyn nesaf yn nodi bod pob cyngor unigol i
benderfynu:-
·
Gosod Aelodau Cabinet ar
un o ddwy lefel, Lefel 1, £29,000 (fel ar hyn o bryd) neu Lefel 2 (£26,000);
·
Gosod Cadeiryddion
Pwyllgorau ar un o ddwy lefel, Lefel 1, £22,000 (fel ar hyn o bryd) neu Lefel 2
(£20,000).
Gofynnwyd hefyd i’r pwyllgor ystyried a oes
gwahaniaeth yn y cyfrifoldebau a ysgwyddir gan y cadeiryddion pwyllgorau sy’n
derbyn cydnabyddiaeth uwch ar hyn o bryd, sef Pwyllgor Craffu (x3), Pwyllgor
Archwilio, Pwyllgor Cynllunio, Pwyllgor Trwyddedu a Phwyllgor Apelau Cyflogaeth, a chadeiryddion rhai pwyllgorau eraill
sydd ddim yn derbyn cydnabyddiaeth uwch, fel y Pwyllgor Pensiynau, y Pwyllgor
Iaith a’r pwyllgor hwn.
Nododd yr Uwch Reolwr Democratiaeth a
Chyflawni fod y Pennaeth Cyllid wedi tynnu sylw at y ffaith y bu cynnydd
sylweddol yng ngwaith Cadeirydd y Pwyllgor Pensiynau yn sgil sefydlu’r Bwrdd
Pensiynau (sy’n dal y Pwyllgor Pensiwn i gyfrif). Hefyd, dros amser, byddai yna dipyn mwy o
waith yn digwydd ar lefel ranbarthol yn y maes pensiynau.
Nododd y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd
fod llwyth gwaith y Pwyllgor Apelau Cyflogaeth wedi
gostwng dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf ac y byddai nifer yr apeliadau yn
debygol o leihau eto i’r dyfodol wrth i fwy o’r gwaith gael ei wneud gan
swyddogion a’r undebau llafur.
Eglurodd yr Uwch Reolwr Democratiaeth a
Chyflawni ymhellach y gosodwyd cap ar nifer y cadeiryddion sy’n gallu derbyn
cydnabyddiaeth uwch, ac o ychwanegu un cadeirydd at y rhestr, byddai’n rhaid
tynnu un arall i ffwrdd.
Sylwadau yn codi o’r drafodaeth:-
·
Bod dyletswyddau aelodau
Cabinet wedi’u dyrannu i sicrhau cysondeb a llwyth gwaith cytbwys a gallai rhoi
aelodau Cabinet ar wahanol lefelau cyflog arwain at gryn gymhlethdod, gan olygu
fod symud dyletswyddau o un aelod Cabinet i un arall yn mynd yn anos.
·
Bod natur ddaearyddol y
sir a’r sialens o ddarparu gwasanaethau ar draws yr ail sir fwyaf yng Nghymru
yn ffactor y dylid ei ystyried ar gyfer yr aelodau Cabinet a Chadeiryddion y
pwyllgorau.
·
Bod gofyn ar aelodau i
fod yn teithio ar draws Gwynedd, gan gofio y gall
gymryd oddeutu dwy awr a hanner i deithio o Ogledd y sir i’r De.
·
Gan ei bod yn ymddangos
bod llwyth gwaith rhai cadeiryddion yn fwy nag eraill, y dylid sefydlu
grŵp bychan i edrych ar hyn ymhellach.
·
Angen gweld a fyddai
defnyddio elfennau o’r drefn arfarnu swyddi o gymorth gyda’r gwaith pellach
yma.
·
Pwysigrwydd ystyried
elfennau heblaw nifer cyfarfodydd, e.e. hyd cyfarfodydd a gofynion y tu allan
i’r cyfarfodydd.
PENDERFYNWYD
(a) Argymell
i’r Cyngor y dylid cadw lefel cyflogau Aelodau Cabinet ar Lefel 1 (ar sail
ystyried y pwysau gwaith a chyfrifoldebau cyfartal i’r meysydd gwaith) a chadw
lefelau cyflogau Cadeiryddion Pwyllgorau ar Lefel 1 (ar sail ystyried y pwysau
gwaith, natur ddaearyddol y sir a’r gofynion i deithio i gyfarfodydd ayyb).
(b) Sefydlu
grŵp bychan yn cynnwys Cadeirydd y pwyllgor hwn a’r Cynghorwyr Charles Wyn
Jones, Anne Lloyd Jones a Dilwyn Morgan i edrych eto ar y cyfrifoldebau sydd
ynghlwm â’r gwahanol Gadeiryddiaethau, gan adrodd eu
hargymhelliad drwy’r Grŵp Busnes i’r Cyngor
llawn.
Dogfennau ategol: