Cyflwyno
gwybodaeth am gyfraniad yr Adran i’r Polisi Iaith.
Penderfyniad:
Cofnod:
- Cadarnhawyd
bod Gwynedd yn parhau i arwain ar gynllun ARFOR gyda Chyngor Sir Ynys Môn.
Eglurwyd bod cais llwyddiannus wedi ei wneud gyda Llywodraeth Cymru er mwyn
cadarnhau bod y prosiect hwn yn parhau hyn o leiaf 2025 er mwyn ariannu
prosiectau i hyrwyddo’r Gymraeg.
- Adroddwyd
bod gan yr adran gronfa grant er mwyn
cefnogi busnesau a chymunedau. Mae hyn yn ychwanegol i grantiau
Llywodraeth Cymru ac mae’r Cyngor yn gallu gosod telerau ieithyddol fel amodau
i dderbyn y cymorth ariannol.
- Soniwyd
bod cryn dipyn o drafodaeth wedi bod ynghylch sut i hyrwyddo’r Gymraeg drwy’r
Economi Ymweld ac yn sgil hynny, mae’r adran wedi comisiynu Prifysgol Bangor i
gydweithio gyda’r Cyngor i osod gwaelodlin a mesuryddion effaith ymwelwyr i’r
ardal ar yr iaith.
- Eglurwyd
bod adborth calonogol wedi’i dderbyn gan unigolion sy’n defnyddio
cyfleusterau’r amgueddfeydd, celfyddydau a llyfrgelloedd. Eglurwyd bod nifer o
weithgareddau’n cael eu cynnal mewn awyrgylch llai ffurfiol er mwyn caniatau i unigolion fagu hyder yn eu defnydd o’r iaith.
Manylwyd bod dysgwyr Cymraeg yn fwy hyderus i gyfrannu mewn sgyrsiau mewn
awyrgylch o’r fath.
- Esboniwyd
bod yr adran wedi derbyn £18miliwn gan Lywodraeth Cymru drwy Gronfa Ffyniant
Bro, Llewyrch a Llechi fel rhan o’r rhaglenni adfywio. Ymhelaethwyd nad oes
amodau ieithyddol wedi eu gosod gan y llywodraeth wrth i’r Cyngor ddyrannu’r
arian ymhellach. Er hyn, mae’r adran yn ceisio gosod sail er mwyn sicrhau bod
gofynion ieithyddol yn cael eu gosod ar unrhyw gais am arian er mwyn sicrhau
bod yr iaith yn cael ei ystyried fel rhan o’r rhaglen adfywio.
-
Cyfeiriwyd at un o
rwystrau’r adran i ddatblygu sgiliau ieithyddol y gwasanaeth morwrol. Eglurwyd bod
yr adran yn cyflogi 27-30 o wardeniaid traethau dros gyfnod yr haf er mwyn
diogelu’r cyhoedd. Oherwydd natur tymhorol eu swydd, nid yw’r adran yn gallu
cydweithio gyda’r unigolion hyn o flwyddyn i flwyddyn i wella eu gallu gyda’r
Gymraeg, ac mae hyn yn rwystr mae’r adran yn ceisio ei ddatrys. Er hyn,
manylwyd bod 94.5% o staff yr adran yn cyrraedd dynodiad ieithyddol eu swydd
allan o’r 80.5% o holl staff yr adran oedd wedi cwblhau’r hunan asesiad.
Rhoddwyd cyfle i’r aelodau ofyn cwestiynau a
chynnig sylwadau. Yn ystod y drafodaeth, codwyd y materion canlynol:
-
Croesawyd bod
yr adran yn cydweithio gyda canolfannau Cymraeg i oedolion a nodwyd y
gobaith y bydd hyn yn drefniant fydd
yn parhau i’r dyfodol.
-
Mewn ymateb i’r sylwadau,
cadarnhaodd Pennaeth Adran Economi a Chymuned nad oedd addysg oedolion yn waith
sydd fel arfer yn weithredol o fewn yr adran. Manylwyd bod y gwaith cydweithio
hwn yn digwydd drwy grant mewn cydweithrediad gyda Choleg Llandrillo Menai er
mwyn sicrhau bod pecynnau addysg ar gael i bawb- bod drwy golegau neu
lyfrgelloedd.
-
Mewn ymateb i
ymholiad am gydweithio gydag amgueddfeydd annibynnol, cadarnhaodd Pennaeth Adran
Economi bod hyn yn digwydd fel rhan o waith yr adran, ond fod peth effaith wedi
bod ar hyn yn sgil absenoldebau staff yn ddiweddar. Er hynny, cadarnhawyd y bydd cydweithio gydag amgueddfeydd annibynnol yn
parhau i ddigwydd yn y dyfodol.
-
Mewn ymateb i
ymholiad am ymrwymo cwmnïau i amodau ieithyddol wrth ymgeisio am arian grant,
cadarnhaodd Pennaeth Adran Economi a Chymuned nad oes modd gwneud hyn ymhob
achos. Eglurwyd bod modd gosod amodau ieithyddol i ymgeiswyr grant drwy rhai
prosesau megis prosiect ARFOR ond yn anffodus, mae’n annhebygol bod modd gosod
gofynion ieithyddol ar bob cronfa arian sydd wedi cael ei dderbyn gan
Lywodraeth Cymru. Er hyn, pwysleisiwyd bod yr adran yn ceisio gosod seiliau fel
bod modd gosod amodau o’r fath yn y dyfodol.
-
Mewn ymateb i ymholiad am grantiau bychan i
fusnesau, cadarnhaodd Pennaeth Adran Economi a Chymuned bod modd i fusnesau
ymgeisio am grantiau am arwyddion, sticeri ar gyfer cerbydau neu unrhyw ddull
arall o hyrwyddo’r iaith . Er hyn, manylwyd mai dim ond am 18 mis mae’r arian
ar gael o hyn o bryd ac felly anogwyd ymgeiswyr i wneud hynny mor fuan â
phosibl.
Diolchwyd am yr adroddiad.
PENDERFYNWYD
Derbyn yr adroddiad gan nodi’r sylwadau a
dderbyniwyd.
Dogfennau ategol: