Agenda item

Adeiladu fferm solar a gwaith cysylltiol.

 

AELOD LLEOL:  Cynghorydd Gweno Glyn

 

 

 

 Dolen i’r dogfennau cefndir perthnasol

 

Cofnod:

Adeiladu fferm solar a gwaith cysylltiol.

 

          (a)          Ymhelaethodd y Rheolwr Rheolaeth Datblygu ar gefndir y cais, gan nodi y gohiriwyd y cais yng nghyfarfod y Pwyllgor Cynllunio ym mis Chwefror er mwyn ymweld a’r safle.  Ymwelodd rhai o aelodau’r Pwyllgor Cynllunio y safle ar 7 Mawrth 2016 ac hefyd bu iddynt fynd i weld y safle o mynydd Rhiw. Eglurwyd mai cais ar gyfer gosod paneli solar ar dir amaethyddol ynghyd â gwaith atodol gan gynnwys trac mynediad newydd oedd gerbron.

 

          Saif y safle ar lethr esmwyth oddeutu 700 medr i’r de ddwyrain o bentref Botwnnog ac yng nghefn gwlad agored ymhlith tirwedd donnog gyda choedwig aeddfed tuag at ffin ddwyreiniol a gwrychoedd o amgylch mwyafrif caeau’r safle.

 

          Cyfeirwyd at ymatebion yr ymgynghoriadau cyhoeddus ynghyd â sylwadau hwyr ychwanegol a dderbyniwyd a gyflwynwyd i’r Aelodau.

 

          Nodwyd bod egwyddor y bwriad yn dderbyniol ac yn cydymffurfio â pholisi strategol ar gyfer darparu ynni o ffynhonellau adnewyddadwy.

 

          Un o’r prif bwyntiau i’w ystyried o safbwynt y cais hwn ydoedd mwynderau gweledol ac roedd yr ymweliad safle o gymorth i ddeall y tirwedd yn well yn ogystal a’r safle.  Nodwyd nad oedd y safle  ei hun o fewn yr AHNE ond yn weladwy o rhai mannau.  Byddai’r golygfeydd yn rhai o bell megis o diroedd uwch yn ardal Mynydd Rhiw a Garn Fadryn gyda’r golygfeydd o gefn y paneli solar neu o’u hochr.  Derbyniwyd sylwadau’r Uned AHNE ar y bwriad arfaethedig ac roeddynt o’r farn na fyddai’r bwriad yn cael effaith arwyddocaol ar yr AHNE ei hun.  Derbyniwyd datganiad gan Cyfoeth Naturiol Cymru yn nodi eu bod yn fodlon y gall y paneli solar gael eu cymhwyso heb effaith sylweddol ar olygfeydd yr AHNE.  O ganlyniad, ystyrir bod y bwriad yn dderbyniol o agwedd mwynderau gwledol.  O safbwynt dylunio, roedd yn amlwg o’r safle bod cloddiau aeddfed eithaf uchel o gwmpas y caeau eu hunain a thu hwnt yn ogystal a band o goed aeddfed a oedd yn sgrin effeithiol o un cyfeiriad. Ystyrir y byddai mod rhoi amod i gytuno manylion mwy o waith tirlunio er mwyn atgyfnerthu gwrychoedd presennol sydd mewn rhannau yn wan a thenau. Yn sgil hyn ystyrir y byddai’r bwriad yn dderbyniol.

 

          Derbyniwyd gohebiaeth yn gwrthwynebu oddi wrth berchennog eiddo cyfagos yn ymwneud ag effaith ar y golygfeydd ynghyd ag effaith fflachio a llacharedd.  Nodwyd bod yr eiddo wedi ei leoli oddeutu 270 medr i’r dwyrain o’r safle gyda phrif edrychiad yr eiddo yn edrych tuag at y de orllewin.  O ystyried pellter yr eiddo o’r safle ac mai ochr y paneli fyddai i’w gweld ohono, ni chredir y byddai’r effaith yn ormesol i breswylwyr yr eiddo ac na fyddai’r effaith ar y tirlun yn cyfiawnhau gwrthod y cais.   Tra’n cydnabod bod potensial isel o fflachio a llacharedd, ystyrir bod y bwriad i blannu gwrych newydd ac i gael cynllun tirlunio ni ystyrir y byddai’n achosi niwed arwyddocaol o safbwynt colli mwynderau i’r eiddo dan sylw.

 

          Nodwyd bod Gwasanaeth Cynllunio Archeolegol Gwynedd angen cyflawni rhagor o waith cyn bod yn fodlon y byddai’r effaith ar y safle yn dderbyniol ond nodwyd bod hyn yn eithaf cyffredin ar gyfer y math yma o ddatblygiad.  Ymddengys ei bod yn bosibl i oresgyn y pryderon a bod yr ymgeisydd yn fodlon cydymffurfio yn dilyn derbyn cefnogaeth y Pwyllgor Cynllunio i’r cais.

 

          Gwelwyd o’r adroddiad bod y materion bioamrywiaeth, llifogydd a’r cyfnod gweithredol yn dderbyniol.  Pwysleiswyd bod paragraff 5.30 yn yr adroddiad yn cyfeirio at fudd cymunedol ac er gwybodaeth yn unig gan nad yw yn faterol i gynllunio.

 

          Ystyrir y byddai’n rhesymol i ddirprwyo’r hawl i ganiatau’r cais  yn ddarostyngedig i dderbyn gwybodaeth archeolegol ddigonol sy’n bodloni Gwasanaeth Cynllunio Archeolegol Gwynedd ynghyd a’r amodau a nodir yn yr adroddiad.

 

(b) Cynigwyd i ganiatau’r cais yn unol ag argymhellion oedd gerbron oherwydd ei bod yn amlwg bod cefnogaeth gadarn i’r datblygiad yn yr ardal.     

 

 

          (c)   Yn ystod y drafodaeth ddilynol, amlygwyd pryder gan Aelod am:

 

·         golli 22.6 acer o dir amaethyddol

·         cost y trydan

·         uchder y paneli solar

·         budd cymunedol

·         aflonyddwch yn ystod y gwaith ynghanol tymor twristiaeth

·         diystyru yr hyn a ddywedir gan Wasanaeth Cynllunio Archeolegol Gwynedd

·         bod gan y Pwyllgor ddyletswyddau statudol i warchod golygfeydd o fewn yr AHNE

                          

(ch)   Mewn ymateb i’r sylwadau uchod, nododd y Rheolwr Rheolaeth Datblygu:

 

·         Bod pori yn gallu digwydd o dan y paneli solar ac nad oedd y tir yn cael ei gydnabod fel tir pori gorau ac nad oedd pryder am ei golli ar gyfer y datblygiad

·         Nad oedd cost y trydan nac ychwaith y budd cymunedol yn faterol i gynllunio wrth asesu’r cais.  Ategodd yr Uwch Gyfreithiwr na all y Pwyllgor Cynllunio ystyried budd cymunedol yn ystyriaeth faterol cynllunio ar y cais gerbron nac unrhyw gais cynllunio arall

·         Bod materion priffyrdd yn dderbyniol a’r Uned Trafnidiaeth yn fodlon hefo’r cais a’r cyfnod adeiladu yn ddarostyngedig i amodau priodol i sicrhau bod pob dim yn dderbyniol

·         O safbwynt gwarchod y tirwedd a’r AHNE, cyflwynwyd asesiad llawn fel rhan o’r adroddiad a chynhaliwyd ymgynghoriad hefo’r holl ymgynghorwyr statudol yn ymwneud hefo’r dynodiadau perthnasol ac ni dderbyniwyd unrhyw wrthwynebiad ac felly bod ystyriaeth lawn wedi ei roi o ran mwynderau gweledol

·         Tra’n derbyn bod y safle yn weledol ni ysytir ei fod yn effaith annerbyniol nac yn niweidiol.  Daethpwyd i’r casgliad o’r asesiad a thrwy ymgynhgori bod y golygfeydd mwyaf amlwg yn mynd i fod i’r ochr a  chefn y paneli.  Derbyniwyd y sylw bod y gwrychoedd yn dameidiog iawn mewn mannau ond nodwyd bod y gwrychoedd yn hynafol a bod modd atgyfnerthu ambell i fan gwan.

 

(d) Ychwanegodd Uwch Reolwr y Gwasanaeth Cynllunio bod risg i’r Cyngor i wrthod y       cais heb unrhyw dystiolaeth i wneud hynny o gofio ni dderbyniwyd unrhyw       wrthwynebiad gan y cyrff statudol.  Gan nodi bod y safle yn un hanesyddol, ni dderbyniwyd ychwaith          wrthwynebiad gan CADW.  Fel opsiwn, gellir gohirio penderfynu ar     y cais gan roi   cyfarwyddyd i’r swyddogion gael y wybodaeth gan Gwasanaeth Cynllunio Archeolegol    Gwynedd a / neu ymddiried yn y swyddogion i ystyried y wybodaeth a phe byddai ganddynt bryderon i gyflwyno adroddiad pellach i’r Pwyllgor.

 

           

(dd) Cynigwyd ac eilwyd ar welliant i ohirio penderfynu ar y cais hyd nes derbynnir sylwadau gan Wasanaeth Cynllunio Archeolegol Gwynedd.

 

(a)  Nodwyd y sylwadau canlynol o blaid y gwelliant:

 

·         Tra yn ymddiried yn y swyddogion mai mater i’r pwyllgor ydoedd cymryd cyfrifoldeb i ystyried y wybodaeth ychwanegol a ofynnir amdano 

·         Bod nifer o safleoedd hynafol yng nghyffiniau’r ardal 

·         Oni fyddai wedi bod yn fuddiol i gyflwyno’r wybodaeth yn gyflawn i’r Pwyllgor cyn cyflwyno cais er ystyriaeth 

 

          (f)  Cyn pleidleisio ar y gwelliant i ohirio, nododd y Cadeirydd bod yn ofynnol i’r Pwyllgor ymbwyllo gyda gohiriadau, gan bod sawl cais wedi ei ohirio yn ddiweddar ac o’r herwydd bod yr Adran yn methu symud ymlaen i’w prosesu. 

 

(ff) Pleidleiswyd ar y gwelliant i ohirio ond fe syrthiodd y gwelliant.  Pleidleiswyd ar y cynnig gwreiddiol i ganiatau’r cais yn unol ag argymhellion y swyddogion cynllunio ac fe gariwyd y cynnig hwnnw.

 

 

PENDERFYNWYD:  Dirprwyo’r hawl i’r Uwch Reolwr Cynllunio i ganiatáu’r cais yn ddarostyngedig i dderbyn gwybodaeth archeolegol ddigonol sy’n bodloni Gwasanaeth Cynllunio Archeolegol Gwynedd ac i amodau:-  

 

 

1.    Cychwyn o fewn 5 mlynedd.

2.    Unol gyda chynlluniau.

3.    Rhaid lleoli’r paneli yn y lleoliadau a ddangosir ar y cynlluniau neu fel y cytunwyd mewn ysgrifen gyda’r Awdurdod Cynllunio Lleol

4.    Cytuno deunyddiau allanol yr holl adeiladau, ffens a pholion camerâu

5.    Cytuno deunyddiau/lliwiau'r fframiau a’r gorchudd di-llacharedd.

6.    Cyflwyno manylion tirlunio ychwanegol am gymeradwyaeth i gynnwys atgyfnerthu'r gwrychoedd presennol ar y ffiniau.

7.    Ymgymryd â’r gwaith yn unol gyda’r cynllun tirlunio yn y tymor plannu cyntaf ar ôl          cychwyn.

8.    Ymgorffori’r manylion tirlunio ychwanegol i mewn i ddogfen Cynllun Rheoli  Tirwedd a Bioamrywiaeth ddiwygiedig.

9.    Adeiladu’r fynedfa safle dros dro yn unol gyda’r cynllun a gyflwynwyd.

10.  Adeiladu’r fynedfa barhaol yn gwbl unol a’r cynllun a gyflwynwyd a’i

       chwblhau o fewn mis o gwblhau’r datblygiad fferm solar.

11. Datblygu’r safle yn unol gyda’r Cynllun Gwerthusiad Mynedfa a

       Rheolaeth Traffig a’r Datganiad Dull Adeiladu.

12.   Angen cwblhau’r datblygiad yn unol â Thabl 1 Atodlen Rheolaeth Gweithgareddau'r Cynllun Rheoli Tirwedd a Bioamrywiaeth.

13.   Cyflwyno a chytuno Cynllun Rheolaeth Amgylcheddol Adeiladu (Construction Environmental Management Plan- CEMP) cyn i’r gwaith gychwyn. Dylai gynnwys mesurau atal llygredd ar ffurf  cynllun rheoli achos o lygredd.

14.   Cyflwyno a chytuno  manylion cymysgedd hadau ar gyfer creu porfa i’r awdurdod am gymeradwyaeth cyn i’r gwaith ail-hadu gychwyn. 

15.   Cyflwyno a chytuno manylion lleoliad blychod ystlumod ag adar i’r awdurdod.

16.   Cyflwyno  canlyniad asesiadau blynyddol ynghyd a chynllun rheolaeth ddiwygiedig ar ddiwedd cyfnod 5 mlynedd gyntaf y Cynllun fel y manylir yn Amcan 6 o’r Cynllun Rheolaeth.

17.   Cwblhau’r gwaith yn unol gyda rhan 4 Crynodeb ac Argymhellion o’r Arolwg Cyfyngiadau Coed.

18.   Angen cyflwyno a chytuno cynllun rheoli dŵr wyneb ac yna gweithredu’r datblygiad yn unol gyda’r cynllun a gytunwyd.

19.   Dim adeiladau, strwythurau na chodi lefel tir o fewn 4 medr i ben glan unrhyw gwrs dwr. 

20.   Ac eithrio’r goleuadau adeg gwaith adeiladu ni chaniateir unrhyw oleuo o’r safle oni bai y cytunir ymlaen llaw gyda’r Awdurdod Cynllunio Lleol.

21.   Dylid gosod unrhyw geblau trydan o’r datblygiad i’r cysylltiad trydanol o dan ddaear yn unol â’r manylion a ddangosir ar gynllun Botwnnog Solar Farm_P23_P0C_RevB.

22.   Caniatâd am 30 mlynedd.

23.   O fewn 12 mis i'r paneli solar a ganiateir drwy hyn beidio cael ei ddefnyddio ar gyfer cynhyrchu trydan, rhaid eu tynnu’n barhaol oddi ar y tir ac adfer y safle yn ôl i’w gyflwr gwreiddiol.

24.   Y datblygiad i gael ei wneud yn unol gyda’r  mesurau lliniaru tirlun a gynhwysir yn rhan 7 o’r ATEW (Wardell Armstrong Awst 2015).

25.   25. unrhyw amodau archeolegol perthnasol

 

Nodiadau

1.   Angen hawl o dan Adran 171 / 184 Deddf Priffyrdd 1980 am unrhyw waith o fewn  

     ffordd / palmant / ymyl glas.

2.   Holl gostau am arwyddion ffyrdd, marciau ffyrdd a gorchymyn traffig i’w talu gan yr ymgeisydd.

3.   Angen hawl o dan Adran 40 o Ddeddf Priffyrdd 1980 i osod cyfarpar o fewn neu o dan briffordd.

4.   Angen cymryd pob gofal i atal dŵr wyneb o gwrtil y safle rhag arllwys i’r briffordd.

5.   Angen copi o lythyr 6 Rhagfyr 2015 Dwr Cymru a’r angen i fod yn ymwybodol o’r canllawiau a geir ynddo.

6.   Diogelu cyrsiau dwr.

Copi o lythyr Cyfoeth Naturiol Cymru 16 Rhagfyr 2015 ar angen i fod yn ymwybodol o’r canllawiau a gynhwysir ynddo o ran osgoi llygredd a rheoli gwastraff

 

Dogfennau ategol: