Adeiladu 9 tŷ annedd newydd a fydd yn cynnwys 3 annedd fforddiadwy ynghyd â ffurfio ffordd fynediad fewnol a llwybr cerdded mewnol
AELOD LLEOL: Cynghorydd Peter Read
Dolen i’r dogfennau cefndir perthnasol
Cofnod:
Adeiladu 9 tŷ annedd newydd a fydd yn
cynnwys 3 annedd fforddiadwy ynghyd a ffurfio ffordd fynediad fewnol a llwybr cerdded mewnol.
(a)
Ymhelaethodd y Rheolwr Rheolaeth Datblygu ar gefndir y cais gan nodi y gohirwyd penderfynu ar y cais ar gyfer ymweld a’r safle a
derbyn cynlluniau diwygiedig. Ymwelwyd
a’r safle gan y Pwyllgor Cynllunio a chyflwynir cais diwygiedig i godi 8 yn
hytrach na 9 o dai ar safle o fewn ffin datblygu Abererch ac a ddynodwyd yng
Nghynllun Datblygu Unedol Gwynedd ar gyfer tai newydd ar gyfer marchnad
gyffredin. Yn sgil lleihau’r nifer o dai
o 9 i 8, cynigir 2 o’r 8 ty yn rhai fforddiadwy.
Derbyniwyd Datganiad Ieithyddol a Chymunedol
fore’r cyfarfod y Pwyllgor Cynllunio hwn ac roedd swyddogion yn y broses o
ymgynghori ar ei gynnwys gyda’r Uned Polisi Cynllunio ar y Cyd.
Cyfeiriwyd at asesiad o’r ystyriaethau cynllunio
perthnasol fel a gyflwynwyd yn yr adroddiad.
Ni dderbyniwyd gwrthwynebiadau gan yr Uned Trafnidiaeth, Uned
Bioamrywiaeth, nac ychwaith Cyfoeth Naturiol Cymru. Derbyniwyd un llythyr yn gwrthwynebu’r bwriad
diwygiedig ond roedd y swyddogion cynllunio o’r farn
nad oedd y gwrthwynebiadau yn cyfiawnhau gwrthod y cais.
Ar sail derbyn y Datganiad Ieithyddol a
Chymunedol y bore hwnnw argymhelliad y swyddogion ydoedd i ddirprwyo’r hawl i
ganiatáu’r cais yn ddarostyngedig i dderbyn sylwadau ffafriol gan yr Uned
Polisi Cynllunio ar y Cyd i’r datganiad Ieithyddol a Chymunedol ynghyd ag i’r
ymgeisydd arwyddo Cytundeb 106 i sicrhau 2 dy fforddiadwy ar gyfer angen lleol
ac i amodau cynllunio perthnasol fel a nodir yn yr adroddiad.
(b)Cynigiwyd ac eilwyd i ganiatáu’r cais yn unol ag argymhelliad y
swyddogion cynllunio.
(a) Yn ystod
y drafodaeth ddilynol, amlygwyd y pwyntiau canlynol gan Aelodau unigol:
·
Pryder ynglyn â’r
ardrawiad ieithyddol ac nad oedd y Pwyllgor Cynllunio wedi cael cyfle i’w weld
ac felly teimlwyd ei fod yn gynamserol i’r Pwyllgor benderfynu ar y cais hyd
nes eu bod yn derbyn y manylion a gwybodaeth gyflawn yn y Datganiad Ieithyddol
a Chymunedol
·
Bod gwendid sylfaenol yn y polisïau sy’n nodi nad oes raid i ymgeiswyr
gyflwyno asesiad iaith. Dylid newid y
polisïau i gynnwys yr angen am asesiad ieithyddol
·
Pryder pe byddir yn gohirio cymryd penderfyniad ar y cais, y byddai’r
ymgeisydd yn cyflwyno apêl yn erbyn y Cyngor am ddiffyg penderfyniad o fewn
cyfnod o amser dynodedig
·
Siomedig bod cyfran y tai fforddiadwy yn lleihau ac ar gyfer 2 dy
deulawr gromen pâr dwy ystafell wely
(ch) Mewn ymateb
i’r sylwadau uchod, eglurwyd:
·
y byddai modd i’r Pwyllgor Cynllunio ohirio penderfynu ar y cais neu
ymddiried yn y swyddogion i ymgynghori ar gynnwys y datganiaid
ieithyddol a pe derbynir cadarnhad gan yr Uned Polisi
Cynllunio ar y Cyd fod ei gynnwys yn dderbyniol i ganiatáu’r cais yn
ddarostyngedig i gwblhau Cytundeb 106 ac i’r amodau cynllunio perthnasol.
·
y byddai gan yr ymgeisydd berffaith hawl i gyflwyno apêl ac fe sicrhawyd
y byddai’r swyddogion yn asesu’r datganiad ieithyddol yn fanwl
(b)
Cynigwyd ac eilwyd gwelliant i ohirio cymryd
penderfyniad ar y cais hyd nes y byddir yn cael adborth ar gynnwys y Datganiad
Ieithyddol.
Pleidleiswyd ar y gwelliant i ohirio’r cais ac fe syrthiodd
y cynnig gwreiddiol.
Penderfynwyd: Gohirio
cymryd penderfyniad ar y cais hyd nes derbynnir cadarnhad fod cynnwys y
Datganiad Ieithyddol a Chymunedol yn dderbyniol.
Dogfennau ategol: