Cyfnewid cyfleusterau lloches anifeiliaid presennol gyda chyfleusterau newydd i gynnwys derbynfa, cybiau cwn, cydiau cathod, mannau parcio, ceubwll a chyfleusterau cysylltiedig.
AELOD LLEOL: Cynghorydd Craig ab Iago
Dolen i’r dogfennau cenfdir perthnasol
Cofnod:
Cyfnewid cyfleusterau lloches anifeiliaid presennol gyda chyfleusterau newydd i gynnwys derbynfa, cybiau cŵn, cybiau cathod, mannau parcio, ceubwll a chyfleusterau cysylltiedig.
(a) Ymhelaethodd y Rheolwr Rheolaeth Datblygu ar gefndir y cais, gan nodi y gohirwyd
penderfynu ar y cais yng nghyfarfod mis Chwefror o’r Pwyllgor Cynllunio ac y
cynhaliwyd ymweliad a’r safle gan rai o’r Aelodau cyn y prif gyfarfod
cynllunio. Nodwyd bod yr egwyddor o sefydlu lloches anifeiliaid ar ddaliad “Freshfields” (Bryn Melyn) wedi ei sefydlu yn ôl yn 1997.
Credir na fyddai graddfa’r bwriad yn amharu’n arwyddocaol
ar yr amgylchedd o ystyried ad-drawiad a gosodiad yr adeiladwaith presennol ar
y tirlun ynghyd a dyluniad ac edrychiadau/deunyddiau allanol yr adeiladwaith
newydd fydd yn lleihau'r effaith gweledol o fewn y tirlun lleol ac yn gyfle i
wella ansawdd edrychiad y safle.
Nodwyd mai prif wrthwynebiad deiliaid anheddau cyfagos i’r cais yw’r aflonyddwch sŵn
sy’n deillio’n bresennol o’r safle a'r sŵn a all ddeillio o’r bwriad drwy
gynyddu’r niferoedd o gŵn a fwriedir eu lletya ar y safle ei hun. Ystyrir
bod y mesurau lliniaru ac ynysu sŵn a gynigir yn
lleihau ac yn negyddu’r aflonyddwch sŵn a fyddai’n deillio o’r adeilad
cybiau newydd fel bod lefelau sŵn yn cydymffurfio a lefelau sŵn
statudol gan obeithio wedyn na fyddai ad-drawiad sylweddol ac arwyddocaol ar
fwynderau preswyl a chyffredinol trigolion cyfagos.
Roedd y datblygiad yn cydymffurfio gyda Chynllun Datblygu Unedol
Gwynedd (CDUG) am y rhesymau a roddwyd
yn yr adroddiad.
Roedd
y safle yn un prysur ac y byddai’r newidiadau yn ffurfioli’r
cyfleusterau gan gynnwys mannau pwrpasol i barcio. Nodwyd nad oedd gan
yr Uned Trafnidiaeth
unrhyw wrthwynebiad ac o ystyried cyd-destun ac yn ddarostyngedig i gynnwys amodau cynllunio perthnasol, credir bod y cais yn dderbyniol ar
sail graddfa, lleoliad, dyluniad, deunyddiau, diogelwch ffyrdd, parcio, mwynderau gweledol a mwynderau preswyl ac yn cydymffurfio
a pholisiau lleol a chenedlaethol perthnasol.
(b)
Cynigiwyd ac eilwyd i ganiatau’r cais.
(c)
Mewn ymateb i bryder amlygwyd gan Aelod ynglyn
a chynnydd yn y nifer o gŵn
a fwriedir lletya ar y safle, esboniodd
y Rheolwr Rheolaeth Datblygu
nad oes unrhyw
achos statudol o niwsans wedi ei
brofi a bod y cais yn welliant o’r
strwythur a bod modd ynysu’r sŵn drwy’r ddarpariaeth pwrpasol ar eu
cyfer. Tynnwyd sylw hefyd
bod amodau ynghlwm i’r cais ar
gyfer ei reoli.
O safbwynt
ymholiad pellach i roi cyfnod o brawf
i’r safle, eglurodd y Rheolwr Rheolaeth Datblygu y byddai’n afresymol i wneud hyn o ystyried bod 5 ci ar y safle yn
barod ac roedd y cais yn gyfle
i wella’r cyfleusterau.
Ychwanegodd
i ymholiad arall ynglyn a chynnydd mewn traffig, na
fyddai fwy o fynd a dod i’r
safle nag sy’n bodoli’n barod.
PENDERFYNWYD: Caniatáu’r cais yn ddarostyngedi
i’r amodau canlynol:
1. 3 mlynedd i ddechrau’r gwaith.
2. Yn unol â’r cynlluniau diwygiedig.
3. Deunyddiau
allanol.
4. Tirweddu.
5. Cynllun insiwleiddio adeilad y
cybiau i’w gyflwyno a’i ganiatáu gan yr Awdurdod Cynllunio Lleol (ACLL) cyn
dechrau unrhyw waith i’w adeiladu yn unol â’r
manylion a gymeradwywyd ac ni chaniateir cadw cwn
mewn unrhyw adeilad arall nac ar unrhyw ran arall o’r safle wedi hynny.
6. Asesiad sŵn i’w gyflwyno i’r ACLL a’i
ganiatáu cyn gosod offer mecanyddol awyrad ar unrhyw
adeilad.
7. Cyfyngu niferoedd o gwn sydd angen llety ar y safle ar unrhyw
adeg i 8
yn unig.
8. Cyfyngu’r
amser mae’r cyfleuster yn agored i’r cyhoedd rhwng 10.30 y
bore hyd at 13.00 y pnawn.
9. Ni leolir y system trin carthion
o fewn 15medr o unrhyw ffrwd, ffoes neu gwrs dwr ag o leiaf 50m o unrhyw
ffynhonnell cyflenwad dwr preifat.
10. Rhaid cyflwyno canlyniadau
arbrofion mandylledd cyn dechrau unrhyw
ddatblygiad ar y safle.
11. Datblygiad
i’w gwblhau mewn gweddau gyda manylion i’w cytuno
gyda’r ACLL (i gynnwys manylion adeiladau i’w dymchwel,
trefn y gwaith ar y safle a cyn y blaen). Bydd angen cwblhau bob gwedd i lwyr
foddhad yr ACLL.
12. Gwarchod llwybr cyhoeddus rhif 73 yng nghymuned Llanllyfni yn ystod
ac ar ôl cwblhau’r datblygiad.
Dogfennau ategol: