THE OLD
MARKET HALL, STRYD Y PLAS, CAERNARFON
Ystyried
y cais
Cofnod:
1.
CAIS AM AMRYWIAD I DRWYDDED EIDDO – THE OLD MARKET HALL, STRYD Y PLAS,
CAERNARFON
Cyflwynwyd y panel a’r swyddogion i bawb oedd yn bresennol. Cyhoeddwyd
bod gan bawb hyd at 10 munud i gyflwyno sylwadau uniongyrchol ar y cais.
Ar ran yr
eiddo: Mr David Williams (ymgeisydd) a Mr
Edward Grant (Capita PLC - asiant yr ymgeisydd)
Eraill
a fynychwyd: Corrina Favento, Mandy Mathews a Cliff Roberts
(preswylwyr cyfagos); Moira Duell-Parri (Swyddog Iechyd yr Amgylchedd)
Adroddiad ac
argymhelliad yr Adain Trwyddedu.
a)
Cyflwynwyd adroddiad y Rheolwr
Trwyddedu yn manylu ar gais am amrywiad i drwydded eiddo ar gyfer The Old
Market Hall, Stryd y Plas, Caernarfon. Amlygwyd bod y ffurflen gais yn nodi bod
natur y sefydliad wedi newid ers i’r busnes ddechrau yng Ngorffennaf 2014 a bod yr eiddo wedi cynnal sawl
digwyddiad amrywiol o dan drefn Hysbyseb Digwyddiad Dros Dro. Natur yr amrywiad arfaethedig yw ymestyn y
gweithgareddau trwyddedig i gynnwys yr holl fathau o adloniant wedi ei
rheoleiddio, ymestyn gwerthu alcohol a darparu lluniaeth hwyr y nos. Cyfeiriwyd
at y tabl a oedd yn manylu'r amrywiad. Nodwyd bod yr ymgeisydd wedi cynnwys
camau priodol i hyrwyddo’r pedwar amcan
trwyddedu fel rhan o’r cais.
Yn
dilyn cyfnod ymgynghori, nodwyd nad oedd gan y Gwasanaeth Tân ac Achub unrhyw
sylwadau ar y cais. Nid oedd Heddlu Gogledd Cymru a Gwasanaeth Iechyd yr Amgylchedd
yn gwrthwynebu y cais, ond roeddynt yn cynnig amodau penodol i’w hychwanegu ar
y drwydded. Adroddwyd bod yr Awdurdod Trwyddedu wedi derbyn cadarnhad gan yr
ymgeisydd ei fod yn derbyn yr amodau hyn ac yn dymuno eu gosod ar y drwydded.
Derbyniwyd tri gwrthwynebiad i’r cais gan breswylwyr lleol yn seiliedig ar yr
amcanion trwyddedu o Atal Niwsans Cyhoeddus. Awgrymwyd un gwrthwynebydd nad
oedd hysbyseb y cais wedi ei arddangos mewn lle amlwg, ond bod yr Awdurdod
Trwyddedu yn fodlon bod yr hysbysebu yn cwrdd â’r rheoliadau perthnasol.
Derbyniwyd hefyd un llythyr o gefnogaeth gan Cyngor Tref Caernarfon.
Mewn
ymateb i gwestiwn ynglŷn ag oriau agor sefydliadau cyfagos, nododd y
Rheolwr Trwyddedu bod oriau trwyddedu sefydliadau cyfagos yn amrywio gydag
amrediad o werthu alcohol hyd at 1am; chwarae cerddoriaeth hyd at 1am ac oriau
cau hyd at 2am.
b) Wrth
ystyried y cais dilynwyd y drefn ganlynol-:
· Rhoddwyd
cyfle i aelodau’r Is-bwyllgor a’r ymgeisydd ofyn cwestiynau i’r Rheolwr Trwyddedu.
· Gwahoddwyd
yr ymgeisydd i ymhelaethu ar y cais
· Rhoddwyd
cyfle i’r ymgynghorai gyflwyno eu sylwadau
· Gwahoddwyd
deilydd y drwydded neu ei gynrychiolydd i ymateb i’r sylwadau
· Rhoddwyd
cyfle i aelodau’r Is-bwyllgor ofyn cwestiynau i ddeilydd y drwydded.
· Rhoddwyd
cyfle i aelodau’r Is-bwyllgor ofyn cwestiynau i’r ymgynghorai.
c)
Wrth ymhelaethu ar y cais nododd asiant ar ran yr
ymgeisydd ei fod yn hapus gyda’r hyn oedd wedi ei gyflwyno ac ategodd y sylwadau canlynol:
·
Bod yr eiddo yn cael ei reoli yn gyfrifol
·
Y bwriad yw isafu unrhyw bryderon gan breswylwyr
lleol a’u bod yn derbyn sylwadau a phryderon y gwrthwynebwyr
·
Bod y busnes yn cynnig lletygarwch ac adloniant
·
Bod yr eiddo yn cau i’r cyhoedd am 12:30am a bod
pawb yn ymadael drwy ddrysau Stryd y Farchnad
·
Bod ynyswyr sŵn eisoes wedi cael eu gosod
·
Bod Teledu Cylch Cyfyng (ar gais yr Heddlu) wedi eu
gosod gyda chydweithrediad yr Heddlu
·
Bod bwriad i gydweithio gyda chwmni rhestredig
lleol i ddarparu goruchwylwyr drysau
·
Bydd hyfforddiant ychwanegol yn cael ei ddarparu
gan Capita
·
Bydd Her 21 a Her 25 yn cael eu cefnogi
·
Yr ymgeisydd yn barod i gydweithredu gyda’r Adran
Trwyddedu
Mewn ymateb i
gwestiwn nodwyd bod un cwyn o sŵn wedi ei gyflwyno a bod hyn bellach wedi ei ddatrys gyda gosodiad ynysydd
sŵn ac o ganlyniad y cwyn wedi ei dynnu yn ôl. Ategwyd bod yr ymgeisydd
wedi cadw at yr amcanion trwyddedu ac wedi cwblhau cyfnod prawf o flwyddyn.
Mewn ymateb i
gwestiwn ynglŷn â mynedfa / allanfa
i Stryd Twll yn y Wal, cadarnhawyd mai at ddefnydd drws tân yn unig yw’r
drysau hyn, gyda 3 mynediad / allanfa i Stryd y Plas.
ch) Cydnabuwyd llythyr o
wrthwynebiad i’r cais a dderbyniwyd gan Rita a Brian Geary
d)
Yn manteisio ar ei hawl i siarad, nododd Mandy Mathews, preswylydd lleol oedd yn byw
gyferbyn a’r eiddo, ei bod yn gwrthwynebu y cais ar sail sŵn. Nid oedd
ganddi unrhyw wrthwynebiad i’r datblygiad ac roedd yn cefnogi’r fenter gan
berson lleol. Ategwyd nad oedd wedi gwneud cwyn swyddogol am y sŵn ac nad
oedd ganddi dystiolaeth bod y sŵn i gyd yn dod o’r eiddo dan sylw. Nodwyd
hefyd ei bod wedi cytuno i gyfarfod cymodi.
Amlygwyd bod y sŵn, yn ystod digwyddiadau
penodol, yn effeithio ar ei ffordd o fyw gan ei bod yn codi yn gynnar yn y bore
i fynd i’w gwaith. Ychwanegwyd bod sŵn bandiau byw gyda’r nos yn rhy uchel
- y sŵn yn dod drwy ddrws toiledau'r eiddo a drwy ffenestri sydd uwchlaw'r
adeilad. Cyfeiriwyd at un achlysur bod y
sŵn wedi mynd ymlaen at 00:40am, ond nad oedd wedi cwyno i’r Heddlu nac
i’r ymgeisydd. Nodwyd nad oedd ganddynt ffenestri dwbl ar eu heiddo ac felly
effaith y sŵn yn uwch. Gofynnwyd am sicrwydd na fydd sŵn diangen ac
awgrymwyd chwarae cerddoriaeth hyd at 11:45pm yn unol ag eiddo cyfagos.
dd) Mewn ymateb i’r sylw am gyfarfod cymodi, nododd y Rheolwr Trwyddedu
bod cais am gyfarfod cymodi wedi ei gyflwyno i’r holl bartïon wedi i’r
ymgeisydd dderbyn amodau'r Heddlu ac Iechyd yr Amgylchedd. Amlygwyd nad oedd
POB parti yn fodlon gyda chyfarfod cymodi ac felly gwnaed y penderfyniad i
barhau gyda gwrandawiad.
e)
Cydnabuwyd llythyr o wrthwynebiad i’r cais a
dderbyniwyd gan Mr Harry Mathews.
f)
Cydnabuwyd llythyr o gefnogaeth a dderbyniwyd gan
Cyngor Tref Frenhinol Caernarfon
ff) Rhoddwyd cyfle i Corinna Faventa,
perchennog bwyty cyfochrog a’r eiddo i rannu ei sylwadau er nad oedd wedi
cyflwyno sylwadau ysgrifenedig o fewn y cyfnod ymgynghori. Nododd y Cadeirydd
bod gan Ms Faventa gyswllt uniongyrchol a’r eiddo. Nid oedd gan yr ymgeisydd
na’r asiant wrthwynebiad i hyn.
Nodwyd bod Ms Faventa wedi
gwneud cwyn swyddogol i Adran Iechyd yr Amgylchedd yn ymwneud a sŵn ar
noson ym mis Tachwedd 2015. Amlygodd bod nifer o gwsmeriaid y bwyty wedi cwyno
am y sŵn a rhai wedi ymadael. Rhannwyd y sylwadau gyda’r ymgeisydd ac er
nad oedd ar gallu i ohirio’r adloniant ar y noson, gwnaeth welliannau i’r eiddo
i isafu sŵn. Tynnwyd y cwyn yn ôl. Gyda’r bwyty wedi cau dros y Gaeaf, nid
oedd tystiolaeth bod y gwelliannau wedi llwyddo.
g)
Yn manteisio ar ei hawl i siarad, nododd Moria Ann
Duell-Parri, Swyddog Iechyd yr Amgylchedd bod dau gŵyn wedi ei dderbyn gan
yr adran a bod un o’r rheiny wedi ei dynnu yn ôl. Ymwelwyd ag eiddo'r cwynydd
arall ar yr 22ain o Chwefror 2016. Adroddwyd nad oedd sŵn i’w glywed ar y
noson, ond nodwyd bod y ffenestri gwydr dwbl wedi cau ac efallai gwahanol
fuasai’r effaith yn yr Haf (gyda ffenestri wedi eu hagor). Adroddwyd bod
goleuni i’w weld o’r Old Market Hall oedd yn amlygu nad oedd ynysiad sŵn
effeithiol. Amlygwyd parodrwydd y swyddog i gynghori'r ymgeisydd i wella'r
sefyllfa. Adroddwyd hefyd nad oedd manylion am y gwaith o ynysu sŵn wedi
ei gadarnhau.
Mewn ymateb i’r
sylw, mynegodd y Cadeirydd bod yr ymgeisydd wedi cytuno i amodau Adran Iechyd
yr Amgylchedd ac anogwyd yr ymgeisydd i gydweithio gyda’r swyddog i geisio'r
gorau o’r sefyllfa.
ng) Cydnabuwyd llythyr a dderbyniwyd gan Heddlu Gogledd Cymru a thynnwyd
sylw at yr amodau a restrwyd yn y llythyr
i)
Wrth grynhoi ei gais, nododd asiant ar ran yr
ymgeisydd ei fod yn derbyn y sylwadau ac yn derbyn amodau'r Heddlu ac Iechyd yr
Amgylchedd. Ategwyd eu parodrwydd i gydweithio gyda chymdogion a’r gymuned ac y
bydd parhad yn eu buddsoddiad i geisio gwella’r eiddo wrth i’r busnes
ddatblygu. Diolchwyd am y gefnogaeth a chroesawyd y cyngor. Ategwyd nad oedd
patrwm i’r sŵn ac nad oedd yn barhaus. Gwnaed cais i’r geiriad ‘asesiad
risg tân’ gael ei ddiddymu o’r drwydded eiddo gan ei fod yn cael ei gyfarch gan
Ddeddfwriaeth ar wahân.
Manylodd yr
ymgeisydd ar ei barodrwydd i gydweithio a gwrando ar sylwadau ei gymdogion.
Byddai hefyd yn barod i gydweithio gyda Swyddog yr Amgylchedd ac yn agored i
syniadau o leihau sŵn.
PENDERFYNIAD
Yn dilyn ystyriaeth o’r cais a’r sylwadau hynny oedd yn berthnasol i
egwyddorion Deddf Trwyddedu 2003, penderfynodd yr Is-bwyllgor ganiatáu’r cais. Gwyrwyd y drwydded fel a ganlyn:
1. Caniateir cyflenwi alcohol, ar ac oddi ar yr eiddo, o ddydd Llun i ddydd
Sul, rhwng 09:00 a 00:00.
2. Caniateir cynnal
gweithgareddau trwyddedig A, B, C, D, E, F, G ac H o’r ffurflen gais trwyddedu,
o ddydd Llun i ddydd Sul, rhwng 09:00 a 00:00.
3. Caniateir darparu lluniaeth hwyr yn nos, o ddydd Llun i ddydd Sul, rhwng
23:00 a 00:00.
4. Oriau agor yr eiddo yw o ddydd Llun i ddydd Sul, rhwng 08:00 a 00:30.
5. Ychwanegu amodau
rheoli sŵn a argymhellwyd gan Uned Iechyd Amgylcheddol y Cyngor i’r
drwydded.
6. Ychwanegu amodau
teledu cylch cyfyng a argymhellwyd gan yr Heddlu i’r drwydded.
7. Tynnu'r amod
“asesiad risg tân” oddi ar y drwydded.
Wrth ddod at eu
penderfyniad, ystyriwyd y materion canlynol gan yr Is-bwyllgor:
1. Bod yr ymgeisydd yn fodlon i amodau a argymhellwyd gan Iechyd yr
Amgylchedd a’r Heddlu gael eu hychwanegu i’r drwydded.
2. Bod yr ymgeisydd
wedi gofyn i’r amod asesiad risg tân gael ei dynnu oddi ar y drwydded bresennol
gan fod gofynion tân yn cael eu cyfarch mewn deddfwriaeth arwahân, ac felly’r
amod yn ddiangen.
3. Ystyriwyd sylwadau
perthnasol y partïon a gyflwynodd sylwadau ymlaen llaw, ynghyd â sylwadau
perchennog Stones Bistro, Stryd Twll yn y Wal, i’r graddau bod y sylwadau yn
berthnasol i un neu fwy o’r amcanion trwyddedu.
4. Yn benodol fe ystyriwyd sylwadau Mr a Mrs Geary, Ms Mandy Matthews a Mr
Harry Matthews yn codi pryderon am sŵn yn tarddu o’r eiddo yn ystod
digwyddiadau. Er i’r Is Bwyllgor dderbyn bod sŵn yn gallu bod yn
berthnasol i’r amcan trwyddedu o atal niwsans cyhoeddus, nid oedd yr
Is-bwyllgor yn fodlon ar sail y dystiolaeth ddaeth i law bod yna broblem
sŵn gyda’r eiddo hwn y gellid ei ddisgrifio fel niwsans cyhoeddus. Ni
dderbyniwyd tystiolaeth o ddyddiadau digwyddiadau, lefel y sŵn yn ystod y
digwyddiadau hynny, nifer y digwyddiadau sŵn, na faint o bobl a
effeithiwyd. Dau gŵyn yn unig a ddaeth i law’r uned Amgylchedd (gydag un
wedi ei thynnu yn ôl) ac nid oedd yr Is-bwyllgor yn ystyried hynny yn
dystiolaeth ddigonol o niwsans cyhoeddus.
5. Cafodd yr Is-bwyllgor eu cynghori ar yr hyn oedd yn cael ei ystyried fel
niwsans cyhoeddus o dan gyfraith gwlad. Cyfeiriwyd yr Is-bwyllgor at achos
National Coal Board v Thorne [1976] 1 WLR 543: “a public nuisance [is] an act or omission which materially affects the
material comfort and quality of life…” Cyfeiriwyd yr aelodau hefyd at R v
Rimmington [2005] UKHL 63 am y “requirement
of common injury”, h.y. mae angen i gyfran sylweddol o’r cyhoedd gael ei
effeithio. Nid yw’n ddigon sefydlu bod niwed wedi ei achosi i unigolion
penodol.
6. O dan yr amgylchiadau nid oedd yr Is-bwyllgor yn fodlon ar y dystiolaeth
bod unrhyw broblem sŵn yn deillio o’r eiddo gael ei ystyried – fel mater o
gyfraith – fel niwsans cyhoeddus.
Roedd yr Is-bwyllgor
yn fodlon bod y cais yn gydnaws â’r amcanion trwyddedu.
• Trosedd
ac Anhrefn
• Diogelwch
y Cyhoedd
• Rhwystro
Niwsans Cyhoeddus
• Amddiffyn
Plant rhag Niwed
Adroddodd y Cyfreithiwr y byddai’r
penderfyniad yn cael ei gadarnhau yn ffurfiol drwy lythyr i bawb oedd yn bresennol. Hysbysebwyd
hefyd o’u hawl i apelio i’r dyfarniad o
fewn 21 diwrnod i dderbyn y llythyr hwnnw.
Dogfennau ategol: