PENDERFYNIAD
i.
Y dylid
mabwysiadu’r gyllideb a grybwyllir yn adroddiad yr aelod cabinet ar gyfer
2016/17 sy’n golygu sefydlu cyllideb o £227,227,120 ar gyfer 2016/17,
i’w ariannu drwy Grant Llywodraeth o £166,950,760 a £60,276,360 o
incwm Treth Cyngor fyddai’n golygu cynyddu’r Dreth Gyngor 3.97%, sef cynnydd £46.09 yn y Dreth Gyngor
Band D o £1,161.07 i £1,207.16 y flwyddyn.
ii.
Derbyn hefyd y
strategaeth ariannol tymor canolig, ac yn sgil hynny y dylid cynllunio hefyd
i gynyddu’r Dreth Gyngor 3.97% yn 2017/18 fyddai’n golygu gorfod darganfod
bwlch ariannol o £4.94m dros y ddwy flynedd nesaf ar ôl darganfod yr arbedion
effeithlonrwydd o £14.054m a nodir yng nghymal 21 o’r adroddiad “Cyllideb
2016/17 a Strategaeth Ariannol 2016/17- 2019/20”.
iii.
Sefydlu rhaglen
gyfalaf o £22.141m yn 2016/17 a £12.286m yn 2017/18 i’w ariannu o’r
ffynonellau a nodir yng nghymal 9.4 o’r atodiad i’r adroddiad “Cyllideb
2016/17 a Strategaeth Ariannol 2016/17- 2019/20”.
iv.
Er mwyn cyfarch y
bwlch o £4.94m a nodir yn rhan (ii) uchod, y dylid
gweithredu ar y rhaglen doriadau canlynol –
Rhif
|
Toriad posib
|
Swm
£
|
C2
|
Dileu 2 swydd allan o 7.5 yn yr Uned cefnogi Systemau o fewn y
Gwasanaeth Oedolion
|
80,000
|
C3
|
Dileu 3 swydd allan o 20.6 yn yr Uned Cefnogi Gweithlu sy’n gwasanaethu
oedolion a phlant
|
90,000
|
C4
|
Dileu 2 swydd allan o 10.5 yn yr Uned datblygu gweithlu o fewn y
Gwasanaeth oedolion
|
75,000
|
C5
|
Dileu 1 swydd allan o 2.5 yn y maes Rheolaeth a Strategaeth Tai
|
37,500
|
C7
|
Dileu 1 swydd allan o 3 yn yr Uned Gwasanaeth Gwybodaeth sy’n delio
gyda’r Ddeddf Diogelu data a’r Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth
|
30,000
|
C8
|
Cau adeiladau Frondeg Pwllheli ac Adeilad Ffordd y Traeth yn y Felinheli ond gofyn i’r Gwasanaeth
adrodd yn ôl i’r Cabinet ar achos busnes
cynllun C8 (Frondeg) cyn symud ymlaen
i’w wireddu er mwyn sicrhau
fod yna atebion derbyniol i anghenion y rhai sydd yno ar
hyn o bryd
|
60,000
|
C9
|
Dileu 1 swydd allan o 8.5 yn yr Uned Cynnal a Chadw Adeiladau
|
28,000
|
C10
|
Dileu 1.5 swydd allan o 7.2 yn yr Uned Stadau a Chyfleusterau
|
40,000
|
C11
|
Dileu 2 swydd allan o 37.62 yn yr Unedau Cyfrifeg
|
50,000
|
C12
|
Rhoi’r gorau i gefnogaeth yr Uned Technoleg Gwybodaeth i systemau y tu
allan i oriau gwaith arferol
|
39,500
|
C13
|
Dileu Cynllun Hyfforddeion Gwynedd a Chynllun Hyfforddeion Proffesiynol
|
258,720
|
C14
|
Dileu 2 swydd allan o 8.8 yn yr uned Iechyd a Diogelwch
|
80,000
|
C15
|
Ail fodelu’r partneriaethau rhwng Gwynedd a Môn yn sgil y newid i Fyrddau Gwasanaethau Cyhoeddus
|
130,000
|
C16
|
Dileu cyfraniad y Cyngor i Bartneriaeth Amgylchedd Gwynedd
|
7,620
|
C18
|
Dileu cyllideb ar gyfer cefnogi gwaith alcohol a chyffuriau
|
28,900
|
C19
|
Dileu 1 swydd allan o 2 yn y maes Rheolaeth Prosiect
|
31,060
|
1
|
Torri gwair prif lecynnau trefi 6 gwaith y flwyddyn yn hytrach nag 8
gwaith ond dylid ystyried os gellir darganfod mwy o arbedion effeithlonrwydd ar
Gynllun rhif 1 (Torri gwair canol Trefi) drwy leihau’r toriadau sylfaenol
ymhellach a chan ofyn i gymunedau lleol dalu os dymunir cael gwell safon
|
120,000
|
2
|
Dileu 1 swydd allan o 10.5 yn yr Uned Polisi Cynllunio ar y Cyd
|
15,000
|
3
|
Lleihau cyllideb grantiau strategol i’r celfyddydau o 50%, ond ei weithredu o’r 1 Ebrill 2017 er
mwyn rhoi cyfle i’r Gwasanaeth drafod ei weithrediad gyda’r cyrff a
gefnogir a cheisio denu cymorth o ffynonellau eraill i gymryd lle’r lleihad
yn y cymorth gan y Cyngor
|
84,850
|
4
|
Torri 2 swydd allan o 7 yn yr Uned Gwasanaeth gorfodaeth stryd
|
64,500
|
5
|
Lleihau oriau agor Archifdy Dolgellau o 3 diwrnod i 2 ac Archifdy
Caernarfon o 4 i 3 diwrnod yr wythnos
|
41,670
|
6
|
Torri gwair y 131 o feysydd chwarae plant bob deufis yn hytrach nag yn
fisol
|
60,000
|
8
|
Lleihau elfen o gyllideb “Gwynedd Ni” gan ganolbwyntio ar yr elfen
statudol.
|
70,000
|
9
|
Dileu 1 swydd allan o 27.7 yn yr Uned Prosesu Treth Gyngor
|
25,000
|
10
|
Torri 50% ar y gwasanaeth cynnal promenadau, meinciau ac enwau
strydoedd
|
40,000
|
11
|
Peidio darparu copïau caled o’r llyfryn twristiaeth “Eryri Mynyddoedd a
Môr”
|
46,000
|
12
|
Lleihau 50% ar y grantiau a roddir i fudiadau gwirfoddol ar gyfer
prosiectau penodol
|
62,500
|
13
|
Peidio talu’r ffi am dalu Treth Gyngor yn y swyddfa bost
|
40,000
|
14
|
Lleihau amlder torri gwair ym mynwentydd y Cyngor o 7 gwaith y flwyddyn
i 5
|
60,000
|
15
|
Torri 10% ar y gyllideb prynu llyfrau yn y llyfrgelloedd
|
26,000
|
16
|
Dileu 1 swydd allan o 14 yn yr uned Rheolaeth Adeiladu
|
40,000
|
17
|
Dileu ail swydd o’r 10.5 yn yr Uned Polisi Cynllunio ar y cyd.
|
15,000
|
19
|
Lleihau amser / a neu godi ffi am yr elfen gwarchod o fewn y cynllun
brecwast am ddim i blant ysgolion cynradd
|
100,000
|
20
|
Cadw’r Teledu Cylch Cyfyng (CCTV) ond yn hytrach na dileu’r adnodd sy’n cadw golwg
parhaus arno, y dylid ceisio cyflawni’r arbediad drwy leihau cyfraniad y Cyngor a gwneud unrhyw newidiadau gweithredu y gellid eu gwneud
heb amharu ar effeithioldeb y gyfundrefn
|
90,000
|
21
|
Dileu 1 swydd allan o 2.45 yn yr Uned Bioamrywiaeth
|
30,000
|
22
|
Lleihau 50% ar y gyllideb rheoli traffig
|
65,000
|
23
|
Dileu 20% ar y gyllideb llwybrau cyhoeddus yn cynnwys 1 swydd allan o
7.2
|
110,000
|
25
|
Dileu 1 swydd allan o 8 yn yr Uned Rheoli Llygredd
|
35,000
|
26
|
Dileu grant canolfan Noddfa
|
5,000
|
27
|
Dileu 1 swydd allan o 13.8 yn yr Uned Hylendid Bwyd
|
36,000
|
28
|
Dileu 1 swydd allan o 21.7 yn yr Uned Budd-daliadau Tai a threth Gyngor
|
25,000
|
29
|
Dileu Gwasanaeth gang cymunedol Arfon
|
70,000
|
30
|
Torri’r gyllideb cynnal ffyrdd (gan
nodi yr addaswyd swm y toriad yn unol a’r argymhelliad yn yr adroddiad)
|
850,000
|
31
|
Yn hytrach na’r cynnig gwreiddiol o gau 30 allan o’r 42 Clwb Ieuenctid, y dylid newid y cynllun dan sylw i wireddu’r arbediad toriadau o £200,000
(ynghyd a’r arbediad effeithlonrwydd disgwyliedig o £70,000) drwy
ail ddylunio’r Gwasanaeth
Ieuenctid a chan dderbyn y bydd angen ystyried y grantiau i fudiadau ieuenctid fel rhan o’r holl
adolygiad
|
200,000
|
32
|
Rhoi’r gorau i redeg Amgueddfa Lloyd George ond gan weithredu o’r 1 Ebrill 2017 er mwyn rhoi cyfle
i’r Gwasanaeth gynnal trafodaethau gydag unrhyw gorff fyddai’n dymuno cymryd cyfrifoldeb am yr amgueddfa
|
27,000
|
33
|
Cynyddu pris prydau ysgolion cynradd o £2.30 i £2.50 (gan nodi’r newid yn uchafswm y pris y
dylid ei godi)
|
105,000
|
37
|
Dileu 2 swydd allan o 85 yn yr Uned Gweithwyr Cymdeithasol,
Therapyddion Galwedigaethol a Swyddogion Gofal o fewn y Gwasanaeth Oedolion
|
80,000
|
38
|
Lleihau amlder glanhau pentrefi a stadau diwydiannol i bob 3 mis yn
hytrach na bob mis a chynyddu amser ymateb i ddigwyddiadau
|
130,000
|
39
|
Lleihau’r gyllideb lyfrau yn y llyfrgelloedd o 25%.
|
39,000
|
40
|
Dileu 1 swydd allan o 12 yn yr Uned Gorfodaeth Tai
|
30,000
|
42
|
Lleihau 12.4% ar y gyllideb o £801,790 a delir gan y Gwasanaeth
Oedolion i sefydliadau gwirfoddol / elusennol.
|
100,000
|
43
|
Dileu 10% o’r gyllideb Gwasanaeth Plant Derwen (sy’n cyflogi 19.4)
|
75,000
|
44
|
Dileu rhaglenni byw’n iach
|
54,050
|
46
|
Dileu’r gyllideb ar gyfer cynnal y Gwarchodfeydd Natur
|
59,400
|
47
|
Dileu cyllideb prosiectau diogelwch cymunedol a thrais yn y cartref
|
24,250
|
48
|
Rheoli traethau baner las a baner werdd yn unig
|
24,200
|
49
|
Dileu 1 swydd allan o 7.7 ar reoli risgiau llifogydd.
|
40,000
|
50
|
Dileu 1 swydd allan o 7 yn yr Uned sy’n rheoli grantiau adnewyddu a
grantiau i’r anabl
|
30,000
|
51
|
Cau 50 allan o 73 o doiledau cyhoeddus y sir
|
244,000
|
52
|
Dileu 1 swydd allan o 21 yn y Gwasanaeth aml asiantaethol
Cyfiawnder Ieuenctid.
|
25,000
|
53
|
Dileu rhaglenni datblygu chwaraeon
|
71,180
|
58
|
Cau canolfannau Croeso’r Cyngor
|
155,000
|
63
|
Dileu 1 swydd allan o 7 ar reolaeth gwaith ffyrdd
|
30,000
|
65
|
Dileu 4 swydd allan o 85 yn yr Uned Gweithwyr Cymdeithasol,
Therapyddion Galwedigaethol a Swyddogion Gofal o fewn y Gwasanaeth Oedolion
|
80,000
|
71
|
Dileu 1 swydd allan o 21.4 yn yr Uned Digartrefedd
|
25,000
|
v.
Nodi hefyd tra na
fyddwn yn disgwyl yr elfen doriadau o £28,000 a nodir gyferbyn â chynllun 55
(Llyfrgelloedd), y bydd yna barhad i ddisgwyl newidiadau ar gyfer y
gwasanaeth llyfrgell fydd yn cael eu cyfyngu i’r swm arbediad effeithlonrwydd
a dargedwyd ar eu cyfer fydd efallai yn golygu gweithredu elfen helaeth o’r
newid a nodir yn erbyn cynllun rhif 55.
vi.
Ar gyfer Cynllun
66 (Cymorth i Ferched), tra na ddylid ei dorri ar hyn o bryd, y dylai hyn fod
yn amodol ar iddynt fodloni’r Gwasanaeth eu bod wedi edrych am yr holl
gyfleon posibl i fod mor effeithlon a phosibl, gan gynnwys unrhyw arbediad
fyddai’n deillio o hynny yn yr arbedion effeithlonrwydd.
vii.
Ar gyfer
Cynlluniau 72 (Pont Abermaw) a 78 (Pont yr Aber), na ddylid torri’r
cyllidebau yma ar hyn o bryd, ond fod hynny yn amodol ar gyrraedd targed o
leihau’n sylweddol y gost i’r Cyngor o gyfrannu tuag at eu dyfodol, gan
gynnwys unrhyw arbediad fyddai’n deillio o hynny yn yr arbedion
effeithlonrwydd.
viii.
Ar gyfer Cynllun
59 (Neuadd Dwyfor), na ddylid torri’r gyllideb yma, ond fod hynny yn amodol
ar drafod opsiynau gydag unrhyw fudiad lleol gyda golwg ar iddynt gymryd
cyfrifoldeb amdano gyda’r nod o leihau’r costau sy’n syrthio ar drethdalwyr
Gwynedd, ac y dylid cynnwys unrhyw arbedion yn yr arbedion effeithlonrwydd.
ix.
Gydag
argymhellion vi), vii) a viii) uchod y dylid adrodd yn ôl ymhen blwyddyn gan ail
ymweld a’r sefyllfa bryd hynny yn sgil unrhyw ddatblygiadau.
x.
Awdurdodi’r
Pennaeth Cyllid, mewn ymgynghoriad gyda’r Aelod Cabinet dros Adnoddau, i
adolygu lefel cronfeydd penodol (fel awgrymir ym mharagraffau 8.6 - 8.8 o’r
atodiad “Cyllideb 2016/17”) er mwyn ariannu’r angen i “bontio” £2,106,050 yn
2016/17, oherwydd ni fydd modd cynhaeafu’r holl doriadau ar unwaith o Ebrill
2016.
xi.
Awdurdodi’r
Pennaeth Cyllid, mewn ymgynghoriad gyda’r Aelod Cabinet dros Adnoddau, i
drefnu i ariannu swm addasedig o gronfeydd, fel bo angen, er mwyn amddiffyn
penderfyniadau’r Cyngor ar y gyllideb a’r dreth pe bai newidiadau ymylol mewn
grant Llywodraeth, yn dilyn penderfyniadau Llywodraeth Cymru, fydd yn arwain
at ddatgan setliad grant terfynol ar gyfer llywodraeth leol ar 2 Mawrth, a
phleidlais yn y Cynulliad ar 9 Mawrth 2016 i’w gadarnhau.
|