Dymchwel adeiladau presennol ac adeiladu tai ymddeol (30 o unedau) ynghyd a chyfleusterau cymunedol, tirlunio a safle parcio ceir.
AELOD LLEOL: Cynghorydd Michael Sol Owen
Cofnod:
Cadeiriwyd y drafodaeth ar y cais hwn
gan yr Is-gadeirydd.
Dymchwel adeiladau presennol ac adeiladu tai ymddeol (30 o unedau) ynghyd a
chyfleusterau cymunedol, tirlunio a safle parcio ceir.
(a) Ymhelaethodd
y Rheolwr Rheolaeth Datblygu ar gefndir y cais gan nodi o’r wybodaeth a
gyflwynwyd deallir y byddai’r unedau yn cael eu gwerthu ar les 125 mlynedd
gyda’r llety i’w feddiannu gan berson dros 60 mlwydd oed neu yn achos cwpl fod
un ohonynt dros 60 oed a’r llall dros 55 oed.
Eglurwyd bod polisi CH6
o’r CDUG yn datgan y dylai canran (fydd yn amrywio o safle i safle) yr
unedau a ddarperir fel rhan o’r cynllun ar unrhyw safle ym Mangor, Blaenau
Ffestiniog, Caernarfon, Porthmadog a Phwllheli fod yn rhai sy’n cwrdd ag angen
am dai fforddiadwy oni bai y gellir bodloni’r Awdurdod Cynllunio, ar ôl
ystyried y ffactorau perthnasol i gyd, y byddai’n amhriodol darparu tai
fforddiadwy ar y safle. Nodwyd bod gwybodaeth a ddarparwyd gan yr Uned Polisi
Cynllunio ar y Cyd yn tystiolaethu nad oedd amheuaeth bod cyfiawnhad i ofyn am
dai fforddiadwy oni bai fod materion eraill megis dichonolrwydd yn atal hynny.
Nodwyd bod yr ymgeisydd yn datgan fod costau sydd yn
gysylltiedig â’r datblygiad yn golygu na fyddai’n hyfyw i roi cyfraniad tuag at
ddarpariaeth tai fforddiadwy nac ychwaith unrhyw ddarpariaeth gynllunio arall.
Adroddwyd yr ymgymerwyd gydag asesiad o’r materion hyfywdra gan yr Uned Polisi
Cynllunio ar y Cyd gan ddefnyddio pecyn cyfrifiadurol ar gyfer gwerthuso
hyfywdra datblygiadau. Yn ychwanegol i hyn roedd cryn drafodaethau wedi eu
cynnal rhwng swyddogion ar ymgeisydd am y materion hyfywdra. Edrychwyd yn
wreiddiol am gael cyfraniad o oddeutu 20% tuag at dai fforddiadwy. Fodd bynnag,
yn dilyn gwneud yr asesiadau hyfywdra perthnasol daeth yn amlwg na fyddai
cyfraniad o’r math yma yn hyfyw ar gyfer y datblygiad. Daethpwyd i’r canlyniad,
yn sgil yr asesiadau a wnaethpwyd gan yr Uned Polisi Cynllunio ar y Cyd, y
byddai’n bosibl cael cyfraniad o 7%. Byddai hyn gyfystyr a rhyw 2 uned
fforddiadwy ar y safle neu os yn gyfraniad cymudo tuag at ddarpariaeth tai
fforddiadwy yn yr ardal byddai yn gyfystyr a rhyw £94,000. Nodwyd bod yr
ymgeisydd fodd bynnag yn dal i ddadlau na fyddai’n hyfyw rhoi cyfraniad tuag at
dai fforddiadwy yn rhan o’r datblygiad. Fodd bynnag, er symud pethau ymlaen
maent wedi cynnig swm cymudol tuag at dai fforddiadwy o £40,000.
Byddai’r bwriad dan sylw yn cyfrannu tuag at
ddarpariaeth o dai ymddeol yn lleol a ble nad oes y math yma o gartrefi i’w
cael yn lleol. Byddai’r bwriad hefyd yn ail ddefnyddio safle tir llwyd sydd yn
bresennol yn flêr ac yn ddolur llygad a byddai hefyd yn dod a buddion
economaidd o safbwynt gwaith (rheolwr safle i redeg y safle yn dilyn cwblhau a
gwaith adeiladu yn gysylltiedig gyda’r datblygu) ac yn ehangach yn y gymuned
gyda’r preswylwyr yn defnyddio cyfleusterau lleol. Ystyrir felly yn sgil
materion hyfywdra yn ymwneud gyda’r datblygiad ei bod yn rhesymol derbyn y
cynnig o £40,000 tuag at ddarpariaeth tai fforddiadwy oddi ar y safle ac, yn yr
achos yma, bod y bwriad felly yn cydymffurfio gyda gofynion Polisi CH6 CDUG.
Cyfeiriwyd at y sylwadau ychwanegol a dderbyniwyd, nodwyd bod CNC yn
tynnu eu gwrthwynebiad i’r cais yn ôl os gosodir amodau priodol ar y caniatâd o
ran rheoli risg llifogydd a mesurau lliniaru ystlumod. O ganlyniad, yr
argymhelliad bellach oedd caniatáu’r cais yn ddarostyngedig i arwyddo Cytundeb
106 yn ymwneud â chyfraniad ariannol tuag at dai fforddiadwy
ac gydag amodau cynllunio perthnasol.
(b) Yn
manteisio ar yr hawl i siarad nododd asiant yr ymgeisydd y prif bwyntiau
canlynol:-
·
Bod lleoliad y
datblygiad yn ddelfrydol gan ei fod yn agos i wasanaethau;
·
Bod angen lleol wedi ei adnabod a byddai’r
datblygiad yn diwallu anghenion pobl hŷn;
·
Bod unigolion eisiau aros yn eu cymuned a bod
datblygiadau o’r math yma yn eu galluogi hefyd i gael cwmnïaeth a lleddfu baich
cynnal a chadw eu heiddo;
·
Roedd 45 cartref wedi
dangos diddordeb yn yr unedau;
·
Ei fod yn ddatblygiad o ansawdd uchel a gofynnir
i’r Pwyllgor ei ganiatáu.
(c) Gwnaed y prif bwyntiau
canlynol gan yr aelod lleol (oedd yn
aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn):-
·
Bod galw am y math yma o
ddarpariaeth a bod y safle yn y lleoliad cywir gan ei fod yn agos i
gyfleusterau;
·
Bod datrysiad o ran gwrthwynebiad CNC
yng nghyswllt risg llifogi ac ystlumod;
·
Ei fod yn siomedig mai ond £40,000 y
cynigir tuag at ddarpariaeth tai fforddiadwy oddi ar y safle ond nad oedd hyn
yn rheswm i wrthod y cais;
·
Y byddai’r fynedfa bwriedig yn gwella
diogelwch ffyrdd;
·
Gofyn i’r Pwyllgor ganiatáu’r cais.
(ch) Cynigwyd a eiliwyd i ganiatáu’r cais.
Yn ystod y drafodaeth ddilynol nodwyd y prif sylwadau
canlynol:
·
Bod y datblygiad i’w groesawu ond siomedigaeth nad
oedd y swyddogion wedi pwyso am ddarpariaeth fforddiadwy yn y datblygiad yn
hytrach na derbyn cyfraniad tuag at ddarpariaeth tai fforddiadwy oddi ar y
safle;
·
Anfodlonrwydd o ran yr hyn a gynigir fel cyfraniad
tuag at dai fforddiadwy ar safle arall;
·
Y derbyniwyd llythyr a thaflen gwybodaeth gan y
cwmni a bod ffigyrau gwahanol wedi ei nodi ar y ddau o ran cyfraniad gwariant
gan breswylwyr i’r economi leol;
·
Pryder o ran ardrawiad iaith a’r angen i allu
ieithyddol y staff adlewyrchu gwead ieithyddol yr ardal;
·
Nad oedd tystiolaeth gerbron i brofi’r angen lleol;
·
Pryder o ran pris yr unedau;
·
Byddai’r datblygiad yn rhoi straen ychwanegol ar y
feddygfa;
·
Pam fod yr adeilad yn 3 llawr o ystyried oedran y
preswylwyr?
·
Y dylid derbyn gwybodaeth o ran pris gwerthu'r
unedau.
(d) Mewn ymateb i’r sylwadau uchod, nododd y
swyddogion:-
·
Bod cyfyngiadau meddiannaeth felly byddai’n anodd
gwerthu’r unedau fel rhai fforddiadwy;
·
Bod trafodaethau helaeth wedi
eu cynnal efo’r cwmni ynghyd â swyddogion yr Uned Polisi Cynllunio ar y Cyd o
ran cyfraniad tuag at ddarpariaeth tai fforddiadwy. Aseswyd y materion hyfywdra
gan yr Uned Polisi Cynllunio ar y Cyd gan ddefnyddio pecyn cyfrifiadurol a ddefnyddir yn genedlaethol a daethpwyd i’r casgliad y byddai’n bosibl
cael cyfraniad o 7% a oedd yn gyfystyr ac oddeutu £94,000. Fodd bynnag, yn sgil
materion hyfywdra yn ymwneud gyda’r datblygiad roedd yr ymgeisydd yn cynnig swm
cymudol tuag at dai fforddiadwy o £40,000;
·
Pe dymunir rhagor o dystiolaeth i gyfiawnhau’r
cyfraniad ariannol a gynigir a’r materion hyfywdra y gellir gohirio’r cais;
·
O ran ardrawiad iaith, yr aseswyd y datganiad
cymunedol ac ieithyddol a gyflwynwyd fel rhan o’r cais ac roedd yn dderbyniol;
·
Y gellir gofyn am gadarnhad o ran pris gwerthu'r
unedau.
Gwnaed gwelliant i
ohirio’r cais er mwyn derbyn mwy o wybodaeth yng nghyswllt pris gwerthu’r
unedau, hyfywdra darparu tai fforddiadwy a chyfiawnhad o ran y cyfraniad ariannol
a gynigir. Eiliwyd y gwelliant.
PENDERFYNWYD gohirio’r cais.
Dogfennau ategol: