Cais diwygiedig i ddymchwel annedd presennol ac adeiladu annedd newydd yn ei le ynghyd a gwaith cysylltiol.
AELOD LLEOL: Cynghorydd Anwen Davies
Cofnod:
(a) Ymhelaethodd y Swyddog
Rheolaeth Datblygu ar gefndir y cais
gan nodi y byddai’r tŷ newydd arfaethedig wedi ei osod
yn ôl i
mewn i’r llain ar safle
lle lleolir sied amaethyddol sinc yn bresennol.
Nodwyd y bwriedir creu mynedfa
newydd ar safle’r tŷ presennol, gan ymestyn trac o ymyl y gerbydlon i’r tŷ a throi
i gyfeiriad giât mynedfa i’r
cae cyfochrog.
Nodwyd nad
oedd y bwriad yn cydymffurfio a phrif feini prawf polisi dymchwel ag ail adeiladu
mewn pentrefi gwledig sydd yn gofyn bod unedau newydd yn cael eu lleoli ar
safle’r uned wreiddiol neu cyn agosed ag sy’n ymarferol bosib iddo. Oherwydd ei
leoliad a’i ongl gosodiad, ystyrir y byddai’r bwriad yn creu nodwedd ymwthiol i
gefn gwlad ble nad yw’n cynnal cymeriad yr ardal na chadw patrwm datblygu
cyffredinol y strydwedd. Roedd y bwriad yn groes i
egwyddorion polisi CH13 a B22 o’r CDUG.
Amlygwyd bod Polisi CH5 o’r CDUG yn caniatáu
cynigion ar gyfer datblygiad preswyl ar safleoedd addas mewn pentrefi gwledig
ar gyfer tai fforddiadwy ar gyfer angen lleol cymunedol yn unig. Nodwyd nad
oedd y datblygiad yn cydymffurfio, gan ni gynigir
tŷ fforddiadwy ar gyfer angen lleol cymunedol ac nid oedd yn unol â
gofynion maint tai fforddiadwy fel yr amlinellir yng Nghanllaw Cynllunio
Atodol: Tai Fforddiadwy’r Cyngor.
Tynnwyd sylw nad oedd
arolwg gweithgaredd yn ffurfio rhan o’r arolwg ystlumod a gyflwynwyd gyda’r
cais gan nad oedd hi’n amser iawn o’r flwyddyn a ni chynigiwyd mesurau lliniaru priodol, o’r herwydd mae’r
bwriad yn groes i bolisi A1 ynghyd a pholisi B20 o’r CDUG sy’n datgan, y
gwrthodir cynigion sy’n debygol o achosi aflonyddwch neu niwed annerbyniol
uniongyrchol neu anuniongyrchol i rywogaethau a warchodir a’u cynefinoedd, oni
bai gellir lleihau unrhyw effaith neu liniaru’n
effeithiol.
Nodwyd er bod potensial i ddatblygu’r
safle, ni ystyrir fod yr ail gyflwyniad gerbron yn dderbyniol ac ar sail y
cynlluniau a gyflwynwyd yr argymhellir gwrthod y cais.
(b) Yn manteisio ar yr hawl
i siarad nododd asiant yr ymgeisydd
y prif bwyntiau canlynol:-
·
Bod yr ecolegwyr a gomisiynwyd gan yr ymgeisydd
wedi nodi ei fod yn
arfer cyffredin i ganiatáu ceisiadau
cynllunio yn amodol ar dderbyn
cynllun lliniaru;
·
Bod yr adeiladau presennol yn hyll a bod y bwriad yn cynnig
tŷ modern cynaliadwy;
·
Y bwriedir gwella’r fynedfa bresennol er mwyn
cydymffurfio a safonau priffyrdd, ac o’r herwydd nid oedd
yn bosib lleoli’r tŷ ar y lleoliad presennol;
·
Ni fyddai
dyluniad a gosodiad y tŷ arfaethedig yn creu niwed
i strydlun y pentref;
·
Bod maen prawf 3, polisi CH13 o’r CDUG yn cefnogi
ceisiadau lle'r oedd yr uned
newydd wedi ei leoli cyn
agosed ac yn ymarferol bosib i’r safle gwreiddiol.
(a)
Gwnaed y prif bwyntiau canlynol gan yr aelod lleol (nad
oedd yn aelod
o’r Pwyllgor Cynllunio hwn):-
·
Bod y tŷ presennol yn wag
ers 4 mlynedd ac wedi dirywio’n sylweddol, byddai’r bwriad yn welliant i’r
pentref;
·
Bod yr ymgeisydd yn lleol;
·
Bod rhaid lleoli’r tŷ yn ôl o’r
lleoliad presennol gan fyddai’r codiad
yn y tir tua’r cefn yn
goresgyn problemau gyda dŵr yn
llifo i gefn
y tŷ;
·
Bod dyluniad
y tŷ yn gweddu efo’r tai cyfagos;
·
Bod y Cyngor Cymuned yn gefnogol
a ni dderbyniwyd gwrthwynebiad yn lleol;
·
Y byddai’r bwriad yn darparu
gwell mynedfa a darpariaeth parcio oddi mewn i’r
cwrtil.
(ch) Mewn ymateb i sylwadau’r
asiant yng nghyswllt caniatáu’r cais yn amodol
ar dderbyn cynllun lliniaru o ran ystlumod, nodwyd nad oedd hyn
yn gyson ac arweiniad Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) a’r ffordd mae’r
Pwyllgor wedi ystyried ceisiadau ac ni fyddai’n bosib
cymeradwyo’r cais gan y byddai’n anghyfreithlon gwneud gwaith ar yr
adeilad heb gynnal arolwg gweithgaredd
ystlumod a derbyn manylion mesurau lliniaru. Nodwyd bod cyfnod lle
gellir cynnal arolwg gweithgaredd ystlumod yn cychwyn
ym mis Mai.
Amlygwyd
2 opsiwn i’r Pwyllgor, sef:-
·
Gwrthod y cais; neu
·
Gohirio’r cais er mwyn
i’r ymgeisydd gyflwyno'r wybodaeth angenrheidiol o ran ystlumod a negodi ar ail-leoli’r
tŷ pe dymunir.
Nododd aelod nad
oedd gosodiad y tŷ yn unffurf
ac eiddo cyfagos ond dylid cymryd
i ystyriaeth y problemau draenio a dŵr yn lleoliad
presennol y tŷ, felly dylid gofyn am adroddiad technegol i amlygu pam nid
yw’n bosib lleoli’r tŷ yn agosach i
leoliad y tŷ presennol. Ychwanegodd fod y cais gerbron
y Pwyllgor yn gynamserol gan nad oedd
y wybodaeth angenrheidiol o
ran ystlumod wedi eu cyflwyno.
(d) Cynigwyd
a eiliwyd i wrthod y cais.
Gwnaed
gwelliant i ohirio’r cais er
mwyn derbyn y wybodaeth angenrheidiol o ran ystlumod ac i dderbyn
adroddiad technegol i gyfiawnhau pam nad yw’n
bosib lleoli’r tŷ yn agosach
i leoliad y tŷ presennol. Eiliwyd y gwelliant.
PENDERFYNWYD gohirio’r cais.
Dogfennau ategol: