Agenda item

Cais i godi modurdy.

 

AELOD LLEOL:  Cynghorydd Eric M. Jones

 

Dolen i'r dogfennau cefndir perthnasol

 

Cofnod:

(a)     Ymhelaethodd y Rheolwr Rheolaeth Datblygu ar gefndir y cais gan nodi ei fod ar gyfer codi modurdy sengl newydd ar ran o dir tu allan i gwrtil penodol yr eiddo, sydd ar ben draw ffordd stad. Nodwyd bod sylfaen concrid yn bodoli ar y safle yn barod sy’n darparu lle parcio, gyda’r sylfaen yn ymestyn tu allan i safle’r cais ac yn darparu oddeutu 2 lecyn parcio ychwanegol i dai eraill.

 

         Adroddwyd y derbyniwyd nifer o wrthwynebiadau i’r bwriad yn ymwneud gyda lleoliad y modurdy o safbwynt perchnogaeth tir, anghydfod perchnogaeth tir, mynediad ar gyfer cynnal a chadw rhan o eiddo a defnydd o lwybr sy’n rhedeg heibio ochr y modurdy gan y cyhoedd.

 

         Nodwyd bod y bwriad yn golygu ymestyn y sylfaen concrid presennol i’r ochr (tuag at eiddo rhif 23) ac i’r cefn gyda’r cynlluniau a gyflwynwyd yn dangos bod y tir o fewn perchnogaeth yr ymgeisydd. Eglurwyd bod materion perchnogaeth yn fater sifil, yn hytrach na mater cynllunio, felly nid yw anghydfod perchnogaeth tir yn rheswm i wrthod caniatâd cynllunio.

 

         Nodwyd  byddai ymestyn y sylfaen yn amharu ar lwybr sy’n rhedeg rhwng y modurdy bwriedig ac eiddo rhif 23 Y Grugan. Ymddangosir fod y llwybr o fewn perchnogaeth yr ymgeisydd, roedd asiant y cais wedi derbyn cadarnhad ysgrifenedig gan yr Uned Llwybrau nad yw’r llwybr yma yn llwybr cyhoeddus, nac o fewn perchnogaeth Cyngor Gwynedd, nac ychwaith wedi ei fabwysiadu na’i gynnal gan y Cyngor. Nodwyd bod y modurdy bwriedig i’w godi yn llwyr ar dir sydd wedi ei leoli o fewn perchnogaeth yr ymgeisydd, ac ni ystyrir ei fod yn or-ddatblygiad o’r safle, nac yn cael effaith andwyol ar breifatrwydd na mwynderau unrhyw unigolyn cyfagos.

 

          Cadarnhawyd na ystyrir bod y gwrthwynebiadau a dderbyniwyd yn gorbwyso’r ystyriaethau polisi na’r materion cynllunio perthnasol. Roedd y datblygiad yn cydymffurfio gyda’r CDUG am y rhesymau a roddwyd yn yr adroddiad.

 

(b)     Yn manteisio ar yr hawl i siarad nododd gwrthwynebydd y prif bwyntiau canlynol:-

·         Ei fod yn cynrychioli trigolion y Grugan;

·         Y byddai’r modurdy bwriedig yn atal iddo barcio yn ei fan parcio presennol;

·         Y dylai’r Pwyllgor ystyried cynnal ymweliad safle;

·         Effaith ar y llwybr a ddefnyddir gan unigolyn anabl a oedd yn byw yn rhif 37;

·         Y byddai’r modurdy yn creu man i unigolion cymryd rhan mewn gweithgareddau gwrthgymdeithasol ac anghyfreithlon.

 

(c)     Gwnaed y prif bwyntiau canlynol gan yr aelod lleol (oedd yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn):-

·         Bod y cais wedi hollti’r gymdeithas;

·         Bod y sylfaen goncrid yn darparu man parcio dim lle ar gyfer modurdy;

·         Bod caniatâd llafar wedi bod rhwng deiliaid rhif 36 a cyn perchennog rhif 35 o ran trefniadau parcio;

·         Bod mannau parcio ar gyfer rhifau 35, 36 a 37, os caniateir y cais y byddai modurdy mwy na’r sylfaen goncrid presennol yn amharu ar y llecyn canol ac amharu ar lwybr ac eiddo rhif 23;

·         Bod anghydfod perchnogaeth a chroes ddweud o ran ymateb y Cyngor yng nghyswllt perchnogaeth a chynnal a chadw;

·         Y byddai caniatáu’r cais yn creu cynsail;

·         Bod y bwriad yn groes i bolisïau B22 a B23 o’r CDUG;

·         Gofyn i’r Pwyllgor gynnal ymweliad safle.

 

(ch)      Cynigwyd ac eiliwyd i gynnal ymweliad safle.

 

            Yn ystod y drafodaeth ddilynol nodwyd y prif sylwadau canlynol:

·         Y dylid cynnal ymweliad safle gan nad oedd y sefyllfa wedi ei adlewyrchu yn y cynlluniau;

·         Mai materion sifil oedd dan sylw ac ni fyddai cynnal ymweliad safle yn gwneud y sefyllfa yn gliriach;

·         Bod y modurdy bwriedig yn anaddas i’r safle.

 

Mewn ymateb i gwestiwn gan aelod parthed derbyn cadarnhad o ran perchnogaeth, nododd y Rheolwr Rheolaeth Datblygu bod yr ymgeisydd wedi cadarnhau yn y ffurflen gais bod safle’r cais yn ei berchnogaeth ac fe dderbyniwyd dogfennau gan y Gofrestrfa Tir yn ogystal.

 

          PENDERFYNWYD cynnal ymweliad safle.

 

Dogfennau ategol: