Ystyried Adroddiad Pennaeth Cefnogaeth Gorfforaethol
Cofnod:
a) Cyflwynwyd adroddiad gan Bennaeth Cefnogaeth Gorfforaethol i graffu
trefniadau’r Cyngor i herio effeithlonrwydd ac atebolrwydd yr Awdurdod Tân.
Nodwyd bod gan yr Awdurdod Tân yr hawl
i osod praesept ar gynghorau Gogledd Cymru er mwyn
talu am y gwasanaeth. Mae’r praesept yma yn cyfrif yn
erbyn gwariant y Cyngor. Eglurwyd bod
hyn yn wahanol i braesept yr Awdurdod Heddlu sydd yn
cael codi praesept ar wahân. Fel enghraifft, amlygwyd
praesept y Gwasanaeth Tân ar Gyngor Gwynedd yn
2015/16 yn £5,603,000. Felly byddai pob cynnydd o 1% yn £56,030 pellach i’r
Cyngor ei ganfod mewn toriadau neu godiad treth
b) O ran herio effeithlonrwydd y Gwasanaeth Tân,
fel pob gwasanaeth arall o fewn y Cyngor, rhaid ystyried os oes cyfleoedd i fod
yn fwy effeithlon. Er hynny, ar gyfer y Gwasanaeth Tân nid yw’r cyfle gennym
fel Cyngor ac felly rhaid ymddiried yn ein cynrychiolwyr ar yr Awdurdod i
sicrhau bod hynny ‘n digwydd. O ganlyniad , gwahoddwyd cynrychiolwyr y
Cyngor ar yr Awdurdod i’r Pwyllgor hwn er mwyn cynnal asesiad cychwynnol
o’r wybodaeth sydd ganddynt fod y
gwasanaeth yn effeithlon, a pha dystiolaeth sydd yna i gefnogi hynny. Holiwyd
cynrychiolwyr y Cyngor am
-
Gynlluniau’r Awdurdod i geisio cynnydd pellach
yn y praesept yn y blynyddoedd nesaf a’r goblygiadau hynny i wasanaethau’r Cyngor ei
hun
-
Drefniadau’r Awdurdod Tân ei hun ar gyfer herio effeithlonrwydd y
Gwasanaeth a’r dystiolaeth ei fod mor effeithiol ag y gallai fod
-
Barodrwydd yr Awdurdod i edrych ar ardaloedd eraill tebyg sydd yn gwario
llai i asesu a oes gwersi y gellir dysgu ganddynt
-
Y graddau y mae syniadau effeithlonrwydd pellach yn cael eu gwyntyllu
-
Rôl aelodau unigol o’r Cyngor yn craffu a sicrhau atebolrwydd ar
drefniadau’r Awdurdod a’r graddau y maent yn medru gweithredu’r rolau hynny
c)
Mewn ymateb, amlygodd y
cynrychiolwyr bod nifer o opsiynau yn cael eu cynnig o ran gwella
effeithlonrwydd y Gwasanaeth Tân ac nad oedd cynrychiolwyr Gwynedd yn gefnogol
i dderbyn cynnydd pellach i’r praesept. Nodwyd bod Is
Banel Craffu wedi ei sefydlu o fewn y Gwasanaeth Tân i sicrhau tegwch wrth
drafod opsiynau. Amlygwyd bod trafodaeth yr Is Bwyllgor yn cael i gyfeirio
ymlaen i’r Panel Gweithredol ac yna ymlaen i’r Prif Bwyllgor. O ran cefnogaeth
i rôl yr aelodau, nodwyd bod y cynrychiolwyr yn cysylltu â’r
Adran Gyllid i gael gwybodaeth ynglŷn â materion ariannol. Ychwanegwyd bod
y Gwasanaeth Tân erbyn hyn yn ymateb i geisiadau am wybodaeth. Hoffai’r
cynrychiolwyr weld dyletswyddau cyllid y Gwasanaeth Tân yn cael eu rhannu (ar hyn o bryd Conwy sydd yn
gweinyddu). Prif amcan y cynrychiolwyr oedd gwarchod Gwynedd ac yn enwedig
gwasanaethau cefn gwlad.
ch) Yn
ychwanegol, amlygodd yr Uwch Reolwr Democratiaeth a Chyflawni bod Prif Weithredwr y Cyngor wedi derbyn llythyr yn
nodi presenoldeb y cynrychiolwyr i gyfarfodydd yr Awdurdod. Ymddengys pryder
yng nghyd-destun presenoldeb un o
gynrychiolwyr Gwynedd.
PENDERFYNWYD,
i)
Datgan bodlonrwydd y Pwyllgor gyda’r herio y mae cynrychiolwyr y Cyngor
ar yr Awdurdod Tan wedi bod yn ei wneud hyd yma gan eu hannog i barhau i wneud
hynny
ii)
Argymell y dylai’r Awdurdod Tan wneud cais i’r Llywodraeth ganiatáu trefn
wahanol ar gyfer codi praesept yr Awdurdod Tan na
fyddai yn cael gymaint o effaith ar benderfyniadau trethi a gwario cynghorau
unigol am eu gwasanaethau eu hunain.
iii)
Argymell i Arweinydd Plaid Cymru ddiwygio presenoldeb un o gynrychiolwyr
Plaid Cymru ar yr Awdurdod Tan
Dechreuodd y cyfarfod am 10:00am a daeth i ben am 12:30pm
Dogfennau ategol: