Cymeradwyo’r
Cynllun Gwella Hawliau Tramwy ar gyfer ei fabwysiadu gan Gabinet Y Cyngor.
Penderfyniad:
Cofnod:
Cyflwynwyd yr adroddiad gan yr Aelod Cabinet
Amgylchedd, Rheolwr Cefn Gwlad a Phennaeth Cynorthwyol Amgylchedd. Tynnwyd sylw
yn fras at y prif bwyntiau canlynol:
-
Eglurodd
Aelod Cabinet Amgylchedd bod y cynllun drafft wedi bod gerbron y Pwyllgor hwn
cyn mynd allan i ymgynghoriad ac fe’i datblygwyd yn dilyn ymgynghoriad a
gynhaliwyd dros yr haf. Roedd yr ymgynghoriad yn cynnwys 7 cwestiwn a oedd wedi
eu selio ar y camau gweithredu
-
Cafwyd
294 o ymatebion i’r ymgynghoriad, gyda rhan helaeth o ymatebion yn dangos
bodlonrwydd cyffredinol gyda’r cynllun gwella hawliau tramwy
Rhoddwyd cyfle i’r aelodau ofyn cwestiynau a
chynnig sylwadau. Yn ystod y drafodaeth, codwyd y materion canlynol:
Holwyd os oedd yr adran wedi cysidro chwilio
am wirfoddolwyr i’w cynorthwyo i wella hawliau tramwy. Credir fod pobl yn
awyddus i wirfoddoli gan ei fod yn tynnu cymunedau at ei gilydd. Byddai hyn
hefyd yn ffordd dda o gydweithio gyda chynghorau tref a chymuned.
-
Mewn
ymateb i’r ymholiad, nododd Rheolwr Cefn Gwlad ei fod yn her i swyddogion
gyd-lynu gwirfoddolwyr. Gall ymateb i ddiddordeb fod yn heriol ar brydiau gan
nad ydi’r adnoddau ar gael i gefnogi gwirfoddolwyr yn barhaus. Rhaid cofio
hefyd bod angen cysidro materion iechyd a diogelwch gyda rhai agweddau o
wirfoddoli. Er hyn, cydnabuwyd nad oes digon o fanteisio ar wirfoddoli wedi
cael ei gynnwys yn y cynllun ac mae lle i wella yma.
-
Aeth y
Rheolwr Cefn Gwlad ymlaen i gadarnhau fod perthynas cryf gyda chynghorau
cymuned a thref yn enwedig gyda materion ariannu a grantiau. Mae gwaith parhaus
yn cael ei wneud i gydweithio gyda chynghorau tref a chyrff cyhoeddus.
Nodwyd bod angen i wirfoddolwyr dderbyn
hyfforddiant iechyd a diogelwch ac y gallent wneud y gwaith o arolygu llwybrau.
Datganwyd clod i waith y gwasanaeth o ystyried y toriadau i’w gyllideb.
Gofynnwyd sut byddai’r cynllun yn caniatáu i
geffylau fynd ar y llwybrau yn ddiogel wrth gysidro rhwystrau fel giatiau ac
agosatrwydd at draffig ar y ffyrdd.
-
Mewn
ymateb i’r ymholiad, cadarnhaodd Rheolwr Cefn Gwlad y derbynnir ceisiadau yn
rheolaidd gan gymdeithas ceffylau i gael caniatâd i ddefnyddio mwy ar y
llwybrau. Mae rhai llwybrai yn addas yn barod megis Lonydd Las Ogwen Mae’r
llwy’r yma yn llydan a gwastad sydd yn addas ar gyfer ceffylau a beiciau.
-
Aeth y
Rheolwr Cefn Gwlad ymlaen i ddweud fod anghysondeb yn y mathau o lwybrau sydd
yn rhan o’r rhwydwaith felly nid ydi ceffylau a beiciau yn gallu mynd ar bob
un. Mae gwaith yn cael ei wneud er mwyn cael cysondeb dros y rhwydwaith Lonydd
Glas cyfan ac i gael asesiad diogelwch er mwyn i bob defnyddiwr fod yn saff
wrth ddefnyddio’r llwybrau.
Holiwyd os oes gwaith yn cael ei wneud er
mwyn gwneud y llwybrau yn fwy hygyrch i bobl gydag anawsterau symudedd neu i
bobl gyda nam golwg. Tybir fod rhai pobl yn cael trafferthion defnyddio’r
llwybrau oherwydd pellter arwyddion oddi wrth ei gilydd, yn enwedig os nad
ydynt yn gweld yn dda iawn.
-
Mewn
ymateb i’r ymholiad, nododd Rheolwr Cefn Gwlad ei fod yn ymwybodol o’r
trafferthion hyn. Mae’r adran wedi bod yn gweithio ers rhai blynyddoedd i
leihau nifer o rwystrau sydd ar y llwybrau - megis newid camfa am giât ac os yn
bosibl gwaredu’r giât gan adael adwy ddi-rwystr.
-
Ymhelaethwyd
bod y gwaith hwn yn cael ei adolygu yn rheolaidd. Mae’r adran yn dysgu wrth i
bobl ddefnyddio’r llwybrau ac fe baratoir asesiad effaith cydraddoldeb ar gyfer y cynllun.
Gofynnwyd a oes modd derbyn adroddiad gan yr
adran ar gyflwr y rhwydwaith llwybrau.
-
Mewn ymateb i’r ymholiad, cadarnhaodd
Rheolwr Cefn Gwlad fod sampl o gyflwr 6 cymuned ar gael. Mae’r samplau hyn yn
dangos anghysondeb yn y rhwydwaith. Gall hyn fod am sawl rheswm megis tirwedd.
Mae system newydd o reoli ac ymateb i gwynion erbyn hyn. Wrth edrych ar y
cwynion, gellir edrych ar y mathau o ymholiadau sydd yn dod i mewn er mwyn
gwneud asesiad pellach o gyflwr y llwybrau.
Diolchwyd am yr adroddiad
PENDERFYNWYD
(ii)
Argymell i’r Cabinet fabwysiadu’r Cynllun
Gwella Hawliau Tramwy.
Dogfennau ategol: