I Cyflwyno gwybodaeth i aelodau'r Cyd-bwyllgor ar brif
ffocws ein rhaglen waith ar gyfer tymor yr hydref a'r tu hwnt.
Penderfyniad:
Cofnod:
Cyflwynwyd yr
adroddiad gan Arweinydd Rhanbarthol
Uwchradd GwE a nodwyd y prif bwyntiau isod:
-
Eglurwyd
bod y cydbwyllgor eisoes yn ymwybodol o ddisgwyliadau a gofynion y canllawiau
gwella ysgolion cenedlaethol newydd. Atgoffwyd bod GwE, y Llywodraethwyr ac
Aelodau Lleol yn gyfrifol am ddal y gyfundrefn yn atebol ar y lefel lleol a bod
Estyn yn rhannu’r un cyfrifoldebau yn rhanbarthol a chenedlaethol.
-
Nodwyd
bod yr adroddiad hwn yn amlygu’r rhaglen waith ar gyfer y tymor hwn yn ogystal
â’r tymhorau sy’n dilyn er mwyn cefnogi pob ysgol i ymateb i ofynion y
fframwaith newydd.
-
Cadarnhawyd
bod yr adroddiad wedi cael ei gymeradwyo gan Fwrdd Rheoli GwE ac
ymgynghorwyd â Phenaethiaid rhanbarthol mewn Fforymau Strategol ac yng
Nghynhadledd GwE i uwch arweinwyr yn Venue Cymru ar
22 a 23 Medi 2022.
-
Rhoddwyd sylw manwl i’r canllawiau newydd ar gyfer
gwella ysgolion gan nodi’r pwyntiau canlynol:
-
Disgwylir
i ysgolion feddu ar brosesau hunan-arfarnu a hunanwerthuso cadarn yn ogystal
â’r mecanwaith ar gyfer gwella. Disgwylir hefyd bod gan ysgolion brosesau ar
gyfer cynllunio a chynnal gwelliannau.
-
Eglurwyd nad yw ysgolion ar eu pen eu hunain gyda
hyn gan y bydd yr awdurdodau lleol a’r consortia rhanbarthol yn sicrhau fod
ganddynt gynhaliaeth er mwyn cynnal gwelliannau.
-
Esboniwyd mai un o brif ddyletswyddau ALl, GwE ac Estyn ydi gwerthuso’r gweithdrefnau hyn a’u
gwella yn effeithiol. Golyga hyn fod yn rhaid cael system atebolrwydd clir er
mwyn i bawb wybod beth sydd angen ei weithredu a pha ymyrraeth ychwanegol sydd
ei angen.
-
Pwysleisiwyd
bod gweithdrefnau arfarnu a gwelliannau wedi newid dros y ddwy flynedd
ddiwethaf yn sgil y pandemig ac o’r herwydd nid yw’r
rhaglen waith mor syml ag y mae’n edrych ar yr olwg gyntaf. Deilliai hyn o’r
ffaith fod ysgolion wedi wynebu heriau dwys iawn i sicrhau fod plant y
rhanbarth yn parhau i dderbyn addysg o safon, yn saff. Golyga hyn fod addysgu o
safon uchel, llesiant ac iechyd a diogelwch wedi bod yn flaenoriaeth dros y
ddwy flynedd diwethaf yn hytrach na diweddaru fframweithiau arfarnu.
-
Rhannwyd diolchiadau penaethiaid rhai ysgolion y
rhanbarth am safiad y Cyd-bwyllgor, sydd wedi helpu i sicrhau mai asesiadau yr
athrawon oedd yn asesu cyflawniad y disgyblion o fewn y cyfnod hwn, gan ei bod
wedi gweithredu fel system effeithiol iawn drwy gyfnod ansicr.
-
Nodwyd bod Estyn bellach wedi cychwyn ail-ymweld ag ysgolion
i gynnal arolygiadau, a nodwyd y prif bwyntiau isod:
-
Nad
ydi fframweithiau arolygu Estyn wedi cael eu diwygio llawer ers cyn argyfwng
Covid-19.
-
Eglurwyd
bod ysgolion dal yn ymdopi gyda phroblemau ychwanegol sy’n deillio o’r pandemig megis presenoldeb, lles, trosiant staff a cholled
sgiliau sylfaenol.
-
Er mwyn cefnogi ysgolion ar eu taith wella bydd pob
ysgol yn derbyn cynllun cymorth unigryw fydd yn amlygu y gefnogaeth fwyaf priodol ar eu cyfer.
Rhoddwyd cyfle i aelodau’r Cydbwyllgor i
rannu sylwadau a holi cwestiynau:
-
Cytunwyd
bod angen cydnabod yr heriau newydd sy’n deillio o’r pandemig.
Cydnabuwyd bod angen i arolygiadau edrych ar ysgolion yn unigol. Pwysleisiwyd
bod arolygiadau, yn gyffredinol, yn rhan allweddol o sicrhau bod disgyblion yn
derbyn addysg o’r radd flaenaf.
-
Nodwyd bod ysgolion hefyd yn delio gyda heriau
newydd fel llesiant staff a disgyblion yn ogystal â materion fel y cynnydd mewn
costau byw. Rhaid cofio bod ysgolion wedi tyfu i fod yn hybiau cymunedol mewn
sawl ardal a bod maes addysg yng nghanol cyfnod digynsail.
-
Cynigwyd
y byddai’n ddefnyddiol i gynnig hyfforddiant i
lywodraethwyr er mwyn sicrhau eu bod yn deall y Fframwaith Gwella
Ysgolion newydd.
-
Soniwyd
y byddai’n ddefnyddiol derbyn mewnbwn gan Weinidog Addysg Llywodraeth Cymru ar
y materion hyn gan fod cryn amser cyn gellir mesur llwyddiant y gweithdrefnau
newydd a bod llesiant staff a disgyblion ar lefelau pryderus iawn ar hyn o
bryd.
PENDERFYNWYD
-
Ysgrifennu at Weinidog Addysg Llywodraeth Cymru er
mwyn derbyn mewnbwn.
-
Trefnu
cyfarfod gydag Estyn er mwyn trafod y materion hyn ymhellach.
Dogfennau ategol: