Agenda item

Ystyried adroddiad gan Rheolwr Uned Polisi Cynllunio ar y Cyd Gwynedd a Môn.

Cofnod:

Cyflwynwyd adroddiad gan Reolwr (Polisi) yn egluro’r broses a’r cynnydd ar y Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd:-

 

 Esboniwyd fod yr amserlen ddiwygiedig wedi ei gyflwyno i’r Panel a’i hysbysebu drwy Newyddlen - Rhifyn 5. Hyd yn hyn mae cam 9) o’r amserlen bron wedi ei gyrraedd.

 Rhoddwyd eglurhad o’r broses a manylion yr ymgynghoriad cyhoeddus ar y Cynllun Adnau yn ogystal â disgrifiad o’r math o sylwadau a dderbyniwyd.

 Cafwyd eglurhad ynglŷn â Rheoliadau Cynllun Datblygu Lleol a’r canllawiau perthnasol. Tynnwyd sylw’r Pwyllgor i’r gofynion wrth ystyried y sylwadau, gan gynnwys y math o newidiadau, sef ‘Mân Newid’ ac ‘Newid â Ffocws’ a fyddai’n bosib eu cynnwys os oedd angen gwneud newidiadau.

 Cyfeiriwyd at adroddiad a gafodd ei gyflwyno i’r Aelodau ym mis Mehefin 2015 gan Mr Iwan Evans, (Ymgynghorydd Cynllunio) (Atodiad D) er mwyn eu cynorthwyo i ddeall pa fath o newidiadau fuasai yn briodol.

 Eglurwyd mai pwrpas yr Archwiliad fyddai sicrhau fod y Cynllun yn ‘gadarn’ – ac wrth weithio drwy’r broses Archwiliad Cyhoeddus fe fyddai’r Arolygydd yn edrych ar y Profion Cadernid a gafodd eu cynnwys yn Atodiad CH.

 Cafwyd crynodeb o’r prif faterion a godwyd yn y sylwadau a dderbyniwyd, ynghyd â throsolwg o ymatebion:-

 

Ø Graddfa twf tai gan gynnwys ei berthynas a’r iaith Gymraeg

Ø Strategaeth i sicrhau twf tai a’r berthynas gyda’r iaith Gymraeg

Ø Strategaeth ofodol, gan gynnwys statws aneddleoedd

Ø Tai fforddiadwy

Ø Tai marchnad leol

Ø Anghenion llety sipsiwn a theithwyr

Ø Economi a chyflogaeth gan gynnwys darpariaeth tir

Ø Ynni adnewyddadwy gan gynnwys tyrbinau gwynt

Ø Gwarchod amgylchedd naturiol

Ø Dyraniadau safleoedd penodol

 Eglurwyd bod Atodiad A i’r adroddiad yn rhoi crynodeb o bob un sylw unigol ac ymateb i’r sylwadau unigol.

 Tynnwyd sylw at y papurau ychwanegol a gafodd eu cylchredeg ar 26 Ionawr 2016 ac i’r Panel Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd ar 29 Ionawr 2016 a oedd (i) yn cyfeirio at ddiwygiadau angenrheidiol i Atodiad B a (ii) yn cofnodi sylwadau na chafodd eu cynnwys yn Atodiad A.

 Ar ôl ystyried y materion a godwyd yn y broses ymgynghori yn ofalus, gan gynnwys trafodaethau ac adborth y Panel Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd, gweler bod yr adroddiad yn dod i gasgliad na chyflwynwyd rhesymau na thystiolaeth rymus a chadarn i gynnig newidiadau sylfaenol i’r Cynllun Adnau.

 Ystyrir y byddai rhannau o’r Cynllun Adnau yn elwa o fân newidiadau a newidiadau â ffocws, ac ‘roedd y rheini i’w gweld yn Atodiad B a C i’r adroddiad.

 Dywedwyd nad oes rhaid i’r Cynghorau ymgynghori am Newidiadau â Ffocws cafwyd argymhelliad i wneud hynny gan fyddai hynny yn arddangos ymarfer gorau, gan roi cyfle i gael barn y cyhoedd ar y newidiadau ar gyfer yr Archwiliad Cyhoeddus.

 Esboniwyd nad oedd y Newidiadau â Ffocws yn cael effaith andwyol ar yr asesiadau statudol, sef Arfarniad o Gynaliadwyedd (yn cynnwys Asesiad Amgylcheddol Strategol) Asesiad Effaith ar yr Iaith Gymraeg a’r Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd.

 Cyn symud i ystyried sylwadau unigol cafwyd trosolwg o’r broses Archwiliad Cyhoeddus: Pan fydd y Cynllun yn cael ei gyflwyno i Lywodraeth Cymru, fe fyddai hynny’n sbardun i gysylltu efo’r Arolygiaeth Cynllunio a fyddai yn penodi Arolygwr. Oni bai bod angen galw Cyfarfod Esboniadol fe fyddai Cyfarfod Cyn

 

 

Gwrandawiadau yn cael ei drefnu er mwyn i’r Arolygydd egluro’r broses a chyflwyno’r ‘Swyddog Rhaglen’. Esboniwyd bod y Swyddog Rhaglen wedi cael ei phenodi ac y byddai’n gweinyddu’r broses Archwiliad ar ran yr Arolygydd. Hi fyddai’r pwynt cyswllt rhwng yr Arolygydd a’r Cynghorau, a rhwng yr Arolygydd a’r gwrthwynebwyr. Eglurwyd byddai ‘Gwrandawiadau Cyhoeddus’ ynglŷn â themâu yn cael eu trefnu yn ystod y broses Archwiliad. Fe fydd gwrthwynebwyr yn gallu datgan eu dymuniad i gael ‘gwrandawiad cyhoeddus’ am eu gwrthwynebiadau neu fe allant ddibynnu ar eu gwrthwynebiadau ysgrifenedig.

 

 Rhestrwyd y dogfennau sydd i’w cyflwyno i Lywodraeth Cymru a’r Arolygaeth Cynllunio, yn unol â Rheoliadau’r Cynllun Datblygu Lleol.

 

Yn ystod y drafodaeth ddilynol, codwyd y prif faterion canlynol:

 Yn deall fod yr amserlen yn cael ei gyflwyno i’r ddau Gyngor ar wahân.

 Gofynnwyd a fydd yr Arolygydd yn siaradwr Cymraeg - fe fyddai hyn yn ffactor bwysig er mwyn deall y sefyllfa ieithyddol.

 Angen eglurhad pam nad ydi’r adroddiad yn cael ei ystyried gan y ddau Gyngor cyn ei gyflwyno i Lywodraeth Cymru cyn i’r ddau Gyngor ei drafod.

 Gofynnwyd am esboniad i ‘Sylwad 815’, a oedd yn mynegi pryderon ynglŷn â’r ffigwr twf tai

 Cyfeiriwyd at bryderon ynglŷn â’r orddarpariaeth o dai ac effaith hynny ar yr iaith Gymraeg.

 Llety Gweithwyr Wylfa, - beth fydd yn digwydd i rain pan fyddai’r gwaith adeiladu yn cael ei gwblhau?

 Nodwyd fod nifer fawr o dai wedi eu dynodi yn y canolfannau mwyaf. Angen cyfleoedd i gadw’r boblogaeth yng nghefn gwlad.

 Gofynnwyd a yw’r Cynllun yn cydnabod prosiect Grid Cenedlaethol. Mynegwyd pryderon ynglŷn â’r effaith gwifrau ar Ardaloedd o Harddwch Naturiol Eithriadol Môn ac felly angen ystyried gwifrau dan-ddaear, sef safbwynt Cyngor Sir Ynys Môn am y mater.

 Pryderon ynglŷn isadeiledd dwr - nid yw Dwr Cymru am ymdrin â’r broblem yn ystod cyfnod o lymder.

 Gofynnwyd pwy oedd wedi ymgymryd â’r astudiaeth Ardaloedd Tirwedd Arbennig a pham na chafwyd ymgynghorydd annibynnol i wneud yr Asesiad Iaith Gymraeg.

 Gofynnwyd am y fethodoleg a ddefnyddiwyd i ymgyngryd a’r asesiad o’r ardaloedd tirwedd arbennig.

 

Mewn ymateb i sylwadau’r aelodau, nododd y swyddogion:

 Cafwyd cadarnhad bod gwneud penderfyniad ar yr amserlen yn fater i’r ddau Gyngor ar wahân yn unol â’r cytundeb rhwng y ddau Gyngor.

 

 Deallir bod yr Arolygiaeth Cynllunio yn bwriadu penodi dau Arolygydd a'u bod yn siaradwyr Cymraeg.

 

 Eglurwyd hefyd mai rôl y Pwyllgor Polisi Cynllunio ar y Cyd ydi gwneud y penderfyniad ar y sylwadau unigol. Pan gaiff adroddiad yr Arolygydd ei gyhoeddi byddai’n cael ei gyflwyno i’r ddau Gyngor ar wahân iddynt fabwysiadu. Cafwyd eglurhad fod y drefn wedi ei gytuno gan y ddau Gyngor.

 

 Ynglŷn â sylwad 815 - esboniwyd fod ffigwr twf tai yn seiliedig ar dystiolaeth amrywiol sy’n cynnwys rhagolygon poblogaeth ac aelwydydd (sail 2011), tueddiadau adeiladu tai, rhagolygon economaidd a thystiolaeth am ffactorau sy’n dylanwadu ar y farchnad tai lleol

 

 

a’r galw/ angen am gartrefi newydd. Ar ôl ystyried yr holl dystiolaeth oedd wedi cael ei gasglu a’i ddehongliad a’i gymharu gyda’r dystiolaeth a gyflwynwyd gan y gwrthwynebydd nid oedd cyfiawnhad i ddiwygio’r lefel twf. Atgoffwyd y Pwyllgor o’r profion cadernid a’r angen i bob agwedd o’r Cynllun fod yn seiliedig ar dystiolaeth er mwyn sicrhau cadernid y Cynllun. Nodwyd fod y Pwyllgor wrth gymeradwyo’r Cynllun Adnau i fynd allan i ymgynghoriad cyhoeddus yn y lle cyntaf, wedi gwneud hynny ar sail ei fod yn Gynllun cadarn. Pwysleisiwyd nad oedd yna dystiolaeth rymus wedi ei gyflwyno mewn ymateb i’r ymgynghoriad cyhoeddus a oedd yn tanseilio’r dystiolaeth sydd gan y Cynghorau i gefnogi’r Cynllun – ac felly nad oedd cyfiawnhad i newid y lefel twf tai. Ymhellach nodwyd y buasai ceisio newid y lefel twf ar y cam yma, heb dystiolaeth rymus, yn risg sylweddol i’r Cynllun gan na fuasai’n debygol o gwrdd a’r profion cadernid. Gall hyn olygu rhoi’r Arolygydd Cynllunio mewn sefyllfa lle byddai’n rhaid argymell peidio symud ymlaen gyda’r Archwiliad Cyhoeddus. Eglurwyd byddai newid arwyddocaol na fyddai’n cyd-fynd a’r dystiolaeth yn golygu rhoi Cynllun gwahanol i’r Cynllun Adnau o’i flaen a fyddai heb os yn golygu ail-ymweld a llawer o feysydd, gan gynnwys yr Asesiad Cynaliadwyedd. Byddai hynny’n golygu llithriad sylweddol yn yr amserlen ar gyfer mabwysiadu’r Cynllun.

 

 Ymhellach, cyfeiriwyd at y fframwaith fonitro a welir ym Mhennod 8 a fyddai’n cofnodi a dehongli gwybodaeth am lefel a dosbarthiad tai. Hefyd, bydd y Cynllun yn cael ei adolygu yn y bedwaredd flwyddyn.

 

 Yn dilyn o’r uchod eglurwyd na fyddai’r Cynllun yn hyrwyddo gormodedd o dai oherwydd bod ystyriaeth wedi cael ei roi i’r galw lleol am gartrefi newydd.

 Ynglŷn â llety ar gyfer gweithwyr i adeiladu Wylfa Newydd, esboniwyd byddai’r anghenion yn cael ei gyfarch trwy nifer o wahanol ddulliau. Mae’r Cynllun yn cydnabod hyn ac yn ceisio sicrhau bod y budd mwyaf yn dod trwy etifeddiaeth tymor hir ble bod hyn yn briodol. Ar gyfer rhai datblygiadau megis ‘Land and Lakes’ ni fydd y defnydd etifeddiaeth, h.y. cartrefi i’r cymunedau lleol, yn cael ei weld tan ar ôl cyfnod y Cynllun. Felly, nid ydynt yn ffurfio rhan o’r cyflenwad i ddiwallu’r galw am dai yn ystod cyfnod y Cynllun.

 

 Esboniwyd fod ardal y Cynllun yn cael ei gysidro yn un gwledig ac mae strategaeth ofodol y Cynllun yn adlewyrchu hynny. Pwysleisiwyd fod 45% o’r ffigwr tai yn cael ei gyfeirio i Ganolfannau Lleol, Pentrefi a Chlystyrau.

 

 Eglurwyd fod Polisi PS8, sy’n bolisi meini prawf, yn ymdrin â phrosiect isadeiledd mawr fel Prosiect Grid Cenedlaethol. Byddai polisïau manwl eraill yn berthnasol hefyd.

 

 Nodwyd y pryderon ynglŷn ag isadeiledd dŵr, – mae hyn yn fater i’w drafod yn ystod cyfnod cais cynllunio. Nid oedd tystiolaeth y byddai hynny yn atal datblygiadau rhag dod ymlaen.

 

 Nodwyd bod ymgynghorydd allanol wedi cael ei gomisiynu i ymgymryd â’r asesiad o ardaloedd tirwedd arbennig, sef cwmni LUC. Mae ymgynghorwyr wedi cael eu penodi i ychwanegu at gapasiti’r Uned. Nid oedd angen cymorth ymgynghorydd allanol i wneud yr asesiad effaith ieithyddol.

 

 Ynglŷn ag Ardaloedd Tirwedd Arbennig (ATA) esboniwyd fod cwmni LUC wedi gwneud yr astudiaeth. Esboniwyd fod papur cefndir wedi ei baratoi sydd yn adolygu'r tiroedd presennol i weld os ydynt yn deilwng i’w hadnabod fel ATA. Mae’r dystiolaeth wyddonol yn cefnogi’r dynodiadau a welir yn y Cynllun Datblygu Lleol. Nodwyd nad oedd tystiolaeth

 

 

wyddonol i gefnogi’r dynodiad yn y Cynllun Lleol ac nad oedd y Cynllun Datblygu Unedol (wedi stopio) yn adnabod ATA.

 

Cynigwyd gwelliant i gael arbenigwr allanol i wneud asesiad ieithyddol o’r Cynllun.

 

Mewn ymateb i’r cynnig yma, nododd y swyddogion:

 

Cadarnhawyd bod yr asesiad ieithyddol a gafodd ei wneud yn un sydd yn gyson a’r fethodoleg gydnabyddedig. Mae’r asesiad wedi goleuo’r rhan berthnasol o’r Asesiad Cynaliadwyedd hefyd. Nodwyd bod ystyriaeth ofalus wedi cael ei roi i’r gwrthwynebiadau am y lefel twf tai a’i ddosbarthiad a’r iaith Gymraeg. Mae’r gwaith hynny wedi arwain at argymhelliad i wneud rhai newidiadau â ffocws i rannau o’r Cynllun. Pwysleisiwyd byddai ail-ymweld a’r gwaith asesiad effaith ieithyddol ar y cam yma yn golygu gorfod gohirio gwneud penderfyniad am yr adroddiad oedd ger bron y Pwyllgor. Mewn ymateb i ymholiad os gallai’r Cynghorau ail-ymweld a’r asesiad ieithyddol ochr yn ochr â chyflwyno’r Cynllun i’w Archwilio, cafwyd cadarnhad nad oedd yn bosib gwneud hynny. Mae’n rhaid i Gynllun sy’n cael ei gyflwyno fod yn seiliedig ar dystiolaeth a gyhoeddwyd. Cyfeiriwyd at y risgiau o beidio gwneud hynny ac at y risgiau yn gysylltiedig ag oedi yn y broses ar y cam yma. Byddai gan wrthwynebwyr gyfle i gymryd rhan mewn trafodaeth am y materion a godwyd yn eu dogfennau tystiolaeth yn ystod gwrandawiadau cyhoeddus yn yr Archwiliad.

 

Ni chafodd y gwelliant ei eilio.

 

Cynigwyd gwelliant i ddynodi safle Lairds, ger Llanfaes ar gyfer defnydd cymysg

 

Mewn ymateb i’r cynnig yma, nododd y swyddogion:

Nodwyd bod y cynnig yn ymwneud â safle sydd yn destun gwrthwynebiad a gafodd ei wneud oherwydd nad yw’r safle yn cael ei ddynodi yn y Cynllun Adnau. Mae’r adroddiad am y gwrthwynebiad yn dod i gasgliad na dderbyniwyd tystiolaeth digon grymus yn ystod yr ymgynghoriad cyhoeddus i ddynodi'r safle hwn ar gyfer defnydd cymysg sy'n cynnwys tai. Dywedwyd, mewn egwyddor, pe ddarparwyd tystiolaeth berthnasol, adeg cais cynllunio gallai'r Cynllun hwyluso rhai o'r defnyddiau unigol a gyfeiriwyd ato yn nhystiolaeth y gwrthwynebydd. Ni fyddai’r ystyriaeth ffafriol yn cael ei roi i’r raddfa a gyfeiriwyd ato. Pwysleisiwyd byddai cytuno i newid y Cynllun yn unol â’r gwrthwynebiad ddim yn gyson gyda thystiolaeth ynglŷn â’r galw na’r cyflenwad o dir ar gyfer tai, ac felly yn golygu newid sylfaenol a fyddai’n mynd i galon y Cynllun, gan danseilio cadernid y Cynllun. Byddai hynny yn risg arwyddocaol i’r broses fynd a’r Cynllun i’r Archwiliad Cyhoeddus. Byddai’r gwrthwynebydd yn cael cyfle i gymryd rhan mewn trafodaeth am y materion a godwyd yn ei ddogfennau tystiolaeth yn ystod gwrandawiadau cyhoeddus yn yr Archwiliad.

 

Ni chafodd y gwelliant ei eilio

 

Penderfynwyd:

1. Cefnogi’r amserlen ddiwygiedig i’w gael ei fabwysiadau gan y ddau Gyngor.

2. Cymeradwyo’r ymatebion a argymhellir i’r sylwadau (Atodiad A) a’r papur ychwanegol a gafodd ei gylchredeg i’r Panel Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd ar 29 Ionawr 2016.

3. Cymeradwyo’r Newidiadau â Ffocws Arfaethedig i’r Cynllun Adnau (Atodiad B) yn ddarostyngedig i’r Papur ychwanegol a gafodd ei gylchredeg ar 26 Ionawr 2016.

 

 

4. Cymeradwyo’r Mân newidiadau i’r Cynllun Adnau (Atodiad C).

5. Cyflwyno’r Cynllun ac atodiad o Newidiadau â Ffocws i Lywodraeth Cymru ar gyfer Archwiliad.

6. Cyhoeddi Newidiadau â Ffocws ar gyfer ymgynghoriad cyhoeddus.

7. Rhoi pwerau dirprwyedig i’r uwch swyddogion ac/ neu’r Aelod Cabinet (Cynllunio a Rheoleiddio – Cyngor Gwynedd), Aelod Gweithredol (Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd – Cyngor Sir Ynys Môn) i gytuno ar newidiadau posibl i’r Cynllun Adnau fel rhan o’r broses Archwiliad annibynnol yn unol â chanllawiau Llywodraeth Cymru.

 

Dogfennau ategol: