Agenda item

Cyflwyno adroddiad Arweinydd y Cyngor.

Penderfyniad:

Cymeradwyo’r adroddiad fel adlewyrchiad cywir, cytbwys a chlir o berfformiad y Cyngor yn ystod 2021/22, a’i fabwysiadu.

 

Cofnod:

 

Cyflwynodd yr Arweinydd, y Cynghorydd Dyfrig Siencyn, adroddiad yn gofyn i’r Cyngor gymeradwyo a mabwysiadu Adroddiad Perfformiad Cyngor Gwynedd 2021/22 fel darlun clir, cytbwys a chywir o berfformiad y Cyngor yn ystod 2021/22.

 

Yn ystod ei gyflwyniad, cyfeiriodd yr Arweinydd at lwyddiannau megis datblygu Cynllun Adfywio, adeiladu Ysgol y Garnedd newydd a mabwysiadu Cynllun Newid Hinsawdd.  Cyfeiriodd hefyd at lefydd i wella, megis y methiant i gyfarch y cwestiwn addysg ôl-16 yn Arfon, ond roedd yn hyderu’n fawr y byddai hynny’n flaenoriaeth yn y blynyddoedd nesaf yng Nghynllun newydd y Cyngor.  Nododd hefyd y bu oedi yn Nalgylch Cricieth ar ddatblygiad ysgol newydd oherwydd gorfod cynnal archwiliad archeolegol.

 

Yna cyfeiriodd yr Arweinydd at y crynodeb o waith dydd i ddydd y gwasanaethau ar ddiwedd yr adroddiad, gan ddiolch i swyddogion y Gwasanaeth Cynllunio am eu gwaith gwych yn paratoi ymchwil a datrysiadau yn y maes ail-gartrefi.  Nododd hefyd, gan fod y Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd yn dod i ben, bod angen ail edrych ar y trefniadau cydweithio, ac eglurodd, yn sgil trafodaethau rhwng swyddogion cynllunio Gwynedd a Môn, y daethpwyd i’r casgliad y dylid argymell bwrw ymlaen gyda phroses i ddirwyn y trefniant presennol i ben, a hynny o ganlyniad i’r newidiadau i’r cyd-destun polisi cynllunio cenedlaethol, rhanbarthol a lleol ers sefydlu’r trefniant cydweithio yn 2001.  Eglurodd ymhellach y byddai’r ddau gyngor yn parhau i gydweithio’n agos gyda threfniadau monitro’r hen Gynllun Datblygu Lleol ar y Cyd, ynghyd ag unrhyw gyfleoedd eraill fyddai’n amlygu eu hunain.  Byddai’r mater yn cael ei gyflwyno i Gabinet Cyngor Gwynedd a Phwyllgor Gwaith Cyngor Ynys Môn ar 19 Gorffennaf, a phetai’r ddau gorff yn cydsynio, byddai’r ddwy sir yn llunio eu Cynllun Datblygu Lleol newydd ar wahân.

 

Rhoddwyd cyfle i’r aelodau gyflwyno sylwadau a gofyn cwestiynau.  Codwyd y materion a ganlyn gan aelodau unigol:-

 

·         Gan gyfeirio at uchafbwyntiau’r flwyddyn ar dudalen 16 o’r rhaglen, holwyd sut roedd perfformiad y Cyngor o ran ailgylchu, ailddefnyddio neu gompostio gwastraff cartrefi yn cymharu â’r targed, ac yn arbennig targed tirlenwi Llywodraeth Cymru.  Mewn ymateb, nodwyd bod perfformiad Gwynedd dros 64% ar hyn o bryd, o gymharu â’r targed statudol o 70% erbyn Mawrth 2025.  Gwelwyd llithriad, o bosib’, dros y cyfnod Cofid yn y gwastraff gweddilliol sy’n cael ei gynhyrchu, ac roedd angen atgoffa’r trigolion am y gwasanaeth casglu bwyd ac ailgylchu.  Ymhellach na hynny, byddai’n rhaid edrych ar raglen waith i symud yr agenda er mwyn sicrhau ein bod yn cyrraedd y targed statudol.  O safbwynt tirlenwi, eglurwyd nad oedd unrhyw wastraff yn mynd i dirlenwi bellach a bod yr holl wastraff gweddilliol yn cael ei losgi ym Mharc Adfer, y Fflint fel rhan o bartneriaeth ar y cyd rhwng cynghorau’r Gogledd.

·         Gan gyfeirio at y sylw at dudalen 19 o’r rhaglen bod yr argyfwng costau byw “wedi gorfodi’r Cyngor i ddargyfeirio adnoddau ac addasu gan ymrwymo i waith a phrosiectau newydd”, holwyd a oedd ein cyllideb yn ddigon cadarn i wynebu’r heriau hyn, neu a fyddai’n rhaid ail-edrych ar y mater.  Holwyd hefyd, petai’n rhaid dargyfeirio, o ble fyddai’r adnoddau yn dod, ac a fyddai hynny’n creu bylchau yn ein gwasanaethau.  Mewn ymateb, nodwyd ein bod yn gwybod ymlaen llaw am y tro cyntaf beth fydd ein setliad flwyddyn nesaf a’r flwyddyn ddilynol.  Roedd setliad cyffredinol Cymru tua 3.5% ar gyfer y flwyddyn nesaf a 2.5% ar gyfer y flwyddyn ganlynol, ond roedd Gwynedd wastad yn is na’r cyfartaledd cenedlaethol.  Petai chwyddiant yn cynyddu i 11% erbyn hydref eleni, fel sy’n cael ei ddarogan, byddai Gwynedd a phob cyngor arall mewn sefyllfa anodd iawn.  Ni fyddai neb wedi gallu rhagweld y fath sefyllfa.  Mawr obeithid y byddai’r Llywodraeth yn deall hynny ac yn helpu’r Cyngor mewn rhyw ffordd, ond roedd yn rhaid bod yn barod i gynllunio ymlaen llaw rhag ofn na fyddai hynny’n digwydd.

·         Mynegwyd anfodlonrwydd nad oedd pobl ddieithr sy’n dod i dai gwyliau yn ardal Aberdyfi yn ailgylchu a’u bod yn gorlenwi’r bagiau duon, ac yn llenwi biniau pobl eraill â’r bagiau yma.  Mewn ymateb, nodwyd bod hyn yn broblem mewn sawl ardal ar draws y sir lle mae tai gwyliau, a bod her o’n blaenau i newid y drefn ac i’r swyddogion ailgylchu fynd allan a thargedu a sicrhau cydymffurfiaeth â’r gwasanaeth.  Nodwyd ymhellach y byddai’r Pennaeth Priffyrdd a Bwrdeistrefol yn cysylltu â’r aelod i weld beth y gellir ei wneud yn Aberdyfi yn benodol.

·         Mynegwyd anfodlonrwydd ynglŷn â’r cyfeiriadau at ddatblygiad Safle Atomfa Trawsfynydd yn yr adroddiad, ar y sail ein bod yn cael ein camarwain ynglŷn â diogelwch safleoedd niwclear o’r fath.  Nodwyd y byddai gosod y datblygiad newydd wrth ochr yr hyn sydd ar y safle’n barod yn golygu bod y naill yn peryglu’r llall, a byddai hefyd yn effeithio ar ein siawns o sicrhau Annibyniaeth i Gymru, oherwydd y gost sy’n gysylltiedig â datgomisiynu.  Mynegwyd syndod hefyd bod Plaid Cymru yn rhoi hyn gerbron, o ystyried bod y Blaid yn erbyn unrhyw safleoedd newydd yn ymwneud ag ynni niwclear.  Ar sail y dadleuon hynny, cynigiwyd gwelliant bod y Cyngor naill ai’n dileu’r paragraffau sy’n cyfeirio at ddatblygiadau niwclear (sef y 4ydd paragraff ar dudalen 24 o’r rhaglen, a’r 3ydd paragraff ar dudalen 26), neu’n gwrthod yr adroddiad yn ei gyfanrwydd.  Nododd aelod arall mai’r hyn oedd gerbron oedd mynegiant o gefnogaeth ddiamwys i brosiect yn y dyfodol nad oedd eto wedi derbyn cymeradwyaeth ffurfiol drwy broses ddemocrataidd y Cyngor.  Mewn ymateb, eglurodd y Swyddog Monitro mai’r oll oedd gerbron y Cyngor oedd adroddiad ffeithiol am berfformiad prosiectau sy’n bodoli eisoes, ac nad oedd egwyddor y prosiectau hynny dan ystyriaeth.  Eglurodd hefyd fod prosiect Trawsfynydd wedi bod drwy broses ddemocrataidd eisoes gan fod cyfeiriad ato yng Nghynllun y Cyngor a fabwysiadwyd gan y Cyngor ym mis Mawrth eleni, ac nad oedd y Cyngor mewn trefn i ail-agor y mater o fewn 6 mis.  Awgrymodd yr aelod ymhellach fod modd addasu geiriad y paragraffau i gyfeirio at ffaith yn hytrach na dyhead.  Mewn ymateb, eglurodd y Swyddog Monitro fod sawl agwedd o’r adroddiad yn cyfeirio at brosiectau sydd ar y gweill, ac yn manylu ar eu perfformiad hyd yn hyn.  Nid oedd tynnu/newid y geiriad yn newid y prosiect na’r cyd-destun ffeithiol, a thrwy gymeradwyo’r adroddiad, byddai’r aelodau yn cymeradwyo perfformiad y Cyngor, yn hytrach na chymeradwyo’r prosiect ei hun.

·         Gan gyfeirio at Amcan Llesiant y Cyngor o sicrhau bod trigolion Gwynedd yn mwynhau bywyd hapus, iach a diogel (tudalen 20 o’r adroddiad), nodwyd nad oedd trigolion y sir bellach yn teimlo’n hapus, yn iach nac yn ddiogel.  Roedd pobl yn dioddef gan eu bod yn methu cael meddyg nac ambiwlans, ac nid oedd yna welyau nyrsio o gwbl ym Mhen Llŷn, a phwysleisiwyd yr angen i’r Cyngor gael rhyw fath o ddylanwad ar Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr.  Mewn ymateb, nodwyd bod gallu’r Cyngor i ddatrys y broblem hon yn gyfyngedig, ond y byddai’r Arweinydd yn lleisio’r pryderon a fynegwyd ar bob cyfle bosib’, boed hynny mewn cyfarfodydd gyda Phrif Weithredwr y Bwrdd Iechyd neu Lywodraeth Cymru.  Nodwyd ymhellach, gyda chyllideb y Cyngor dan wasgfa sylweddol yn ogystal, ei bod yn beryg’ y byddai’n rhaid i ninnau hefyd wynebu toriadau mewn rhai gwasanaethau yn y blynyddoedd i ddod.

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo’r adroddiad fel adlewyrchiad cywir, cytbwys a chlir o berfformiad y Cyngor yn ystod 2021/22, a’i fabwysiadu.

 

Dogfennau ategol: