Ystyried unrhyw gwestiynau y rhoddwyd
rhybudd priodol ohonynt o dan Adran 4.19 y Cyfansoddiad.
Cofnod:
(Dosbarthwyd atebion
ysgrifenedig yr Aelodau Cabinet i’r cwestiynau i’r aelodau ymlaen llaw.)
(1) Cwestiwn gan y Cynghorydd Rhys Tudur
“O ystyried bod y Cyngor yn prynu tai sydd ar
y farchnad gydag arian cyhoeddus, pa system sydd gennych yn ei le i sicrhau nad
yw’r Cyngor yn gordalu am y tai?”
Ateb gan yr Aelod
Cabinet Tai, y Cynghorydd Craig ab Iago
“Yn ychwanegol i’r
ateb ysgrifenedig, hoffwn ddweud fy mod wedi prynu fy nhŷ cyntaf tua 5
mlynedd yn ôl, a gallaf dystiolaethu i’r ffaith mai prynu tŷ ydi'r trydydd
profiad mwyaf anodd ar ôl colli rhywun agos a mynd trwy ysgariad. Nid ydych chi’n gwybod be’ dydych chi ddim yn
gwybod, nid ydych chi’n gallu ymddiried mewn unrhyw un, ac mae prisiau tai yn
codi bob dydd. Nid ydych chi’n gwybod
pwy sy’n cystadlu yn eich erbyn, ac roedd yn flwyddyn hunllefus i mi a’r teulu.
Un o’r 33 o
gynlluniau sydd gennym yn y Cynllun Gweithredu Tai ydi ein bod ni, fel Cyngor,
yn prynu tai er mwyn helpu i gartrefu pobl leol yn eu cymunedau. Wrth gwrs, mae’r broses lle mae’r Cyngor yn
prynu tai hyd yn oed yn fwy cymhleth na hynny.
Rhaid i ni wneud yn siŵr nad ydym yn prynu tai mae rhywun lleol am
geisio eu prynu. Rhaid i ni wneud yn
siŵr nad ydym yn gwneud camgymeriadau a’i fod yn costio gormod. Rhaid i ni wneud yn siŵr ein bod yn
prynu tai lle mae angen. Mae’n gymhleth
iawn a rŵan, wrth gwrs, yn wahanol i 4-5 mlynedd yn ôl, rydym ni’n
cystadlu yn erbyn cronfeydd gwrych sydd nawr yn y farchnad prynu tai. Nid oedd Airbnb yn
gymaint o beth, a rŵan mae pobl yn symud yma ar ôl y ‘Zoom
Boom’ a Chofid a Brexit. Ond y gwahaniaeth rhyngom ni a thrigolion ydi
ein bod ni’n gwybod beth ydi’r ‘unknowns’. Mae gan ein Hadran ni'r
profiad o weithredu yn y sector yma. Mae
gennym y cymwysterau. Nid ydw i’n
siŵr faint o syrfewyr sydd yn yr Adran, neu yn y Cyngor, ond mae hyd yn
oed ein Prif Weithredwr yn syrfëwr, ac rydym ni’n adnabod pawb sy’n gweithio yn
y sector. Mae gennym y sgiliau a’r
profiad a’r wybodaeth, ond yn bwysicach na hynny yn fy marn i, mae gennym ni
hefyd yr awydd. Mae pobl yn tueddu i
feddwl bod ein staff yn byw mewn twr ifori neu’n gweithredu yn ôl yr egwyddor ‘computer says no’, ond gallaf dawelu eich meddyliau - nid yw hynny’n
wir. Rwy’n gobeithio bod y mwyafrif
ohonoch yma yn gwybod sut rydw i’n teimlo am y sefyllfa tai a pha mor bendant
ydwyf i wneud rhywbeth am y peth. Rydw i
eisiau i chi wybod bod y staff i gyd yn yr Adran Tai ac Eiddo hefyd yn teimlo'r
un fath â mi am y pwnc. Maen nhw’n dilyn
Ffordd Gwynedd go iawn a gobeithio y byddwch yn gweld hynny yn fuan. Maen nhw yma i gartrefu ein pobl ni yn ein
cymunedau. Dyna pam maen nhw’n dod i’r
gwaith bob dydd, ac yn aml iawn, rydw i’n trafod hyn hefo nhw, ac yn trafod y
prosiectau rydych chi i gyd yn mynd i weld yn fuan gobeithio, a’r tai rydym
ni’n prynu a phob dim fel yna. Rydw i
mewn trafodaethau hefo nhw, ac mae’n brofiad emosiynol i mi i weld eu bod nhw ‘on board’ hefo’r hyn rydym ni’n ceisio gwneud fel cynghorwyr.
Cwestiwn Atodol gan y
Cynghorydd Rhys Tudur
“O ystyried bod prisiant syrfewyr yn gallu amrywio, oes yna fwy nag un
prisiant gan y Cyngor ar gyfer pob tŷ (h.y. ydych chi’n cael mwy nag un
pris) gan syrfëwr gwahanol?”
Ateb gan y Pennaeth Tai
ac Eiddo
“Mae yna sawl
syrfëwr yn gweithio i’r Cyngor. Mae
gennym ni gyfanswm o 6, ac mae 2 ohonynt yn syrfewyr siartredig, ac wrth
brisio, mae’n ofyn statudol ein bod yn sicrhau gwerth am arian, ac mae hynny’n
greiddiol i’r holl benderfyniadau rydym ni’n wneud ynglŷn â phrynu. Hefyd, wrth gwrs, maen nhw’n siarad hefo ei gilydd
ynglŷn â phrisiau ac yn sicrhau ein bod yn cael y gwerth gorau am ein
harian cyhoeddus.”
(2) Cwestiwn gan y Cynghorydd John Pughe
Roberts
“Yn dilyn
newidiadau arfaethedig i’r diwydiant unedau
gwyliau Llywodraeth Cymru “fod rheidrwydd ar i bob uned gwyliau
fod ar gael i’w osod am o leiaf
252 diwrnod, a’i osod am o leiaf 182 diwrnod i fod
yn gymwys ar gyfer ardrethi busnes”, ydi’r Cyngor yma yn barod i alw
ar Lywodraeth Cymru i eithrio’r diwydiant Amaethyddol, (sydd wedi addasu cannoedd
o hen feudai yn unedau gwyliau drwy’r drefn arallgyfeirio), o unrhyw ymrwymiad i’r newid deddfwriaethol
yma?”
Ateb gan yr Aelod
Cabinet Cyllid, y Cynghorydd Ioan Thomas
“Mae Cyngor Gwynedd wedi bod yn ddiamwys mai’r angen i gael cartref i
bobl Gwynedd ydi'r mater pwysicaf i Cyngor Gwynedd. Mae pob rhan o Wynedd – nid yn unig y
pentrefi glan môr – yn gweld cartrefi yn cael eu trosi i fod yn unedau gwyliau. Ni allwn or-bwysleisio'r effaith mae’r golled
yma o'r stoc dai yn ei gael ar ein cymunedau.
Wrth ymateb i
ymgynghoriad Llywodraeth Cymru, rydym ni wedi nodi fod angen i gyfundrefn
drethiant adlewyrchu’r niwed a achosir i gymdeithas gan yr hyn a drethir. Barn y Cyngor yw bod unedau gwyliau hunan
ddarpar heb reolaeth yn cael effaith negyddol ar gymdeithas ar y cyfan, ac
felly dylent fod yn destun trethiant lleol.
Tra bod unedau
gwyliau hunanddarpar yn cynnig cyfle i hybu’r economi
dwristiaeth leol pan mae cyflenwad rhesymol ohonynt, ymddengys bellach nad yw’r
niferoedd yn gynaliadwy, ac mae anheddau byw yn cael eu colli ym mhob rhan o’r
sir erbyn hyn gyda phobl sy’n gallu fforddio prynu sawl eiddo yn gweld cyfle i
fuddsoddi, ond ar draul cymunedau a theuluoedd na all fforddio cartref o gwbl.
Nid oes cysondeb ar hyn o bryd rhwng deddfwriaeth trethiant a
deddfwriaeth cynllunio. Ymateb y Cyngor
i’r ymgynghoriad oedd os bydd trothwyon yn parhau yn eu lle ar gyfer
trosglwyddo eiddo i’r gyfundrefn ardrethi annomestig, credwn y dylent fod wedi
eu cysylltu â chaniatâd cynllunio yn hytrach na’r nifer o nosweithiau o osod.
Dylai’r drefn ganiatáu gwahaniaethu rhwng unedau sydd wedi cael eu
datblygu yn benodol ar gyfer pwrpasau gwyliau a lle mae cyfyngiad cynllunio i’r
perwyl hynny, a chartrefi sydd wedi bod ar y rhestr Treth Cyngor fel annedd
byw.
Rydym wedi hysbysu
Llywodraeth Cymru yn ddiweddar, mewn ymateb i’r gorchymyn drafft sy’n addasu’r
trothwyon, na ddylid edrych i’r nifer o ddyddiau o wir osod ac argaeledd os yw
eiddo wedi ei adeiladu yn bwrpasol fel uned gwyliau hunan gynhaliol a bod amod
yn y caniatâd cynllunio yn atal defnydd o’r eiddo fel prif neu unig gartref,
neu os yw perchennog yr eiddo wedi cael caniatâd cynllunio i drosi defnydd o
fod yn dŷ annedd i fod yn westy.
Rydym yn sicr yn ystyried adeiladau amaethyddol sydd wedi cael eu trosi
yn unedau gwyliau o fewn y categori hwn.
Mae’r newid diweddaraf am effeithio nifer o fusnesau cynhenid, ac mae
hyn yn fater o bryder.
Mae mater ehangach yn codi petai eiddo o’r fath yn symud i mewn i fand
Treth Cyngor, sef yr hyn fydd yn digwydd o ran y Premiwm. Mae oblygiadau bwriad y Llywodraeth i roi’r
hawl i awdurdodau lleol gynyddu lefel y Premiwm i hyd at 300% dan ystyriaeth ar
hyn o bryd, a bydd hyn yn fater i'r Cyngor llawn yn y man pella’.”
Cwestiwn Atodol gan y
Cynghorydd John Pughe Roberts
“Mae llawer o’r rhain wedi cael caniatâd cynllunio am wyliau tymor
byr. A fyddai Cyngor Gwynedd yn fodlon
ei newid i fod yn llefydd i aros yn hirach na thymor byr, ac efallai y byddai
rhai ohonynt wedyn yn dod yn dai i bobl leol?”
Ateb gan yr Aelod
Cabinet Cyllid, y Cynghorydd Ioan Thomas
“Fy nealltwriaeth
i ydi bod y Gweinidog yn ystyried eithriadau.
Nid ydw i’n ymwybodol beth ydyn nhw, ac rwy’n meddwl efallai bod rhaid i
ni aros tan fod yr eithriadau yma yn dod yn gyhoeddus. Ond yn sicr, rwy’n cydymdeimlo â nifer o
fusnesau sy’n mynd i gael eu heffeithio gan hyn, ac yn sicr, mi fyddwn yn
cyfleu’r neges honno i Lywodraeth Cymru.”
(3) Cwestiwn gan y Cynghorydd Gwynfor Owen
“Yn dilyn
penderfyniad y Cabinet ar 27 Gorffennaf 2021 i gyflwyno Gorchymyn Gwarchod
Mannau Cyhoeddus (GDMC): Rheoli Cŵn, hoffwn wybod sawl perchennog sydd
wedi derbyn cosb am adael eu cŵn fynd i fannau gwaharddedig ar ein
traethau ym Meirionnydd, ac ar ba draethau ym Meirionnydd mae’r dirwyon yma
wedi cael eu rhoi?"
Ateb gan yr Aelod
Cabinet Priffyrdd a Bwrdeistrefol ac Ymgynghoriaeth
Gwynedd, y Cynghorydd Berwyn Parry Jones
“Fel y gwelwch o’r ymateb ysgrifenedig, nid oes dirwy wedi ei gyflwyno
ers cyhoeddi’r gorchymyn. Mae yna fwriad
i gynyddu’r staff morwrol oherwydd mae yna brinder ar hyn o bryd oherwydd
ymddeoliad a staff yn symud i swyddi eraill.
Mae’r Cabinet hefyd wedi clustnodi cyllideb i gyflogi 2 warden
gorfodaeth, ond er y bu i’r swyddi yma gael eu hysbysebu fwy nag unwaith, nid
oes unrhyw un wedi ymgeisio. Wrth gwrs,
mae hon yn broblem drwy’r Cyngor – ceisio llenwi swyddi, ac yn y sector preifat
hefyd. Mae angen pwysleisio mai dirwyon
ydi’r cam olaf sy’n cael ei gymryd ac addysgu perchnogion cŵn ydi’r
nod. Felly mae’r swydd ddisgrifiadau
wedi eu haddasu i roi mwy o bwyslais ar newid ymddygiad a chodi ymwybyddiaeth
gan wir obeithio y bydd y swyddi yma wedi eu llenwi cyn bo hir.”
Cwestiwn Atodol gan y
Cynghorydd Gwynfor Owen
“Gan fod hyn yn
broblem mor fawr ar draethau Llandanwg a Harlech, a wnaiff yr Aelod Cabinet ei
orau i geisio ychwanegu'r traethau hardd yma i’r llefydd sy’n cael y fflagiau
plu ac i flaenoriaethu'r traethau yma i gael sylw pan gyflogir y swyddogion
angenrheidiol?”
Ateb gan yr Aelod
Cabinet Priffyrdd a Bwrdeistrefol ac Ymgynghoriaeth
Gwynedd, y Cynghorydd Berwyn Parry Jones
“Fel rhywun sydd
wedi cymryd rhan mewn sawl triathlon yn Harlech,
gallaf dystio, nid yn unig bod traeth Harlech yn hardd iawn, ond mae’n draeth
hir iawn hefyd! Yn sicr, byddaf yn gofyn
i’r Adran sicrhau bod fflagiau plu yn cyrraedd traethau Harlech a Llandanwg mor
fuan â phosib’, ac ymhellach, pan fo’r wardeiniaid mewn lle, bod traethau
Llandanwg a Harlech yn derbyn blaenoriaeth fel bo angen.”
(4) Cwestiwn gan y Cynghorydd Richard Glyn
Roberts
“Mae’r canllawiau newydd ar gategoreiddio ysgolion yn ôl y ddarpariaeth Gymraeg yn crybwyll cyflwyno trefniadau newydd ym mis Medi 2022. Lle mae Gwynedd arni yn hyn o beth?”
Ateb gan yr Aelod
Cabinet Addysg, y Cynghorydd Beca Brown
“Y sefyllfa ydi
bod rhaid i bob ysgol ddweud yn glir wrth rieni ac wrth yr awdurdod lleol ym
mha iaith maen nhw am addysgu, ac mae’r drefn honno mewn lle ers 2007. Y dewisiadau, wrth gwrs, ydi Cymraeg neu
Saesneg, neu gyfuniad o’r ddwy iaith honno.
Yng nghyd-destun cyhoeddiad Llywodraeth Cymru - ‘Cymraeg 2050: Miliwn o
Siaradwyr’ mae Llywodraeth Cymru eisiau adolygu eu polisi categoreiddio er mwyn
i rieni fedru dewis llwybr addysg eu plant gyda mwy o hyder, ond o’n rhan ni yn
y sir yma, polisi iaith Gwynedd beth bynnag ydi i sicrhau addysg Gymraeg a
dwyieithog gynhwysol i bob dysgwyr, waeth beth fo eu hil, eu cefndir neu
hunaniaeth. Rwy’n siŵr y byddwch yn
cytuno bod hynny’n rhywbeth i ni i gyd ymfalchïo yn fawr iawn ynddo, ac mae
llwyddiant y polisi yna wedi bod yn amlwg yn y miloedd o siaradwyr naturiol
Cymraeg rydym ni wedi cynhyrchu yn ein hysgolion yn y sir yma. Mae’r drefn newydd o ran categoreiddio yn
adlewyrchu'r hyn sydd eisoes yn digwydd yn y sir yma, felly ni fydd yn arwain
at fawr o newidiadau i ni, h.y. yn unol â’r canllawiau sydd wedi dod gan
Lywodraeth Cymru a’u harweiniad nhw, bydd ysgolion cynradd y sir yn mynd i
Gategori 3, sy’n cyd-fynd â pholisi iaith Gwynedd, sef mai’r Gymraeg ydi prif
iaith addysg, cyfathrebu a hefyd ethos yr ysgol. Bydd pob ysgol uwchradd yn y sir hefyd yn
mynd i Gategori 3, namyn dwy ysgol sydd ddim cweit yn
cwrdd â’r gofynion ar hyn o bryd.
Byddwn, wrth gwrs, yn disgwyl i’r ddwy ysgol dan sylw ddatblygu eu
darpariaeth cyfrwng Cymraeg, ond mi fyddan nhw, am y tro, yn eistedd yng
Nghategori T3 (Trosiannol) ac mi fydd yr Adran, wrth gwrs, yn gweithio’n agos
iawn ac yn cefnogi’r ysgolion hynny i sicrhau’r cynnydd rydym ni’n dymuno ei
weld. Felly, i grynhoi, bydd ysgolion
Gwynedd yn gweithredu’r drefn newydd o gategoreiddio o fis Medi, a bydd y drefn
newydd yn gwbl unol â’r polisi iaith llwyddiannus sydd gennym yn y sir yma
eisoes.”
Cwestiwn Atodol gan y
Cynghorydd Richard Glyn Roberts
“Categori 3 ysgol uwchradd ydi lle mae ychydig dros hanner y disgyblion
yn gwneud o leiaf 70% o’u gweithgareddau trwy gyfrwng y Gymraeg. Dyna’r isafswm. Mae’r canllawiau yn annog ymestyn y
ddarpariaeth. Oni ddylid ymgyrraedd
felly tuag at osod ysgolion Gwynedd yng Nghategori 3P, sef lle mae’r ysgol
uwchradd yn dysgu 100% o’r disgyblion am o leiaf 90% o’r amser drwy gyfrwng y
Gymraeg?”
Ateb gan yr Aelod
Cabinet Addysg, y Cynghorydd Beca Brown
“Dim ond 10 ysgol
3P sydd yna yng Nghymru ar hyn o bryd, ac mae pob un o’r rheini i lawr yn ardal
y De Ddwyrain, lle mae’n rhaid iddyn nhw, wrth gwrs, ddiffinio eu hunain ochr
yn ochr â llawer iawn o ysgolion cyfrwng Saesneg. Wrth gwrs, mae’r sefyllfa yn bur wahanol yma
yng Ngwynedd lle mae pob dysgwr yn cael addysg Gymraeg a dwyieithog ac yn dod
allan o’n hysgolion yn siaradwyr Cymraeg naturiol. Mae ein polisi ni yn gwbl gynhwysol
felly. Wrth gwrs, byddem i gyd yn dymuno
gweld ysgolion yn cynyddu eu darpariaeth, ac mae Categori 3 yn caniatáu hynny
yn llwyr gan mai isafswm ydi’r 70% o ddarpariaeth. Gallwn gynyddu a gallwn annog a gweithio hefo’r ysgolion i gynyddu’r ddarpariaeth honno, ac rwy’n
credu ei bod yn bwysig gwneud hynny heb greu arwahanrwydd ieithyddol, ac i aros
yn gynhwysol fel rydym ni ar hyn o bryd. Mae polisi iaith Gwynedd yn gweithio, ac mae
o’n gynhwysol. Mae data’r Cyfrifiad
diwethaf yn dangos bod 73% o blant 3 oed yn siarad Cymraeg ac erbyn iddyn nhw
gyrraedd 15 oed, mae’r ganran wedi codi i 92%.
Mae’r data yn dangos hefyd mai Gwynedd sydd â’r nifer mwyaf o siaradwyr
Cymraeg o gefndiroedd lleiafrifoedd ethnig y tu allan i Gaerdydd, sy’n dyst i’r
ffaith bod pob un dysgwr yma yn ein sir yn cael addysg Gymraeg mewn ffordd
gynhwysol, ac rwy’n siŵr eich bod yn cytuno bod hynny’n rhywbeth mor bwysig.
Ar nodyn mwy
personol, mae’r ffaith mod i’n sefyll ger eich bron heddiw yn siarad Cymraeg yn
ddiolch i’r addysg rydw i wedi cael yn ysgolion y sir, gan mai mewnfudwyr o
Loegr ydi fy rhieni i, ac yn Saesneg y cefais fy magu, ac rydw i wedi cael fy Nghymraeg yn ysgolion cynradd ac uwchradd y sir yma. Felly mae’n bolisi sy’n gweithio ac mae’n
bolisi llwyddiannus.”