Agenda item

COSTCUTTER, 90 PENRHYN AVENUE, MAESGEIRCHEN, BANGOR

 

Ystyried y cais uchod

Cofnod:

CAIS AM DRWYDDED EIDDO – COST CUTTER, 90 PENRHYN AVENUE, MAEGEIRCHEN, BANGOR

 

Croesawyd pawb i’r cyfarfod gan y Cadeirydd, y Cynghorydd Eryl Jones Williams. Cyflwynwyd y panel ar swyddogion i bawb oedd yn bresennol. Cyhoeddwyd bod gan bawb hyd at 10 munud i gyflwyno sylwadau uniongyrchol ar y cais.

 

 

Ar ran yr eiddo:           Mr  M Shoker a Mr Williams  (ymgeiswyr)

 

Eraill a fynychwyd:     Cynghorydd Chris O’Neil (Aelod Lleol)

 

 

Adroddiad ac argymhelliad yr Adain Trwyddedu.

 

a)         Cyflwynwyd adroddiad y Rheolwr Trwyddedu yn manylu ar gais am drwydded eiddo ar gyfer Costcutter, 90 Penrhyn Avenue, Bangor gan ymhelaethu bod y cais ar gyfer siop hwylus (convenience store) un llawr a fydd yn gwerthu alcohol i’w yfed oddi ar yr eiddo. Nodwyd bod yr ymgeisydd wedi cynnwys camau priodol i hyrwyddo’r pedwar  amcan trwyddedu fel rhan o’r cais. Ategwyd bod tystysgrif eiddo clwb yn bodoli ar gyfer yr adeilad a daeth i ben Tachwedd 2015.

 

Yn dilyn cyfnod ymgynghori, nodwyd nad oedd sylwadau wedi eu derbyn gan Gwasanaeth Iechyd Amgylchedd, Gwasanaeth Tân ac Achub ac nid o fewn yr amser penodol gan Heddlu Gogledd Cymru. Derbyniwyd dau wrthwynebiad i’r cais gan Cyngor Dinas Bangor a’r Aelod Lleol oherwydd oriau gwerthu alcohol gormodol. Y gwrthwynebiadau yn seiliedig ar yr amcanion trwyddedu o Atal Niwsans Cyhoeddus, Trosedd ac Anhrefn, Diogelwch y Cyhoedd ac Amddiffyn Plant rhag Niwed.   Nodwyd bod yr ymgeisydd wedi bod mewn trafodaethau gyda’r heddlu ac wedi ystyried addasu oriau cau'r eiddo i 1:00am.

 

Wrth ystyried y cais dilynwyd y drefn ganlynol-:

 

           Rhoddwyd cyfle i aelodau’r Is-bwyllgor a’r ymgeisydd ofyn cwestiynau i’r Rheolwr Trwyddedu.

           Gwahoddwyd yr ymgeisydd i ymhelaethu ar y cais

           Rhoddwyd cyfle i’r ymgynghorai gyflwyno eu sylwadau

           Gwahoddwyd deilydd y drwydded neu ei gynrychiolydd i ymateb i’r sylwadau

           Rhoddwyd cyfle i aelodau’r Is-bwyllgor ofyn cwestiynau i ddeilydd y drwydded.

           Rhoddwyd cyfle i aelodau’r Is-bwyllgor ofyn cwestiynau i’r ymgynghorai.

 

b)         Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn ag Aelod Lleol arall ward Marchog, nodwyd bod y Cynghorydd Nigel Pickavance (Aelod Marchog 2) wedi cael cyfle i gyflwyno sylwadau ond nid oedd rhai wedi eu derbyn.

 

c)         Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn ag oriau agor siopau eraill yn yr ardal cadarnhaodd y Rheolwr Trwyddedu, bod ‘The Stores’ yn agor 8 - 11pm (Llun i Sadwrn) a 10 - 11pm (dydd Sul) a bod y ‘Corner Shop’ yn agor 8am - 8pm (Llun i Sul).

 

ch)       Wrth ymhelaethu ar y cais nododd yr ymgeisydd ei fod yn hapus gyda’r hyn oedd wedi ei  gyflwyno ac ategodd y sylwadau canlynol o’i fwriad:

           

           Bod y siop yn adeilad o’r newyddbuddsoddiad da i’r ardal

           Bod y siop yn cynnig gwasanaeth i drigolion lleol

           Bod caffi yn rhan o’r eiddo

           Bod ganddo berthynas dda gyda’r heddlu

           Bod bwriad gosod system Teledu Cylch Cyfyng (TCC) o’r radd flaenaf. 64 camera wedi eu hargymell - hyn yn cael ei gymeradwyo gan yr heddlu. Ategwyd y byddai cofnod yn cael ei gadw am 30 diwrnod a byddai staff yn derbyn hyfforddiant priodol (pecyn hyfforddiant yn cael ei ddarparu gan Cyngor Gwynedd)

           Bod swyddi yn cael eu creu yn lleol

           Dim yn rhagweld unrhyw broblemau - y bwriad yw rhedeg busnes proffesiynol

           Eisoes yn rhedeg busnesau llwyddiannus tebyg

 

d)         Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn â’r caffi, nodwyd nad oedd oriau agor y caffi wedi eu cadarnhau ac ni fydd alcohol yn cael i werthu yn y caffi. Ategwyd bod y caffi yn rhan o’r siop - un fynedfa sydd i’r eiddo. Y bwriad yw creu ardal o fewn y siop i oddeutu 35 o bobl fwynhau prydau ysgafn.

 

dd)       Cydnabuwyd sylwadau Cyngor Dinas Bangor

 

e)         Yn manteisio ar ei hawl i siarad, nododd yr Aelod Lleol (Marchog 1), Y Cynghorydd Chris O’Neal nad oedd ganddo unrhyw amheuaeth am safon y siop. Ei unig wrthwynebiad a phryder oedd bod alcohol a’r werth am 6:00 y bore.

 

Sylwadau a nodwyd:

 

           Bod yr eiddo wedi ei leoli yng nghalon y gymuned

           Bysys ysgol yn codi nifer o blant ysgol tu allan i’r eiddo felly prysurdeb amlwg yma yn y bore

           Dim eisiau gweld plant yn cymysgu gyda phobl yn prynu alcohol yn gynnar yn y dydd

           Pryder ynglŷn â gwerthu alcohol i blant dan ddeunaw

           Nid yw TCC yn atal anrhefn

           Ystâd fwyaf yn y Sir gyda phroblemau hanesyddol - dim eisiau annog problemau o’r newydd

           Cais i ystyried gwerthu alcohol o 9:00 y bore

           Nid oedd ganddo unrhyw wrthwynebiad i oriau gwerthu alcohol hwyr y nos

 

Gofynodd y Cynghorydd O’Neal am eglurhad oddi wrth y Cyfreithiwr am gyfreithlondeb y cais yn sgil y ffaith bod Adrannau I ac L ar y ffurflen gais heb eu cwblhau. Nododd y Cyfreithiwr nad oedd yr ymgeisydd wedi dynodi eu bod yn gwneud cais am drwydded i ddarparu lluniaeth hwyr nos felly mae’n ymddangos na fyddai angen iddynt gwblhau Adran I. Mae Adran L ar gyfer gwybodaeth yn unig ac yn dechnegol nid oedd yn hanfodol ar gyfer y cais gan nad yw oriau agor i’r cyhoedd yn weithgaredd trwyddedadwy o dan y Ddeddf Trwyddedu 2003.

 

f)          Wrth grynhoi ei gais, nododd yr ymgeisydd bod yr adeilad yn wag ac roedd yn buddsoddi arian i’r gymuned a’r ardal leol. Nododd bod ganddo siop debyg ym Modedern ac nad oedd unrhyw broblemau yno gyda’r oriau agor.

 

ff)        Ategodd y Rheolwr Trwyddedu bod cynllun yr adeilad newydd i bwrpas siop. Atodwyd cynllun bras o’r siop gyda’r cais a thrafodwyd y cais yn seiliedig ar y cynllun hwn. Petai unrhyw newid i gynllun y siop, eglurwyd bod rhaid cyflwyno cais am amrywiad trwydded. Cadarnhawyd bod yr Is Bwyllgor i wneud penderfyniad ar y cynllun a oedd yn rhan o’r cais.

 

g)         Gwnaed cais i’r ymgeisydd sicrhau bod digon o finiau tu allan i’r siop i atal sbwriel

 

h)         Gadawodd y partïon perthnasol y cyfarfod.

 

i)          Trafodwyd y cais gan aelodau’r Is Bwyllgor gan ystyried yr holl dystiolaeth a gyflwynwyd gan roddi sylw penodol i egwyddorion Deddf Trwyddedu 2003 sef

           

           Trosedd ac Anhrefn

           Diogelwch y Cyhoedd

           Rhwystro Niwsans Cyhoeddus

           Amddiffyn Plant rhag Niwed

 

Roedd yr Is-Bwyllgor yn fodlon caniatáu'r drwydded yn unol â’r cais. Nodwyd nad oedd tystiolaeth ddigonol y byddai‘r  drwydded yn  cyfrannu at egwyddorion Deddf Trwyddedu 2003 ac na ellid ystyried sefyllfaoedd rhagdybiaethol. Gofynnwyd i’r ymgeisydd gydweithio gyda Heddlu Gogledd Cymru a’r Gwasanaeth Tân ac Achub, a phetai problemau yn codi i’r dyfodol bydd posib gwneud cais am adolygiad.

 

PENDERFYNWYD caniatáu y cais am drwydded eiddo. Rhoddir y drwydded yn unol â’r cais ond yn ddarostyngedig i’r canlynol:

 

1.         Un unol â chais yr ymgeisydd yn y gwrandawiad, gosodir awr terfynol o 01:00 Llun-Gwener ar gyfer darparu alcohol oddi ar yr eiddo

2.         Ymgorfforir y canlynol fel amodau mewn perthynas â Theledu Cylch Cyfyng:

 

a.         Cedwir cofnodion Teledu Cylch Cyfyng am 30 diwrnod

b.         Bydd staff yn derbyn hyfforddiant priodol ar y sustem Teledu Cylch Cyfyng, yn unol a’r pecyn hyfforddiant a ddarperir gan Gyngor Gwynedd

 

 

Adroddodd y Cyfreithiwr y byddai’r penderfyniad yn cael ei gadarnhau yn ffurfiol drwy  lythyr i bawb oedd yn bresennol. Hysbysebwyd hefyd  o’u hawl i apelio i’r dyfarniad o fewn 21 diwrnod i dderbyn y llythyr hwnnw.

 

 

Dechreuodd y cyfarfod am 2:30pm a daeth i ben am 3:30pm

 

 

Dogfennau ategol: