Aelod Cabinet – Y
Cynghorydd Cemlyn Williams
Ystyried adroddiad ar yr uchod.
Cofnod:
Cyflwynwyd adroddiad yr Aelod Cabinet
Addysg, ar gais y pwyllgor, yn sgil cyhoeddi adroddiad gan Estyn ym mis Rhagfyr
2021, “Dydyn ni ddim yn dweud wrth ein
hathrawon”, oedd yn ymateb i wybodaeth a ddaeth i’r amlwg yn 2021 pan
welwyd gwybodaeth am aflonyddu rhywiol ar ddisgyblion ar y wefan “Everybody’s Invited.” Roedd y Pennaeth Addysg wedi gobeithio rhannu
cyflwyniad ar sgrin hefyd i amlinellu prif agweddau adroddiad Estyn, ond
oherwydd problemau technegol, bu’n rhaid cyflwyno’r wybodaeth ar lafar yn unig,
a chytunwyd i anfon y sleidiau at yr aelodau yn dilyn y cyfarfod.
Rhoddwyd cyfle i’r aelodau ofyn cwestiynau a
chynnig sylwadau.
Cyflwynwyd y sylwadau a ganlyn gan aelodau
unigol:-
·
Nodwyd
bod adroddiad Estyn yn nodi bod staff ysgolion yn gweithio’n galed i ymateb i’r
materion hyn, ond dywed staff hefyd eu bod angen llawer mwy o adnoddau,
hyfforddiant, cymorth ac amser.
·
Pwysleisiwyd
ei bod yn hollbwysig bod y mater hwn yn flaenoriaeth i ysgolion ar draws
Gwynedd, a gan y Llywodraeth hefyd, a bod rhaid i addysgu am hyn fod yn rhan
o’r cwricwlwm hefyd.
·
Croesawyd
y ffaith bod addysg rhyw ac addysg perthynas yn rhywbeth sy’n cael sylw
bellach, a phwysleisiwyd ei bod yn bwysig bod cefnogaeth ar gael i’r staff ar
sut i ddelio â materion o’r fath.
·
Nodwyd
bod angen bod yn greadigol o ran sut orau i ddarparu’r adnoddau, o ystyried bod
amser staff ac athrawon yn brin. Roedd
modd gwneud hyfforddiant ar lein, ac efallai y dylid cael pencampwr ar draws
ysgolion sy’n datblygu rhywfaint o arbenigedd, ac yn gallu cynghori yn ôl yr
angen.
·
Awgrymwyd
bod disgwyliad i athro / ysgol fod yn bopeth i bawb bellach, yn hytrach nag yn
darparu addysg yn unig.
·
Nodwyd
ei bod yn glir o’r adroddiad bod yr Adran yn cydnabod maint a difrifoldeb y
broblem ac yn bwriadu gweithredu.
·
Gan
fod y cwricwlwm newydd yn cael ei gyflwyno yn raddol, gan ddechrau o Flwyddyn 7
i fyny, bod rhaid gweithredu ar unwaith drwy’r ysgol gyfan, yn hytrach na
disgwyl i newidiadau’r cwricwlwm ddwyn ffrwyth.
·
Gofynnwyd
i’r Aelod Cabinet drosglwyddo neges i athrawon a holl staff yr ysgolion yn mynegi
gwerthfawrogiad y pwyllgor hwn o’u gwaith arwrol yn sgil, nid yn unig y pandemig, ond hefyd y golled adnoddau dros y degawd
diwethaf.
Mewn ymateb i’r sylwadau, ac i gwestiynau
gan aelodau, nodwyd:-
·
Bod
yr ehangu ar y gwaith lles sy’n digwydd ar hyn o bryd yr union beth sydd angen
digwydd er mwyn hyrwyddo perthnasedd iach, a bod y Cynllun Ysgolion Iach yn
gynllun ardderchog i fod yn gwneud hynny.
·
Bod
proffil arolygiadau ysgolion yn dangos bod ‘lles’ wedi bod yn dda neu’n
rhagorol yn mhob arolwg ar draws y sector ysgolion. Gan hynny, credid bod ein proffil yng
Ngwynedd o ran rhoi bri a’r pwyslais priodol ar les, gan gynnwys y maes yma, yn
briodol.
·
Y
byddai angen adnoddau ar gyfer rhyddhau staff i gyflawni’r hyfforddiant. Roedd hyn oll ar waith ac yn cael ei gymryd o
ddifri’ gan staff yr ysgolion.
Cydnabyddid bod unrhyw ofyn newydd fel hyn yn gallu bod yn anodd, ond
roedd y Llywodraeth wedi darparu nifer o grantiau i’r ysgolion ym maes lles yn
sgil y pandemig, a gellid blaenoriaethu’r grantiau
hynny i ariannu hyn. Diau y byddai angen
rhagor na hynny o adnoddau, a byddai’r Adran a’r Cyngor yn mynd drwy’r
gweithdrefnau priodol er mwyn sicrhau hynny, ond blaenoriaeth yr Adran a’r
ysgolion ar hyn o bryd oedd sicrhau bod yr hyfforddiant priodol yn cael ei
ddarparu, ac efallai bod y gost yn eilradd i hynny.
·
Bod
athrawon / staff ysgolion yn bopeth i bawb yn gynyddol, ac wedi ymdopi’n
rhagorol â hynny, ac roedd y Pennaeth yn llwyr hyderus y byddai’r staff yn codi
i’r her ar y cyd â’r Adran, ac yn gweithredu’n briodol i sicrhau nad oes yr un
unigolyn yn ysgolion y sir yn teimlo eu bod yn agored i’r math yma o aflonyddu.
·
Bod
perthnasau iach a byw’n iach yn rhan greiddiol o’r cwricwlwm newydd (meysydd
dysgu a phrofiad) a byddai gan GwE rôl o ran cyflwyno hynny o fewn y
cwricwlwm. O ran yr adnoddau, rôl yr
awdurdod yn bennaf oedd hynny, gyda GwE yn darparu cefnogaeth drwy ddatblygiad
cwricwlwm i fod yn hyfforddi athrawon a sicrhau deunyddiau priodol ar eu cyfer.
·
Bod
gwaith i’w wneud ar y cychwyn i sicrhau bod y maes yma’n cael y flaenoriaeth
mae’n haeddu, ond maes o law, dylai ddod i mewn i ddarpariaeth arferol
ysgolion, fel ei fod yn greiddiol yn y cwricwlwm.
·
O
ran aflonyddu hiliol, y cytunid bod aflonyddu o unrhyw fath yn aflonyddu, a’r
neges sydd angen ei chyfleu yw ‘addysg’, ‘parch’, ‘caredigrwydd’ a
‘goddefgarwch’. Bwriedid creu pecyn
cynhwysol o gwmpas hynny er mwyn sicrhau nad yw aflonyddu’n digwydd, a bod
disgyblion yn deall sut mae perthnasu gyda’i gilydd mewn perthynas fel
ffrindiau, ayb, ac yn gwneud hynny’n briodol.
·
Bod
cwnsela yn yr ysgolion yn gallu bod yn faes anodd. Roedd yna brinder adnoddau (er bod y
Llywodraeth wedi dyrannu arian ychwanegol ar gyfer hyn) ac roedd yr angen am y
gwasanaeth ar gynnydd. Roedd hefyd yn
faes anodd o ran recriwtio, yn enwedig mewn sir fel Gwynedd lle mae angen y
gwasanaeth drwy gyfrwng y Gymraeg. Roedd
rhai o’r ysgolion uwchradd wedi bod yn cysylltu’n ddiweddar i ofyn am fwy o
adnodd, a cheisid blaenoriaethu hynny, lle’n bosib’. Nodwyd ymhellach y cafwyd cyswllt yn ddiweddar
iawn gan gwmni allanol sy’n gallu darparu’n ddwyieithog, a bod bwriad i edrych
yn yr hirdymor ar ddefnydd o gynlluniau prentisiaethau, profiad gwaith, ayb,
mewn meysydd lle mae prinder arbenigeddau.
·
Bod
sesiynau addysg bersonol a chymdeithasol yn yr ysgolion yn rhoi ffocws amlwg ar
y maes yma. Sefydlwyd gwaelodlin eithaf
da o safbwynt dealltwriaeth y staff o’r broblem, ond bod angen cryfhau, sicrhau
adnoddau a hyfforddiant priodol a sicrhau cysondeb ar draws yr ysgolion.
PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad a chroesawu’r gwaith, gyda
chais am ddiweddariad fel mae amser yn mynd heibio.
Dogfennau ategol: