I gyflwyno Adroddiad Arolwg Ymgynghori Asesiad Anghenion Poblogaeth
Gogledd Cymru.
Penderfyniad:
Derbyn yr adroddiad, gan nodi’r sylwadau a gyflwynwyd yn ystod y cyfarfod.
Cofnod:
Cyflwynwyd
yr adroddiad Asesiad o Anghenion Poblogaeth Gogledd Cymru gan nodi fod yr
asesiad anghenion yn cael ei lunio yn ofynnol â Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol
a Llesiant (Cymru) 2014.
Adroddodd y Rheolwr Tîm Prosiectau Oedolion, Iechyd a Llesiant fod cais
wedi ei wneud i ohirio’r gwaith hwn; credwyd nad oedd yn amserol i’w gwblhau yn
ystod cyfnod prysur y pandemig ond roedd y
Llywodraeth yn awyddus i’r gwaith fynd yn ei flaen. Ychwanegwyd ei bod wedi bod
yn heriol cwblhau’r gwaith o fewn yr amserlen. Nodwyd fod yr Uned wedi ymrwymo
i wneud gwaith mwy manwl ar anghenion pobl Gwynedd gan fod yr adroddiad hwn yn
un cyffredinol ar draws Gogledd Cymru; credwyd y bydd llawer o werth i’r asesiad
lleol.
Ychwanegwyd y bydd yr adroddiad llawn yn cael ei gyflwyno i’r Cabinet ar
y 15fed o Chwefror ac yna i gyfarfod y Cyngor Llawn ar y 3ydd
o Fawrth yn dilyn derbyn cymeradwyaeth y Cabinet. Yma ceir sylfaen yr adroddiad
sy’n dangos yr hyn mae’r cyhoedd wedi ei nodi am eu hanghenion ynghyd a barn
swyddogion proffesiynol a mudiadau trydydd sector. Mae’r asesiad yn seiliedig
ar nifer o ymarferion ymgynghori ar draws y Gogledd dros y tair blynedd
ddiwethaf ac o holiadur oedd yn agored i unigolion a phartneriaid ei gwblhau.
Dymuna’r Rheolwr Tîm Prosiectau Oedolion dderbyn barn y Pwyllgor ar ba
elfennau i ganolbwyntio arnynt yn yr asesiad Gwynedd; disgwylir y bydd yr
Adroddiad Asesiad Anghenion Poblogaeth Gwynedd yn barod ym mis Medi 2022. Ychwanegwyd fod croeso i’r Aelodau gyflwyno unrhyw adborth
ar ôl y cyfarfod yn ogystal. Rhoddwyd cyfle i’r aelodau ofyn cwestiynau
a chynnig sylwadau.
Yn ystod y drafodaeth, cyflwynwyd y sylwadau
a ganlyn gan aelodau:-
·
Diolchwyd am adroddiad cynhwysfawr a gonest.
·
Gofynnwyd sut y bwriedir gweithio
efo’r drydedd sector.
·
Mynegwyd fod llawer o
ganfyddiadau negyddol yn yr asesiad sy’n dangos anfodlonrwydd; cwestiynwyd os
yw'n rhoi darlun realistig.
·
Gwnaethpwyd sylw fod yr asesiad yn cyfeirio at beth
sydd angen ei wella ond bod dim cyfeiriad at yr amserlen na phryd fydd y
gwelliannau yn cael eu cyflawni.
·
Holwyd am fwy o fanylion ynghylch
iechyd meddwl yn enwedig i blant a gofynnwyd pa mor hir ydi’r rhestrau aros.
Gofynnwyd a all y Cyngor wneud mwy i helpu’r sefyllfa iechyd meddwl drwy
bamffledi neu drwy hyrwyddo ble mae’r cymorth.
·
Gofynnwyd i ba raddau mae
cydweithio yn digwydd rhwng Awdurdodau Lleol, y sector Gofal a’r Bwrdd Iechyd.
Ychwanegwyd fod yr adroddiad yn cyfeirio at ddiffyg cydweithio a chydlynu,
cwestiynwyd faint o sylw mae hyn yn ei gael gan yr Awdurdod.
·
Gwnaethpwyd sylw fod y pandemig
wedi tanlinellu’r diffygion yn y berthynas rhwng y Bwrdd Iechyd a Gofal. Holwyd
sut y gall yr asesiad yma gael ei ddefnyddio i gynyddu’r pwysau gwleidyddol ar
y Llywodraeth i gyfarch effaith diffyg adnoddau Llywodraeth Leol ar y Bwrdd
Iechyd.
·
Cyfeiriwyd at Bwyllgor Henoed Gwynedd ddaeth i ben
dros gyfnod y pandemig. Teimlwyd fod y cyswllt efo’r
henoed a’r mudiadau cefnogol wedi ei golli. Credwyd fod ymgynghori yn holl
bwysig i wybod beth yw pryderon unigolion.
Mewn ymateb i’r
sylwadau uchod a chwestiynau gan aelodau, nodwyd:-
·
Bod angen cydweithio’n well efo’r drydedd sector;
rhaid adnabod beth yw’r ffordd orau i gyflawni hynny drwy drafod efo’r
mudiadau. Mynegwyd bod angen cytuno ar ffyrdd gwahanol i ddarparu gwasanaethau
sydd yn fwy penodol i gyfarch anghenion a chefnogi pobl.
·
Bod angen gwirio materion yn lleol o fewn y Sir er
mwyn cael y darlun llawn a perthnasol i Wynedd. Gall hyn ddangos ymatebion
gwahanol. Pwysleisiwyd fod angen edrych ar y materion craidd sy’n gallu golygu
fod angen trawsnewid gwasanaeth; ychwanegwyd fod hyn eisoes yn digwydd efo rhai
elfennau o wasanaethau o fewn yr Adran.
·
Y bydd yr asesiad hwn yn bwydo fewn i’r Cynllun
Ardal ar gyfer Gogledd Cymru wedi iddo gael ei gymeradwyo gan Gynghorau’r
Gogledd. Yna, bydd gwaith yn cychwyn ynghylch sut i gyfarch yr anghenion a’r
materion a godwyd.
·
Bod cydweithio yn digwydd yn y maes iechyd meddwl;
bydd cyflwyniad yn cael ei ddarparu yng nghyfarfod nesaf y pwyllgor hwn a gynhelir
ar yr 17eg o Fawrth i roi mwy o fanylion am y datblygiadau. Yn
ogystal nodwyd fod gwaith wedi cychwyn i edrych mewn manylder ar rai o’r
gwasanaethau sy’n cael eu darparu, bydd ymrwymiad i’w hadolygu. Yn y cyfamser
gwerthfawrogir awgrymiadau Aelodau ar sut i wella’r sefyllfa yn y tymor byr.
Ychwanegwyd fod angen edrych yn fanwl ar y maes iechyd meddwl a’i ail siapio i
gwrdd ag anghenion y dyfodol.
·
Bod cydweithio da
iawn yn digwydd efo’r Bwrdd Iechyd yn gyffredinol a bod enghreifftiau da i’w
gweld o’r cydweithio hyn; nodwyd fod y datblygiad Penrhos yn un esiampl. Nodwyd
fod newid systemau a diwylliant yn anodd o fewn sefydliad fel y Cyngor ond fod
ceisio cydlynu newidiadau ar y cyd efo’r Bwrdd Iechyd yn heriol iawn. Credwyd
ei bod yn mynd i gymryd amser i weithredu newidiadau yn enwedig pan mae
prosesau a threfniadau wedi bodoli ers cryn dipyn o amser. Adroddwyd fod pob
ymdrech yn cael ei wneud ac edrychir ar gynlluniau sy’n gwneud gwahaniaeth, cydnabyddwyd fod gwaith i’w wneud yma. Ychwanegwyd drwy greu’r
asesiad anghenion ar y cyd mae’n rhoi cyfle i adnabod problemau ar y cyd a
chyfle i gydweithio ar yr atebion.
·
Bod angen targedu a chanolbwyntio
ar feysydd penodol. Nodwyd fod y Pwyllgor heddiw wedi crybwyll materion sy’n
broblemus fel rhestrau aros maith am asesiadau iechyd meddwl i blant a’r
broblem o ryddhau gwlâu yn yr Ysbytai. Bydd angen gwneud gwaith mwy manwl ar y
materion hyn ac yna adrodd yn ôl i’r Llywodraeth drwy’r Bwrdd Partneriaeth
Rhanbarthol er mwyn dangos beth yw’r sefyllfa yng Ngwynedd.
·
Ei bod yn bwysig
darganfod problemau bychain cyn iddynt gynyddu. Golyga hyn fod derbyn
gwybodaeth yn holl bwysig; elfen arall sydd yr un mor bwysig yw pa ddefnydd
sy’n cael ei wneud o wybodaeth sydd eisoes yn bodoli. Awgrymwyd fod Aelodau efo
mynediad i wybodaeth ddefnyddiol a bod angen rhannu’r wybodaeth yma yn ogystal
â gwella’r cyswllt efo darparwyr gwasanaeth. Credwyd nad oedd angen gwneud
llawer mwy o ymarferion ymgysylltu ond yn hytrach tynnu fewn a defnyddio’r
wybodaeth a’r dystiolaeth sydd eisoes yn bodoli. Nodwyd y byddai’r tîm adfywio
yn siarad efo Cynghorau Cymuned ac yn cymryd cyfleoedd i fynychu cyfarfodydd er
mwyn derbyn mewnbwn hollbwysig.
Mewn
ymateb i sylwi ynghylch egwyddorion ymgynghori a chydraddoldeb, adroddwyd y bydd
ystyriaeth yn cael ei roi i’r dyletswydd economaidd gymdeithasol wrth gwblhau’r
gwaith manwl ar Wynedd. Adroddwyd y bydd mwy o sylw yn cael ei roi yn adroddiad
Gwynedd i’r elfennau hyn a cydnabyddwyd pwysigrwydd
cyfarch anghenion y grŵp yma.
Mewn ymateb
i gwestiwn os oedd cofnod o ddiolchiadau neu werthfawrogiad gan y cyhoedd pan
maent yn hapus efo’r gwasanaeth cafodd ei dderbyn, eglurwyd bod y wybodaeth yma
yn bodoli. Ychwanegwyd fod angen edrych ar sut i hysbysebu llwyddiannau hyn.
Ychwanegwyd
fod y sampl o Wynedd yn un weddol fach; 50 o’r atebion ddaeth o Wynedd. Roedd
hyn yn gyfystyr a 14% o gysylltiad yr asesiad. Ategwyd mai darn o waith
cyffredinol oedd hwn felly bydd angen ystyried pa ddefnydd fydd yn cael ei
wneud o’r canfyddiadau yn lleol, fydd yn ddibynnol ar adnabyddiaeth yr ardal. I
gloi nodwyd fod asesu ar lefel unigol yn hanfodol gan gysidro os yw’r hyn sy’n
bwysig i’r unigolyn yn cael ei gyflawni, ac os ddim, pam.
PENDERFYNWYD:
Derbyn yr adroddiad, gan nodi’r
sylwadau a gyflwynwyd yn ystod y cyfarfod.
Dogfennau ategol: