Cyflwyno gwybodaeth am gyfraniad yr Adran Cefnogaeth
Gorfforaethol i weithrediad y Polisi Iaith a Chynllun Hybu’r Gymraeg yng
Ngwynedd
Penderfyniad:
Derbyn yr adroddiad
gan nodi’r sylwadau a dderbyniwyd.
Cofnod:
Cyflwynwyd yr adroddiad gan y Cynghorydd Nia
Jeffreys, Aelod Cabinet dros Cefnogaeth Gorfforaethol. Nodwyd fod y Gymraeg yn
un o brif flaenoriaethau’r Adran a tynnwyd sylw at rai o brif brosiectau’r
Adran (Prosiect Prentisiaethau, Prosiect Enwau Llefydd Cynhenid, Hysbysebu
Swyddi a Datblygiad Hunaniaith) ynghyd a’r gwaith
cefndirol sydd wedi ei wneud gan y Tîm Caffael. Eglurwyd fod gwaith blaenllaw
wedi ei wneud yn y maes Cydraddoldeb i ddatblygu templed asesu effaith
integredig sydd yn gosod ystyriaethau ieithyddol o fewn asesiadau effaith
Cydraddoldeb, a bod y datblygiad yma wedi cael ei fabwysiadu gan weddill y 5
awdurdod yng Ngogledd Cymru. Llongyfarchwyd y gwaith yma. Eglurwyd fod yr adran
yn blaenoriaethu recriwtio mwy o staff dwyieithog, yn enwedig yn yr adran
gyfreithiol.
Ategodd
Pennaeth Cefnogaeth Gorfforaethol fod holl staff yr Adran yn gweithio drwy
gyfrwng y Gymraeg. Nododd bod yr Uned Iaith yn rhan o’r Adran ac yn dilyn
penderfyniad y Cabinet, bod bwriad penodi Pen Swyddog Iaith i arwain Hunaniaith a’i ddatblygu i fod yn endid annibynnol tu hwnt
i’r Cyngor i’r dyfodol.
Eglurwyd bod y
Cynllun Cadw’r Budd yn Lleol wedi ei ddatblygu i gynnwys ‘gwerth cymdeithasol’
fel rhan o’r ystyriaethau i gontractau busnesau. O ganlyniad, nodwyd fod
datblygu sgiliau Cymraeg yn cael ei gynnwys mewn contractau rhwng y Cyngor a
chwmnïau allanol.
Ym maes Hysbysebu Swyddi, nodwyd fod gwaith
wedi ei wneud ar y cyd gyda’r Comisiynydd Iaith i allu derbyn ffurflenni DBS yn
y Gymraeg (yn hytrach nag yn uniaith Saesneg) ynghyd a gwaith cyffelyb i annog
derbyn tystysgrifau uniaith Gymraeg yng Nghymru yn ogystal â derbyn
tystysgrifau dwyieithog os yn cofrestru yn Lloegr.
Pwysleisiwyd
fod yr holl brentisiaethau sy’n ymuno a’r Cyngor yn cytuno i fuddsoddi yn y
Gymraeg.
Mynegwyd
gwerthfawrogiad i’r gwaith cyfieithu rhithiol sy’n cael ei wneud dros Zoom. Eglurwyd ei bod yn ofynnol i’r Cyngor ddefnyddio Zoom i gael y gwasanaeth cyfieithu, er mai TEAMS ydi’r
adnodd ffurfiol sy’n cael ei ddefnyddio gan y Cyngor i gyfathrebu yn rhithiol
yn ddyddiol. Mae’r Uned Gyfieithu bellach wedi llwyddo i addasu a hyfforddi i
ddarparu’r gwasanaeth ar-lein ar ZOOM.
Nodwyd fod y
Cyngor wedi bod yn cyd-weithio gyda’r corff IOSH i ddefnyddio eu hadnoddau mewn
sesiynau hyfforddi staff, yn benodol o fewn y maes Iechyd a Diogelwch. Dywedwyd mai yn Saesneg yr oedd yr adnoddau i gyd yn cael eu derbyn yn
hanesyddol, ond bod y Cyngor wedi pwyso i gael caniatâd i gyfieithu’r adnoddau
er mwyn sicrhau bod ein staff yn gallu cwblhau’r gwaith yn Gymraeg.
Atgoffwyd yr
aelodau fod yr Adran yn parhau i rannu Tip Cymraeg y mis i’r staff gael atgoffau
eu hunain o reolau gramadegol amrywiol yn y Gymraeg a bod caniatáu gwasanaethau
drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg yn un o brif flaenoriaethau ‘Cynllunio’r
gweithlu’
Tynnwyd sylw
at hysbyseb gan Brifysgol Bangor am fyfyriwr i gyflawni ymchwil PhD mewn
defnydd y cyhoedd o wasanaethau Cymraeg mewn sefydliad cyhoeddus. Eglurwyd y
bydd Cyngor Gwynedd yn cydweithio ar y prosiect ac y bydd y dystiolaeth ymchwil
yn cael ei gasglu drwy’r Cyngor.
Sylwadau a
godwyd o’r drafodaeth ddilynol:
PENDERFYNWYD
Derbyn yr adroddiad gan nodi’r sylwadau a
dderbyniwyd.
Dogfennau ategol: