Cyflwyno adroddiad yr Aelod
Cabinet Cyllid.
Penderfyniad:
1. Cymeradwyo’r
argymhellion a gyflwynwyd gan y Cabinet, sef:-
(a) Sefydlu cyllideb o £295,232,820 ar gyfer
2022/23 i’w ariannu drwy Grant Llywodraeth o £213,210,400 a £82,022,420 o incwm
o’r Dreth Cyngor gyda chynnydd o 2.95%.
(b) Sefydlu rhaglen gyfalaf o £59,074,980 yn
2022/23 i’w ariannu o’r ffynonellau a nodir yn Atodiad 4 i’r adroddiad.
2. Nodi fod yr
Aelod Cabinet dros Gyllid, drwy daflen
benderfyniad dyddiedig 9 Tachwedd 2021, wedi cymeradwyo cyfrifiad y symiau a ganlyn ar gyfer y flwyddyn 2022/23 yn unol â’r rheoliadau
a luniwyd dan Adran 33 (5)
o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992 (“Y Ddeddf”):-
(a) 53,715.10 yw’r swm a gyfrifwyd fel Sylfaen drethiannol Gwynedd
yn unol â’r Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Cyfrifo Sylfaen y Dreth Cyngor) (Cymru) 1995 fel y’i diwygiwyd fel
ei sylfaen Dreth Cyngor am y flwyddyn.
(b) Rhan o ardal y Cyngor – Sylfaen drethiannol
Cymuned –
Aberdaron |
571.25 |
|
Llanddeiniolen |
1,840.10 |
Aberdyfi |
1,095.65 |
Llandderfel |
501.76 |
|
Abergwyngregyn |
124.71 |
Llanegryn |
164.55 |
|
Abermaw (Barmouth) |
1,210.43 |
Llanelltyd |
308.89 |
|
Arthog |
654.41 |
Llanengan |
2,289.52 |
|
Y Bala |
781.39 |
Llanfair |
335.58 |
|
Bangor |
3,974.34 |
Llanfihangel y Pennant |
232.58 |
|
Beddgelert |
323.40 |
Llanfrothen |
233.04 |
|
Betws Garmon |
138.27 |
Llangelynnin |
433.07 |
|
Bethesda |
1,701.20 |
Llangywer |
145.28 |
|
Bontnewydd |
436.43 |
Llanllechid |
348.06 |
|
Botwnnog |
460.05 |
Llanllyfni |
1,425.75 |
|
Brithdir a Llanfachreth |
457.62 |
Llannor |
906.33 |
|
Bryncrug |
340.19 |
Llanrug |
1,137.62 |
|
Buan |
227.96 |
Llanuwchllyn |
316.77 |
|
Caernarfon |
3,640.35 |
Llanwnda |
807.58 |
|
Clynnog Fawr |
470.35 |
Llanycil |
205.27 |
|
Corris |
305.84 |
Llanystumdwy |
885.48 |
|
Criccieth |
972.85 |
Maentwrog |
303.24 |
|
Dolbenmaen |
624.58 |
Mawddwy |
362.81 |
|
Dolgellau |
1,275.63 |
Nefyn |
1,535.07 |
|
Dyffryn Ardudwy |
817.14 |
Pennal |
231.82 |
|
Y Felinheli |
1,165.68 |
Penrhyndeudraeth |
792.98 |
|
Ffestiniog |
1,786.14 |
Pentir |
1,272.62 |
|
Y Ganllwyd |
88.69 |
Pistyll |
264.01 |
|
Harlech |
821.55 |
Porthmadog |
2,160.67 |
|
Llanaelhaearn |
466.26 |
Pwllheli |
1,779.02 |
|
Llanbedr |
351.64 |
Talsarnau |
343.74 |
|
Llanbedrog |
780.02 |
Trawsfynydd |
506.49 |
|
Llanberis |
788.78 |
Tudweiliog |
478.76 |
|
Llandwrog |
1,051.46 |
Tywyn |
1,691.37 |
|
Llandygai |
1,001.64 |
|
Waunfawr |
569.37 |
sef y symiau a gyfrifwyd fel symiau Sylfaen y Dreth Gyngor ar gyfer y flwyddyn ar gyfer tai annedd yn y rhannau hynny o’i
ardal lle bo un eitem arbennig
neu fwy’n berthnasol.
3. Bod y symiau a ganlyn yn cael eu cyfrifo yn awr
gan y Cyngor ar gyfer y flwyddyn 2022/23 yn unol ag Adrannau 32 i 36 o’r Ddeddf:-
(a) |
£443,927,600 |
Sef cyfanswm y symiau y mae’r Cyngor yn eu hamcangyfrif ar gyfer yr eitemau
a nodwyd yn Adran
32(2)(a) i (e) o’r Ddeddf (gwariant gros). |
(b) |
£146,536,120 |
Sef cyfanswm y symiau y mae’r Cyngor yn eu hamcangyfrif ar gyfer yr eitemau
a nodwyd yn Adran
32(3)(a) i (c) o’r Ddeddf (incwm). |
(c) |
£297,391,480 |
Sef y swm sy’n
cyfateb i’r gwahaniaeth rhwng cyfanswm 3(a) uchod a chyfanswm 3(b) uchod, a gyfrifwyd gan y Cyngor, yn unol ag Adran 32(4) o’r Ddeddf, fel
ei ofynion cyllideb ar gyfer y flwyddyn (cyllideb net). |
(ch) |
£212,714,737 |
Sef cyfanswm y symiau y mae’r Cyngor yn amcangyfrif y byddant yn daladwy yn ystod y flwyddyn i’w gronfa ar gyfer cyfan o’r
Dreth Annomestig Genedlaethol a Grant Cynnal Refeniw, llai amcangyfrif o’r gost i’r Cyngor o ryddhad dewisol o’r dreth annomestig
a ganiateir. |
(d) |
£1,576.40 |
Sef y swm yn 3(c) uchod llai’r swm yn 3(ch) uchod, y cyfan wedi ei
rannu gan y swm a nodir yn 2(a) uchod, a gyfrifwyd gan y Cyngor yn unol ag Adran 33(1) o’r Ddeddf, sef swm
sylfaenol ei Dreth Cyngor am y flwyddyn (treth Cyngor Gwynedd a threth cyfartalog cynghorau cymuned). |
(dd) |
£2,654,323.06 |
Sef cyfanswm yr holl
eitemau arbennig y cyfeirir atynt yn Adran 34(1) o’r Ddeddf (praeseptau’r cynghorau cymuned). |
(e) |
£1,526.99 |
Sef y swm yn 3(d) uchod llai’r canlyniad a geir wrth rannu’r
swm yn 3(dd) uchod â’r swm yn 2(a) uchod, a gyfrifwyd gan y Cyngor, yn unol ag Adran 34(2) fel swm sylfaenol ei Dreth Cyngor am y flwyddyn ar gyfer tai annedd yn y rhannau hynny o’i ardal lle
nad oes unrhyw eitem arbennig yn berthnasol (Band D
ar gyfer treth Cyngor
Gwynedd yn unig). |
(f) Ar gyfer rhannau o ardal y Cyngor –
Aberdaron |
1,553.25 |
|
Llanddeiniolen |
1,544.27 |
Aberdyfi |
1,562.10 |
Llandderfel |
1,544.93 |
|
Abergwyngregyn |
1,559.06 |
Llanegryn |
1,563.45 |
|
Abermaw (Barmouth) |
1,579.04 |
Llanelltyd |
1,551.27 |
|
Arthog |
1,546.86 |
Llanengan |
1,551.01 |
|
Y Bala |
1,561.54 |
Llanfair |
1,574.67 |
|
Bangor |
1,627.98 |
Llanfihangel y Pennant |
1,576.54 |
|
Beddgelert |
1,579.56 |
Llanfrothen |
1,566.90 |
|
Betws Garmon |
1,545.79 |
Llangelynnin |
1,550.70 |
|
Bethesda |
1,601.16 |
Llangywer |
1,556.24 |
|
Bontnewydd |
1,569.38 |
Llanllechid |
1,572.27 |
|
Botwnnog |
1,541.12 |
Llanllyfni |
1,562.06 |
|
Brithdir a Llanfachreth |
1,553.21 |
Llannor |
1,549.06 |
|
Bryncrug |
1,565.45 |
Llanrug |
1,594.68 |
|
Buan |
1,543.44 |
Llanuwchllyn |
1,571.19 |
|
Caernarfon |
1,586.51 |
Llanwnda |
1,563.27 |
|
Clynnog Fawr |
1,569.51 |
Llanycil |
1,548.91 |
|
Corris |
1,557.50 |
Llanystumdwy |
1,547.72 |
|
Criccieth |
1,578.39 |
Maentwrog |
1,546.94 |
|
Dolbenmaen |
1,555.81 |
Mawddwy |
1,556.48 |
|
Dolgellau |
1,587.35 |
Nefyn |
1,578.78 |
|
Dyffryn Ardudwy |
1,588.18 |
Pennal |
1,562.79 |
|
Y Felinheli |
1,566.45 |
Penrhyndeudraeth |
1,579.32 |
|
Ffestiniog |
1,655.76 |
Pentir |
1,570.21 |
|
Y Ganllwyd |
1,560.82 |
Pistyll |
1,572.44 |
|
Harlech |
1,612.19 |
Porthmadog |
1,555.95 |
|
Llanaelhaearn |
1,580.61 |
Pwllheli |
1,577.58 |
|
Llanbedr |
1,569.65 |
Talsarnau |
1,590.99 |
|
Llanbedrog |
1,557.76 |
Trawsfynydd |
1,566.48 |
|
Llanberis |
1,570.09 |
Tudweiliog |
1,541.61 |
|
Llandwrog |
1,593.56 |
Tywyn |
1,580.40 |
|
Llandygai |
1,555.31 |
|
Waunfawr |
1,548.07 |
sef y symiau a geir trwy ychwanegu
symiau’r eitem neu eitemau arbennig sy’n berthnasol i dai annedd
yn y rhannau hynny o ardal y Cyngor y cyfeiriwyd atynt uchod, at y swm a geir yn 3(e) uchod wedi’u rhannu
ym mhob achos
gan y swm yn 2(b) uchod, a gyfrifwyd gan y Cyngor yn unol ag Adran 34(3) o’r Ddeddf, fel symiau
sylfaenol ei Dreth Gyngor am y flwyddyn ar gyfer tai annedd yn y rhannau hynny o’i ardal
lle bo un eitem arbennig neu fwy’n berthnasol.
(ff) Ar gyfer rhannau o ardal y Cyngor, y ffigyrau a nodir yn Atodiad 1 (gweler Atodiad 1 i Atodiad
11 i Eitem 9 ar raglen y Cyngor), sef y symiau a geir trwy
luosi’r symiau yn 3(f) uchod â’r rhif
sydd yn ôl y cyfrannau a nodir yn Adran 5 (1) o’r Ddeddf, yn berthnasol i dai annedd
a restrir mewn band prisio arbennig wedi’i rannu â’r
rhif sydd yn ôl y cyfrannau hynny’n berthnasol i dai a restrir
ym mand prisio D, a gyfrifir gan y Cyngor, yn unol ag Adran 36(1) o’r Ddeddf, yn symiau sydd i’w
hystyried ar gyfer y flwyddyn ar gyfer y categorïau o dai annedd a restrir yn y gwahanol fandiau prisio.
4. Nodi ar gyfer y flwyddyn 2022/23 fod Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru wedi nodi’r symiau a ganlyn mewn praesept
a roddwyd i’r Cyngor, yn unol ag Adran 40 o’r Ddeddf ar gyfer
pob un o’r categorïau o dai annedd a ddangosir isod:
|
Band A |
Band B |
Band C |
Band D |
Band E |
Band F |
Band G |
Band H |
Band I |
|
211.20 |
246.40 |
281.60 |
316.80 |
387.20 |
457.60 |
528.00 |
633.60 |
739.20 |
Wedi pennu’r cyfanswm ym mhob achos o’r symiau 3(ff) a 4 uchod, bod y Cyngor, yn unol ag Adran 30(2) o’r Ddeddf trwy hyn, yn pennu’r symiau a nodir yn Atodiad 2 (gweler Atodiad 2 i Atodiad 11 i Eitem 9 ar raglen y Cyngor) ar gyfer y Dreth Gyngor yn y flwyddyn 2022/23 ar gyfer pob categori o dai annedd a ddangosir yn yr Atodiad
Cofnod:
Nododd y Cadeirydd, yn unol â’r Cyfansoddiad, bod rhaid i’r Pennaeth Cyllid dderbyn rhybudd o
unrhyw welliant i’r gyllideb yn ysgrifenedig ymlaen llaw, a bod rhaid i’r
gwelliant hwnnw arwain at gyllideb hafal, os am gael ei drafod. Roedd holl aelodau’r Cyngor wedi’u hatgoffa o
hynny yr wythnos cynt, a gan na dderbyniodd y Pennaeth Cyllid unrhyw rhybudd o
welliant erbyn yr amser cau dynodedig, ni fyddai modd i’r Cyngor ystyried
unrhyw welliant i’r gyllideb.
Cyflwynodd yr Aelod Cabinet Cyllid, y Cynghorydd Ioan Thomas:-
·
Adroddiad yn argymell cyllideb i’r Cyngor ei
chymeradwyo ar gyfer 2022/23;
·
Penderfyniad drafft y Dreth Cyngor yn seiliedig ar
argymhelliad y Cabinet i’r Cyngor (ar sail cynnydd o 2.95%) ynghyd â thablau yn
dangos lefel y Dreth Cyngor a’r cynnydd fesul cymuned.
Atgoffodd y
Pennaeth Cyllid yr aelodau o rai o’r prif risgiau yn Atodiad 10 i’r adroddiad,
a chadarnhaodd, wedi ystyried yr holl risgiau a’r camau lliniaru, ei fod o’r
farn bod Cyllideb y Cyngor am 2022/23 yn gadarn, yn ddigonol, ac yn
gyraeddadwy.
Rhoddwyd cyfle i’r aelodau gyflwyno sylwadau a gofyn cwestiynau.
Codwyd y materion a ganlyn gan aelodau unigol:-
·
Holwyd faint yn llai fyddai’r cynnydd yn y Dreth
Gyngor wedi bod pe na fyddai’r Cyngor wedi caniatáu 1 Mawrth fel diwrnod
ychwanegol o wyliau i’r staff. Mewn
ymateb, eglurwyd bod y gwariant ar ganiatáu gwyliau ar Ddydd Gŵyl Dewi yn
wariant o’r flwyddyn ariannol gyfredol, ac fel yr eglurwyd wrth y Cabinet a’r
Pwyllgor Archwilio a Llywodraethu, roedd wedi’i ariannu o danwariant mewn
cyllidebau penodol corfforaethol.
Eglurwyd mai bid untro oedd yr uchafswm o £200,000 a neilltuwyd ar gyfer
hynny, gan na wnaed penderfyniad i ariannu gŵyl banc ar 1 Mawrth yn
flynyddol. Gan hynny, ni fyddai wedi
cael effaith o gwbl ar y gyllideb oedd gerbron y Cyngor.
·
Nodwyd y gallai’r Cyngor fod wedi trosglwyddo cost y
diwrnod ychwanegol o wyliau staff i’r flwyddyn ariannol nesaf er mwyn lleihau’r
cynnydd yn y dreth, a holwyd faint fyddai £200,000 fel canran o’r dreth. Mewn ymateb, eglurwyd, yn fras, bod cynnydd
(neu ostyngiad) o 1% yn y Dreth Gyngor yn gyfystyr â tua £800,000, felly byddai
£200,000 tua 0.25%.
·
Nodwyd bod pobl Gwynedd yn flin bod y Cyngor wedi
caniatáu diwrnod ychwanegol o wyliau i’r staff, a bod amseriad hyn wedi bod yn
warthus.
·
Nodwyd, er y croesawid y ffaith bod arian ar gael
i’w wario ar wahanol fidiau eleni, ei bod yn siom o’r mwyaf na chafodd y
cynghorwyr cyffredin gyfle i bwyso a mesur y bidiau hynny mewn gweithdai tebyg
i’r gweithdai toriadau yn y gorffennol, oherwydd y gallai mewnbwn yr aelodau
fod wedi arwain at sefyllfa lle na fyddai’r Cyngor yn edrych ar bleidleisio ar
gynnydd treth o 2.95%. Mewn ymateb,
nodwyd bod pob aelod o’r Cyngor wedi cael cyfle i ddod i’r seminarau ar y
gyllideb, lle rhannwyd gwybodaeth am y bidiau.
·
Dadleuwyd na fu cyfle i edrych yn iawn ar y bidiau yn
y seminarau, ond yn hytrach bod yr aelodau wedi’u tywys drwy’r ffigurau.
·
Nodwyd, er y croesawid cyhoeddiad Llywodraeth Cymru
y bydd taliad cymorth costau byw o £150 yn cael ei roi i bob aelwyd sy’n byw
mewn eiddo yn y bandiau Treth Cyngor A-D, bod hynny’n amlygu nad yw’r system
bresennol yn gweithio. Croesawid hefyd
gyhoeddiad y Llywodraeth a Phlaid Cymru bod newid am fod yn y maes yma, a
phwysleisiwyd y dylai hynny ddigwydd cyn gynted â phosib’.
·
Awgrymwyd y dylid edrych ar ganiatáu mwy na 25% o
ostyngiad Treth Cyngor i bersonau sengl gan ei bod yn llawer mwy anodd talu
biliau pan fo un cyflog yn unig yn dod i’r tŷ.
·
Nodwyd y byddai nyrsus, sydd wedi gweithio mor galed
drwy gydol y pandemig, ond yn cael 2% o godiad cyflog eleni, tra bo cynghorwyr
yn cael 16%, sy’n mynd i gostio tua £160,000 yn fwy i’r Cyngor. Mewn ymateb, eglurwyd mai Panel Annibynnol
Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol, ac nid y Cyngor, sy’n gyfrifol am bennu’r
lwfansau sy’n daladwy i aelodau etholedig.
·
Holwyd a fyddai’n bosib’ defnyddio reserfau’r Cyngor
am un flwyddyn er mwyn oedi cynyddu’r Dreth Gyngor. Mewn ymateb, eglurwyd bod £7m o falansau
cyffredinol wedi’u rhoi o’r neilltu a chronfeydd eraill wedi’u creu at bwrpasau
penodol. O ran y cronfeydd a roddwyd o’r
neilltu, roedd £72m allan o’r £79m yna am resymau penodol ar gyfer y
dyfodol. Eglurwyd nad oedd defnyddio ein
cronfeydd i beidio cynyddu’r Dreth Gyngor yn ateb parhaol, a phe byddai’r
Cyngor yn dechrau defnyddio reserfau wrth gefn i lenwi bylchau, byddai’r bwlch
yna trwy’r amser.
·
Holwyd a fyddai’n bosib’ i ni fyw ar beth sydd
gennym am flwyddyn, a gweld sut fydd pethau o’r flwyddyn nesaf ymlaen. Mewn ymateb, nodwyd bod y Cyngor wedi cael
setliad eithaf da eleni, ond y bydd setliad y flwyddyn nesaf a’r flwyddyn
ganlynol yn anodd iawn.
Gwrthwynebwyd y cynnig i godi’r Dreth Cyngor 2.95% gan aelodau ar y
sail:-
·
Bod y Cyngor wedi codi’r dreth 40% dros y 10 mlynedd
ddiwethaf, ond yn cynnig llai o wasanaethau na 10 mlynedd yn ôl.
·
Bod y sefyllfa yn argyfyngus yng Ngwynedd, gyda chostau
ynni, tanwydd a bwyd yn cynyddu fwy nag erioed, a niferoedd cynyddol yn dibynnu
ar fanciau bwyd.
·
Bod ffermwyr a busnesau cefn gwlad yn gweithio mor
galed, ond yn cael dim cymorth o unman.
·
Ein bod yn byw mewn tŵr ifori yng Nghyngor
Gwynedd, ac efallai nad ydym yn llwyr werthfawrogi amgylchiadau pobl yn y sir.
·
Y byddem wedi gobeithio y byddai cynnydd o tua 1%
wedi bod yn ddigon eleni i gynnal y gwasanaethau gyda’r arian wrth gefn sydd
gennym, er mwyn cyfleu’r neges ein bod yn poeni am sefyllfa ein trigolion.
·
Nad dyma’r amser iawn i gynyddu’r dreth, yn enwedig
gan fod pobl wedi bod trwy galedi’r pandemig, a byddai hyn yn creu mwy o straen
a phoen meddwl i deuluoedd sy’n gweithio’n galed.
Cefnogwyd y cynnig gan aelodau eraill ar y sail:-
·
Bod pawb wedi cael siawns i gyflwyno cynnig
gwahanol ar gyllideb gytbwys, ond nad oedd neb wedi cynnig dim byd arall, nac
wedi awgrymu lle y dylai’r Cyngor dorri er mwyn peidio codi’r dreth.
·
Oni dderbynnid y cynnig, byddai’n rhaid torri mwy ar
y gwasanaethau hanfodol i bobl bregus Gwynedd.
·
Mai’r unig opsiwn oedd derbyn y gyllideb fel y mae
fel bod pobl Gwynedd yn cael y gwasanaeth gorau y gellir ei gynnig iddynt o dan
yr amgylchiadau.
·
Nad system Cyngor Gwynedd oedd y system Dreth
Gyngor, a bod pawb o’r aelodau yma i wella bywydau pobl y sir.
·
Bod angen pwyntio bys at Lywodraeth San Steffan a
galw am annibyniaeth i Gymru fel ein bod yn gallu rhedeg ein cyllideb ein
hunain yn ein gwlad ein hunain.
Mewn ymateb i gwestiwn, cadarnhaodd y Swyddog Monitro nad oedd modd
gwahanu’r argymhelliad ar sefydlu cyllideb oddi wrth yr argymhelliad ar sefydlu
rhaglen gyfalaf. Eglurodd, petai’r naill
argymhelliad yn disgyn, y byddai’r llall yn disgyn hefyd, gan fod y ddau fater
yn cydblethu â’i gilydd.
I gloi, nododd yr Aelod Cabinet:-
·
Er y cafwyd setliad gwell na’r disgwyl eleni, y
daeth cydnabyddiaeth o’r seminarau a’r Pwyllgor Archwilio a Llywodraethu bod
gwasanaethau wedi bod dan bwysau, a dyna’r prif reswm pam na ellid argymell
cynnydd llai yn y Dreth Gyngor.
·
Ei fod yn poeni am amgylchiadau trigolion y sir a
phwysleisiodd y dylai unrhyw un sy’n cael trafferth talu’r dreth gysylltu â’r
Adran Gyllid.
Galwyd am bleidlais gofrestredig ar y cynnig.
Nododd y Cynghorydd Stephen Churchman ei fod newydd ddychwelyd i’r
cyfarfod ar ôl bod allan am bron i awr, a gofynnodd a oedd ganddo hawl i
bleidleisio. Mewn ymateb, eglurodd y
Swyddog Monitro fod ganddo hawl i bleidleisio, cyn belled â’i fod yn hyderus ei
fod yn ymwybodol o gynnwys yr adroddiad, ayb.
Cadarnhaodd yr aelod ei fod wedi paratoi yn drylwyr cyn y cyfarfod.
Yn unol â’r
Rheolau Gweithdrefn, cofnodwyd y bleidlais ganlynol ar y cynnig:-
O blaid (36) Y Cynghorwyr:- Craig ab Iago,
Menna Baines, Beca Brown, Stephen Churchman, Steve Collings, Annwen Daniels, Elwyn
Edwards, Aled Evans, Simon Glyn, Gareth Wyn Griffith, Selwyn Griffiths, Annwen
Hughes, R.Medwyn Hughes, Judith Humphreys, Nia Jeffreys, Peredur Jenkins, Aled
Wyn Jones, Berwyn Parry Jones, Elin Walker Jones, Gareth Tudor Morris Jones,
Huw Wyn Jones, Cai Larsen, Dafydd Meurig, Dilwyn Morgan, Linda Morgan, Dafydd
Owen, Edgar Wyn Owen, Gwynfor Owen, Dewi Wyn Roberts, Mair Rowlands, Paul
Rowlinson, Dyfrig Siencyn, Gareth Thomas, Ioan Thomas, Cemlyn Williams a Gethin
Glyn Williams.
Yn erbyn (30) – Y Cynghorwyr:- Dylan Bullard,
R.Glyn Daniels, Anwen Davies, Dylan Fernley, Peter Antony Garlick, Alwyn
Gruffydd, John Brynmor Hughes, Louise Hughes, Aeron M.Jones, Anne Lloyd Jones,
Eric Merfyn Jones, Keith Jones, Kevin Morris Jones, Sion Wyn Jones, Eryl
Jones-Williams, Beth Lawton, Dewi Owen, Jason Parry, Nigel Pickavance,
Rheinallt Puw, Peter Read, Elfed P.Roberts, Gareth A.Roberts, John Pughe
Roberts, Angela Russell, Mike Stevens, Hefin Underwood, Elfed Williams,
Gruffydd Williams ac Owain Williams.
Atal (0)
Nododd y Cadeirydd
fod y cynnig wedi cario.
1. Cymeradwyo’r
argymhellion a gyflwynwyd gan y Cabinet, sef:-
(a) Sefydlu cyllideb
o £295,232,820 ar gyfer 2022/23 i’w ariannu drwy Grant Llywodraeth o
£213,210,400 a £82,022,420 o incwm o’r Dreth Cyngor gyda chynnydd o 2.95%.
(b) Sefydlu rhaglen
gyfalaf o £59,074,980 yn 2022/23 i’w ariannu o’r ffynonellau a nodir yn Atodiad
4 i’r adroddiad.
2.
Nodi fod yr Aelod Cabinet dros Gyllid, drwy daflen
benderfyniad dyddiedig 9 Tachwedd 2021, wedi cymeradwyo cyfrifiad y symiau a
ganlyn ar gyfer y flwyddyn 2022/23 yn unol â’r rheoliadau a luniwyd dan Adran
33 (5) o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992 (“Y Ddeddf”):-
(a) 53,715.10 yw’r swm a
gyfrifwyd fel Sylfaen drethiannol Gwynedd yn unol â’r Rheoliadau Awdurdodau
Lleol (Cyfrifo Sylfaen y Dreth Cyngor) (Cymru) 1995 fel y’i diwygiwyd fel ei
sylfaen Dreth Cyngor am y flwyddyn.
(b) Rhan o ardal y
Cyngor – Sylfaen drethiannol Cymuned –
Aberdaron |
571.25 |
|
Llanddeiniolen |
1,840.10 |
Aberdyfi |
1,095.65 |
Llandderfel |
501.76 |
|
Abergwyngregyn |
124.71 |
Llanegryn |
164.55 |
|
Abermaw (Barmouth) |
1,210.43 |
Llanelltyd |
308.89 |
|
Arthog |
654.41 |
Llanengan |
2,289.52 |
|
Y Bala |
781.39 |
Llanfair |
335.58 |
|
Bangor |
3,974.34 |
Llanfihangel y
Pennant |
232.58 |
|
Beddgelert |
323.40 |
Llanfrothen |
233.04 |
|
Betws Garmon |
138.27 |
Llangelynnin |
433.07 |
|
Bethesda |
1,701.20 |
Llangywer |
145.28 |
|
Bontnewydd |
436.43 |
Llanllechid |
348.06 |
|
Botwnnog |
460.05 |
Llanllyfni |
1,425.75 |
|
Brithdir a
Llanfachreth |
457.62 |
Llannor |
906.33 |
|
Bryncrug |
340.19 |
Llanrug |
1,137.62 |
|
Buan |
227.96 |
Llanuwchllyn |
316.77 |
|
Caernarfon |
3,640.35 |
Llanwnda |
807.58 |
|
Clynnog Fawr |
470.35 |
Llanycil |
205.27 |
|
Corris |
305.84 |
Llanystumdwy |
885.48 |
|
Criccieth |
972.85 |
Maentwrog |
303.24 |
|
Dolbenmaen |
624.58 |
Mawddwy |
362.81 |
|
Dolgellau |
1,275.63 |
Nefyn |
1,535.07 |
|
Dyffryn Ardudwy |
817.14 |
Pennal |
231.82 |
|
Y Felinheli |
1,165.68 |
Penrhyndeudraeth |
792.98 |
|
Ffestiniog |
1,786.14 |
Pentir |
1,272.62 |
|
Y Ganllwyd |
88.69 |
Pistyll |
264.01 |
|
Harlech |
821.55 |
Porthmadog |
2,160.67 |
|
Llanaelhaearn |
466.26 |
Pwllheli |
1,779.02 |
|
Llanbedr |
351.64 |
Talsarnau |
343.74 |
|
Llanbedrog |
780.02 |
Trawsfynydd |
506.49 |
|
Llanberis |
788.78 |
Tudweiliog |
478.76 |
|
Llandwrog |
1,051.46 |
Tywyn |
1,691.37 |
|
Llandygai |
1,001.64 |
|
Waunfawr |
569.37 |
sef y symiau a gyfrifwyd fel symiau Sylfaen y Dreth
Gyngor ar gyfer y flwyddyn ar gyfer tai annedd yn y rhannau hynny o’i ardal lle
bo un eitem arbennig neu fwy’n berthnasol.
3. Bod
y symiau a ganlyn yn cael eu cyfrifo yn awr gan y Cyngor ar gyfer y flwyddyn
2022/23 yn unol ag Adrannau 32 i 36 o’r Ddeddf:-
(a)
|
£443,927,600 |
Sef cyfanswm y symiau y mae’r Cyngor yn eu
hamcangyfrif ar gyfer yr eitemau a nodwyd yn Adran 32(2)(a) i (e) o’r Ddeddf
(gwariant gros). |
(b)
|
£146,536,120 |
Sef cyfanswm y symiau y mae’r Cyngor yn eu
hamcangyfrif ar gyfer yr eitemau a nodwyd yn Adran 32(3)(a) i (c) o’r Ddeddf
(incwm). |
(c)
|
£297,391,480 |
Sef y swm sy’n cyfateb i’r gwahaniaeth rhwng
cyfanswm 3(a) uchod a chyfanswm 3(b) uchod, a gyfrifwyd gan y Cyngor, yn unol
ag Adran 32(4) o’r Ddeddf, fel ei ofynion cyllideb ar gyfer y flwyddyn
(cyllideb net). |
(ch) |
£212,714,737 |
Sef cyfanswm y
symiau y mae’r Cyngor yn amcangyfrif y byddant yn daladwy yn ystod y flwyddyn
i’w gronfa ar gyfer cyfan o’r Dreth Annomestig Genedlaethol a Grant Cynnal
Refeniw, llai amcangyfrif o’r gost i’r Cyngor o ryddhad dewisol o’r dreth
annomestig a ganiateir. |
(d)
|
£1,576.40 |
Sef y swm yn 3(c) uchod
llai’r swm yn 3(ch) uchod, y cyfan wedi ei rannu gan y swm a nodir yn 2(a)
uchod, a gyfrifwyd gan y Cyngor yn unol ag Adran 33(1) o’r Ddeddf, sef swm
sylfaenol ei Dreth Cyngor am y flwyddyn (treth Cyngor Gwynedd a threth
cyfartalog cynghorau cymuned). |
(dd) |
£2,654,323.06 |
Sef cyfanswm yr
holl eitemau arbennig y cyfeirir atynt yn Adran 34(1) o’r Ddeddf
(praeseptau’r cynghorau cymuned). |
(e)
|
£1,526.99 |
Sef y swm yn 3(d)
uchod llai’r canlyniad a geir wrth rannu’r swm yn 3(dd) uchod â’r swm yn 2(a)
uchod, a gyfrifwyd gan y Cyngor, yn unol ag Adran 34(2) fel swm sylfaenol ei Dreth Cyngor am y flwyddyn
ar gyfer tai annedd yn y rhannau hynny o’i ardal lle nad oes unrhyw eitem
arbennig yn berthnasol (Band D ar gyfer treth Cyngor Gwynedd yn unig). |
(f)
Ar gyfer rhannau o ardal y Cyngor –
Aberdaron |
1,553.25 |
|
Llanddeiniolen |
1,544.27 |
Aberdyfi |
1,562.10 |
Llandderfel |
1,544.93 |
|
Abergwyngregyn |
1,559.06 |
Llanegryn |
1,563.45 |
|
Abermaw (Barmouth) |
1,579.04 |
Llanelltyd |
1,551.27 |
|
Arthog |
1,546.86 |
Llanengan |
1,551.01 |
|
Y Bala |
1,561.54 |
Llanfair |
1,574.67 |
|
Bangor |
1,627.98 |
Llanfihangel y
Pennant |
1,576.54 |
|
Beddgelert |
1,579.56 |
Llanfrothen |
1,566.90 |
|
Betws Garmon |
1,545.79 |
Llangelynnin |
1,550.70 |
|
Bethesda |
1,601.16 |
Llangywer |
1,556.24 |
|
Bontnewydd |
1,569.38 |
Llanllechid |
1,572.27 |
|
Botwnnog |
1,541.12 |
Llanllyfni |
1,562.06 |
|
Brithdir a
Llanfachreth |
1,553.21 |
Llannor |
1,549.06 |
|
Bryncrug |
1,565.45 |
Llanrug |
1,594.68 |
|
Buan |
1,543.44 |
Llanuwchllyn |
1,571.19 |
|
Caernarfon |
1,586.51 |
Llanwnda |
1,563.27 |
|
Clynnog Fawr |
1,569.51 |
Llanycil |
1,548.91 |
|
Corris |
1,557.50 |
Llanystumdwy |
1,547.72 |
|
Criccieth |
1,578.39 |
Maentwrog |
1,546.94 |
|
Dolbenmaen |
1,555.81 |
Mawddwy |
1,556.48 |
|
Dolgellau |
1,587.35 |
Nefyn |
1,578.78 |
|
Dyffryn Ardudwy |
1,588.18 |
Pennal |
1,562.79 |
|
Y Felinheli |
1,566.45 |
Penrhyndeudraeth |
1,579.32 |
|
Ffestiniog |
1,655.76 |
Pentir |
1,570.21 |
|
Y Ganllwyd |
1,560.82 |
Pistyll |
1,572.44 |
|
Harlech |
1,612.19 |
Porthmadog |
1,555.95 |
|
Llanaelhaearn |
1,580.61 |
Pwllheli |
1,577.58 |
|
Llanbedr |
1,569.65 |
Talsarnau |
1,590.99 |
|
Llanbedrog |
1,557.76 |
Trawsfynydd |
1,566.48 |
|
Llanberis |
1,570.09 |
Tudweiliog |
1,541.61 |
|
Llandwrog |
1,593.56 |
Tywyn |
1,580.40 |
|
Llandygai |
1,555.31 |
|
Waunfawr |
1,548.07 |
sef y symiau a geir trwy ychwanegu symiau’r
eitem neu eitemau arbennig sy’n berthnasol i dai annedd yn y rhannau hynny o
ardal y Cyngor y cyfeiriwyd atynt uchod, at y swm a geir yn 3(e) uchod wedi’u
rhannu ym mhob achos gan y swm yn 2(b) uchod, a gyfrifwyd gan y Cyngor yn unol
ag Adran 34(3) o’r Ddeddf, fel symiau sylfaenol ei Dreth Gyngor am y flwyddyn
ar gyfer tai annedd yn y rhannau hynny o’i ardal lle bo un eitem arbennig neu
fwy’n berthnasol.
(ff)
Ar gyfer rhannau o ardal y Cyngor, y ffigyrau a nodir
yn Atodiad 1, sef y symiau a geir trwy luosi’r symiau yn 3(f) uchod â’r rhif
sydd yn ôl y cyfrannau a nodir yn Adran 5 (1) o’r Ddeddf, yn berthnasol i dai
annedd a restrir mewn band prisio arbennig wedi’i rannu â’r rhif sydd yn ôl y
cyfrannau hynny’n berthnasol i dai a restrir ym mand prisio D, a gyfrifir gan y
Cyngor, yn unol ag Adran 36(1) o’r Ddeddf, yn symiau sydd i’w hystyried ar
gyfer y flwyddyn ar gyfer y categorïau o dai annedd a restrir yn y gwahanol
fandiau prisio.
4.
Nodi ar gyfer y flwyddyn 2022/23 fod Comisiynydd
Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru wedi nodi’r symiau a ganlyn mewn praesept a
roddwyd i’r Cyngor, yn unol ag Adran 40 o’r Ddeddf ar gyfer pob un o’r
categorïau o dai annedd a ddangosir isod:
|
Band A |
Band B |
Band C |
Band D |
Band E |
Band F |
Band G |
Band H |
Band I |
|
211.20 |
246.40 |
281.60 |
316.80 |
387.20 |
457.60 |
528.00 |
633.60 |
739.20 |
Wedi pennu’r cyfanswm ym mhob achos o’r symiau 3(ff) a
4 uchod, bod y Cyngor, yn unol ag Adran 30(2) o’r Ddeddf trwy hyn, yn pennu’r
symiau a nodir yn Atodiad 2 ar gyfer y Dreth Gyngor yn y flwyddyn 2022/23 ar
gyfer pob categori o dai annedd a ddangosir yn yr Atodiad.
Dogfennau ategol: