Cyflwyno adroddiad Arweinydd y Cyngor.
Penderfyniad:
Mabwysiadu Cynllun Cyngor Gwynedd 2018-2023: Adolygiad
2022/23 er mwyn ei weithredu yn ystod 2022/23.
Cofnod:
Cyflwynodd yr Arweinydd, y Cynghorydd Dyfrig
Siencyn, adroddiad yn gwahodd y Cyngor i
fabwysiadu Cynllun Cyngor Gwynedd 2018-23: Adolygiad 2022/23 er mwyn ei
weithredu yn ystod 2022/23.
Diolchodd yr Arweinydd i’r Rheolwr Gwasanaeth
Cefnogi Busnes a’i dîm am eu gwaith arwrol wrth baratoi’r cynllun.
Rhoddwyd cyfle i’r
aelodau gyflwyno sylwadau a gofyn cwestiynau.
Codwyd y materion a ganlyn gan aelodau unigol:-
·
Croesawyd bwriad y Llywodraeth i ddarparu cinio am
ddim i bob disgybl cynradd, ond holwyd a oedd yna gostau ychwanegol ynghlwm â
hynny y byddai’n rhaid i’r Cyngor eu hysgwyddo.
Mewn ymateb, nodwyd nad oedd y cynllun mor syml ag yr oedd yn ymddangos,
ond hyd yma, bod yna ymrwymiad ariannol gan Lywodraeth Cymru i gyfarch y gost
ychwanegol. Roedd trafodaethau’n digwydd
rhwng pob cyngor a’r Llywodraeth er mwyn sefydlu faint yn union fyddai’r costau
hynny. Eglurwyd bod y gost o ddarparu,
neu dalu, am y cinio yn un elfen, a bod y gost o ddarparu adeiladau, gofod o
fewn yr adeiladau hynny a gwasanaethau cefnogol, ayb, yn elfen ychwanegol nad
oedd, o bosib’, wedi’i llawn gostio ar hyn o bryd. Byddai mwy o wybodaeth yn cael ei rhannu
gyda’r aelodau wrth i’r manylder ddatblygu, ond roedd y swyddogion yn eithaf
ffyddiog ynglŷn â’r sefyllfa ar hyn o bryd. Nododd yr Arweinydd y byddai yntau’n pwyso’n
arw ar y Llywodraeth i ariannu hyn yn llawn.
Mewn ymateb i gwestiwn pellach ynglŷn ag effaith y cynllun ar
gyllidebau ysgolion, nodwyd bod pawb yn sylweddoli bod y cynllun yn cael
effaith sylweddol ar rai ysgolion, yn enwedig ysgolion mawr, ond cadarnhawyd
bod hyn yn rhan o’r trafodaethau gyda’r Llywodraeth.
·
Mynegwyd pryder ynglŷn â’r cyfeiriad dan
Flaenoriaeth Gwella 6 at roi blaenoriaeth i ardal Dolgellau a Meirionnydd yn
ehangach wrth adnabod cyfleon am ddarpariaethau gofal, a phwysleisiwyd y
dylai’r flaenoriaeth uchaf gael ei rhoi i ddarparu cartref gofal nyrsio ar
safle Penrhos, gan nad oedd yna unrhyw welyau nyrsio ar ôl ym Mhen Llŷn
bellach. Mewn ymateb, pwysleisiwyd nad
oedd cystadleuaeth rhwng Meirionnydd a Phen Llŷn. Roedd yna gyfle gwych ym Mhenrhos i greu
adnodd arbennig iawn fyddai’n cyfuno’r holl wasanaethau gofal a nyrsio ar un
safle, a chadarnhawyd y byddai’r Cyngor yn parhau i bwyso a chydweithio gyda’r
Gwasanaeth Iechyd a’r gymdeithas dai i wireddu’r uchelgais yma.
·
Gan gyfeirio at y bid (dan eitem 9 ar y rhaglen) i
ddileu’r ffi o £300 am docyn teithio ôl-16, nodwyd bod rhieni yn Nwyfor a
Meirionnydd (yn enwedig yn yr ardaloedd gwledig) fu’n talu’r ffi yma dros y 10
mlynedd diwethaf wedi dioddef anghysondeb ac annhegwch enbyd, ac awgrymwyd bod
y Cyngor wedi darganfod yr arian ychwanegol fel abwyd i rieni yn Arfon anfon eu
plant i’r colegau. Mewn ymateb, nodwyd
petai’r Cyngor yn cymeradwyo’r bid, y byddai diddymu’r tâl yn cynorthwyo
teuluoedd mewn cyfnod lle mae costau byw’n cynyddu’n sylweddol, ac hefyd yn
gwella mynediad pobl ifanc i gyrsiau a gwell llwybrau gyrfaoedd. Eglurwyd hefyd y gwnaethpwyd y penderfyniad i
godi ffi am docyn teithio ôl-16 flynyddoedd maith yn ôl gan gyngor gwahanol i’r
Cyngor hwn, a hynny dan amodau ariannol gwahanol. Yn ffodus iawn eleni, cafwyd setliad oedd yn
galluogi’r Cyngor i ystyried opsiynau gwahanol i’r hyn fu’n bosib’ yn ystod y
cyfnod o doriadau, ac un o’r opsiynau hynny oedd peidio codi ffi am docyn
teithio ôl-16.
PENDERFYNWYD
mabwysiadu Cynllun Cyngor Gwynedd 2018-2023: Adolygiad 2022/23 er mwyn ei
weithredu yn ystod 2022/23.
Dogfennau ategol: