Ystyried unrhyw gwestiynau y rhoddwyd
rhybudd priodol ohonynt o dan Adran 4.19 o’r Cyfansoddiad.
Cofnod:
(Dosbarthwyd atebion ysgrifenedig yr Aelodau Cabinet i’r cwestiynau i’r
aelodau ymlaen llaw.)
(1) Cwestiwn
gan y Cynghorydd Aeron Maldwyn Jones
“Pa bryd mae’r Cyngor hwn yn rhagweld fydd staff yn ôl wrth eu desgiau?”
Ateb gan yr Aelod Cabinet Cefnogaeth Gorfforaethol, y Cynghorydd Nia
Jeffreys
“Diolch i holl staff y Cyngor am eu gwaith yn ystod
yr argyfwng. Mae’r cwestiwn yn gofyn
pryd fydd y staff yn ôl wrth eu desgiau.
Wrth gwrs, mae holl staff y Cyngor wedi parhau i weithio er lles pobl
Gwynedd, er bod y ddesg weithiau mewn atig neu ar y bwrdd gegin. Mae’r ffordd mae’r staff wedi addasu ar fyr
rybudd wedi bod yn anhygoel, ac rydw i’n hynod o ddiolchgar iddyn nhw. Mae yna lawer o waith wedi mynd i mewn i hyn,
ac rydw i wedi cael y cyfle i adrodd i’r Cabinet, ac mae adroddiad wedi mynd
i’r Pwyllgor Archwilio a Llywodraethu, ond rydw i’n falch heddiw o’r cyfle i
ail-adrodd i’r Cyngor llawn.
Mae yna gryn dipyn o sôn a sylw wedi’i roi i “fyd
gwaith y dyfodol” ar lefel Cymru gyfan dros y flwyddyn ddiwethaf gyda
Llywodraeth Cymru yn datgan nod o alluogi 30% o weithlu’r wlad i fedru gweithio
yn agos at, neu o’u cartrefi.
Nid yw Cyngor Gwynedd yn
wahanol i nifer o sefydliadau eraill yn ei gynllunio ar gyfer hyn. Mae yna “Grŵp Swyddfeydd” wedi’i sefydlu
ers yn gynnar yn 2021, sy’n cydlynu’r gwaith paratoi yn lleol, gyda’r Prif
Weithredwr, y Cyfarwyddwr, y Pennaeth Cefnogaeth Gorfforaethol a swyddogion
adnoddau dynol, iechyd a diogelwch, technoleg gwybodaeth ac eiddo yn rhan o’r
Grŵp hwnnw.
Mae’r weledigaeth ar
gyfer gweithio i’r dyfodol o fewn y Cyngor wedi’i chymeradwyo gan y Cabinet ym
mis Chwefror a bu i’r Pwyllgor Archwilio a Llywodraethu graffu’r cynnwys cyn
hynny. Mae’r weledigaeth honno yn ffrwyth
llafur y Grŵp Swyddfeydd, ond hefyd yn seiliedig ar ymgynghoriad efo
gwahanol garfannau o staff y Cyngor yn ogystal â chynrychiolwyr yr undebau
llafur yn lleol.
Nôd y weledigaeth yw bod
y Cyngor yn darparu’r gwasanaethau gorau bosib’ ar gyfer pobl Gwynedd, tra
hefyd yn arddangos y Cyngor fel lle da i weithio, a thrwy hynny gadw a denu
staff o safon.
Gyda’r datganiadau mwyaf diweddar gan Lywodraeth
Cymru, a’r tebygolrwydd o lacio pellach ar y cyfyngiadau yn y dyfodol agos,
mae’r amser i weithredu’r weledigaeth yn prysur agosáu ac mae’r Prif Weithredwr
wedi rhannu amlinelliad o gynllun gweithredu efo staff, sef cynllun sy’n edrych
i gael ei weithredu yn raddol, mewn tri cham, dros yr wythnosau a’r misoedd
nesaf, sef:-
·
Caniatáu i’r holl
weithwyr hynny sydd yn gorfod, neu’n dymuno, gweithio yn eu canolfannau gwaith
gydol yr amser, wneud hynny oddi ar y 7fed o Fawrth,
·
Cadarnhau trefniadau ar gyfer y gweithwyr hynny
fydd yn gweithio o adra yn bennaf gyda golwg i gwblhau'r cam yma cyn gwyliau’r
Pasg.
·
Cytuno’n derfynol efo
pob unigolyn, sydd wedi nodi dymuniad i weithio’n rhannol o adra ac yn rhannol
o’r swyddfa, ar y trefniadau gwaith ar gyfer y naill leoliad a’r llall. Mae hyn yn debygol o fod yn gam gaiff ei
gyflwyno dros gyfnod o amser gan gychwyn yn ffurfiol ar ôl y Pasg eleni.”
(2) Cwestiwn
gan y Cynghorydd Kevin Morris Jones
“Pâr: Gwesty Dolbadarn, Llanberis
Hoffwn wybod beth yw bwriad y Cyngor i ddelio
gyda’r problemau sydd yn bodoli gyda newid defnydd yr adeilad yma. Mae’r cyn gwesty poblogaidd erbyn hyn ym
mherchnogaeth dyn busnes o Firmingham (mae ganddo safle tebyg ym
Mhwllheli). Mae’r gwesty yn cael ei
ddefnyddio ar gyfer pobl sy’n ddigartref.
Er bod trigolion Llanberis yn falch o helpu ei gilydd a phobl o’r ardal
o’u cwmpas, mae’n amlwg bod y safle yma - Dolbadarn - yn cael ei ddefnyddio i
gartrefu pobl sydd â nifer fawr o broblemau yn eu bywydau ac mae hyn yn creu
mwy o broblemau ym mhentref Llanberis.
Yn anffodus mae’r digwyddiadau o ymddygiad gwrth cymdeithasol oddi fewn
i’r gwesty a thu allan wedi golygu bod rhaid cael presenoldeb yr heddlu a’r
gwasanaeth ambiwlans yno yn aml.
Rwyf fi a thrigolion yr ardal yn deall bod rhaid cael safleoedd o’r math
yn ein cymdeithas, ond mae’r safle hon yn rhy fawr i fod yng nghanol pentref
bach fel Llanberis. Mae’r safle yn creu
mwy o broblemau ac yn amharu yn negyddol ar bentref sydd yn dibynnu ar
dwristiaeth bron trwy’r flwyddyn.
Rwyf wedi cysylltu â swyddogion y Cyngor ar y
mater yma yn y gorffennol ond nid wyf wedi derbyn ymateb clir ac sy’n
dderbyniol i bobl Llanberis.”
Ateb gan yr Aelod Cabinet Tai, y Cynghorydd Craig ab Iago
“Rydym ni i gyd yn gwybod am yr argyfwng tai rydym
ni’n wynebu ar hyn o bryd, ac mae digartrefedd yn elfen fawr iawn o’r broblem
yna. Mae llai o dai ar gael i ni
weithredu yn sydyn i gartrefu pawb. Cyn
Covid, roeddem ni fel Adran wedi cyflwyno Cynllun Digartrefedd, sy’n rhan o’n
Cynllun Gweithredu Tai, ac yn hynny o beth, roeddem ni’n mynd i ddelio hefo’r
sefyllfa fel ag yr oedd ar y pryd, a gwneud yn siŵr bod y cynllun yn dilyn
y drefn, neu’r egwyddor, o gartrefu ein pobl ni yn eu cymunedau. Roedd yr hyn oedd yn digwydd gyda
digartrefedd ar y pryd yn ad hoc, ac yn fy marn i, yn anaddas, a heb gefnogaeth
ddigonol, ond dyna roedd y Cynllun Digartrefedd ei hun yn ei wneud - roedd yn
dod â threfn i bob dim, ac yn gwneud yn siŵr bod yna ddigon o ddiogelwch a
chefnogaeth, a gwneud yn siŵr ein bod ni’n cefnogi’r bobl yna.
Yn anffodus, fe ddaru
Covid gicio i mewn, ac mae hynny wedi gwneud y sefyllfa yma hyd yn oed yn
waeth, yn llawer iawn gwaeth nag yr oedd.
Ar hyn o bryd, rydym ni’n sôn am dros 700 o bobl sydd wedi’u cofrestru’n
ddigartref yn y sir, a llawer mwy sydd ddim wedi cofrestru oherwydd eu bod yn
rhy falch i wneud hynny. O’r bobl yna,
mae 270 mewn gwely a brecwast a gwestai, fel yr un yn Llanberis, sydd ddim yn
ddelfrydol o gwbl, i ni nac i’r trigolion na’r bobl sy’n ddigartref, ond fel
Cyngor mae gennym ddyletswydd eang i edrych ar eu holau yn gyfreithiol ac yn
foesol yn fy marn. Ond yr hyn sy’n
bwysig ydi bod ni’n gwneud yn siŵr, lle bynnag rydym ni’n cartrefu pobl,
bod y sefyllfa yn ddiogel, ac nad yw bywydau trigolion yn yr ardal yn gwaethygu
oherwydd presenoldeb y bobl yna.
Gan hynny, cefais sioc o weld y cwestiwn yma. Rydym ni’n herio perfformiad yn y maes yma yn
fisol, felly buaswn wedi disgwyl clywed am hyn cyn rŵan. Felly gofynnais i’r Adran edrych i mewn i
hyn, a gwneud yn siŵr nad ydym wedi methu rhywbeth. Hoffwn ddweud hyn yn glir, rhag ofn bod yna
drigolion yn gwylio, ac rydw i eisiau gwneud yn siŵr bod yr aelodau yn
deall y sefyllfa yn y gwesty yna. Ym mis
Mawrth, bu i ni gychwyn defnyddio'r gwesty i gartrefu pobl ddigartref. Nid ydym ni’n sôn o gwbl am y troseddwyr rhyw
mae pobl yn sôn amdanynt, na’r pedoffilyddion mae pobl yn sôn amdanynt, na
phobl sydd wedi gadael carchar. Nid ydym
ni’n sôn am y bobl yna o gwbl. Rydym
ni’n sôn am bobl rydym ni’n eu hadnabod - pobl sydd efallai wedi colli eu
swyddi neu eu tai, ac sydd angen help, neu sydd wedi gwahanu oddi wrth eu
partner.
Ym mis Mehefin y llynedd, clywsom gan yr aelod bod
yna faterion yn codi, ac nad oedd y gymuned yn hapus gyda’r hyn oedd yn digwydd
yna. Felly, aeth yr Adran ati ar unwaith
i sicrhau bod 2 warchodydd diogelwch yn aros yn y gwesty dros nos rhwng 5yp a
6yb bob dydd, ac mae hynny wedi bod yn digwydd ers mis Mehefin er mwyn sicrhau
nad oes yna unrhyw faterion yn codi o gwbl.
Mae pobl yn gallu rhoi gwybod i’r Adran os oes problemau’n codi, ac nid
ydym wedi cael unrhyw broblemau ers hynny.
Mae’r Heddlu wedi mynd allan unwaith a’r Gwasanaeth Ambiwlans 2 waith. Yn y 2 achos pan fu’n rhaid galw ambiwlans,
roedd trigolion wedi anafu neu’n gorfod mynd i ysbyty. Nid oedd a wnelo hynny â’u hymddygiad o gwbl. Hefyd, roedd yr Heddlu wedi gorfod mynd yna
un waith oherwydd bod yna brotestwyr y tu allan i’r adeilad yn creu helynt ac
yn sôn am droseddwyr rhyw, ond wrth gwrs, nid oedd yna droseddwyr rhyw yn y lle
o gwbl. Mae yna gefnogaeth ddwys i’r
bobl sydd yna. Rydym ni’n sôn am westy
35 ystafell, ac ar hyn o bryd, rydym ni’n defnyddio 15 ohonyn nhw. Mae 7 o’r preswylwyr yn ferched, a neb yn
droseddwr rhyw nac wedi gadael carchar, a dim pedoffilyddion o gwbl.
Mae yna elfen arall yma - ydym ni’n cyfathrebu’n
ddigon da hefo’r gymuned, hefo’r aelod?
Mae’n rhywbeth sy’n cael ei godi’n aml iawn y dyddiau yma, y dyddiau Cofid,
sef nad yw swyddogion y Cyngor yn ymateb yn ddigon sydyn i’r aelodau. Mae’n hynod bwysig eu bod nhw’n gwneud hynny
oherwydd ni sy’n gweithredu fel y bont rhwng y gymuned a’r Cyngor, ac angen
gwybod bod y trefniadau yn ddigon da i dawelu unrhyw faterion all godi. Rydw i wedi gofyn i’r Adran edrych i mewn i’r
cyfathrebu gyda’r aelod, ac mae’n edrych
i mi fel ein bod yn ymateb yn syth.
Rydym ni’n ymateb i’r problemau yn ysgrifenedig, ac os oes yna unrhyw
broblemau’n codi, rydym ni’n ymateb.
Mae’r rhan fwyaf o’r ymatebion rydw i wedi gweld ar ddu a gwyn gan yr
aelod yn diolch yn fawr iawn i’r swyddogion am eu hymateb sydyn, felly rydw i’n
hapus gyda’r hyn mae’r Cyngor yn ei wneud i helpu ein pobl ni ac i reoli’r
sefyllfaoedd. Rydw i’n hapus gyda’r hyn
mae’r Adran yn ei wneud o ran cyfathrebu yn ddigon da hefo aelodau.
Wrth gwrs, yr hyn sy’n bwysig ydi - rydym ni’n sôn
am broblem sy’n fy nychryn yn fawr iawn, ac mae’n gwbl anfoesol bod hyn yn
digwydd yng Nghymru yn yr unfed ganrif ar hugain. Nid y Cyngor sy’n achosi’r digartrefedd o
gwbl. Y cwbl rydym ni’n wneud ydi ceisio
rheoli’r sefyllfa, sef sefyllfa sy’n gwaethygu’n ddyddiol. Os ydym ni eisiau pwyntio bys at unrhyw un,
dylem bwyntio bys at y bobl yn San Steffan sy’n ein cosbi am nad ydym yn gyfoethog. Maen nhw’n dweud nad oes yna “magic money
tree” i helpu ein pobl ni, ond wrth gwrs mae yna “magic money tree” pan mae’n
dod i roi grantiau i’w mêts aeth i’r un ysgolion â hwy. Bu iddynt ddileu £9bn yn ddiweddar fel
‘twyll’ ar ran eu mêts hwy, ac mae’n bwysig cofio o ble mae’r broblem yn
deillio, ac nid yw’n deillio o’r Cyngor.
Rydw i eisiau i chi i gyd deimlo fel rydw i’n teimlo. Fel aelodau, rydym ni wedi sefyll oherwydd
ein bod ni’n dymuno edrych ar ôl ac amddiffyn ein pobl - nid oherwydd yr arian. Rydym ni’n gwneud y gwaith oherwydd ein
dymuniad i helpu ein pobl ni, ac rydw i eisiau gwneud yn siŵr eich bod
chi’n teimlo fel mae’r Adran Tai a’r Uned Ddigartrefedd yn teimlo, achos rydym
ni yma i edrych ar ôl ein pobl. Os ydi’r
aelod yn cael unrhyw broblemau pellach, ac yn teimlo’n anhapus gyda’r ffordd
mae’r Adran yn delio ag unrhyw beth, gofynnaf iddo gysylltu â mi yn
uniongyrchol.”
Cwestiwn Atodol gan y Cynghorydd Kevin Morris Jones
“Ydi Cyngor Gwynedd wedi
bod yn rhoi cyn-garcharorion yn y gwesty yma dros dro?”
Ateb gan yr Aelod Cabinet Tai, y Cynghorydd Craig ab Iago
“Na, nac unrhyw bedoffilyddion na throseddwyr rhyw
chwaith, ac nid ydym yn rhoi pobl sy’n gallu bod yn beryglus yng nghanol
cymunedau. Rydym ni’n sôn am ein pobl
ni, pobl Gwynedd, pobl sydd wedi digwydd taro ar gyfnod anodd yn eu bywydau, ac
sydd angen cymorth. Dyma pam rydym ni
yma, i helpu pobl Gwynedd i fyw yn eu cymunedau.”
(3) Cwestiwn
gan y Cynghorydd Annwen Hughes
“A fyddai’n bosib’
i’r Arweinydd roi diweddariad i ni ar gynllun Ffordd Osgoi Llanbedr?”
Ateb gan yr Arweinydd, y Cynghorydd Dyfrig Siencyn
“Fel y gŵyr pawb
ohonoch, mae hwn yn fater sy’n agos iawn at galon yr aelod, ond yn agos iawn at
fy nghalon innau hefyd. Fe gofiwch fod
cynllun ffordd sylweddol yn ardal Llanbedr wedi’i wrth-droi gan Lywodraeth
Cymru Mis Tachwedd y llynedd, o ganlyniad i adolygiad ffyrdd annibynnol, oedd
yn awgrymu nifer o wendidau amgylcheddol ac economaidd yn y cynllun. Roedd dwy elfen i’r cynllun ffordd:-
·
Ffordd osgoi i bentref
Llanbedr, sydd yn gul iawn ei natur, gyda phont gul iawn yn y pentref, ac yn
dioddef tagfeydd sylweddol iawn yn rheolaidd.
·
Gwella mynediad i safle
Canolfan Awyrofod Eryri sydd yn angenrheidiol i wireddu potensial llawn y
safle, ac i greu swyddi o ansawdd yn y maes gofod ac awyrennau arloesol.
Fe wrthwynebodd Cyngor Gwynedd benderfyniad panel
yr adolygiad ffyrdd yn frwd, gan fanylu ar restr hir o ddiffygion oddi fewn i’w
hadroddiad terfynol. Fe yrrwyd llythyrau
i weinidogion, gan gynnwys y Prif Weinidog, a chynhaliwyd cyfarfodydd gyda
swyddogion Llywodraeth Cymru yn y maes trafnidiaeth a’r economi, a hefyd fe
fynychais i ddau gyfarfod cyhoeddus ym mhentref Llanbedr. Yn anffodus rydym bellach mewn sefyllfa lle,
er na all Llywodraeth Cymru egluro’r diffygion yng ngwaith y panel adolygu, nid
ydynt chwaith yn barod i ail-edrych ar y gwaith. Mae penderfyniad Llywodraeth Cymru i beidio â
chefnogi’r cynllun ffordd yn debygol o sefyll, ac mae hynny’n dristwch ac yn
gam ar bobl Llanbedr yn wir.
Rhaid cofio fod y cynllun yn parhau i fod gyda
chaniatâd cynllunio, ond fod penderfyniad Llywodraeth Cymru i beidio â’i
gefnogi’n ariannol wedi arwain at golli'r holl gyllid gweddilliol oedd ei angen
i’w weithredu, ac mae hynny’n cynnwys £7.5m o gronfeydd Ewrop, ac mae'r rheini
wedi’u colli’n llwyr i Gymru gyfan - maen nhw wedi mynd. Roedd hyn oherwydd tynnu nôl ar addewidion
blaenorol o arian trafnidiaeth ac arian economaidd (oherwydd statws Ardal
Fenter y Ganolfan Awyrofod).
Wrth symud ymlaen, byddwn yn cydweithio gyda Llywodraeth Cymru i edrych sut bydd modd gwella’r fynedfa
i’r Maes Awyr, ac maen nhw’n hynod o awyddus i wneud hynny. Mae’r Safle yn
allweddol yn y Strategaeth Ofod sydd newydd gael ei chyhoeddi gan Lywodraeth
Cymru. Mae’n amlwg, felly, eu bod yn
parhau i gefnogi datblygiad y Safle, ac mae gwella’r mynediad yn greiddiol i
weithrediad llwyddiannus nifer o argymhellion yr adroddiad. Fel rhan o’r gwaith o ail-edrych ar wella’r
ffordd mynediad, rydym yn bwriadu sicrhau fod pob modd o drafnidiaeth yn cael
ei ystyried, fel bod modd gwella’r cysylltiadau cerdded a beicio i’r dyfodol.”
Cwestiwn Atodol gan y Cynghorydd Annwen Hughes
“Yn dilyn y newyddion
bod yna gynllun newydd i lansio sector ofod, a fydd yna gynlluniau eraill yn
cael eu rhoi ar y gweill i wella’r mynediad i’r maes awyr yn Llanbedr?”
Ateb gan yr Arweinydd, y Cynghorydd Dyfrig Siencyn
“Mae’n galondid bod Gweinidog yr Economi, Vaughan
Gething, wedi cyhoeddi ei Strategaeth Ofod sy’n rhoi pwys mawr ar bosibiliadau
yn Llanbedr, ac mae’r posibiliadau hynny yn bwysig iawn i ni, nid yn unig yn
Llanbedr ei hun, ond ym Meirionnydd, ac ymhellach. Mae yna gyfleoedd am swyddi o safon uchel yn
fan hyn. Mae’n rhyfedd, achos mae un
gweinidog wedi gwrthod y cynllun. Mae’r
Panel Annibynnol, gyda llaw, wedi honni nad yw’r safle yma a’r math yma o
ddatblygiad yn addas ar gyfer ardaloedd gwledig, ac rydw i wedi tynnu sylw sawl
gwaith at y bygythiad sydd yna i ddatblygiadau economaidd mewn ardaloedd
gwledig, lle rydym ni wirioneddol angen y gwaith. Mae hwn yn rhoi rhywfaint o gysur i mi, ac yn
rhoi rhywfaint o obaith i ni a dweud y gwir.
Mae llaw chwith y Llywodraeth yn gwrthod; mae’r llaw dde eisiau gwneud
rhywbeth, ac mi fyddaf, yn fuan iawn, yn trefnu cyfarfod gyda Gweinidog yr
Economi a’i dîm, mae’n debyg, i drafod sut mae o’n bwriadu bwrw ymlaen â’i
gynlluniau heb unrhyw fath o gynllun ffordd.
Yn y cyfamser, mae ein swyddogion ni yn cydweithio gyda swyddogion
Trafnidiaeth Cymru a Llywodraeth Cymru i fwrw ymlaen gydag astudiaethau
angenrheidiol i weld oes yna unrhyw fath o ddatrysiad gwahanol i’w gael i’r
ffordd yma. Rydych chi a fi yn adnabod
yr ardal yn dda iawn, ac rydym ni’n gwybod nad oes dewis arall heblaw’r cynllun
yma. Ond dyna fo - yn anffodus, bydd
rhaid i ni fwrw ymlaen i gydweithio a gweld lle wnawn ni gyrraedd. Ond byddaf yn cael trafodaethau pellach gyda
gweinidogion yn y cyfamser. Mae’n
siomedig hefyd nad ydynt wedi gallu ateb ein cwestiynau, oedd yn gwestiynau
penodol, ond rydym ni wedi cael cyfarfod hefo swyddogion, ac yn anffodus, dim
ond siarad y gwasanaeth sifil rydym ni’n ei gael - atebion sydd ddim yn atebion
mewn difri’.”
(4) Cwestiwn
gan y Cynghorydd Sion Jones
“Fe ddaru
Llywodraeth Cymru roi £550,000 i Gyngor Gwynedd llynedd i ddatblygu llwybr
beicio o Fethel i Gaernarfon. Mae Rhan 1
o'r llwybr hwn wedi’i gwblhau yn ddiweddar o Fethel i Dyddyn Hen, gyda diolch
i'r Adran Drafnidiaeth am sicrhau gwaith o ansawdd uchel. Mae Llywodraeth Cymru wedi rhoi arian pellach
o £200,000 er mwyn cynllunio a datblygu'r 'Ail Ran' o'r llwybr, o Dyddyn Hen,
Bethel i Gaernarfon. A ydi’r Aelod
Cabinet yn gallu rhoi sicrwydd i mi fod hwn yn flaenoriaeth gan yr Adran
Drafnidiaeth i gwblhau'r cynllun hwn o fewn o flwyddyn nesaf?”
Ateb gan yr Aelod Cabinet Amgylchedd, y Cynghorydd Gareth Griffith
“Mae’r Adran wedi
paratoi ateb cynhwysfawr i’r cwestiwn.
Mae o wedi llithro rhywfaint fel mae’r aelod yn ymwybodol, ac rwy’n
gwybod hefyd bod yr aelod wedi bod mewn cyswllt hefo’r Adran. Mae yna broses hefo prynu tir, ac ati, sy’n
cymryd amser. Mae hynny wedi llithro
rhywfaint, ond mae’r ateb heddiw hefyd yn sôn am gynlluniau eraill sydd gan yr
Adran ar gyfer llwybrau tebyg ar hyd y sir.
Er ei fod wedi llithro rhywfaint, rydym ni’n gobeithio y bydd yn cael ei
gwblhau o fewn y cyfnod mae’r aelod yn sôn amdano.”
Cwestiwn Atodol gan y Cynghorydd Sion Jones
“Oes angen swyddog penodol i ddelio gyda theithio
llesol yng Ngwynedd?”
Ateb gan yr Aelod Cabinet Amgylchedd, y Cynghorydd Gareth Griffiths
“Mae hwn yn disgyn o fewn gwahanol adrannau, nid
Amgylchedd yn unig. Mae’n bwynt da, ac
yn rhywbeth sy’n codi’n aml. Efallai bod
yna alw am rywbeth o’r fath, ac mi wnâi godi hyn hefo’r Adran.”
(5) Cwestiwn
gan y Cynghorydd Judith Humphreys
“Fel
rhan o waith ac ymdrechion y Cyngor hwn i sicrhau cyfartaledd merched a dynion
a’r ymrwymiad i weithio tuag at daclo trais yn erbyn merched, a fyddai’r Cyngor
yn ystyried cymryd camau tuag at ennill achrediad Rhuban Gwyn? Byddai hyn yn
ddatganiad clir o ymrwymiad y Cyngor.”
Ateb gan yr Aelod Cabinet Cefnogaeth Gorfforaethol, y Cynghorydd Nia
Jeffreys
“Diolch i’r aelod am ei
gwaith yn hyrwyddo’r cynllun “Rhuban Gwyn” ac am bopeth mae’n wneud i hyrwyddo
hawliau merched ar bob cyfle. Mudiad
elusennol ydi “Rhuban Gwyn”, sydd yn ymgyrchu i ddod a thrais gan ddynion yn
erbyn merched i ben. Ei nôd yw i bob dyn
gyflawni’r addewid Rhuban Gwyn, sef i beidio bod yn dreisgar yn erbyn merched
ac i beidio esgusodi nac ychwaith i gadw’n ddistaw am drais yn erbyn merched.
Mae’r elusen yn ceisio bod yn gatalyst, trwy annog
pobl, yn benodol bechgyn a dynion, i newid ymddygiad ple bo angen gyda’r
pwyslais ar gymryd camau rhagweithiol a hyrwyddo cydraddoldeb a pharch.
Mae pob sefydliad yng
ngwledydd Prydain yn gallu cael ei achredu gan “Rhuban Gwyn”. Yn ôl yr elusen,
mae sicrhau’r achrediad yn helpu sefydliad i:-
·
Wneud gwahaniaeth yn
eich cymunedau er mwyn dod a thrais yn erbyn merched i ben;
·
Cynyddu gwybodaeth a
sgiliau staff i gyfarch trais yn erbyn merched;
·
Bod yn gyflogwr o ddewis
Mae’n bwysig nodi bod
llawer o waith da eisoes yn cael ei gyflawni o fewn y Cyngor yn y cyd-destun
yma gyda’r amodau gwaith ar gyfer staff yn cynnwys polisi trais yn y cartref
(sydd yn nodi’r gefnogaeth sydd ar gael mewn sefyllfaoedd o’r math) tra bo
swyddogion yn y Bartneriaeth Diogelwch Cymunedol o fewn yr Adran Oedolion,
Iechyd a Llesiant yn gwneud llawer i godi ymwybyddiaeth a dwyn sylw i’r mater.
Mae swyddogion y Gwasanaeth Adnoddau Dynol eisoes
wedi bod mewn cyswllt efo’r elusen i ddatgan diddordeb mewn cyflwyno cais am
achrediad a hynny fel rhan o’r gwaith sydd wedi’i adnabod fel blaenoriaeth
gorfforaethol yng Nghynllun y Cyngor, sef “Sicrhau Tegwch i Bawb”.
Y bwriad yw cyflwyno’r cais ffurfiol ar gyfer
achrediad yn ystod yr wythnosau nesaf ac os y’i cymeradwyir, i weithio efo’r
elusen i sefydlu cynllun gwaith ar sail pedwar maen prawf penodol sef;
·
Arweiniad strategol
·
Gweithio efo dynion a
bechgyn
·
Newid Diwylliant
·
Codi Ymwybyddiaeth
Bydd sicrhau achrediad
yn y lle cyntaf ac yna sefydlu cynllun gwaith penodol, mewn cydweithrediad a’r
elusen, yn arddangos yn glir ac yn gryf ein hymrwymiad fel Cyngor i wneud
gwahaniaeth yn ein hymdrechion i ddod a thrais yn erbyn merched i ben.”
(6) Cwestiwn
gan y Cynghorydd Angela Russell
“Cyhoeddwyd Adroddiad
Coleg Brenhinol y Llawfeddygon (Royal College of Surgeons) yn ddiweddar i
wasanaethau VASCULAR Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr.
Mi gollwyd gwasanaeth
vascular yn Ysbyty Gwynedd yn 2019 a symudwyd y cyfan i Ysbyty Glan Clwyd. Collwyd gwasanaeth byd enwog am ei
lwyddiannau yn Ysbyty Gwynedd a chollwyd hefyd llawfeddyg adnabyddus o
lwyddiannus a phoblogaidd, sef Yr Athro Dean Williams.
Mae Adroddiad y Coleg
Brenhinol yn rhoi stori ddychrynllyd am safon y gwasanaeth newydd yng Nglan
Clwyd – mae’n adrodd am lefelau marwolaethau uchel (yr uchaf ym Mhrydain mewn
sawl maes) a hefyd straeon am “amputations” di angen. Wrth ddarllen adroddiad y
Coleg Brenhinol mae yn swnio fel gwasanaeth trydydd byd, nid gwasanaeth mewn un
o wledydd cyfoethocaf y byd.
Rhwng 2019 pan
ganolwyd y gwasanaeth yng Nglan Clwyd, a 2021, mi ysgrifennais gyfres o
lythyrau, fel Arweinydd y Grŵp Annibynnol yng Ngwynedd, at Gadeirydd a
Phrif Weithredwr y Bwrdd Iechyd yn datgan pryder. Buom mewn cysylltiad hefyd efo’r Crwner ac
Iechyd Cyhoeddus Cymru ar fwy nag un achlysur, ac ysgrifennais sawl llythyr i’r
Daily Post i dynnu sylw at y mater.
Mae wedi cymryd dros
DAIR BLYNEDD i’r Bwrdd Iechyd gydnabod fod 'na wendidau enfawr yn y gwasanaeth
a bod 'na gleifion wedi dioddef yn gwbl ddiangen. Erbyn hyn mae’r gwasanaeth
mor ddychrynllyd nes y bydd Ysbyty Lerpwl yn goruchwylio gwaith y llawfeddygon.
Buddsoddwyd bron i £3m
mewn theatr vascular newydd yng Nglan Clwyd a chyhoeddwyd fod gennym yng
Ngogledd Cymru “state of the art theatre” .
Y gwir amdani yw nad
yw teganau sgleiniog newydd ddim bob amser yn golygu y bydd gwasanaeth yn
well. POBL sydd yn gwneud gwasanaeth da,
pobl fel yr Athro Dean Williams, oedd efo’r profiad, y sgiliau, a’r arbenigedd
gyda chleifion. Mae’r golled yn aruthrol
ar ei ôl.
Ydi’r Cyngor yn
cytuno y dylem ni gydweithio AR DRAWS PLEIDIAU GWLEIDYDDOL yn y Cyngor Sir yma
er mwyn cefnogi a sicrhau gwasanaethau yn lleol yn Ysbyty Gwynedd?”
Ateb gan yr Aelod Cabinet Oedolion, Iechyd a Llesiant, y Cynghorydd
Dafydd Meurig
“Wrth gwrs rydw i’n cytuno 100% hefo’r aelod. Mae’r penderfyniad wnaeth Bwrdd Iechyd
Prifysgol Betsi Cadwaladr yn ôl yn 2017, rwy’n meddwl, yn anfaddeuol. Mae’r adroddiad rydym ni wedi dderbyn am y
gwasanaeth yn Ysbyty Glan Clwyd yn ddamniol a dweud y lleiaf, ac rwy’n sicr yn
fodlon iawn dal i weithio ar draws ffiniau gwleidyddol hefo’r aelod, ac eraill,
i drio cael y maen yna i’r wal. Mae yna
lawer o bobl wedi bod yn gweithio yn ddygn iawn dros y blynyddoedd i drio tynnu
sylw at hyn, ac rwyf yn bendant yn cytuno gyda’r aelod, ac yn barod i weithio.”
(7) Cwestiwn
gan y Cynghorydd John Brynmor Hughes
“A yw Arweinydd Plaid Cymru yn cytuno gyda chynghorydd sydd yn
cynrychioli ardal wledig mai’r cwbl mae ffermwyr yn wneud ydi pesgi ar arian
cyhoeddus trwy eu bywyd?”
Ateb gan yr Arweinydd, y Cynghorydd Dyfrig Siencyn
“Un cywiriad i’r
cwestiwn i ddechrau rhag bod unrhyw gamargraff – nid ydw i yn Arweinydd Plaid
Cymru – Arweinydd Cyngor Gwynedd ydw i, ac yn falch o hynny. Mae’r cwestiwn yma yn agos iawn iawn at fy
nghalon ac mae’r ateb yn syml. Gallwn
fod wedi ei ateb mewn un gair – Na. Nid
ydw i’n cytuno gyda’r datganiad yna os oes sail iddo. Rwy’n credu mewn difri’ bod yr awgrym yn
sarhad ar sector sydd ar hyn o bryd dan fygythiad ar draws Cymru gyfan. Rydw i’n gwybod o brofiad personol o fod wedi
gweithio yn y byd amaethyddol trwy fy oes.
Mae amaethwyr yn
gwneud cyfraniad allweddol i warchod a chynnal ein hamgylchedd, economi,
diwylliant ac iaith ein cymunedau. Mae’r cyfraniad yma yn amhrisiadwy, ac yn
cyfiawnhau gwerth buddsoddiad cyhoeddus.
Ond mae’r newidiadau sydd yn wynebu’r sector a’r economi wledig yn
sylweddol, a rhaid i ni fod yn effro i’r risgiau all drawsnewid gwead ein
cymunedau gwledig.
Nid yw Llywodraeth y DG yn darparu’r holl arian
sydd yn ddyledus i ariannu'r taliadau uniongyrchol i ffermwyr na’r cynlluniau
datblygu gwledig yn dilyn gadael yr UE.
Mae diffyg o £137 miliwn yn y flwyddyn ariannol bresennol o’r hyn sydd
yn dod gan Lywodraeth y DG i Lywodraeth Cymru ar gyfer cefnogi amaeth a
datblygu gwledig. Mae hyn yn creu pryder
gan nad yw’n ymddangos y bydd Cynllun Datblygu Gwledig newydd Llywodraeth Cymru
i’r dyfodol yn ariannu'r math o weithgaredd i gefnogi’r economi leol welwyd dan
y Cynllun Datblygu Gwledig Cymru o fewn yr UE, a bydd yn canolbwyntio o hyn
allan ar gefnogi cynlluniau amgylcheddol.
Mae pryder hefyd bydd y cynllun newydd sydd yn cael ei ddatblygu gan
Lywodraeth Cymru - Cynllun Ffermio Cynaliadwy - sydd yn cymryd lle’r Cynllun
Tâl Sylfaenol o 2024/25 ymlaen, yn canolbwyntio gormod ar gefnogi ffermwyr i
fod yn rhan o gynlluniau amgylcheddol a phlannu coed, yn hytrach na chynhyrchu
bwyd. Gallwn weld sefyllfa o dan y
polisi yma lle na fydd yn hyfyw i ffermwyr barhau i amaethu a bydd ein ffermydd
yn cael eu prynu, fel y gwelwn yn barod, gan sefydliadau o du allan i Gymru fel
buddsoddiad, a gall yr effaith ar ein cymunedau gwledig fod yn bellgyrhaeddol
iawn. Mae’n allweddol fod ein polisïau
i’r dyfodol yn ein galluogi i ymateb i’r bygythiad yn gadarnhaol.”
(8) Cwestiwn
gan y Cynghorydd Elwyn Jones
(Gofynnwyd y cwestiwn gan y
Cadeirydd yn absenoldeb y Cynghorydd Elwyn Jones)
“Bu llawer o ymgyrchu dros y blynyddoedd, yn
enwedig yn Ne'r Sir i ddiddymu codi tâl ar Ddisgyblion/Myfyrwyr dros 16 i
fynychu Coleg neu ysgol. Ar gyfer
cyllideb 2022-23 mae £260K wedi ei ddynodi ar gyfer gwneud hynny. Ar gychwyn 2021 hysbysebwyd am fidiau gan
Wynedd am gontractau bysus ysgolion Arfon yn MYNNU fod rhaid cael bysus cymwys
PSVA (Public Service Vehicle Access Regulation).
Un o’r rhesymau dros
hynny oedd bod yna yn Arfon ddisgyblion Blwyddyn 12 a 13 yn talu am eu cludo i
Ysgolion – h.y. yn talu am deithio (paying passengers) ac felly fel gwasanaeth
bws.
Oherwydd prinder bysus
o’r math roedd Adran Trafnidiaeth Llundain wedi gohirio dod â’r ddeddf i rym
dwy neu dair gwaith - ac fel hyn mae ar hyn o bryd.
Serch hynny ‘roedd Adran Trafnidiaeth Gwynedd yn
mynnu (a gwn bod cwmni lleol wedi gorfod gwario yn sylweddol iawn i newid 5
bws). Oherwydd y gwariant sylweddol
roedd cynnydd wrth gwrs ym mhrisiau cytundebau = costau uwch i Wynedd. Felly am 5 mlynedd, roedd Gwynedd yn ceisio
cyfiawnhau'r mynnu drwy ddweud mai ar gyfer yr anabl oedd yr angen.
Cytunaf gant y cant,
wrth gwrs bod rhaid cael cydraddoldeb, ond faint o’r disgyblion yma oedd yn
dymuno teithio ar fws ysgol, tra’r oedd trefniant tacsi neu deulu yn bodoli.
Gai ofyn felly beth oedd
y cynnydd yn y gost contractau bysus ysgolion Arfon o fynnu bod y bysus yn
cydymffurfio a rheoliadau PSVAR o’i gymharu â’r hen gytundebau?”
Ateb gan yr Aelod Cabinet Amgylchedd, y Cynghorydd Gareth Griffith
“Mae’r aelod wedi cysylltu â’r Adran ynglŷn â
hyn cyn heddiw, ac wedi cael ateb. Rydw
i wedi siarad hefo un o’i etholwyr sydd wedi cael ei effeithio gan hyn. Y sefyllfa ydi bod Llywodraeth San Steffan
wedi dod â set o reolau i mewn, sy’n cynnwys y math o fysus sy’n rhaid i ni eu
cael ym Mhrydain, ac yn dilyn hynny, mae’r Awdurdod yma wedi gorfod gofyn i
gwmnïau dendro, ac i’r cwmnïau yna fod hefo’r bysus priodol. Rydw i’n gwybod bod hyn wedi bod yn ddrud i
gwmnïau lleol, ond nid oes gennym ni ddewis yn y mater. Mae Llywodraeth San Steffan wedi gohirio’r
penderfyniad i gychwyn gweithredu’r rheolau amryw o weithiau, er rydw i ar
ddeall mai mis Mehefin yma mae’n cychwyn.
Rydw i’n deall pryderon yr aelod, ac rydw i wedi siarad hefo o leiaf 2
gwmni lleol am y trafferthion roedden nhw wedi cael, ond mae gwraidd y peth
wedi bod yn Llywodraeth San Steffan yn y dechrau felly.”
(9) Cwestiwn
gan y Cynghorydd Gwynfor Owen
“Mae goryrru yn boendod i lawer iawn o
gymunedau, ac mae fy Ward innau, sef Harlech a Thalsarnau yn dioddef yn
aruthrol o'r broblem. Mae'r Cyngor wedi
cynnal arolwg o'r sefyllfa yn Harlech ac yn Nhalsarnau. Maent yn cydnabod bod problem yn bodoli a bod
angen gwneud rhywbeth am y broblem, ond nid oes dim wedi ei wneud. Gofynnaf felly beth mae'r Cyngor am ei wneud
ynglŷn â'r broblem yma mewn cymunedau ble mae arolygon y Cyngor eu hunain
yn profi bod problem yn bodoli?”
Ateb gan yr Aelod Cabinet Amgylchedd, y Cynghorydd Gareth Griffiths
“Mae’r Adran wedi gyrru ateb ysgrifenedig, ac fel
mae hwnnw’n nodi, mae’r Adran yn ceisio gweithio hefo partneriaid i ddelio hefo
problemau fel hyn, a hefyd wrthi’n rowlio allan dros y flwyddyn nesaf reolau y
bydd Llywodraeth Cymru yn orfodi arnom hefo lonydd yn y sir, lle mae’r uchafswm
cyflymder yn mynd i fod yn 20mya. Mae
yna dipyn o waith yn mynd i mewn hefo hynny, a dyna ydi’r sefyllfa ar hyn o
bryd.”
Cwestiwn Atodol gan y Cynghorydd Gwynfor Owen
“Ar ôl llawer o swnian, cefais swyddog i gytuno i
ymweld â’r safleoedd ym mis Medi a chafodd mesuryddion eu gosod gyda’r
canlyniadau yn cael eu rhyddhau ym mis Hydref.
Eto, mewn cyfarfod gyda’r swyddog mis diwethaf, dywedwyd wrthyf fod y
Cyngor yn ystyried ymgynghori â’r gymuned tua mis Mehefin. Rydw i’n siŵr y byddai’r Aelod Cabinet
yn cytuno hefo fi nad yw oedi fel hyn yn dderbyniol, ond beth all yr Adran ei
wneud i gyflymu’r broses?”
Ateb gan yr Aelod Cabinet Amgylchedd, y Cynghorydd Gareth Griffiths
“O ran cyflymu’r broses, mae hynny’n anodd
iawn. Rydw i’n ymddiheuro eich bod wedi
gorfod disgwyl gymaint o amser. Mae’n
siŵr bod y cynghorwyr eraill yn cofio yn eithaf diweddar i Dafydd Wyn
Williams, Pennaeth yr Adran, ysgrifennu atom i gyd yn egluro’r problemau mae’r
Adran wedi cael, ac yn trio datrys gwahanol bethau - problemau staff, problemau
newid mewn staff, salwch hir dymor - mae o i gyd wedi effeithio ar yr Adran, ac
adrannau eraill o’r Awdurdod hefyd.
Mae’r pandemig yn dal hefo ni, ac mae’r adrannau yn dal i drio delio
hefo hynny, ond roedd Dafydd Wyn Williams wedi ysgrifennu at bawb yn ymddiheuro
ac yn gofyn i bobl fod yn amyneddgar, ac fel rwy’n dweud, rwy’n siŵr ein
bod ni i gyd fel cynghorwyr hefo’r un math o gwestiwn o ran goryrru yn ein
wardiau ni. Mae’r Adran yn trio delio
hefo pawb ydi’r ateb gonest gwir, ac yn stryglo i fedru delio hefo bob
dim. Rydw i’n ymddiheuro am hynny, ond
bydd yr Adran yn parhau i drio gweithio hefo pawb, a hefo cynghorwyr hefyd.”