Derbyn unrhyw
gyhoeddiadau gan y Cadeirydd.
Cofnod:
Cydymdeimlwyd â theulu cyn-gadeirydd y Cyngor hwn, Evie Morgan Jones,
a rhoddwyd teyrnged iddo gan y Cynghorydd Annwen Hughes.
Cydymdeimlwyd â’r canlynol hefyd:-
·
Y
Cynghorydd Menna Baines a’r teulu ar golli tad Menna.
·
Y
Cynghorydd Eirwyn Williams a’r teulu ar golli mam Eirwyn yn gant oed.
·
Aelod
Seneddol Dwyfor Meirionnydd, Liz Saville Roberts a’r teulu ar golli mam Liz.
·
Teulu Aled Roberts, y
Comisiynydd Iaith, a fu farw’n ddiweddar.
Nodwyd hefyd bod y Cyngor yn dymuno cofio am bawb o fewn cymunedau’r sir
oedd wedi colli anwyliaid yn ddiweddar.
Ymdawelodd y Cyngor fel arwydd o barch a choffadwriaeth.
Rhoddwyd datganiad gan yr
Arweinydd ar ran y Cyngor ar y sefyllfa yn Wcráin. Nododd:-
·
Y dymunai ddatgan cefnogaeth y Cyngor i bobl Wcráin
a’u hawl sylfaenol i benderfynu eu tynged eu hunain, heb gael eu gormesu drwy
drais gan wladwriaeth unbeniaethol.
·
Y byddai Cyngor Gwynedd yn barod i wneud ei ran i
groesawu unrhyw ffoaduriaid a chynnig lloches iddynt yn ddiamod.
·
Ei fod yn flin nad yw Llywodraeth San Steffan yn
derbyn ffoaduriaid yn ddiamod fel mae gwleydd eraill Ewrop wedi gwneud, a bod
eu hagwedd yn ddidrugaredd a chreulon.
·
Iddo fod mewn cyfarfod y diwrnod cynt rhwng
arweinyddion cynghorau Cymru a Llywodraeth Cymru a chynrychiolwyr o fudiadau
gwirfoddol, a bod o gwaith o gydlynu a pharatoi yn mynd rhagddo.
·
Bod pobl Gwynedd yn awyddus i helpu ymhob ffordd
bosib’, ac y byddai’r Cyngor yn gwneud ei orau i roi arweiniad a chymorth ble
gallai.
·
Y byddai cysylltiadau a argymhellir gan y
Llywodraeth o ran cynorthwyo a gwneud cyfraniadau yn cael eu rhannu gyda’r
aelodau maes o law.
Nododd yr Arweinydd
ymhellach iddo dderbyn cwestiwn ynglŷn ag unrhyw gysylltiad masnachol gyda
chwmnïau o Rwsia, ac yn benodol ynglŷn â buddsoddiadau Cronfa Bensiwn
Gwynedd. Eglurodd fod Cronfa Bensiwn
Gwynedd yn buddsoddi trwy Bartneriaeth Pensiwn Cymru, a bod datganiad a
baratowyd gan y bartneriaeth honno yn nodi:-
“Mae
cyfanswm ein cysylltiad â Buddsoddiadau Rwsiaidd yn fach iawn ac yn llai nag
1%. Er hynny, yng ngoleuni'r
digwyddiadau ofnadwy yr ydym wedi'u gweld a'r sancsiynau economaidd a osodwyd
yn rhyngwladol, rydym wedi penderfynu'n gyfunol y dylid dadfuddsoddi o'r
daliannau hyn cyn gynted ag y bo'n ymarferol bosibl.
O ystyried
yr amgylchiadau, nid ydym yn credu bod ymwneud â'r cwmnïau hyn yn opsiwn
posibl.”
Nododd yr Arweinydd ymhellach mai’r drasiedi
fawr yn yr achos yma oedd bod perthynas agos a chyfeillgar yn bodoli rhwng pobl
Wcráin a
phobl Rwsia, a’i bod yn bwysig sylweddoli fod pobl Rwsia yn dioddef hefyd, ac
nad eu rhyfel hwy oedd hwn. Ychwanegodd
yr edmygid dewrder y sawl sy’n barod i fynegi eu gwrthwynebiad i’r rhyfel yma
yn wyneb erledigaeth lem, a mawr obeithid y byddai’r trafodaethau’n parhau, ac
y deuai heddwch maes o law.
Nododd y Cadeirydd, ar
drothwy etholiadau lleol 2022, bod 22 arweinydd cynghorau Cymru wedi cymeradwyo
datganiad ynglŷn â chynnal yr ymgyrch etholiadol, oedd yn galw ar bleidiau
ac ymgeiswyr i ymrwymo i ymgyrchu mewn modd sydd yn deg a pharchus. Eglurwyd bod yr adroddiad “Addewid Ymgyrch Deg” i’w weld ar fewnrwyd yr Aelodau, ac y
byddai pob aelod yn derbyn linc iddo.
Nododd y
Cadeirydd, gan mai hwn oedd y cyfarfod olaf o’r Cyngor llawn cyn yr etholiadau,
yr hoffai ddymuno’n dda i bawb o’r aelodau fyddai’n sefyll etholiad, a hefyd
i’r aelodau hynny oedd wedi penderfynu peidio sefyll etholiad, gan ddiolch i
bawb am eu cydweithrediad dros y 5 mlynedd ddiwethaf. Nododd hefyd, fel un na fyddai’n ail-sefyll,
ei bod yn dristwch ganddo fod y cyfarfod olaf hwn o’r Cyngor yn digwydd yn
rhithiol, gydag aelodau’n methu ffarwelio â chyfeillion roeddent wedi
cydweithio â hwy dros y blynyddoedd, a mynegodd ei obaith y byddai’r Siambr yn
llawn unwaith eto yn dilyn yr etholiad ym mis Mai.