Agenda item

Ymestyn safle carafannau teithiol i gae cyfochrog gan ail leoli un uned a creu 10 llain deithiol newydd a gwelliannau amgylcheddol 

 

AELOD LLEOL:  Cynghorydd Simon Glyn

 

Dolen i'r dogfennau cefndir perthnasol

Cofnod:

Ymestyn safle carafanau teithiol i gae cyfochrog gan ail leoli un uned a chreu 10 llain deithiol newydd a gwelliannau amgylcheddol.

 

 

(a)          Ymhelaethodd y Swyddog Rheolaeth Datblygu ar gefndir y cais, gan nodi bod y safle yng nghefn gwlad ac fe’i gwasanaethir gan ffordd sirol wledig dosbarth 3 a thrac fferm.  Nodwyd bod y safle carafanau ar fymryn o lethr, tu ôl i res aeddfed o goed sy’n ffinio ag afon Pen y Graig sydd islaw mewn pant ger y tŷ fferm a’r adeiladau fferm.

           

            Cyfeiriwyd at y polisïau perthnasol ynghyd â’r ymatebion i’r ymgynghoriadau cyhoeddus.

 

            Tynnwyd sylw bod y cynlluniau wedi newid o’r hyn gyflwynwyd yn wreiddiol, gyda mwy o             welliannau, tirlunio wedi eu cynnig ar ôl trafodaethau gyda swyddogion. Bwriedir plannu             planhigion cymysg naill ochr i fynedfa’r cae, plannu rhagor o goed yma thraw o amgylch y             safle a chodi cloddiau a gwrychoedd bychain fel sgrin ar ben y rhes.  Nodwyd ymhellach         bod y safle yn gymharol guddiedig ac anymwthiol yn y tirlun.

 

            Gweithredir y safle presennol rhwng 1 Mawrth a 31 Hydref a byddai’r un cyfnod yn             berthnasol i’r unedau newydd. Mae’r dystysgrif defnydd cyfreithlon yn rhoddi hawl i storio        8 o’r carafanau ar eu lleiniau yn barhaol, ac fel rhan o’r gwelliant gofynnwyd i’r ymgeisydd          ystyried symud y carafanau storio dros gyfnod y gaeaf i gornel fwy cuddiedig.

 

            Nodwyd bod cymdogion agosaf led cae i ffwrdd o’r safle sydd yn bellter rhesymol i sicrhau       bod preifatrwydd a mwynderau’r cymdogion yn cael eu gwarchod.

 

            O safbwynt materion trafnidiaeth a mynediad, datganwyd bryder yn wreiddiol am y         cynnydd mewn traffig ar y lon oherwydd bod mannau pasio yn brin ond nodwyd bod yr     ymgeisydd wedi cynnig creu man pasio ychwanegol ac o ganlyniad tynnwyd gwrthwynebiad yr Uned Drafnidiaeth yn ôl.  Yn seiliedig ar sylwadau’r Uned Drafnidiaeth          ystyrir bod y bwriad yn dderyniol yn amodol bod y man pasio yn cael ei ddarparu i             gydymffurfio a gofynion sy’n ymwned a diogelwch ffyrdd.

 

Argymhelliad y swyddogion ydoedd caniatau’r cais yn unol ag amodau perthnasol.

 

 

(b)          Yn manteisio ar yr hawl i siarad nododd asiant yr ymgeisydd y prif bwyntiau canlynol:-

 

·         Mai cais syml oedd gerbron i deulu lleol i ychwnaegiad o 10 llain deithiol ynghyd a gwelliannau amgylcheddol a chreu man parcio newydd

·         Bod y bwriad arfaethedig ar gyfer uwchraddio’r safle i safonau modern

·         Er mwyn lliniaru’r pryderon ynglyn a diogelwch ffyrdd, bod y perchennog wedi cynnig gwneud man pasio ychwanegol

·         Bod y safle yn guddiedig iawn

 

(c)          Nododd yr Aelod Lleol (a oedd yn Aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn) gefnogaeth i’r cais a’i fod yn cydymffurfio gyda’r holl bolisïau perthnasol ac apeliwyd i’r Pwyllgor ei ganiatáu. 

 

            Cynigwyd ac eiliwyd i ganiatau’r cais.

 

            Penderfynwyd:       Caniatáu’r cais yn unol â’r amodau canlynol:

 

1.                5 mlynedd

2.                Unol â’r cynlluniau diwygiedig

3.                Cyfyngu niferoedd i 28 uned deithiol

4.                Gosod yr holl garafanau ar eu lleiniau rhwng 1

   Mawrth a 31 Hydref

5.                Gwyliau yn unig

6.                Cadw cofrestr

7.                Storio'r 8 garafán yn y lleoliad a ddangosir ar y

cynllun diwygiedig

8.                Gosod y cloddiau cyn cynyddu’r niferoedd

9.                Tirlunio’r cloddiau a’r tirlunio mewnol yn y

tymor plannu nesaf ac ail blannu os ydynt yn difrodi neu farw.

10.          Cytuno gorffeniad y bloc cyfleusterau

11.          Cwblhau’r man pasio cyn cynyddu’r niferoedd

 

Nodyn: Mesurau i hybu’r iaith Gymraeg

 

Dogfennau ategol: