Agenda item

Cais i ddymchwel modurdy a chodi anecs cysylltiol yn ei le.

 

AELOD LLEOL:  Cynghorydd E. Selwyn Griffiths

 

Dolen i'r dogfennau cefndir perthnasol

Cofnod:

Cais i ddymchwel modurdy a chodi anecs cysylltiol yn ei le.

 

(a)          Ymhelaethodd y Swyddog Rheolaeth Datblygu ar gefndir y cais, gan nodi bod yr eiddo yn dŷ ben teras gyda thrac mynediad yn rhedeg wrth ei ochr a heibio ei gefn er mwyn darparu mynediad cerbydol i dai eraill tu cefn.  Saif y modurdy presennol yng nghefn pellaf cwrtil yr eiddo, ac mae gan dai eraill yn y teras yr un math o drefniant.

 

Golyga’r bwriad i ddymchwel y modurdy presennol a chodi adeilad newydd ar yr un ôl-troed i ffurfio anecs cysylltiol i’r prif eiddo fydd yn darparu ystafell gardd, ystafell ymolchi, ynghyd ag ystafell sbâr ar gyfer defnydd fel ystafell wely/swyddfa. 

 

Cyfeiriwyd at y polisïau perthnasol ynghyd á’r ymatebion i’r ymgynghoriadau cyhoeddus.

 

Tynnwyd sylw bod y safle wedi ei leoli o fewn ffin datblygu pentref Borth y Gest ac er nad oes cysylltiad ffisegol rhwng y prif dy a’r anecs, yr unig ffordd i mewn i’r anecs yw drwy ardd y prif eiddo, sydd o fewn yr un berchnogaeth.

 

Ystyrir bod y bwriad yn dderbyniol ac yn ffordd addas a chynaliadwy o ddarparu ystafelloedd ychwanegol heb danseilio polisïau cynllunio’r Cynllun Datblygu Undebol Gwynedd, ac yn cydymffurfio a gofynion y polisïau cynllunio perthnasol. 

 

Tynnwyd sylw bod perchnogion yr eiddo drws nesaf wedi gwrthwynebu  yn seiliedig ar ffenestr ystafell ymolchi sydd wedi ei leoli ar yr edrychiad deheuol sy’n edrych dros lwybr sy’n darparu mynediad i ardd yr eiddo drws nesaf.  Ni ystyrir y byddai’r ffenestr yn debygol o achosi goredrych sylweddol nac annerbyniol yn yr achos hwn.

 

Nodwyd bod Uned Trafnidiaeth y Cyngor yn fodlon gyda’r trefniant parcio presennol ac nad oedd gwrthwynebiad ar sail diogelwch ffyrdd.

 

Argymhellir y swyddogion cynllunio i ganiatáu’r cais oherwydd ni ystyrir nad oedd y bwriad arfaethedig yn groes i bolisïau perthnasol.

 

 

(b)          Yn manteisio ar yr hawl i siarad nododd y gwrthwynebydd y prif bwyntiau canlynol:

 

·         Pryder y gall yr anecs gael ei ystyried fel uned breswyl ar wahân

·         Bod yr anecs yn or-ddatblygiad o’r safle

·         Nad oedd unrhyw gyswllt rhwng y prif eiddo a’r anecs dim ond mynediad yn unig drwy giât ar yr ochr o'r ffordd sydd heb ei mabwysiadu

·         Bod cwympiad serth o 3-4m rhwng ardal y tŷ a’r modurdy a dim mynediad i’r tŷ

·         Bod yr adroddiad yn datgan nad oedd unrhyw gysylltiad ffisegeol gyda’r prif annedd a’r anecs – felly yn atgyfnerthu y byddai’r anecs yn uned ar wahân

·         Bod yr adroddiad yn datgan na ddylai’r anecs weithredu ar wahân o’r prif annedd gan y byddai hyn yn risg o isrannu’r annedd i’r dyfodol ac yn nodi ymhellach bod yr anecs yn darparu uned hunangynhwysol - felly gall yr uned gael ei werthu ar wahân i’r dyfodol

·         Bod llawer iawn o fflatiau mewn dinasoedd o’r un maint  yn darparu llety parhaol 

·         Bod 20 eiddo gydag adeiladau ynghlwm ar y ffordd sydd heb ei mabwysiadu sydd yn addas i’w trosi - byddai caniatau’r cais yn creu cynsail ar gyfer ceisiadau cyffelyb ac o’r herwydd ni fyddir yn gallu diogelu mwynderau’r gymdogaeth leol

·         Nad oedd y gymdogaeth leol yn gefnogol i’r cais

·         Nodwyd bod y drysau llithro arfaethedig yn gwbl weladwy o ffenestr llofft y gwrthwynebydd ac felly bydd yn achosi goredrych sylweddol

·         Bod wal yr anecs ddwywaith yn hirach na wal y modurdy presennol ac yn gyfan gwbl gyda drysau gwydr

·         Ar hyn o bryd nid oes unrhyw ffenestri ar unrhyw edrychiad yn edrych dros eiddo'r gwrthwynebydd ond bwriedir rhoi ffenestr “velux” yn y to ar gyfer yr ystafell ymolchi

·         Byddai effaith ar breifatrwydd yn sylweddol ac yn achosi mwy o aflonyddwch a gor-edrych

·         Bod potensial i gynyddu’r defnydd o’r eiddo masnachol cofrestredig yn rhif 25 fel llety gwyliau gydag effaith i fwynderau a thrigolion lleol

·         Bod parcio ar gael ar gyfer un cerbyd yn unig a bod dau le parcio yn cael eu dileu – rhagwelir angen am barcio ychwanegol ar gyfer yr anecs

·         Apeliwyd i’r Pwyllgor Cynllunio wrthod y cais oherwydd ei fod yn annedd ar wahân

 

 

(c)          Yn manteisio ar yr hawl i siarad nododd asiant yr ymgeisydd y prif bwyntiau canlynol:-

 

·         Nodwyd bod yr ymgeisydd, o’r cychwyn cyntaf, wedi ceisio ymgynghori gyda’r cynllunwyr ac wedi derbyn Cyngor cyn-gynllunio

·         Bod un o’r amodau yn nodi i’r anecs fod yn gysylltiedig â’r prif

·         Bod y gwrthwynebiadau yn disgyn i dri category - parcio, preifatrwydd a defnydd yr anecs ac yn enwedig ei ddefnydd fel annedd ar wahân

·         Bod yr ymgeisydd yn fodlon ymrwymo i amod i atal yr anecs fod ar wahân

·         O ran parcio, nodwyd bod dau le parcio o fewn y safle ei hun a darn bychan concrid sy’n berchnogaeth y Cyngor - os oes problemau gellir rhoi arwyddion i wahardd parcio ar y tir dan sylw

·         Bod y modurdy wedi bod yn ddolur llygaid a bwriedir rhoi gorffeniad to llechi arno i’w dacluso ac felly y bydd yn gaffaeliad i’r ardal

·         Pwysleiswyd mai cynllun bychan o 37 metr sgwâr ydoedd ac y bydd yn welliant i’r hyn sydd yno’n barod

·         Apeliwyd i’r Pwyllgor Cynllunio gefnogi’r cais.

 

(d)          Nododd yr Aelod Lleol (nad oedd yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn) bod gwrthwynebiad cryf i’r bwriad gan drigolion Borth y Gest yn ogystal â’r Cyngor Cymuned a thynnwyd sylw at y pwyntiau canlynol:

 

·         Bod y perchennog yn rhedeg busnes o’r eiddo

·         Y byddai’n creu cynsail ar gyfer gweddill y teras

·         Gor-ddatblygiad

·         Pryder ynglyn a pharcio o ystyried bod problemau parcio yn y pentref yn bodoli’n barod

·         Dim linc rhwng y a’r anecs heblaw am y llwybr

 

(ch)   Mewn ymateb i’r uchod, eglurodd yr Uwch Beiriannydd Rheolaeth Datblygu drwy ddymchwel y  modurdy nid oes angen mwy o le parcio gan fod 2 lecyn yn ddigonol ar gyfer anghenion yr eiddo.

 

          Nododd yr Uwch Reolwr Gwasanaethau Cynllunio ymhellach bod y cais gerbron am anecs i annedd ac nid i fusnes. Nodwyd ymhellach y byddai wedi bod yn bosibl trosi’r modurdy presennol yn anecs heb ganiatâd cynllunio.  Esboniwyd bod yr anecs yn eithabach ei faint, ac yn unol a’r hyn y disgwylir anecs fod o ran ei faint, gosodiad mewnol a’i berthynas gyda’r presennol.  Roedd mwy neu lai ar ôl-troed y modurdy presennol a thynnwyd sylw bod amod cynllunio wedi ei gynnwys i sicrhau bod yr anecs ar gyfer defnydd is-wasanaethol y presennol.

         

(d)     Yn ystod y drafodaeth nodwyd y prif sylwadau canlynol:

 

·         Pryder ynglyn a cholli modurdy ar gyfer parcio a fyddai’n dwysau problemau parcio i’r eiddo

·         Nifer o ystafelloedd cysgu yn yr anecs

 

(d)    Cynigwyd ac eiliwyd i’r Pwyllgor Cynllunio ymweld â’r safle.

 

 

Penderfynwyd:       Trefnu ymweliad i’r safle.

 

Dogfennau ategol: