Addasiad rhannol i 174 o dai preswyl fel
a ganiatawyd o dan gyfeirnod C12/1347/25/LL trwy gynyddu cyfanswm y tai o 245 i
266 gan gynnwys tai ar wahan, tai par a fflatiau gydag unedau fforddiadwy (35%) a llecynnau parcio a gerddi cysylltiedig.
AELOD LLEOL: Cynghorydd
John Wyn Williams
Dolen i'r dogfennau
cefndir perthnasol
Cofnod:
Addasiad
rhannol i 174 o dai preswyl fel y caniatawyd o dan gyfeirnod C12/1347/25/LL
trwy gynyddu cyfanswm y tai o 245 i 266 gan gynnwys tai ar wahân, tai pâr a
fflatiau gydag unedau fforddiadwy (35%) a llecynnau parcio a gerddi
cysylltiedig.
(a)
Ymhelaethodd yr Uwch SwyddogRheolaeth Datblygu ar gefndir
y cais, gan nodi mai diwygiad o’r caniatâd presennol i gynyddu cyfanswm y tai
ar y safle o 245 i 266 oedd gerbron, sef 21 tŷ ychwanegol trwy ddarparu
mwy o unedau un a dwy lofft.
Pwysleisiwyd nad oedd y cynllun yn golygu ehangu maint y safle na newid
gosodiad ffyrdd mewnol o fewn y safle.
Tynnwyd sylw bod y caniatâd gwreiddiol wedi ei weithredu gyda’r gwaith
yn parhau ar y safle gyda 50 o’r tai eisoes wedi eu meddiannu. Cyflwynwyd y
cais mewn ymateb i newid yn y farchnad dai ers i’r cais gwreiddiol ei ganiatáu
gyda’r bwriad o ddarparu tai deulawr a fflatiau.
Tynnwyd sylw’r Pwyllgor at bwynt 1.6 o’r adroddiad a oedd
yn cyfeirio at apêl sy’n mynd rhagddo ar y safle. Er yr apêl, nodwyd bod y cais hwn wedi ei
gyflwyno er mwyn cyflwyno gwybodaeth ychwanegol angenrheidiol ar y cais
blaenorol gyda’r gobaith i osgoi’r apêl os rhoddir caniatâd cynllunio cyn
dyddiad yr apêl. Er hynny, rhaid rhoi
ystyriaeth lawn i’r cais gerbron a’i ystyried ar ei haeddiant.
Lleolir y safle o fewn ffin datblygu dinas Bangor sydd
wedi ei ddynodi yn benodol ar gyfer datblygiad preswyl. Cyfeiriwyd at y polisïau perthnasol ynghyd
â’r ymatebion i’r ymgynghoriadau a dderbyniwyd.
Derbyniwyd dau lythyr o wrthwynebiad ychwanegol ers darparu’r adroddiad
ac wedi eu nodi.
Nodwyd bod egwyddor o sefydlu’r tai eisoes wedi ei
dderbyn yn y caniatâd gwreiddiol a’r safle wedi ei ddynodi ar gyfer tai yng
Nghynllun Datblygu Unedol Gwynedd ac fe noda’r briff datblygu y gall y safle
ymdopi gyda 270 o unedau preswyl yn seiliedig ar ddwysedd datblygu o 30 uned yr
hectar. Tynnwyd sylw bod y cais gerbron
yn cyfrannu’n well tuag at dargedau tai'r Cyngor na’r caniatâd presennol ac
oherwydd hyn roedd y swyddogion cynllunio o’r farn bod y nifer o unedau a
gynigir fel rhan o’r cais yn dderbyniol.
Caniatawyd y cais blaenorol gydag amod i sicrhau datblygiad cam wrth gam ac y
byddai’n rhaid ail-osod yr amod pe caniateir y cais er mwyn ymateb i’r nifer
uwch o dai. Nodwyd bod y cais yn cynnig 7 tŷ fforddiadwy ar ben yr 86 sydd
wedi’u caniatáu yn barod ac yn cadw’r ddarpariaeth o 35% o dai fforddiadwy.
Fel rhan o’r cais blaenorol derbyniwyd cyfraniadau
ariannol sylweddol i drafnidiaeth ac
addysg ond nid oes cyfiawnhad i ofyn am gyfraniadau pellach.
Derbyniwyd asesiad diwygiedig trafnidiaeth ac ni ragwelir
y bydd unrhyw wrthwynebiad i’r datblygiad. Yn ogystal, derbyniwyd asesiad
ieithyddol diwygiedig a oedd yn nodi y byddai’r datblygiad yn bositif i
sefyllfa’r iaith drwy ddarparu tai yn unol â gofynion y CDUG ac anghenion a adnabuwyd
yn yr Arolwg o Anghenion Tai Lleol.
Tynnwyd sylw bod angen mwy o wybodaeth gan Dŵr Cymru
gan ei bod yn y broses o ail-asesu i sicrhau nad oes unrhyw effaith negyddol ar
eu hasedau a’r amgylchedd. Pe byddai
Dŵr Cymru angen mwy o wybodaeth nodwyd bod yr ymgeisydd yn fodlon
darparu’r wybodaeth angenrheidiol.
O safbwynt pryderon ynglŷn ag effaith y datblygiad
ar osodiad yr Heneb Rhestredig ni ragwelir y byddai’r effaith yn sylweddol gan
na fyddai lleoliad y tai yn mynd yn agosach i’r Heneb.
Ystyrir bod y bwriad arfaethedig yn dderbyniol yn unol â
pholisïau priodol ac argymhellwyd i ddirprwyo’r hawl i ganiatáu’r cais yn
ddarostyngedig i amodau perthnasol, cwblhau cytundeb 106 ar gyfer y 7 tŷ
fforddiadwy a derbyn gwybodaeth ffafriol
gan Dwr Cymru.
(b)
Yn manteisio ar yr hawl i siarad nododd y
gwrthwynebydd y prif bwyntiau canlynol:
·
Cyfeiriwyd
at ddatganiad yr Uned Polisi Cynllunio ar y Cyd a oedd yn nodi bod canran gymharol
isel o siaradwyr Cymraeg yn yr ardal hon o Fangor yn enwedig wardiau Glyder a
Dewi - nodwyd nad oedd y safle yn wardiau Glyder a Dewi a’i fod yn un o wardiau
Cymreicaf Bangor sef ward Pentir
·
Bod yr iaith Gymraeg hyd yn oed yn y fantol yn
ward Pentir gyda’r ganran wedi disgyn o 62% yn 2001 i 58% yn 2011
·
Byddai ychydig newid yn y nifer o dai yn cael
effaith ar yr iaith
·
Nodwyd
bod 50 o dai wedi eu gwerthu i bobl leol h.y. os yw lleol yn golygu Môn/Gwynedd
a Chonwy ond ni ymhelaethir ynglyn â phwy fydd yn prynu’r gweddill ynghyd a’r
eiddo fydd yn wag yn yr ardal wrth i bobl symud i’r datblygiad arfaethedig
·
Bod oddeutu 1,000 o dai ar werth eisoes ym
Mangor ac oddeutu 200 ar osod
·
Nad oedd y datblygiad yn seiliedig ar yr angen
lleol ond yn hytrach ar elw
·
Bod yr ysgolion lleol yn llawn
·
Ffyrdd lleol yn brysur yn y boreau a nosweithiau
·
Bod
Dŵr Cymru yn gofyn am beidio penderfynu hyd nes derbynnir asesiad
ychwanegol ar y garthffosiaeth
·
Bod polisiau strategol A1 ac A2 o’r CDUG yn
berthnasol i’r cais hwn
·
Apeliwyd i’r Pwyllgor wrthod y cais yn seiliedig
ar effaith andwyol ar yr iaith Gymraeg o ystyried maint a graddfa’r datblygiad
hwn
(c)
Yn manteisio ar yr hawl i siarad nododd asiant yr
ymgeisydd y prif bwyntiau canlynol:-
·
Bod yr angen am dai o fewn Bangor yn cael ei
gyfarch yng Nghynllun Datblygu Unedol Gwynedd
·
Bod y safle yn destun allweddol o strategaeth
cyflawn am yr angen am ddatblygiadau tai a bod y cynllun yn dynodi lle i 270 o
dai gyda’r cais gerbron yn llai na hynny
·
Anodd fyddai derbyn sut y gellir cyfiawnhau yn rhesymegol
unrhyw wrthwynebiad i raddfa'r bwriad boed hyn yn seiliedig ar yr iaith Gymraeg
neu unrhyw agwedd arall
·
Bod y bwriad
arfaethedig yn golygu newid yr unedau mwy gyda nifer o unedau llai sydd yn
cyfarch y galw yn y farchnad dai a bod unedau llai yn fwy poblogaidd
·
Bod darparu tai yn
unol á’r farchnad yn ffordd ymlaen yn enwedig bo’r datlygiad yn cynnig 7 ty
fforddiadwy ychwanegol ar y safle
·
Bod y bwriad eisoes wedi ei ganiatau ac nad oedd y cynnydd
yn y nifer o dai yn codi elfennau technegol arwyddocaol
·
Sicrhawyd y byddai Dŵr Cymru yn gallu gosod
amod i liniaru unrhyw bryderon ynglyn a’r garthffosiaeth
(d)
Nododd
yr Aelod Lleol (a oedd yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn):
·
Bod yn rhaid ystyried y cais gerbron fel datblygiad
ychwanegol yn hytrach nag ychwanegiad i’r cais gwreiddiol
·
Bod
rhaid ystyried yr angen ym Mhenrhos ac eglurwyd bod Penrhosgarnedd ar wahân i
Fangor ac yn bentref ynddo’i hun gydag anghenion ei hun
·
Pryder o ddirywiad yn yr iaith Gymraeg yn ardal
Penrhos o ystyried bod oddeutu 70% o’r
boblogaeth yn siarad Cymraeg yn y blynyddoedd a fu
·
Na
ddylid cymryd llwyddiannau polisi iaith Cyngor Gwynedd yn rheswm i nodi y bydd
yr iaith Gymraeg yn cynyddu
·
Pryder
y byddai unrhyw gynnydd mewn trafnidiaeth yn gynnydd ychwanegol i’r hyn sy’n
bodoli’n barod yn enwedig gan fod Penrhos yn ardal brysur iawn prun bynnag
·
Tra’n
croesawu tai fforddiadwy, pryderwyd y bwriad o gynnwys fflatiau fel rhan o’r
datblygiad ac a oedd tystiolaeth o’r angen am fwy o fflatiau o ystyried bod
llawer o fflatiau eisoes yn rhan o’r datblygiad
·
Tra’n
derbyn bod y datblygiad wedi gwella problemau dŵr mewn rhannau o’r ardal
ond bellach roedd eiddo eraill wedi cael dŵr yn eu gerddi cefn a hyderir y
byddai Dŵr Cymru yn cymryd hyn i ystyriaeth wrth ymdrin â’r asesiad
ychwanegol
·
Bod
llawer o gwestiynau i’w hateb ac angen trin y cais gerbron fel cais newydd a
ddim fel ychwanegiad i’r datblygiad presennol
(ch) Mewn
ymateb i’r sylwadau uchod, nododd yr Uwch Reolwr Gwasanaeth Cynllunio:-
·
Bod
y safle wedi ei ddynodi ar gyfer tai gyda’r Pwyllgor Cynllunio wedi caniatáu
cais blaenorol i ddatblygu 245 ar y safle gyda’r gwaith o ddatblygu yn unol â’r
caniatâd hwnnw yn mynd rhagddo
·
Bod
y raddfa o ddatblygu’r safle yn ogystal â’r ystadegau yn dystiolaeth gadarn bod
angen tai o fewn y dalgylch dibyniaeth
·
Cyfeiria CDUG at 270 o dai ar gyfer y safle hwn
sydd gyfystyr a 30 uned yr hectar
·
Bod
yn rhaid ysytyried mai cais ar gyfer 21 o dai sydd gerbron sydd o fewn datblygiad
sydd eisoes wedi ei ganiatáu ac ar dir sydd wedi ei ddynodi ar gyfer tai
·
Bod
y farchnad dai yn newid yn gyson gyda’r cynllun wedi ei addasu i gwrdd â’r
farchnad leol mewn darpariaeth o fwy o unedau bychan gyda 7 tŷ fforddiadwy
sy’n gwneud cyfanswm o 93 o dai fforddiadwy allan o’r 21 sydd yn y cais a’r 245
o dai sydd eisoes wedi derbyn caniatâd cynllunio a’u bod yn cynnwys amrywiaeth
o dai fforddiadwy o ran maint o fewn y safle
·
Ni
dderbyniwyd gwrthwynebiad gan Gyfoeth Naturiol Cymru
·
Bod datganiad ieithyddol wedi ei wneud ar gyfer 21
o dai a bod y cais gerbron ar gyfer 21 o dai mewn dinas ar safle sydd wedi ei
ddynodi ar gyfer tai a bod yna dystiolaeth gadarn fod angen ar gyfer tai yn y dalgylch
Cynigwyd ac eiliwyd i
wrthod y cais yn groes i argymhelliad y swyddogion cynllunio oherwydd y
byddai’n or-ddatblygiad o’r angen am dai yn y ddinas, ardrawiad ieithyddol
negyddol a phryderon am isadeiledd trafnidiaeth.
(e)
Nodwyd y prif bwyntiau canlynol gan Aelodau unigol o
blaid yr argymhelliad i wrthod:
·
Ei fod yn gynamserol i’w ganiatáu ac y dylid pwyllo a
disgwyl am oddeutu 6 mlynedd neu pan fydd 150 o dai wedi eu datblygu, pryn
bynnag fydd y cyntaf, o ystyried bod y farchnad dai yn newid yn sydyn
iawn.
·
Ers rhoddi caniatâd i 245 o dai roedd nifer o geisiadau
eraill wedi dod i law ers hynny a phryderwyd am yr is-adeiladedd o safbwynt
cynnydd yn y drafnidiaeth sydd eisoes wedi gorfod ymdopi gyda chynnydd yn y
traffig o ganlyniad i’r datblygiadau eraill a ganiatawyd
·
Nad oedd tystiolaeth am yr angen am y tai
·
Pryder y gall 10% ychwanegol o dai gael effaith andwyol o
safbwynt ardrawiad Ieithyddol yr ardal
·
Cwestiynwyd os oes angen lleol am y tai arfaethedig a
beth fyddai’n digwydd i’r tai rheiny fydd ar werth o ganlyniad i brynu’r tai ar
y safle hwn
·
Anghytunwyd y dylid cyfiawnhau caniatáu’r cais yn
rhesymegol
·
Pryder ynglyn a’r garthffosiaeth
(f)
Mewn ymateb, pwysleisiodd yr Uwch Reolwr Gwasanaeth
Cynllunio pe byddai’r Pwyllgor yn penderfynu gwrthod y cais, y byddai’n
cyfeirio’r cais i gyfnod cnoi cil yn unol â’r drefn safonol gan fod risgiau i’r
Cyngor. Pwysleisiodd y buasai gwrthod y
cais am y rhesymau a nodwyd gyda phosibilrwydd cryf o greu risgiau ariannol
sylweddol i’r Cyngor mewn sefylla apêl, gan nad oedd yna unrhyw dystiolaeth
gadarn i gefnogi’r rhesymau gwrthod. Atgoffodd yr Uwch Gyfreithiwr bod y
Cynllun Datblygu Unedol Gwynedd yn gynllun statudol ac yn fecanwaith i’w
ddilyn. Tra’n derbyn y gellir herio’r
cynllun pwysleisiodd fod yn rhaid gwneud hyn gyda chefnogaeth tystiolaeth
gadarn.
(ff) Nodwyd
y prif bwyntiau isod gan Aelodau unigol yn erbyn gwrthod y cais:
·
Bod angen tai lleol i gyplau ifanc yn yr ardal a bod y
datblygiad yn fodd o gynnig iddynt gael cartrefi eu hunain yn y dalgylch
·
Y byddai’n anodd ei wrthod gan fod y datblygiad presennol
wedi cychwyn ac wedi ei leoli oddi fewn i ffiniau datblygu dinas Bangor
(g)
Yn
unol â Rheolau Gweithdrefn cofnodwyd y bleidlais i wrthod y cais:
O blaid y cynnig i wrthod y cais (8): Y Cynghorwyr Elwyn Edwards, Simon Glyn, Eric
Merfyn Jones, W. Tudor Owen, John Pughe Roberts, Eirwyn Williams, Gruffydd
Williams ac Owain Williams.
Yn erbyn y cynnig i wrthod y cais (5): Y Cynghorwyr Gwen Griffith, Anne Lloyd Jones,
Michael Sol Owen, Hefin Williams ac Eurig Wyn.
Atal (1): Y Cynghorydd June
Marshall
Penderfynwyd: Gwrthod y cais yn
groes i argymhelliad y swyddogion oherwydd:
·
Gor-ddarpariaeth o dai lle nad oedd angen
·
Ardrawiad ieithyddol
·
Is-adeiladedd trafnidiaeth
Nododd yr Uwch Reolwr
Gwasanaeth Cynllunio ei fwriad, yn unol â Rheolau Gweithdrefn y pwyllgor hwn, i
gyfeirio’r cais i gyfnod cnoi cil gan ddod ag adroddiad pellach gerbron y
pwyllgor yn amlygu’r risgiau ynghlwm â gwrthod y cais.
Dogfennau ategol: