Agenda item

 

Cais rhannol ôl-weithredol ar gyfer addasu adeilad allanol i dŷ.

 

AELOD LLEOL:   Cynghorydd Gareth Thomas

 

Dolen  i'r dogfennau cefndir perthnasol

 

Cofnod:

Cais rhannol ôl-weithredol ar gyfer addasu adeilad allanol i dŷ.

 

(a)          Ymhelaethodd y Swyddog Rheolaeth Datblygu ar gefndir y cais, gan nodi bod y cais ar gyfer trosi adeilad deulawr a fu gynt yn adeilad amaethyddol ar gyrion tref Penrhyndeudraeth yn dy annedd deulawr. Darparir llecyn parcio oddi ar y stryd o flaen yr adeilad. Nodwyd bod trosi’r adeilad eisoes wedi cychwyn a’r cais wedi ei gyflwyno yn dilyn gweithrediad gan Uned Gorfodaeth y Gwasanaeth Cynllunio. 

 

Nodwyd bod y safle ynghanol ardal breswyl, o fewn Ardal Gwarchod y Tirlun ac o fewn ffin datblygu Penrhyndeudraeth.

 

Cyfeiriwyd at y polisïau cynllunio perthnasol ynghyd â’r ymatebion / gwrthwynebiadau i’r ymgynghoriadau cyhoeddus o fewn yr adroddiad.

 

Tynnwyd sylw at y prif bolisïau wrth asesu’r cais sef C4 ac CH11 a chredir bod yr addasiadau sydd eisoes wedi eu gwneud yn cydymffurfio â gofynion y polisïau uchod.

 

Derbyniwyd gwrthwynebiadau yn nodi bod y newidiadau allanol yn effeithio ar gymeriad yr ardal.  Fodd bynnag roedd nifer o newidiadau wedi eu gwneud i’r adeilad yn hanesyddol ac ystyriwyd bod yr eiddo wedi colli llawer o’i gymeriad yn barod.  Nodwyd bod ail-ddefnyddio’r adeilad yn cynnig ei ail-dacluso, ei ddiogelu a’u hatal rhag dirywiad pellach.  Ystyrir y byddai defnydd busnes yn hytrach na’r defnydd blaenorol yn welliant ac yn cael llai o effaith o safbwynt ymyrraeth a sŵn.  Tynnwyd sylw bod yr adeilad wedi ei leoli ddigon pell o dai eraill i sicrhau na fyddai effaith ar breifatrwydd eiddo cyfagos.

 

Cadarnhawyd bod materion trafnidiaeth a bioamrywiaeth yn dderbyniol.

 

Ystyrir bod datblygiad o dŷ newydd ar y safle hwn yn dderbyniol ac ni ystyrir y byddai’n cael effaith niweidiol andwyol ar fwynderau’r ardal na’r trigolion cyfagos.  Yn ogystal, ystyrir bod lleoliad, dyluniad, gorffeniad a ffurf y datblygiad yn dderbyniol ac yn cydweddu â chyd-destun ei leoliad.  Argymhellir felly i ganiatáu’r cais yn unol â’r amodau perthnasol fel amlinellir yn yr adroddiad.  

 

(b)          Yn manteisio ar yr hawl i siarad nododd asiant yr ymgeisydd y prif bwyntiau canlynol:-

 

·         Pan brynwyd yr eiddo gan y perchennog roedd dan yr argraff o’r disgrifiad ei fod yn o safon

·         Bod y gwaith wedi dechrau ar yr adeilad, fe stopiwyd y gwaith a chyflwynwyd cais cynllunio 

·         Bwriad yw gwneud defnydd o hen adeilad oedd wedi dirywio

·         Er bod rhai sylwadau negyddol wedi ei gyflwyno nid oedd y rhain yn berthnasol i faterion cynllunio megis roedd un yn cyfeirio at y waliau wedi cael eu plastro ond tynnwyd sylw bod rhan fwyaf o’r tai yn y cyffiniau wedi eu plastro a’u paentio

·         Bod y safle wedi ei amgylchynu yn bennaf gan annedd a gwasanaethir yr eiddo gan ffordd ddi-ddosbarth 

·         Bod cais amlinellol am newydd gyferbyn â’r safle wedi ei ganiatáu yn Hydref 2015

·         Bod y safle wedi ei leoli oddi fewn ffin datblygu Penrhyndeudraeth a’r swyddogion cynllunio yn gefnogol i’r cais

·         Bod y cais yn cydymffurfio a’r polisïau cynllunio perthnasol ac apeliwyd i’r Pwyllgor ystyried y cais yn ffafriol a’i gymeradwyo

 

(c)     Cynigwyd ac eiliwyd i ganiatáu’r cais.

 

(ch)   Yn ystod y drafodaeth nodwyd y prif sylwadau canlynol gan Aelodau unigol:

 

·         Pryderu ynglyn â’r camddealltwriaeth gan y perchennog ynglŷn â safon a defnydd gwreiddiol yr adeilad

·         Pryder bod unigolion yn gallu prynu adfeilion, eu gwneud i fyny a’u troi yn aneddleoedd 

·         Awgrymwyd oni fyddai’n well gofyn i’r Pwyllgor Cynllunio ymweld â’r safle

·         Bod Cyngor Tref Penrhyndeudraeth yn gwrthwynebu’r cais oherwydd gor-ddatblygiad yn y rhan yma o’r dref ac oni ddylid cymryd sylw o’u sylwadau

·         Bod rhai ceisiadau ôl-weithredol wedi eu gwrthod yn y gorffennol gydag unigolion wedi gorfod tynnu adeiladau i lawr

·         Dim llecynnau parcio

 

(d)    Mewn ymateb i’r sylwadau uchod, esboniodd yr Uwch Reolwr Gwasanaethau Cynllunio:-

           

·                Tra’n rhannu’r pryderon o safbwynt adfeilion mewn ardaloedd gwledig, tynnwyd

sylw bod yr adeilad yma o fewn y ffin datblygu ac yn dilyn ôl-troed yr adeilad presennol

·                Tra’n derbyn bod camddealltwriaeth gan y perchennog o ran defnydd cyfreithiol o’r

tŷ gwreiddiol, rhaid delio hefo’r cais sydd gerbron a phwysleisiwyd ei fod yn 

cydymffurfio hefo’r polisïau cynllunio perthnasol.

·                Nad oedd yn or-ddatblygiad gan ystyried natur gwasgaredig y tai cyfagos

·                Bod yn ofynnol ystyried pob cais ôl-weithredol ar ei haeddiant

·                Bod darpariaeth o lecynnau parcio o flaen y tŷ

 

 

Penderfynwyd:       Caniatáu gyda’r amodau canlynol:

 

1.    Gwaith yn unol â’r cynlluniau a gyflwynwyd

2.    Gorffeniad waliau yn allanol  i’w gytuno

3.    Llechi ar y to

4.    Amodau draeniad dŵr

5.    Tynnu hawliau datblygu caniataol ar gyfer estyniadau ac adeiladau cwrtil. 

 

Dogfennau ategol: