Agenda item

Adeiladu 9 ty annedd newydd a fydd yn cynnwys 3 annedd fforddiadwy ynghyd a ffurfio ffordd fynediad fewnol a llwybr cerdded

 

AELOD LLEOL:  Cynghorydd  Peter Read

 

 

Dolen i’r dogfennau cefndir perthnasol

 

 

Cofnod:

Adeiladu 9 tŷ annedd newydd a fydd yn cynnwys 3 annedd fforddiadwy

ynghyd â ffurfio ffordd fynediad mewnol a llwybr cerdded.

 

(a)          Ymhelaethodd y Swyddog Rheolaeth Datblygu ar gefndir y cais, gan nodi bod y tai arfaethedig o fewn ffin datblygu Abererch a’r safle wedi ei ddynodi o fewn Cynllun Datblygu Unedol Gwynedd ar gyfer tai newydd.  Gall y safle ymdopi gydag oddeutu 9 o unedau preswyl gydag oddeutu 35% ohonynt yn dai fforddiadwy.  Esboniwyd y byddai’r tai yn gymysgedd  o dai unllawr a deulawr, gyda 2 lecyn parcio o fewn eu cwrtil.

 

Nodwyd bod rhes o dai sydd tua’r gogledd o’r safle wedi eu cofrestru fel adeiladau rhestredig.  Tynnwyd sylw bod  llwybr cyhoeddus yn mynd drwy ran o’r safle a byddai’r bwriad yn amharu ar gwrs y llwybr ac o’r herwydd byddai’n rhaid trefnu ei wyro’n ffurfiol.  Nodwyd ymhellach bod rhan o’r safle tua’r dwyran yn gorwedd o fewn parth llifogydd C1.

 

Cyfeiriwyd at y polisïau cynllunio perthnasol ynghyd â’r ymatebion i’r ymgynghoriadau cyhoeddus fel amlinellir yn yr adroddiad.

 

Yng nghyd-destun materion ieithyddol, ni dderbyniwyd datganiad cymunedol gan yr ymgeisydd hyd yma ond pe’i dderbynnir ac os yn dderbyniol gellir ystyried bod y bwriad yn unol â pholisi A2 o’r CDUG.

 

Datganwyd bryder gan y swyddogion cynllunio ynglŷn â gosodiad y tai deulawr sydd ar y ffin isaf oherwydd y byddent yn ormesol a dominyddol ar eiddo Pen y Don.  Er bod newidiadau i’r cynlluniau, roedd y swyddogion yn parhau’n bryderus am leiniau 4-7 ac wedi argymell y byddai’n well edrych ar holl osodiad y safle er gweld os byddai tai deulawr yn well wedi eu lleoli ar ran arall o’r safle.  Cyflwynwyd datganiad cefnogol gan yr asiant yn egluro bod y gosodiad wedi ei wneud yn y ffordd yma er osgoi effaith ar yr ardal cadwraeth a gosodiad adeiladu rhestredig.

 

Er nad oes gwrthwynebiad i’r nifer o dai, ystyrir bod modd cael gosodiad gwell i’r tai deulawr ac felly roedd y swyddogion o’r farn nad oedd y bwriad yn cydymffurfio á’r briff ac maen prawf polisi CH1 nac ychwaith B22 gan nad yw’r gosodiad yn parchu’r safle o ran graddfa a maint ac yn debygol o gael effaith ar eiddo cyfagos.  Nodwyd hefyd bod y tirlunio a gynigir yn annigonol oherwydd bod y ffensys yn anaddas o ran dull o amgáu’r safle ac yn groes i bolisïau perthnasol.

 

Nodwyd bod materion trafnidiaeth, llwybrau, llifogydd, dŵr wyneb, bioamrywiaeth yn  dderbyniol trwy amodau priodol.  Daw’r swyddogion i’r casgliad bod y bwriad arfaethedig fel y’i cyflwynwyd yn groes i bolisïau CH1 a B22 oherwydd ei osodiad ac effaith weledol, B27 oherwydd y ffensys anaddas, a B23 oherwydd effaith i fwynderau.   O’r herwydd, argymhelliad y swyddogion cynllunio ydoedd gwrthod y cais am y rhesymau hyn.

 

(b)          Yn manteisio ar yr hawl i siarad nododd asiant yr ymgeisydd y prif bwyntiau canlynol:-

 

·         nad oedd yr ymgeisydd wedi derbyn cais am ddatganiad cymunedol tan 22 Rhagfyr er i’r cais cynllunio gael ei gofrestru ym mis Mawrth 2015 ac felly nad oedd hyn yn amser digonol i’w gyflwyno cyn y Pwyllgor Cynllunio hwn

·         o ran effaith ar Pen y Don, eglurwyd mai cefn eiddo Pen y Don sy’n cefnu ar y safle

·         pwysigrwydd i gael cymysgedd o dai ar y safle ac mai’r lleoliad delfrydol ar gyfer tai deulawr ydoedd ar ben isaf y safle

·         o safbwynt ffens, cadarnhawyd y byddai’r datblygwr yn ddigon hapus i newid y ffens i wal garreg ac y byddai modd cydymffurfio a hyn drwy roi amod ar y caniatâd cynllunio pe fyddai’r Pwyllgor yn ystyried caniatáu’r cais

·         y byddai’n werth i’r Pwyllgor Cynllunio ymweld â’r safle er mwyn iddynt weld drostynt eu hunain a chael dealltwriaeth o leoliadau'r cymysgedd o dai o ran maint, a.y.b.

 

(c)          Mewn ymateb i’r uchod, esboniodd yr Uwch Reolwr Gwasanaethau Cynllunio                                bod y pryderon Swyddogion yn cael eu amlygu yn ygwrthwynebiadau a dderbyniwyd ynglyn a materion gweledol o ran graddfa, materion mwynderau preswyl a chytunwyd y byddai ymweliad safle yn ffordd ymlaen o safbwynt i’r Pwyllgor Cynllunio ystyried y materion hyn.

 

(ch)     Yn ystod y drafodaeth nodwyd y prif sylwadau canlynol:

 

·         Ni ragwelir anhawster gyda’r cais gerbron ac nad oedd y datblygiad yn amharu yn ormodol ond yn deall y pryderon 

·         Pwysigrwydd i gymryd i ystyriaeth materion llifogydd 

 

          Cynigwyd ac eiliwyd i ymweld á’r safle.

 

 

          PENDERFYNWYD:  Trefnu i’r Pwyllgor Cynllunio ymweld â’r safle. 

 

 

Dogfennau ategol: