Cyflwyno gwybodaeth am
gyfraniad yr Adran Amgylchedd i hybu a hyrwyddo’r iaith Gymraeg.
Penderfyniad:
Derbyn yr adroddiad gan nodi’r sylwadau a
dderbyniwyd.
Cofnod:
Cyflwynwyd yr adroddiad gan Bennaeth yr adran Amgylchedd. Nododd
addasiad i’r adroddiad sef bod 67.8% o’r adran wedi llenwi’r holiadur
hunanasesiad iaith Gymraeg a bod 93% o’r rhai ymatebodd yn cyrraedd gofynion
iaith eu swyddi. Cyfeiriodd at y pwyntiau canlynol yn yr adroddiad:
-
Nodwyd ei bod yn anodd cael unigolion gyda’r
arbenigedd cywir i ddod i weithio yn y maes cynllunio a gwarchod y cyhoedd.
Eglurodd bod cyrsiau cynhwyso yn cael eu trefnu i gynorthwyo gyda hyn.
-
Mynegodd
bod y gallu i weithredu’n rhithiol wedi newid systemau gweithiol yr adran a bod
nifer o staff wedi gadael yr adran i geisio swyddi mewn lleoliadau eraill. Fodd
bynnag, nodwyd hefyd bod gweithio’n rhithiol yn golygu y gall y Cyngor annog
unigolion i ddod i weithio gyda nhw. Adnabuwyd bod angen hyfforddi a buddsoddi
yn y swyddogion er mwyn eu hannog i aros yn eu swyddi.
-
Nodwyd angen i ddatblygu’r maes recriwtio ac i
greu a chynnal cyswllt ysgolion a cholegau yn ôl i’r arfer ar ôl cyfnod COVID
-
Eglurwyd
bod cyfyngiadau ieithyddol wrth greu dogfennau rhwng yr adran a chwmnïau
allanol a bod sicrhau nad oes cam
camddehongli rhwng y Gymraeg a’r Saesneg.
-
Pwysleisiwyd fod llawer o gwmnïau yn gweithredu
yn wirfoddol ar argymhellion yr adran i enwi datblygiadau yn Gymraeg er nad oes
deddfwriaeth i'w gorfodi
Rhoddwyd cyfle i'r aelodau’r pwyllgor holi cwestiynau pellach -
-
Holwyd pam fod nifer wedi gadael yr adran ac os
oedd rheswm dros hyn. Gofynnwyd, yn ogystal, am ddiweddariad am y newidiadau yn
yr adran. Nodwyd eu bod yn buddsoddi mewn hyfforddi staff yr adran er mwyn eu
datblygu ymhellach. Ychwanegodd fod cyfnod hir o sefydlogrwydd wedi bod dros y
blynyddoedd diwethaf, ond yn dilyn newid mewn ffordd o weithio dros y pandemig fod hyn wedi rhoi mwy o gyfleon tu hwnt i’r Cyngor
i unigolion
-
Gofynnwyd a oedd bwriad cael cyswllt gyda’r
Coleg Cymraeg Cenedlaethol neu ysgolion a cholegau i annog pobl ifanc ymrwymo
i'r swyddi sydd ar gael efo Cyngor Gwynedd. Amlygwyd yr angen i ddatblygu’r
maes recriwtio, ac yn anffodus fod cynlluniau oedd ganddynt wedi ei dal yn ôl
gan y pandemig ond eu bod yn gobeithio ailgychwyn yn
fuan. Er hyn, eglurwyd fod llawer o waith wedi ei wneud i hyrwyddo swyddi yn
lleol.
-
Holwyd
a oedd bwriad i ddatblygu terminoleg Cymraeg o fewn yr adran. Eglurwyd fod y
derminoleg yn un anodd a’i bod yn ofynnol i’r gwasanaeth gynnig gwahoddiad
tendro’n ddwyieithog. Nodwyd yr angen i fod yn ofalus efo’r cytundebau a
chontractau ac nad oes camddehongli i’w weld rhwng y ddwy iaith. O ganlyniad i
hyn, y cyngor cyfreithiol mae’r adran wedi ei dderbyn yw cyflwyno cytundebau a
chontractau mewn un iaith, a bod yr iaith felly’n amrywio o gwmni i gwmni.
-
Mynegwyd
siom nad oedd Deddf i sicrhau fod enwau gwreiddiol Cymraeg sydd yn cael ei
defnyddio yn lleol yn cael eu blaenoriaethu, ond pwysleisiwyd fod yr adran yn
annog defnydd o’r Gymraeg gyda chanran uchel o gwmnïau yn derbyn argymhellion
yr Uned Iaith.
PENDERFYNIAD
Derbyn yr adroddiad gan nodi’r sylwadau a dderbyniwyd.
Dogfennau ategol: