I ystyried yr adroddiadau
Penderfyniad:
1. Bod
y pwyllgor hwn yn cefnogi opsiwn 3, sef llunio deddfwriaeth dan adran 112 o
Ddeddf Diogelwch Rheilffyrdd a Thrafnidiaeth 2003 i ymestyn darpariaethau
perthnasol Deddf Llongau Masnach 1995, a rheoliadau perthnasol, i gynnwys badau
dŵr hamdden a Badau Dwr Personol.
2. Pwysleisio
pwysigrwydd sicrhau hyfforddiant i ddefnyddwyr a galw am godi’r terfyn oedran
ar gyfer gyrru badau dŵr hamdden a Badau Dwr Personol
Cofnod:
Cyflwynwyd yr
adroddiadau isod a gwahoddwyd yr Aelodau i gynnig sylwadau am eu cynnwys a
gofyn cwestiynau.
a)
Adroddiad yr Uwch Swyddog Harbyrau yn rhoi diweddariad cryno i’r pwyllgor ar
faterion yr harbwr ar gyfer
y cyfnod rhwng mis Mawrth 2021 a mis Hydref 2021.
Nododd yr Uwch
Swyddog Harbyrau mai braf oedd cyhoeddi blwyddyn
lwyddiannus gyda chynnydd yn nifer ymwelwyr a chwsmeriaid yn adlewyrchu llacio
graddol cyfyngiadau covid a rhwystrau teithio tramor.
Tynnwyd sylw at y
materion canlynol:
Angorfeydd
Bod 54 o gychod ar angorfeydd blynyddol yn
Harbwr Abermaw yn 2021
Materion Staffio
Canmolwyd yr holl
staff (harbwr a traeth) am eu gwasanaeth yn ystod cyfnod prysur a heriol iawn.
Adroddwyd eu bod wedi ymddwyn gydag agwedd rhagweithiol a braf oedd gweld
cydweithio da a goruchwyliaeth ddiogel dros yr Haf. Nid oedd cwynion wedi eu
derbyn. Ategwyd bod sefyllfa staff yr harbwr wedi cael ei ystyried yn fanwl ac
y bwriad oedd bod yr Harbwr Feistr Cynorthwyol a’r Cymhorthydd Harbwr yn cael
cynnig secondiad i aros ymlaen gyda bwriad o hysbysebu swydd wag yr Harbwrfeistr yn gynnar yn 2022.
Yn dilyn adolygiad
diweddar iawn y penderfyniad yw bydd yr Harbwr Feistr Cynorthwyol yn cael
dyrchafiad i swydd Harbwr Feistr ar Secondiad hyd at y 30 Fedi 2022 a bod
cyfnod cyflogaeth a swydd y Cymhorthydd Harbwr hefyd yn cael ei ymestyn hyd at
y 30 Fedi 2022 gyda dyrchafiad ar sail Secondiad.
Materion Ariannol
Mewn ymateb i
gwestiwn ynglŷn â chyllid yr Harbwr amlygodd y Swyddog Morwrol y byddai
crynodeb bras o gyllideb yr Harbwr a’r sefyllfa ariannol gyfredol yn cael ei
rannu gyda’r aelodau yn yr wythnosau nesaf. Ategwyd bod gwariant oddeutu £6k
pellach i’w wario ar faterion cynnal a chadw, ond bod y lefel incwm eleni wedi
cyrraedd y targed. O ran ffioedd a thaliadau arfaethedig ar gyfer Harbwr
Abermaw ynghyd a ffioedd lansio ar gyfer Cychod Pŵer a Cychod Dŵr
Personol ar gyfer tymor 2022/23, nodwyd bod y Gwasanaeth yn bwriadu addasu’r
ffioedd yn unol â chyfradd chwyddiant. Nodwyd hefyd yr angen i ystyried costau
ynni. Nid oedd y Gwasanaeth wedi derbyn cadarnhad o’r cyfraddau y dylid eu
gweithredu - awgrymwyd y byddai’r wybodaeth ar gael cyn y Nadolig. Swyddog Morwrol i gylchredeg crynodeb bras o
gyllideb yr Harbwr a’r sefyllfa ariannol gyfredol gyda’r aelodau
Astudiaeth Dichonolrwydd Carthu
Adroddwyd y bydd
angen carthu cyfaint o 70,000m3 os dymunir cael y dyfnder priodol
oddi fewn ardal fychan gyferbyn a cei yr harbwr. Atgoffwyd yr Aelodau bod bid
ariannol gyda chefnogaeth Grŵp Gweithredu Lleol Pysgodfeydd Bae Ceredigion
(FLAG) wedi galluogi’r Cyngor i gomisiynu astudiaeth dichonolrwydd gyda £10k
ychwanegol i’r £35k ar gyfer cynllun samplo natur y llaid. Adroddwyd y bydd
dadansoddiad a chanlyniadau’r cynllun yn pennu’r opsiynau posib gydag adroddiad
drafft i’w ryddhau ddiwedd mis Tachwedd. Diolchwyd i Peter Appleton a gwaith
FLAG am eu cefnogaeth. Swyddog
Morwrol i gylchredeg yr adroddiad drafft i’r Aelodau. Aelodau i ystyried
yr adroddiad drafft a chyflwyno adborth /sylwadau / cwestiynau i’r Swyddog
Morwrol gynnig i’r arbenigwyr, fel bod modd adrodd yn ôl ar y mater yng
nghyfarfod Mawrth 2022.
Materion
Cofrestru:
I hwyluso’r broses
cofrestru, gwnaed hi’n bosib i berchnogion cychod pŵer a badau dŵr
personol gofrestru eu llestrau ar lein drwy wefan
Cyngor Gwynedd. Adroddwyd bod y broses yn effeithiol ac wedi lleihau'r gwaith
gweinyddol yn sylweddol. Ategwyd y bydd e-bost yn cael ei anfon i’r perchnogion
i ail gofrestru ar lein ym mis Chwefror 2022. Nodwyd bod y gwasanaeth yn parhau
i gydweithio gyda’r Uned Technoleg Gwybodaeth i geisio sicrhau y bydd cynllun
talu angorfeydd ar gael hefyd ar gyfer Gwanwyn 2022. Awgrymwyd i’r Uwch
Swyddog Harbwr ac yr Harbwr Feistr i gyfathrebu gyda fforymau lleol i godi
ymwybyddiaeth o’r cynllun cofrestru ar lein.
Mewn ymateb i sylw
bod anawsterau cofrestru wedi bod gyda rhai yn lansio cychod dŵr personol
o fannau hamdden / parciau gwyliau ar hyn yr arfordir, nodwyd bod swyddogion
wedi cyfathrebu gyda rheolwyr y lleoliadau hyn gan ofyn iddynt annog
perchnogion i gofrestru eu llestrau cyn lansio. Mewn
ymateb i gwestiwn dilynol, nodwyd mai gwan oedd yr ymateb, ond bod swyddogion
yn parhau gyda’r fenter. Derbyn bod y flwyddyn wedi bod yn un anodd a bod
‘ymwelwyr newydd’ yn yr ardal - y gobaith yw y bydd y sefyllfa yn gwella. Awgrymwyd
bod y Cynghorydd Mathew Harris yn ail gysylltu gyda’r mannau hamdden / parciau
gwyliau ac i’r Cynghorydd Rob Triggs codi’r mater yn y Cyngor Tref
Papur Ymgynghori’r
Adran Drafnidiaeth
Cyfeiriwyd at yr
ymgynghoriad oedd yn ymwneud a chynnig addasiadau i ddeddfwriaeth i ddod â
badau dŵr hamdden a phersonol i mewn i sgôp Deddf Llongau Masnach 1995 er
mwyn sicrhau ymarfer diogel. Amlygodd y
Swyddog Morwrol bod trefniadau Gwynedd ar y mater yn ddigon tynn ar wahân i rai
safleoedd preifat. Anogwyd yr Aelodau i gyflwyno ymateb unigol erbyn dyddiad cau 1 Tachwedd
2021, ond cyfeiriwyd at ymatebion Pwyllgor Harbwr Pwllheli a Porthmadog i’r
ymgynghoriad.
Amlinellwyd prif
elfennau’r ymgynghoriad a nodwyd bod rhai addasiadau yn gymhleth a hirwyntog.
Cynigiwyd, cefnogi opsiwn 3, sef llunio deddfwriaeth dan adran 112 o Ddeddf
Diogelwch Rheilffyrdd a Thrafnidiaeth 2003 i ymestyn darpariaethau perthnasol
Deddf Llongau Masnach 1995, a rheoliadau perthnasol, i gynnwys badau dŵr
hamdden a badau dŵr personol gan bwysleisio pwysigrwydd sicrhau hyfforddiant
i ddefnyddwyr a galw am godi’r terfyn oedran ar gyfer gyrru badau dŵr
hamdden a badau dŵr personol
(b)
Adroddiad yr Harbwr Feistr Cynorthwyol yn crynhoi’r materion Mordwyo a
Gweithredol a wnaed ac a brofwyd yn y cyfnod rhwng mis Mawrth 2021 a mis Hydref
2021, gan gynnwys materion cynnal a chadw.
Diolchodd y
Swyddog Morwrol i staff Harbwr Abermaw am ei gwaith dros y tymor - ategwyd
gwerthfawrogiad gan yr Aelodau gan adrodd mai braf oedd cael sefydlogrwydd
staff a chefnogaeth i’r gymuned
Adroddwyd bod
Gwasanaeth wedi derbyn ei archwiliad blynyddol o Gymhorthion Mordwyo yn Abermaw
a dynesfa'r sianel gan staff Tŷ'r Drindod ar 28
Medi 2021. Bydd adroddiad ar eu
canfyddiadau yn dilyn.
Ar hyn o bryd, nid
oedd unrhyw Hysbysiad Lleol i Forwyr yn weithredol
sy'n ymwneud â'r marciau mordwyo yn y sianel.
PENDERFYNWYD
1. Nodi a derbyn
yr adroddiadau.
2. Ymateb fel a
ganlyn i bapur ymgynghori’r Adran Drafnidiaeth “Strengthening
enforcement of the dangerous
use of recreational and personal watercraft”:-
·
Bod y pwyllgor hwn yn cefnogi opsiwn 3, sef llunio
deddfwriaeth dan adran 112 o Ddeddf Diogelwch Rheilffyrdd a Thrafnidiaeth 2003
i ymestyn darpariaethau perthnasol Deddf Llongau Masnach 1995, a rheoliadau
perthnasol, i gynnwys badau dŵr hamdden a Badau Dwr Personol.
·
Pwysleisio pwysigrwydd sicrhau hyfforddiant i
ddefnyddwyr a galw am godi’r oedran ar gyfer gyrru badau dŵr hamdden a
Badau Dwr Personol
Dogfennau ategol: