Agenda item

342, STRYD FAWR, BANGOR, GWYNEDD LL57 1YA

 

Ystyried y cais uchod

Cofnod:

 

3.         CAIS AM AMRYWIAD TRWYDDED EIDDO – THE LOUNGE, 342 STRYD FAWR, BANGOR

 

Ar ran yr eiddo:         Mrs Susan Roberts (ymgeisydd), Mr Chris O’Neil (asiant)

 

Croesawyd pawb i’r cyfarfod gan y Cadeirydd, y Cynghorydd Tudor Owen. Cyflwynwyd y panel ar swyddogion i bawb oedd yn bresennol. Cyhoeddwyd bod gan bawb hyd at 10 munud i gyflwyno sylwadau uniongyrchol ar y cais.

 

Adroddiad ac argymhelliad yr Adain Trwyddedu.

 

a)    Cyflwynwyd adroddiad y Rheolwr Trwyddedu yn manylu ar gais am drwydded eiddo ar gyfer The Lounge, 342, Stryd Fawr, Bangor gan ymhelaethu bod y cais ar gyfer lolfa a bar gyda man dawnsio. Nodwyd bod yr ymgeisydd wedi cynnwys camau priodol i hyrwyddo’r pedwar  amcan trwyddedu fel rhan o’r cais. Amlygwyd bod trwydded eiddo wedi bodoli ar gyfer yr eiddo ers 2005 a daeth i ben yn Awst 2014.

 

Yn dilyn cyfnod ymgynghori, nodwyd nad oedd Heddlu Gogledd Cymru yn gwrthwynebu’r cais ond yn dymuno bydd  teledu cylch cyfyng (TCC) sydd yn cael ei osod yn yr eiddo yn destun amodau penodol TCC.  Nodwyd nad oedd Gwasanaeth Gwarchod y Cyhoedd yn gwrthwynebu’r cais, ond yn argymhell lleihad yn oriau cerddoriaeth wedi ei recordio a byw ynghyd a chynnwys amodau safonol caeedig ar y drwydded i reoli lefelau sŵn ac atal niwsans cyhoeddus. Derbyniwyd gwrthwynebiad i’r cais gan berchennog fflatiau ffiniol oherwydd problemau sŵn a chryniad cerddoriaeth a sŵn lleisiau yn codi o’r man ysmygu tu allan. Nodwyd nad oedd gan Cyngor Dinas Bangor unrhyw wrthwynebiad i’r cais ac nad oedd y Gwasanaeth Tan wedi cynnig sylwadau.

 

b)    Wrth ystyried y cais dilynwyd y drefn ganlynol-:

 

·         Rhoddwyd cyfle i aelodau’r Is-bwyllgor a’r ymgeisydd ofyn cwestiynau i’r Rheolwr Trwyddedu.

·         Gwahoddwyd yr ymgeisydd i ymhelaethu ar y cais

·         Rhoddwyd cyfle i’r ymgynghorai gyflwyno eu sylwadau

·         Gwahoddwyd deilydd y drwydded neu ei gynrychiolydd i ymateb i’r sylwadau

·         Rhoddwyd cyfle i aelodau’r Is-bwyllgor ofyn cwestiynau i ddeilydd y drwydded.

·         Rhoddwyd cyfle i aelodau’r Is-bwyllgor ofyn cwestiynau i’r ymgynghorai.

c)      Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn â sut roedd oriau y cais yn cymharu gydag oriau'r drwydded flaenorol, nodwyd mai ychydig iawn o newid oedd rhwng y ddau. Mewn ymateb i oriau agor sefydliadau cyfagos tebyg, nodwyd bod oriau cau ar benwythnos yn 3:00 y bore.

 

ch)    Wrth ymhelaethu ar y cais nododd asiant ar ran yr ymgeisydd ei fod yn hapus gyda’r hyn oedd wedi ei  gyflwyno a cadarnhaodd bod yr ymgeisydd wedi cytuno i amodau TCC Heddlu Gogledd Cymru.

 

          Sylwadau ychwanegol o fwriad yr ymgeisydd;

 

·         Economi nos Dinas Bangor wedi newid ac felly rhaid ymateb i’r galw, cystadlu gydag eraill i gynnal bywoliaeth.

·         Bydd yr eiddo yn ymuno gyda National Pub Watch

·         Sicrhau y bydd y pedwar amcan trwyddedu yn cael blaenoriaeth

·         Ni fydd mynediad ar ôl 1am - argymhelliad gwirfoddol

·         Argymhellion yr heddlu wedi eu gweithredu

·         Bod camerâu TCC yn gwylio pob ardal o fewn yr eiddo

·         Parod i gydweithio gyda’r heddlu i ddarparu gwybodaeth wedi ei recordio

 

Yn ychwanegol i’r sylwadau uchod, nododd yr asiant nad oedd sail i gŵyn Gwarchod y Cyhoedd a'i fod yn gwrthwynebu’r argymhellion yn gryf. Dadleuwyd nad oedd yr amodau yn  deg ac nad oedd tystiolaeth gyson bod materion sŵn ar yr eiddo. O ran arwyddion atal sŵn, dadleuwyd bod hyn yn fwy na sydd ei angen.

 

Mewn ymateb i lythyr cwyn sŵn gan berchennog fflatiau cyfagos, dadleuwyd mai cwyn gan drydydd parti ydoedd ac felly nid oedd statws i’r llythyr. Nid oedd y tenantiaid eu hunain wedi cwyno ac felly awgrymwyd diystyru’r llythyr gan nad oedd statws iddo.

 

d)         Mewn ymateb i’r cais nododd Gwasaneth Gwarchod y Cyhoedd, a oedd yn pryderu dros yr oriau ar gyfer y gerddoriaeth byw a recordio yr oedd yn cael eu ceisio, nodwyd y sylwadau canlynol:

 

·           Ymarferiad statudol yw rhoi sylwadau ar gais - nid oedd gwrthwynebiad wedi ei gyflwyno gan nad oedd yr adran wedi derbyn tystiolaeth effaith sŵn

·           Sylwadau perchennog fflatiau cyfagos yn cyfeirio at gwynion sŵn ac felly yn cadarnhau pryderon sŵn

·           Yr amodau sŵn a gyflwynwyd yn amodau safonol ac yn cael eu cynnig ar bob trwydded sydd o fewn ardal breswyl. Hyn yn sicrhau cysondeb a thegwch i ddiwydiant economi hwyrnos Bangor.

·           Nodwyd nad oedd cwyn wedi ei dderbyn ers cyfnod y drwydded dros dro, ond dadleuwyd nad oedd rhaid derbyn cwyn cyn cynnig / gosod amodau safonol. Yr amodau yn cael eu cyflwyno fel gweithrediad ataliol.

 

Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn â’r amodau safonol, nodwyd bod Mirage wedi derbyn amodau safonol.

 

dd)      Cydnabuwyd sylwadau Heddlu Gogledd Cymru, Perchennog fflatiau cyfagos a Chyngor Dinas Bangor.

 

e)         Cyflwynodd asiant ar ran yr ymgeisydd y casgliadau canlynol i’r cais;

 

·         Nid oedd oriau'r eiddo yn wahanol i unrhyw eiddo tebyg ym Mangor

·         Amodau gwirfoddol wedi eu hargymell

·         Deall yr angen am amodau safonol ac felly barod i ystyried i, v and vi

·         Dadleuwyd nad oedd cwynion sŵn wedi eu derbyn gan drigolion cyfagos, lleol i’r ardal

·         Ardal ddynodedig wedi ei pharatoi ar gyfer ysmygu

 

f)       Gadawodd y partïon perthnasol y cyfarfod.

 

Trafodwyd y cais gan aelodau’r Is Bwyllgor gan ystyried yr holl dystiolaeth a gyflwynwyd gan roddi sylw penodol i egwyddorion Deddf Trwyddedu 2003 sef

 

·           Trosedd ac Anhrefn

·           Diogelwch y Cyhoedd

·           Rhwystro Niwsans Cyhoeddus

·           Amddiffyn Plant rhag Niwed

 

Roedd yr Is-bwyllgor yn fodlon caniatáu'r drwydded yn unol â’r cais yn ddarostyngedig ar amodau Teledu Cylch Cyfyng Heddlu Gogledd Cymru.

 

PENDERFYNWYD caniatáu y cais am drwydded eiddo, a rhoddir trwydded yn unol â’r cais ac yn ddarostyngedig i’r amodau ychwanegol canlynol:

 

1.    Ni chaniateir pobl i fynd mewn i’r eiddo ar ôl 1 o’r gloch y bore (ymgorfforir hwn fel amod yn rhan M o’r Atodlen Weithredu)

 

2.    Ymgorfforir i’r drwydded yr amodau safonol a argymhellwyd gan yr Heddlu parthed teledu cylch cyfyng.

 

Adroddodd y Cyfreithiwr y byddai’r penderfyniad yn cael ei gadarnhau yn ffurfiol drwy  lythyr i bawb oedd yn bresennol. Hysbysebwyd hefyd  o’u hawl i apelio i’r dyfarniad o fewn 21 diwrnod i dderbyn y llythyr hwnnw.

 

Dechreuodd y cyfarfod am 1:00pm a daeth i ben am 3:20pm

 

Dogfennau ategol: