Agenda item

Derbyn cyflwyniad gan yr Aelod Cabinet Gofal.

Cofnod:

Gosododd yr Aelod Cabinet Oedolion a Iechyd y cyd-destun gan egluro mai pwrpas yr eitem hon oedd codi ymwybyddiaeth ynglŷn â’r Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant sy’n dod yn weithredol o Ebrill 2016.  Nododd fod y ddeddf yn eang iawn ac yn cynnwys egwyddorion hynod bwysig, ond y bwriedid canolbwyntio ar un elfen o’r maes yn unig yn y cyfarfod hwn, sef y gwaith o gefnogi pobl gydag anableddau dysgu.

 

Rhoddodd y Pennaeth Adran Oedolion, Iechyd a Llesiant gyflwyniad i’r ddeddf ac o ran rhoi’r ddeddf ar waith, gan nodi:-

 

·         Bod y ddeddf yn ymateb i newidiadau demograffig enfawr a’r galw cynyddol ar wasanaethau gofal mewn cyfnod pan mae’r wasgfa ariannol yn hynod heriol.

·         Bod hwn y math o newid sydd ond yn digwydd mewn cenhedlaeth gan fod y newidiadau mor sylfaenol a phell gyrhaeddol, ond ei fod yn cynnig llawer o gyfleoedd i ail-edrych ar y mathau o wasanaethau sy’n cael eu darparu gan y Cyngor a’i bartneriaid.

·         Mai un newid sylfaenol yw’r llais a’r rheolaeth mae’r ddeddfwriaeth yn rhoi i unigolion drwy roi anghenion a dymuniadau unigolion yn ganolog i bopeth.

·         Bod pwyslais hefyd ar atal, ymyrryd yn gynnar, cyd-gynhyrchu yn ogystal â’r elfennau amlasiantaethol.

·         Bod yr holl newidiadau hyn yn golygu cryn newid mewn diwylliant a’i fod yn mynd i gymryd amser i gyrraedd y nod a’r disgwyliadau sydd gan y Llywodraeth ohonom.

·         Mai bwriad yr eitem oedd cyflwyno fideo i’r aelodau o’r gwaith dyddiol yng Nghynllun Cymunedol Arfon yn Frondeg, fel enghraifft o waith sy’n cyd-fynd ag egwyddorion ac ysbryd y ddeddf newydd, ond sydd hefyd yn amlygu bod yna waith dal i fyny mewn lleoliadau eraill.

·         Ei fod yn falch o groesawu Andrew Guy, Goruchwylydd Gofal Dydd yn Frondeg a’i gyd-weithwyr a defnyddwyr y gwasanaeth i’r cyfarfod.

·         Bod angen i’r aelodau fod yn ymwybodol o’r newidiadau a’r effaith o ran y gwasanaethau a chyfeiriwyd at sesiwn hyfforddiant a drefnwyd ar eu cyfer yn Ysbyty Alltwen ar fore’r 21ain o Ionawr.

 

Fel yr uwch reolwr â chyfrifoldeb am y maes penodol sy’n cael sylw yn y fideo, rhoddodd yr Uwch Reolwr Gweithredol gefndir o’r gwaith a’r meddylfryd y tu cefn iddo.

 

Yna, bu i’r Cynghorydd Lesley Day ddweud gair o ran ei phrofiad hi pan ddangoswyd y fideo hwn mewn cynhadledd yng Nghaernarfon, gan nodi iddi wneud cais am gyflwyno’r fideo i’r Cyngor llawn.

 

Yn dilyn gweld y ffilm, diolchodd y Cadeirydd i Andrew Guy a’r tîm yng Nghynllun Cymunedol am eu holl waith.

 

Yn ystod y drafodaeth:-

 

·         Mynegwyd gwerthfawrogiad ac edmygedd mawr o waith y tîm.

·         Nodwyd, er ei bod yn amlwg bod defnyddwyr y gwasanaeth yn gallu defnyddio eu mamiaith yn y ganolfan, bod y cydbwysedd ieithyddol ar y fideo yn fater o bryder.

·         Na wnaed unrhyw sylw yn y cyflwyniad ynglŷn ag allanoli er bod y ddeddf yn sôn am hynny hefyd.

 

Yn ei sylwadau cloi, nododd yr Aelod Cabinet Oedolion a Iechyd:-

 

·         Nad oedd y gwaith hwn yn unigryw, a bod yna waith da yn digwydd yn y trydydd sector hefyd.

·         Bod hwn yn faes lle mae yna sgôp i newid ac addasu a bod y ddeddf yn rhoi ffocws ar yr anghenion yma.

·         Ei fod yn erfyn ar yr aelodau i ddod i’r digwyddiad codi ymwybyddiaeth ar 21 Ionawr.