I gyflwyno gwybodaeth am gyfraniad yr Adran i’r Polisi
Iaith, a sut yr ydym yn mynd ati i hybu a hyrwyddo’r Gymraeg yn ein gwaith.
Penderfyniad:
Derbyn yr adroddiad gan
nodi’r sylwadau a dderbyniwyd.
Cofnod:
Derbyn yr adroddiad gan nodi’r sylwadau a
dderbyniwyd.
Cyflwynwyd
yr adroddiad gan Bennaeth Adran Plant a Chefnogi Teulu
ac amlygwyd
y camau a gymerwyd o fewn yr adran er mwyn hybu’r Gymraeg.
Ategwyd
bod y gwasanaeth yn cynnwys elfen Gwasanaethau
Cymdeithasol, Tîm
Cefnogi Teulu, Blynyddoedd Cynnar & Meithrin, ac
adran Ieuenctid a Chyfiawnder.
Eglurwyd bod gan bob rhan o’r gwasanaeth cyfrifoldebau eang.
Tynnwyd
sylw at flaenoriaethau’r adran fel a ganlyn:
·
Hybu a hyrwyddo
gwasanaethau blynyddoedd cynnar wrth gydweithio efo Hunaniaeth.
·
Annog gweithwyr i ddefnyddio a
gwella eu sgiliau iaith, a
chyflwyno
adnoddau a chymorth i ofalwyr plant (childminders).
·
Cefnogi Cynllun
Croesi’r Bont ar gyfer trochi plant meithrin - nodwyd bod 11 cylch y Sir yn
derbyn cefnogaeth gan y cynllun hyd hwn.
·
Darparu cefnogaeth
i rieni – sesiynau clwb cwtsh ar lein 35 o
unigolion
·
Darparu cefnogaeth
i blant
a phobl ifanc bregus er mwyn sicrhau bod anghenion
iaith bob plentyn wedi ei hystyried.
·
Eglurwyd er bod Iaith
yn ffactor wrth ystyried pecyn gofal a chefnogaeth, mae ambell i blentyn neu
blant yn dod i ofal oherwydd risgiau neu anghenion dwys lle bod lleoliad
all-sirol yn angenrheidiol. Ategwyd er nad oedd modd i sicrhau dewis iaith yn
yr achos yma, bod y Gweithwyr Cymdeithasol yn cyfarch anghenion ieithyddol drwy
gadw cyswllt dros y ffon a darparu adnoddau yn eu lleoliad.
·
Rhannwyd a’r pwyllgor
bod 91% o weithwyr adran yn cyrraedd dynodiad iaith a rhoddwyd enghraifft o’r
Rheolwr Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid sydd wedi ymdrechu i ddysgu’r iaith ac
erbyn hyn yn rhugl.
·
Sicrhawyd bod
cytundebau trydydd parti yn cynnwys gofynion iaith mewn, ac eithrio rhai
cytundebau unigol sy’n ymwneud a lleoliad all-sirol.
·
Mynegwyd bod heriau
recriwtio Gweithwyr Cymdeithasol sydd yn arwain at recriwtio gweithiwr
Di-gymraeg er mwyn sicrhau darparu gwasanaeth a dyletswyddau statudol diogelu.
·
Diolchwyd i’r uned
gyfieithu am yr holl gefnogaeth yn
sicrhau bod cyfarfodydd rhithiol wedi parhau yn y Gymraeg.
Gwahoddwyd
yr aelodau i ofyn cwestiynau a chynnig sylwadau. Yn ystod y drafodaeth, codwyd
y sylwadau canlynol:-
·
Holwyd beth yw
cynlluniau’r adran i ymdopi a’r heriau megis recriwtio staff Cymraeg a chynnig
dewis iaith ragweithiol.
·
Gofynnwyd a oes unrhyw
beth all yr adran wneud ar y cyd efo’r sector addysg uwchradd i gwrdd â
phroblem recriwtio.
·
Holwyd pa mor gyffredin
yw sefyllfa o blentyn Cymraeg yn cael eu lleoli gyda rhieni maeth di-gymraeg?
·
Gofynnwyd beth
yw’r meini
prawf er mwyn i gylch meithrin cael
bod yn rhan
yn y cynllun Croesi’r Bont gan
mai dim ond 11 o gylchoedd sydd wedi
nodi.
·
Mynegwyd diolch i’r
adran am eu holl waith a bod eu hangerdd tuag at ddiogelu plant Gwynedd a’r
iaith Gymraeg yn ysbrydoledig. Ychwanegwyd diolch i’r Pennaeth
am ddisgrifio’r pwysau a straen sydd wedi bod ar y staff ag am egluro’r
sefyllfa ynglŷn â phrinder gweithwyr cymdeithasol.
·
Holwyd a oes llai o
bobl Cymraeg eu hiaith yn maethu neu fabwysiadu a beth fuasai’r rhwystrau.
·
Mynegwyd pryder bod plant
Cymraeg sydd mewn carchar yn methu a siarad Cymraeg. Cynigwyd y byddai’n syniad
ysgrifennu llythyr at y Comisiynydd Plant a Phobl Ifanc gan bwyllgor iaith i
geisio cael tegwch i’r sefyllfa.
Mewn
ymateb nodwyd:
·
Bod y sefyllfa staffio
yn bodoli’n rhannol wrth i staff symud swyddi’n fewnol oherwydd bod y flwyddyn
ddiwethaf wedi bod yn eithriadol yn nhermau pwysau. Ategwyd mai symud i
rolau efo llai o bwysau mae’r staff yma’n ei wneud. Eglurwyd bod hyn yn gadael
bylchau sy’n dechrau mynd yn bryderus gan fod recriwtio staff dwyieithog yn
heriol.
·
Mewn ymateb i gwestiwn
ynghylch hyrwyddo’r yrfa o Waith Cymdeithasol, eglurwyd bod pobl ifanc yn
tueddu i wneud gradd ac yna cael profiad o fewn y maes
ac yna dilyn M.A. Gwaith Cymdeithasol. Ategwyd y gellid edrych i mewn i
hyrwyddo Gwaith Cymdeithasol fel gyrfa.
·
Nad oedd heriau
recriwtio gweithwyr oddi ar y cyrsiau ond recriwtio staff sydd â phrofiad sy’n
heriol.
·
Bod llawer iawn o’r
gofalwyr/darpar rieni maeth yn ddwyieithog, fodd bynnag ategwyd bod sicrhau hyn
ddim yn bosib bob tro.
·
Bod ymrwymiad efo
gweithwyr lleol i ymgymryd â chyfarfodydd yn y Gymraeg gyda defnydd cyfieithydd
i’r rhai di-gymraeg.
·
Mewn ymateb i gwestiwn
ar broffil darpar rieni maeth/mabwysiadu, nodwyd mai dewis personol yw gwneud
ond bod ymgyrch hyrwyddo yn digwydd yn aml.
Dogfennau ategol: