Ystyried yr
adroddiad.
Penderfyniad:
a) Derbyn yr adroddiad gan nodi’r sylwadau a dderbyniwyd.
b) Dymuno’n dda i’r adran yn eu hymgais barhaol i hyrwyddo
defnydd y Gymraeg ymhellach ymysg eu staff.
Cofnod:
a. Derbyn
yr adroddiad gan nodi’r sylwadau a dderbyniwyd.
b. Dymuno’n
dda i’r adran yn eu hymgais barhaol i hyrwyddo defnydd y Gymraeg ymhellach
ymysg eu staff.
Cyflwynodd y Pennaeth Adran YGC ei
adroddiad yn amlygu’r camau a gymerwyd o fewn
yr adran er mwyn hybu’r Gymraeg ymysg staff. Cododd
y pwyntiau pwysig fel a ganlyn;
· Nododd
bod yr adran wedi profi llwyddiant drwy gydweithio gyda’r Swyddogion Iaith er
mwyn eu rhoi ar ben ffordd gyda’u hymdrechion.
· Eglurodd
bod staff wedi cwblhau Hunan-asesiadau
iaith i’w clymu i fewn i’r
drefn ac o ganlyniad wedi sylweddoli ba pwyslais sydd ar ddefnyddio’r
iaith.
· Ategodd
bod canran uchel o staff di-gymraeg yn yr adran o gymharu ag adrannau eraill o
fewn y Cyngor.
· Rhannodd
bod 92% o aelodau staff yn cwrdd â gofynion eu swydd ond eglurodd ei bod wedi
cymryd peth amser i gymryd fan hyn drwy wersi a dulliau eraill.
· Nododd
bod y cynllun cyfeillion
wedi helpu i sicrhau bod defnydd iaith yn
cael ei hyrwyddo yn naturiol ymysg siaradwyr Cymraeg.
· Rhannodd
enghraifft o un swyddog a ymunodd yn ystod y cyfnod clo gan
nodi bod Swyddog arall yn ei chefnogi i
gychwyn sgyrsiau yn y Gymraeg.
· Eglurodd
mai asgwrn cefn y llwyddiant yw gwersi Cymraeg drwy Teams a
drwy’r bartneriaeth â’r Brifysgol - nododd bod hyn ar y cyd efo cyswllt
rheolaidd gyda swyddogion Iaith.
· Rhoddodd
bwyslais ar yr aelodau staff canlynol; Alex Jones,
Nansi John ac Owain Angus Duncan sydd
wedi llwydo â’u hymdrechion ac
o ganlyniad i hynny wedi
ennill gwobr goffa Dafydd Orwig.
· Nododd
o 2014 ymlaen bod staff yn mynd i gyfweliadau a chyfarfodydd mewn perthynas â
chymwysterau proffesiynol ac yn Defnyddio’r Gymraeg
Rhoddwyd
cyfle i’r aelodau ofyn cwestiynau a chynnig sylwadau. Yn ystod y drafodaeth,
codwyd y sylwadau canlynol:-
· Gofynnodd aelod
beth yw polisi penodi’r adran er mwyn sicrhau penodi staff
sy’n siarad Cymraeg. Ategodd y byddai’n werthfawr bod mewn sefyllfa lle gall y
Cyngor ysgogi mwy o siaradwyr Cymraeg i
ddilyn gyrfaoedd technegol ac arbenigol er mwyn osgoi’r
trafferthion penodi.
· Diolchodd
yr aelod am y cyflwyniad ac yn ychwanegol at y Swyddogion Iaith am weithio’n ddiwyd
ym mhob adran.
· Gofynnodd a
oedd cyfle
i ddylanwadu ar y rhan ddeiliad a chontractwyr allanol
i ddefnyddio Cymraeg pan maent yn delio a’r adran YGC.
· Holodd
aelod faint o staff sy’n gweithio o fewn yr adran er mwyn gosod cyd-destun i’r
ffigyrau oedd wedi cwblhau’r hunanasesiad.
· Awgrymodd aelod
y dylai’r
Cyngor weld
yr elw buan o’r cydweithio sydd wedi bod
rhwng y Cyngor a’r system addysg leol i hyrwyddo pynciau STEM ymysg disgyblion
lleol.
· Mynegodd
aelod bod yr adroddiad yma
yn dod gan adran sy’n wynebu llawer mwy o
heriau nag eraill i benodi siaradwyr Cymraeg
oherwydd y sgiliau penodol sydd angen.
· Ategodd
at hyn gan ofyn ba ymdrech sy’n
cael ei wneud i gyrraedd y gweithlu arbenigol
ar draws Gymru at ddibenion penodi.
· Holodd
aelod sut mae’r adran yn sicrhau defnydd o dermau technegol Cymraeg cywir.
Mewn
ymateb i rai o’r sylwadau nododd y
Pennaeth Adran YGC;
· O
ran swydd disgrifiad mae ymgais barhaol i sicrhau bod penodiadau yn cyrraedd y
dynodiad iaith ofynnol, fodd bynnag nid oes gan bob arbenigwr y maes sgiliau
iaith. Parhaodd gan nodi bod yr adran yn ceisio trosi siaradwyr Saesneg i’r
Gymraeg drwy gynnig gwersi.
· Datganodd
bod gan yr adran ymgais i sicrhau bod staff yn rhugl y Gymraeg a bod y rhai
sy’n llwyddo yn parhau i ddefnyddio a dysgu mwy am y Gymraeg.
· Ategodd
bod yr adran YGC yn gweithio
i sawl corff er mwyn dod ag arian i’r Cyngor ac
felly yn gwerthu sgiliau
peirianyddol a thechnegol. Parhaodd i nodi nad oedd y sgiliau gan
siaradwyr Cymraeg ar bob achlysur.
· Fel
datrysiad i hynny, nododd y Pennaeth eu bod yn cydweithio efo Coleg Menai/
Llandrillo a Phrifysgol Glyndŵr er mwyn creu cyfleoedd i siaradwyr Cymraeg
ddilyn gyrfaoedd technegol ac arbenigol.
· Rhannodd
her arall sy’n wynebu’r adran, sef bod cyflogau Cyngor o fewn yr adran yn uchel
yn lleol, fodd bynnag bod yna gystadleuaeth yn genedlaethol gan i gyflogau
tueddu i fod yn uwch ac yn denu staff Cymraeg.
· Nododd
bod cytundebau yn nodi bod y Gymraeg yn flaenoriaeth, a rhoddir pwyslais ar yr
iaith wrth ymdrin â chwmnïau. Rhoddwyd enghreifftiau o gwmnïau o Loegr yn
datblygu ymwybyddiaeth iaith o ganlyniad i gydweithio â’r adran.
· Cytunodd
bod angen
amryw o ddulliau er mwyn hyrwyddo a hybu’r
Gymraeg o fewn yr adran gan ei fod yn bwysig
cadw’r Gymraeg yn iaith fyw sy’n cael
ei weld yn addasu ymysg meysydd amrywiol.
Dogfennau ategol: